Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 26 Tachwedd 2024 · 10 Rhagfyr 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir –
· 26 Tachwedd 2024 · 10 Rhagfyr 2024
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Cyllideb Refeniw Drafft 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2025/26 o £195.234m. · Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 8.85%, ynghyd â 0.65% i dalu’r Ardoll Tân yn rhoi cyfanswm o 9.50% gan fynd â thâl Band D i £1,721.70. · Cynnig yn ffurfiol i gadw’r premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi ar 100%. · Bod £2.000m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn clustnodedig er mwyn mantoli cyllideb refeniw 2025/26. |
|
Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Codi cost lawn ar gyfer gwasanaeth Cartrefi Preswyl, sef £983.86 yr wythnos yn 2025/26. · Bod cost lawn ar gyfer y gwasanaeth Cartrefi EMI yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd, gan olygu fod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei ostwng i £1,046.41 yr wythnos yn 2025/26.
|
|
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Codi’r uchafswm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cartref. · Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad: · Haen 1 – bydd pawb yn talu £78.00 y chwarter · Haen 2 – bydd pawb yn talu £153.40 y chwarter
· Y taliadau Teleofal Blynyddol a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad: · Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £142.50 · Gwasanaethau yn unig £91.50 · Costau gosod unwaith ac am byth £57.00
· Cyfradd o £16.80 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
· Gweithredu tâl o £19.00 yr awr ar gyfer Micro Ofalwyr
· Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
· Cynnydd o 1.7% i £45.10 y dydd yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol (wedi’i dalgrynnu i’r £0.05 agosaf)
· Cynnydd o £1.73 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd
· Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C yr adroddiad:
· Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i Oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.80 · Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.30 · Lluniaeth arall (te/coffi/teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.85
|