Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith ac yn benodol estynnodd groeso i Mr Dylan Williams, y cyn Dirprwy Brif Weithredwr i’w gyfarfod cyntaf fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd.  Gan fod y Weinyddiaeth bresennol yn tynnu tua’i therfyn manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’w chyd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith am eu gwaith a’u cefnogaeth dros y pum mlynedd diwethaf.

 

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 10 isod.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 380 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2022 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2022 yn cael eu cymeradwyo fel rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid (a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Thachwedd, 2022 ac fe amlygwyd y newidiadau canlynol-

 

·         Eitem 18 i 21 – adroddiadau perfformiad a monitro’r gyllideb ar gyfer Chwarter 2 2022/23 sydd yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2022.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2022 fel y’i cyflwynwyd.

 

 

5.

Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2021/22 pdf eicon PDF 746 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3 2021/22, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol y cerdyn sgorio terfynol ar gyfer y Weinyddiaeth bresennol a dywedodd ei bod yn galonogol nodi bod 85% o’r dangosyddion perfformiad yn perfformio’n dda yn erbyn eu targed

tra bo 82% yn perfformio tu hwnt neu o fewn 5% i’w targed. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio a Busnes Corfforaethol at nifer o feysydd a oedd yn sefyll allan mewn perthynas ag ailddefnyddio eiddo gwag, glanhau strydoedd a chynnydd yn nifer y bobl sy’n elwa o’r cynllun Ymarfer Corff.  Nodwyd rhai meysydd sy’n tanberfformio ac mae’r rhain yn cael sylw fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Ar y cyfan mae’r Cyngor yn dal i berfformio’n dda oherwydd ymrwymiad ei staff a’i gontractwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dylan Rees asesiad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o’r adroddiad perfformiad ar y cerdyn sgorio yn dilyn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2022 gan amlygu’r meysydd perfformiad a heriwyd gan y Pwyllgor a chadarnhaodd bod y Pwyllgor yn hapus i argymell yr adroddiad ar y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru i’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn derbyn sicrwydd gan y Swyddogion a’r Deilydd Portffolio. 

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r adroddiad a’r perfformiad cadarn yr oedd yn ei adlewyrchu; a chyfeiriwyd at feysydd gwella dros y cyfnod adrodd yn cynnwys presenoldeb yn y gwaith sydd bellach yn 6.67 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl yn erbyn targed heriol o 6.19 diwrnod o’i gymharu â tharged o 9.78 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl a osodwyd yn 2017. Y perfformiad ym maes Addysg mewn perthynas â Dangosydd 4 - canran y disgyblion a aseswyd yn y Gymraeg ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen sydd yn 87% ac fe amlygwyd hyn fel rhywbeth y dylid ymfalchïo ynddo yn ogystal â’r ffaith nad oes yr un ysgol ar Ynys Môn mewn mesurau arbennig. Hefyd, amlygwyd y modd y caiff y Premiwm ar y Dreth Gyngor ei defnyddio i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn galluogi’r Cyngor i adfer adnoddau a fyddai, fel arall, yn cael eu gwastraffu yn ogystal â mynd i’r afael â mater sydd yn aml iawn yn achosi pryder i gymunedau. Yn ogystal â hyn nodwyd y tuedd ar u fyny mewn perthynas â pherfformiad y rhan fwyaf o’r dangosyddion.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad monitro ar y Cerdyn Sgorio ar gyfer Ch3 2021/22, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol a derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

 

6.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022 i 2052, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022 i 2052 a oedd yn nodi’r

blaenoriaethau a gofynion buddsoddi o ran stoc dai’r Cyngor yn ystod cyfnod y cynllun. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn cymeradwyo’r Cynllun a’i fod yn dyst i’r gweithgareddau a ymgymerwyd â hwy drwy’r Cyfrif Refeniw Tai ac wrth edrych ymlaen i’r dyfodol bydd yn gweithredu fel rhaglen datblygu a gwella strategol.  Mae’r gweithgareddau a ymgymerwyd â hwy yn cynnwys datblygu tai newydd mewn sawl ardal; gosod systemau Solar PV fel rhan o’r gwaith perfformiad ynni i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon, a pharhau i fuddsoddi yn y rhaglen brentisiaethau i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai mai’r nod yw cynyddu stoc dai’r Cyngor i dros 5,000 uned erbyn diwedd oes y Cynllun.  Mae’r Cynllun Busnes yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu tai newydd mewn ardaloedd lle mae galw amdanynt yn cynnwys pob math o wahanol ddaliadaethau, a chynnal a rhagori ar Safonau Ansawdd Tai Cymru mewn perthynas â’i stoc dai bresennol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2022  wedi trafod materion yn ymwneud â phroffil tenantiaid, pa un ai a oes capasiti a sgiliau ar gael i gyflawni’r agenda datgarboneiddio a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau rhent a’i fod wedi penderfynu argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo Cynllun Busnes y CRT. 

 

Bu i’r Pwyllgor Gwaith gydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Tai dros nifer o flynyddoedd yn cynnwys y dulliau rhagweithiol ac arloesol a gymerwyd gan y Gwasanaeth Tai i fynd i’r afael â’r her tai ar yr Ynys. Cydnabuwyd rôl y Gwasanaeth yn ogystal o ran gwella cymunedau a’i gyfraniad fel gwasanaeth critigol yn ystod y pandemig. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu Cynllun Busnes y CRT sy’n ychwanegu at weledigaeth y Gwasanaeth i ddarparu gwell tai ar gyfer pobl Ynys Môn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022-52.

 

7.

Adroddiad Cynnydd Rhaglen Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r cynnydd diweddar ym maes Gwasanaethau i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn amlygu gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn y Gwasanaethau Oedolion.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gwrdd ac yn ddiweddar cafwyd cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn nodi’r pellter a deithiwyd ers 2017.  Roedd y cyflwyniad yn dangos gwelliant o ran dangosyddion perfformiad yn ogystal â phatrwm o welliannau parhaus.  Gan nad oedd y Gwasanaeth yn defnyddio data’n effeithiol yn ôl yn 2017, mae’r data hyd yma’n rhoi darlun gwahanol sy’n rhoi sicrwydd i’r plant mwyaf bregus, eu teuluoedd ac uwch arweinwyr ac aelodau etholedig o’r Cyngor bod eu hanghenion yn dal i gael eu diwallu.  Yn ogystal â hyn, mae nifer y plant sydd yng ngofal yr Awdurdod wedi gostwng o 160, sef y nifer uchaf yn ystod y 6 mis diwethaf, i 144 ar hyn o bryd ac mae hyn o ganlyniad i nifer o ffactorau. Mae’r gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi golygu llawer iawn o waith i weithwyr cymdeithasol y Gwasanaethau a dylid diolch iddynt am y gwaith y maent wedi’i gyflawni i sicrhau cynlluniau cadarn. O ran y Gwasanaethau Oedolion cafwyd partneriaethau effeithiol gyda Thai a’r trydydd Sector a’r gobaith yw ymestyn y perthnasau hyn wrth ddatblygu adnoddau newydd megis y Tai Gofal Ychwanegol. Yn ystod y cyfnod cafodd mynediad rhithiol i gyfleoedd dydd a mynediad at dechnoleg eu cryfhau ac mae hyn wedi gael effaith gadarnhaol ar unigolion gan leihau ynysu cymdeithasol.

 

Amlygodd y Cadeirydd rai o’r datblygiadau a mentrau penodol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Oedolion a nodir yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr holl oblygiadau statudol yn dal i gael eu cyflawni ac er gwaethaf heriau’r pandemig, mae cynnydd wedi cael ei wneud o safbwynt y rhaglen trawsnewid.  Tra bod rhai meysydd yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ers 2017 ac mae’r ddibyniaeth ar staff dros dro hefyd wedi lleihau yn ystod y cyfnod.

 

Bu i’r Pwyllgor Gwaith gydnabod y cynnydd a wnaed ers 2017 sydd wedi rhoi sylfaen gadarn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac sy’n rhoi’r Gwasanaeth mewn safle cryf i wynebu unrhyw heriau yn y dyfodol. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i staff y Gwasanaethau a gyfrannodd at y cynnydd hwn.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a derbyn sicrwydd bod y cynnydd parhaus sy’n cael ei gyflawni gan yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhesymol ac amserol.

 

8.

Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai 2022-26 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai 2022-26 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau a chymeradwyodd y strategaeth i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) bod y Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i fod yn ymgorffori'r rhaglen flaenorol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, sef Cefnogi Pobl; Atal Digartrefedd a Rhentu Doeth Cymru. Y nod yw darparu cymorth tai i bobl fel y gallant gadw a gwneud y mwyaf o’u hannibyniaeth.

 

Mae'r Strategaeth RhCT yn ofyniad ar Wasanaethau Tai gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai yn Ynys Môn; mae’n cydnabod y pum thema allweddol ar gyfer atal a amlinellir yn yr adroddiad ac mae’n cyd-fynd â’r Strategaeth Dai. Bydd y Strategaeth RhCT ar waith am y 4 blynedd nesaf a  chynhelir adolygiad canol tymor. Fel rhan o’r gwaith o ffurfioli’r Strategaeth cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus (manylion ar gael) ac mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o’r strategaeth. Mae cynlluniau cyflawni a gwariant blynyddol ynghlwm â’r Strategaeth RhCT yn ogystal â Chynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym pum mlynedd sy’n nodi sut y bydd y Cyngor yn pontio i wasanaethau digartrefedd Ailgartrefu Cyflym.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth yn dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2022 ac adroddodd bod y Pwyllgor yn argymell cymeradwyo’r Strategaeth RhCT a’i fod wedi codi’r mater ynglŷn â’r ddarpariaeth i ffoaduriaid a materion yn ymwneud â digartrefedd. 

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo’r Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai 2022-26 a’r Cynllun Cyflawni

·         Cytuno i’r Cynllun Gwariant arfaethedig yn unol â Chanllawiau a gofyniad GCT Llywodraeth Cymru (a gynhwysir yn Atodiad 3 yn y Cynllun Cyflawni)

·         Cymeradwyo’r Cynllun Gwaith Pontio Ailgartrefu Cyflym, Ebrill 2022 – Mawrth 2027.

 

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 208 KB

 Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

 

10.

Ymateb i’r Her Tai Lleol – Datblygiadau tai dros 10 uned – Stad Parc y Coed, Llangefni a Bryn Glas, Brynsiencyn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer datblygiad tai ym Mharc y Coed, Llangefni a Bryn Glas, Brynsiencyn.

 

Yn dilyn derbyn cyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro, fe wnaeth y Cynghorwyr Ieuan Williams a Robin Williams ddatgan buddiant rhagfarnus ac yn dilyn hynny fe wnaethant adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater. 

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Glyn Haynes a Dafydd Roberts (sydd ddim yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith) hefyd ddatgan diddordeb fel aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gadael y cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r argymhellion gan Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod stad Coed y Parc yn ddatblygiad tai preifat gan Parkfield Homes sydd wedi’i leoli yn Lôn Talwrn, Llangefni a'i fod yn cynnwys dros gant o dai newydd.  Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad ac mae’n cynnwys amod Adran 106 sy’n ymrwymo’r datblygwr i ddarparu cyfran o’r datblygiad fel tai fforddiadwy.  Mae’r datblygwr yn barod i ddechrau adeiladu’r 12 tŷ fforddiadwy cyntaf ac mae pob un yn eiddo dwy ystafell wely. Mae’r datblygwr wedi cysylltu â’r Gwasanaeth Tai i gynnig gwerthu’r tai fforddiadwy i’r Cyngor; yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith y cam nesaf fydd cytuno ar y telerau gyda’r datblygwr ar gyfer codi’r 12 tŷ Cyngor fforddiadwy gyda’r bwriad o’u gosod fel tai rhent canolradd neu eu gwerthu fel rhan o bolisi Rhannu Ecwiti’r Gwasanaeth. Teimlir bod nifer fawr o ddatblygiadau tai eisoes yn cael eu codi gan Gymdeithasau Tai yn Llangefni ac y dylai deiliadaethau eraill hefyd fod ar gael i drigolion lleol er mwyn diwallu eu hanghenion.

 

Mae DU Construction wedi cyflwyno cais llawn a chynllun arfaethedig i’r Gwasanaeth Tai ar gyfer codi 12 cartref newydd ar dir ger stad Bryn Glas, Brynsiencyn a fydd yn cynnwys 7 eiddo dwy ystafell wely, 4 eiddo tair ystafell wely ac 1 eiddo pedair ystafell wely.  Yn amodol ar dderbyn cymerdwyaeth y Pwyllgor Gwaith ac yn amodol hefyd ar roi caniatâd cynllunio llawn i’r datblygwr, mae’r Gwasanaeth yn bwriadu cynnig deiliadaethau amrywiol yn cynnwys rhent cymdeithasol, rhent canolradd a gwerthu rhai fel cartrefi newydd drwy Bolisi Rhannu Ecwiti’r Gwasanaeth.

 

Dengys Prosbectws Tai’r Cyngor bod angen am dai fel y rhai sy’n cael eu cynnig yn Llangefni a Brynsiencyn ac mae’r modelau cychwynnol yn dangos bod y cynlluniau’n ariannol hyfyw.

 

Penderfynwyd –

 

·         Dirprwyo pwerau i’r Gwasanaeth Tai i symud ymlaen i gytuno ar delerau ar gyfer prynu 12 cartref newydd ar stad Parc y Coed, Llangefni fydd ar gael i’w rhentu neu eu prynu trwy’r Cynllun Rhannu Ecwiti fel tai fforddiadwy gan y Gwasanaeth Tai mewn ymateb i’r her tai lleol.

·         Ar yr amod bod y datblygwr yn derbyn caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad arfaethedig, dirprwyo pwerau i’r Gwasanaeth Tai i symud ymlaen i gytuno ar delerau ar gyfer prynu 12 cartref newydd ar dir ger Bryn Glas, Brynsiencyn fydd ar gael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.