Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Penodedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i adrodd arno.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 326 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 25 Hydref, 2022, i’w cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 25 Ebrill, 2022 yn rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 432 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr (a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Gorffennaf 2022 i fis Chwefror 2023.

 

Cyflwynodd y Swyddog Polisi'r sefyllfa ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith ynghylch aildrefnu eitem 2 (Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth Tai 2023/24) o fis Tachwedd i gyfarfod 13 Rhagfyr ac eitem 3 (Adran 6 Deddf Dyletswydd Bioamrywiaeth yr Amgylchedd (Cymru) 2016) o fis Rhagfyr i gyfarfod 24 Ionawr, 2023 a dywedodd y byddai Eitem 4 (Trefniadau Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru (awdurdod lleol)) bellach yn benderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith oedd wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Rhagfyr, 2022 a Gorffennaf, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2 (2022/23) pdf eicon PDF 548 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 2, 2022/2023. Dangosai’rcerdyn sgorio sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion llesiant.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth a chadarnhaodd bod 94% o'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn eu targedau. Cyfeiriodd at y perfformiad yn erbyn tri amcan llesiant y Cyngor a thynnodd sylw at sawl hanesyn cadarnhaol ar draws yr amcanion hynny. Fodd bynnag, er bod perfformiad yn erbyn targedau ar y cyfan yn wyrdd neu’n felyn, roedd tueddiadau yn gostwng yn erbyn nifer o ddangosyddion oedd yn ymwneud â pherfformiad, yn enwedig felly mewn perthynas ag Amcan Llesiant 2. Byddid yn rhoi sylw penodol i’r dangosyddion hynny, ynghyd â’u prosesau a’u ffrydiau gwaith cysylltiedig, wrth i'r Cyngor symud i gyfnod y gaeaf, yn enwedig felly o ystyried cyd-destun mwy o dlodi tanwydd a bwyd, a phwysau costau byw uwch.

 

Rhoddodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd 22 Tachwedd, 2022, lle trafodwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Chwarter 2. Cadarnhaodd y cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad cynhwysfawr ynghylch perfformiad corfforaethol yn erbyn y gwahanol ddangosyddion a bu iddo herio’r Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ar nifer o feysydd. Roedd y Pwyllgor wedi croesawu’r sicrwydd a'r ymatebion a gafodd gan y Swyddogion a'r Aelodau Portffolio ac yn eu gwerthfawrogi ac wedi argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru oedd ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Mewn perthynas â nifer o ddangosyddion perfformiad Melyn ac un Coch yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y cyfeiriadau’n cynyddu a bod achosion hefyd yn mynd yn fwy cymhleth ac, felly, yn rhoi pwysau ar y broses asesu. Cyflwynodd fwy o fanylion am Ddangosydd Perfformiad 23 (y cyfnod, ar gyfartaledd, y bu’r holl blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn ac a gafodd eu dadgofrestru yn ystod y flwyddyn) oedd wedi’i dynodi’n Goch. Eglurodd bod pob plentyn oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant am gyfnod hwy na’r targed, sef 270 o ddiwrnodau, yn destun achos gofal Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) h.y. roeddynt yn parhau ar y gofrestr am resymau cyfreithiol a gofal cyfreithlon. Sicrhaodd fod yr holl ddangosyddion oedd wedi’u dynodi’n Felyn yn cael eu hadolygu'n fewnol yn rheolaidd a bod Dangosydd Perfformiad 23 yn cael ei ystyried er mwyn sefydlu a oedd modd mesur perfformiad mewn ffordd oedd yn adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol yn gywirach a'r cymhlethdodau dan sylw.

 

Wrth gydnabod cysondeb perfformiad ar draws gwasanaethau’r Cyngor, awgrymodd y Pwyllgor Gwaith, gan fod Cynllun newydd y Cyngor ar y gweill, y gallai hefyd fod yr amser  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 552 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn adolygiad o weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 a pherfformiad yn erbyn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22.

 

Gan nad oedd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yn bresennol, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg a thynnodd sylw at y gofynion adrodd statudol yng nghyswllt Rheoli'r Trysorlys a'r canlyniadau penodol a gâi eu cynnwys yn adroddiad adolygu 2021/ 22. Yn ei gyfarfod 28 Medi 2022, craffodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adroddiad a chadarnhau bod perfformiad Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn unol â'r strategaeth o fuddsoddiadau risg isel, enillion isel a dull benthyca a gynlluniwyd i leihau costau llog.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor Gwaith nad oedd cyfrifon y Cyngor am 2021/22 wedi’u cymeradwyo oherwydd bod disgwyl datrys mater technegol oedd yn cael effaith ar gyfrifon holl awdurdodau lleol Cymru a rhai awdurdodau yn Lloegr. Roedd Llywodraeth Cymru, CIPFA ac Archwilio Cymru bellach wedi dod i gytundeb ar ffordd ymlaen, oedd yn golygu bod gwaith archwilio'r cyfrifon yn debygol o gael ei gwblhau ym mis Ionawr, 2023. Cadarnhaodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw faterion yn codi oedd yn cael effaith ar y ffigyrau yn yr adroddiad adolygu. Fodd bynnag, ers cyfnod yr adroddiad roedd y sefyllfa ariannol wedi newid yn sylweddol mewn perthynas â chyfraddau llog gwell oedd wedi esgor ar enillion gwell ar fuddsoddiadau’r Cyngor. Golygai hyn y gellid cynyddu’r llog a dderbynnir wrth osod cyllideb 2023/24. Ni fenthycwyd yn allanol o gwbl yn y flwyddyn ariannol 2021/22, gyda'r Cyngor, yn hytrach, yn cadw at ei strategaeth o ddefnyddio balansau arian parod yn lle hynny. Er y byddai’r sefyllfa honno'n debygol o newid yn 2023/24, byddai unrhyw fenthyciadau newydd y byddai’r Cyngor yn eu cymryd yn y dyfodol yn ddrytach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 na châi adroddiad yr adolygiad ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn nes bod y cyfrifon wedi'u cymeradwyo. Barn y Cadeirydd oedd y byddai’n briodol cyflwyno’r cyfrifon terfynol a’r adroddiad ar adolygiad o waith Rheoli’r Trysorlys gyda’i gilydd i’r un cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151  hefyd, sut roedd gwaith benthyca’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn gweithio a sut roedd ei gyfraddau llog yn cael eu pennu. Roedd hyn yn cadarnhau bod y gosb am ad-dalu’n gynnar yn uwch na’r llog a arbedwyd er bod benthyciadau’r Bwrdd yn rhatach ar y cyfan na rhai banciau masnachol,  gan ei wneud yn aneconomaidd i ad-dalu’n gynnar.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi y byddai’r ffigurau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes y byddai gwaith archwilio Datganiad Cyfrifon 2021/22 wedi'i gwblhau a'i gymeradwyo. Byddir yn adrodd fel bo'n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i'r ffigurau yn yr adroddiad.

·      Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2021/22 yn yr adroddiad.

·      Anfon yr Adroddiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 856 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, iddo ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg a rhoddodd wybodaeth gefndir am y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2022/23. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelwyd ar gyfer 2022/23, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor, oedd tanwariant o £1.128m, sef 0.71% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23. Fodd bynnag, roedd cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch y sefyllfa derfynol oherwydd costau ychwanegol yn sgil dyfarniadau cyflog staff a phrisiau ynni cynyddol; prisiau uwch i'w talu am y mwyafrif o'r nwyddau a gwasanaethau a brynir gan y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant; cynnydd yn y galw a'r costau oedd yn gysylltiedig â misoedd y gaeaf yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y galw oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y tanwariant a ragwelwyd hefyd yn cynnwys defnyddio £3m o gronfeydd wrth gefn i ymateb i bwysau ychwanegol. Er bod y prif ffigwr a ragwelwyd, felly, yn dangos sefyllfa bositif ar gyfer 2022/23, nid oedd yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa ac roedd yn hynod debygol ar ddiwedd y flwyddyn mai cadw ei phen uwchlaw’r dŵr fyddai’r gyllideb refeniw neu, o bosib, yn gorwario. Ar ôl defnyddio'r cronfeydd wrth gefn a chyllid grant ychwanegol, roedd y sefyllfa sylfaenol yn sylweddol waeth, gyda diffyg sylfaenol o dros £4m y byddai’n rhaid mynd i'r afael ag o wrth bennu cyllideb 2023/24.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylwadau’r Aelodau Portffolio a dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn debygol o ddirywio yn ail hanner y flwyddyn gan olygu, hefyd, y byddai gosod cyllideb 2023/24 yn heriol iawn oherwydd y ffactorau y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Portffolio ac a nodwyd yn fanwl yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at bryderon penodol ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, oedd dan bwysau cynyddol oherwydd y galw cynyddol. Rhagwelwyd y buasent yn gorwario i raddau sylweddol er y câi grantiau a chronfeydd wrth gefn ychwanegol eu defnyddio i leihau’r gorwariant. Ar y llaw arall, roedd gwarged a ragwelwyd yng nghyllideb y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff, yn bennaf yn sgil gwerthu tanysgrifiadau gwastraff gwyrdd a deunyddiau ailgylchadwy, yn gyfle i addasu’r gyllideb incwm at i fyny. Er rhagweld y byddai incwm craidd presennol Treth y Cyngor yn uwch na'r gyllideb a, hefyd, gyllideb Premiwm Treth y Cyngor, gallai’r sefyllfa newid wrth i amgylchiadau pobl newid, apeliadau gael eu gwneud, gostyngiadau ac eithriadau fod yn berthnasol a, hefyd, wrth i eiddo gael ei drosglwyddo o'r gofrestr ddomestig i'r gofrestr ardrethi busnes. Byddai’n rhaid i unrhyw orwariant diwedd blwyddyn gael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor oedd, yn ei dro,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 701 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg a dywedodd mai £52.725m oedd cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai, llithriad cyfalaf o 2021/22 a chynlluniau ychwanegol oedd wedi dod ar y rhaglen wrth i grantiau cyfalaf ddod ar gael. (Yn yr adroddiad cafwyd y sefyllfa ddiweddaraf o ran cynlluniau grant cyfalaf yn rhaglen gyfalaf 2022/23). Er mai 103% oedd y gyllideb broffiliedig a wariwyd hyd at ddiwedd yr ail chwarter ar gyfer y gronfa gyffredinol, dim ond 37% o’r gyllideb flynyddol oedd wedi ei wario hyd yma, yn bennaf oherwydd bod nifer o’r cynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol. Y tanwariant a ragwelwyd ar y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 oedd £5.572m, gyda hwn yn llithriad posibl i 2023/24, gyda’r tanwariant sylweddol a ragwelwyd o fewn y Cynllun Refeniw Tai yn gyfrifol am y cyfraniad mwyaf. Byddai’r cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2023/24 a châi ei gynnwys yn Natganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023/24, y Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf. Rhagwelwyd costau uwch gyda chynllun Melin Llynnon ac, i’r perwyl hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo cyllid ychwanegol er mwyn gallu cwblhau'r cynllun llawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd Cyllideb Gyfalaf 2023/24 yn debygol o gynyddu’n sylweddol, er bod costau prosiectau cyfalaf yn cynyddu, gan gyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud o ran gwariant cyfalaf. Nid oedd y grant cyfalaf cyffredinol wedi newid fawr ddim, gyda chyfran gynyddol o'r cyllid yn cael ei wario ar gynnal asedau a llai ar gynlluniau newydd neu gynlluniau twf. Golygai hyn ei bod yn mynd yn anos bob blwyddyn i osod cyllideb gyfalaf oedd yn symud yr Ynys yn ei blaen. Câi swm cynyddol o wariant cyfalaf hefyd ei ariannu gan grantiau allanol yr oedd llawer ohonynt ynghlwm wrth brosiectau penodol.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr, hefyd, sylw at y ffaith fod llawer o'r grantiau a ddyfarnwyd yn gystadleuol, a olygai bod angen amser ac adnoddau i baratoi ceisiadau a datblygu achosion busnes ar gyfer y broses gystadleuol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf yn rhoi her ychwanegol o ran gallu gweithredu cynlluniau oedd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau a hefyd o ran rheoli cyllideb oedd yn cyd-fynd â disgwyliadau a/neu ddyheadau.

 

Penderfynwyd

 

·        Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn Chwarter 2.

·         Cymeradwyo'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Melin Llynnon yn unol ag adran 4.2 yr adroddiad.

 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai Chwarter 2, 2022/23 pdf eicon PDF 302 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai yn Chwarter 2 2022/23.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg a dywedodd fod gwarged/diffyg refeniw'r CRT ar ddiwedd Chwarter 2 yn dangos gorwariant o £493mil o gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Roedd y rhagolwg wedi'i adolygu ac yn dangos gorwariant rhagamcanol o £958k, gyda £298k ohono yn ymwneud â dyfarniad cyflog 2022/23, yr oedd yn ofynnol i'r CRT ei ariannu'n llawn. Roedd gwariant cyfalaf £2k yn uwch na'r gyllideb broffiliedig oedd yn rhagdybio y câi llawer o'r gwaith ei wneud yn ail hanner y flwyddyn. Roedd y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn £2,949k yn is na'r gyllideb. Roedd y diffyg a ragwelwyd, oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf, bellach yn £4,137k, £1,991k yn is na'r gyllideb, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r hyn a gyllidebwyd. Balans agoriadol cronfa'r CRT oedd £12,333k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu defnyddio £6,128k o'r balans hwn. Fodd bynnag, £4,137k yn unig fyddai’r rhagolygon diwygiedig yn ei ddefnyddio, gan arwain at falans wrth gefn o £8,196k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Felly, roedd y balans wedi'i glustnodi ac ar gael i ariannu gwariant CRT y dyfodol yn unig.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams at Atodiad C, lle cafwyd dadansoddiad o’r gwariant ar gynlluniau adeiladau newydd/caffael presennol a thynnodd sylw at y ffaith mai £6miliwn oedd cyfanswm y Cyngor o ran gwariant a ragwelwyd ar ddatblygu cynlluniau tai newydd yn 2022/23.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai'r cynlluniau a restrwyd yn Atodiad C oedd y rhai y cytunwyd arnynt ac y gweithredid arnynt. Byddai’r Gwasanaeth Tai yn ychwanegu cynlluniau newydd at y rhai a restrwyd wrth i'r Cyngor barhau i ddatblygu ac ehangu ei stoc tai. Wrth iddo wneud hynny, byddai balans wrth gefn y CRT, sef £8,196k, yn lleihau’r strategaeth a ddefnyddid i dynnu o’r balans wrth gefn yn y lle cyntaf, cyn i’r CRT symud i fenthyca’n allanol. Telid costau benthyca o'r incwm a gynhyrchir gan y tai a ddatblygid. Câi pob cynllun datblygu tai arfaethedig ei asesu i ganfod a oedd yn ariannol hyfyw.

Penderfynwyd–

·           Nodi'r sefyllfa a nodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2022/23.

·           Nodi’r alldro a ragwelwyd am 2022/23.

 

10.

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddiben gosod sylfaen Treth y Cyngor am 2023/24.

 

Cyflwynodd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, gan nodi mai 31, 272.36 oedd y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen Treth y Cyngor i’w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw i’r Cyngor ar gyfer 2023/24. Nid oedd y ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddwyd gan rai awdurdodau (nid Ynys Môn), mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B, ac C. Y ffigur ar gyfer y Sylfaen Dreth at ddibenion pennu treth oedd yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau oedd 32,819.56.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses a ddefnyddiwyd i gyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor at ddiben Llywodraeth Cymru, wrth iddi bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd at ddibenion pennu treth leol a’r ffactorau dan sylw. O ran pennu’r dreth leol, eglurodd y cynnydd yn y premiwm ail gartref o 50% i 75%, yr oedd disgwyl iddo gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn wrth osod y gyllideb ym mis Mawrth, 2023. Cyfeiriodd at newidiadau yn y sylfaen drethu o'r flwyddyn flaenorol o ran nifer yr eiddo a dalai Dreth safonol y Cyngor, eiddo oedd yn wag yn y tymor hir ac ail gartrefi a chadarnhawyd y byddai cynyddu’r premiwm ail gartrefi o 50% i 75% yn esgor ar £800mil ychwanegol i’w ail-fuddsoddi mewn prosiectau tai i helpu pobl ifanc brynu cartref yn eu hardal. Mewn ymateb i gwestiynau am effaith y premiwm ail gartrefi ar y Grant Cynnal Refeniw ac a oedd y Grant Cynnal Refeniw yn ystyried proffiliau demograffig, yn benodol poblogaeth hŷn a’u hangen, oedd yn fwy, am wasanaethau, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sut y câi Asesiad o Wariant Safonol, sef asesiad o'r swm yr oedd angen i awdurdodau yng Nghymru ei wario ar wasanaethau, ei gyfrifo. Eglurodd, hefyd, y ffactorau a ystyriwyd, oedd yn cynnwys nifer o setiau data gwahanol, gan gynnwys poblogaeth. Cadarnhaodd nad oedd y premiwm ail gartrefi’n cael effaith ar faint o gyllid yr oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a dywedodd nad oedd poblogaeth lle'r oedd y mwyafrif yn hŷn yn cynhyrchu mwy o gyllid. Fodd bynnag, roedd gostyngiad yn y boblogaeth iau yn cael effaith ar y fformiwla ar gyfer cyfrifo’r Asesiad o Wariant Safonol ac yn lleihau faint o gyllid a gâi’r Cyngor.

 

Penderfynwyd

 

·         Nodi cyfrifiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 o Sylfaen Treth y Cyngorcâi hwn ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru wrth gyfrifo'r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2023/24 31,272.36 (Rhan E6 Atodiad A yr adroddiad).

·         Cymeradwyo cyfrifiad y Cyfarwyddwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Y Polisi Gosod ar gyfer Tai Cymdeithasol pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i addasu’r Polisi Gosod Cyffredin dros dro er mwyn ymateb i anghenion tai unigolion mewn llety brys/dros dro.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y nifer oedd angen cymorth oherwydd cyfuniad o ffactorau, gyda 42 o aelwydydd mewn llety brys/dros dro yn ystod wythnos olaf mis Hydref, gan gynnwys 12 aelwyd deuluol. Roedd swyddogion yn parhau i fod â llwyth achosion uwch oherwydd y cynnydd mewn pobl a gyflwynai’n ddigartref a’r ffaith nad oedd cyfle i symud i lety sefydlog. Mewn ymgais, felly, i gael trosiant o bobl yn gadael y llety brys a lleihau’r angen amdano, roedd y Gwasanaeth yn cynnig addasu ei broses gosod er mwyn caniatáu i un o bob pedwar eiddo gael ei osod i unigolion oedd mewn llety brys neu mewn perygl o fod yn ddigartref a pheidio â dilyn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer pob achos. Byddai gwneud hyn yn sicrhau bod y rhai oedd â'r angen mwyaf am dai yn cael eu hystyried yn gynt ac yn cael cynnig tai addas. Byddai nifer y gosodiadau o'r fath yn cael eu monitro'n chwarterol a châi trefn adolygu ei datblygu i sicrhau y câi cymorth priodol ei roi i gynnal y denantiaeth. Pe câi ei gefnogi, byddai'r dull gosod yn uniongyrchol yn cael ei gymeradwyo gan y Rheolwr Opsiynau Tai, gan nad yw gosodiadau o'r fath yn unol â'r Polisi Gosod Cyffredin.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo newid rhannol dros dro yn y Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr unigolion oedd yn cyflwyno'n ddigartref ac oedd wedi’u rhoi mewn llety brys/dros dro neu mewn perygl o gael eu gosod ynddynt.

·      Bod Rheolwr y Tîm Opsiynau Tai yn cymeradwyo gosodiadau a wnaed yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer aelwydydd digartref, gan na fyddai'r gosodiadau hyn yn glynu wrth y Polisi Gosod Cyffredin.

 

 

12.

Grant Cyfleusterau i’r Anabl – Newid mewn Polisi pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i newid Polisi’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl fel y ceid gwared â’r prawf modd o’r broses ymgeisio ar gyfer addasiadau bach a chanolig.

 

AmlinelloddPennaeth y Gwasanaethau Tai ddiben y Grant Cyfleusterau i'r Anabl ac eglurodd y broses ymgeisio. Cyn y pandemig roedd y gyllideb o £750,000 yn cwrdd â’r galw ac fe'i gwariwyd yn llawn o fewn y flwyddyn ariannol. Er bod y galw wedi lleihau yn ystod y pandemig, yn ystod y chwe mis diwethaf, gwelwyd achosion a gafodd eu gohirio yn ystod y cyfnod hwnnw yn dod yn ôl i’r system, gyda nifer o’r rheini’n ddyfarniadau grant sylweddol oedd yn debygol o roi mwy o bwysau ar y gyllideb. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol gael gwared â phrofion modd ar gyfer addasiadau bach a chanolig, gyda phob awdurdod yn cael cynnydd o 10% yn ei gyllideb Galluogi i dalu’r gost ychwanegol. Gwaith bach oedd y gwaith oedd yn costio hyd at £1,000 ac roedd gwaith canolig yn cyfeirio at waith oedd yn costio rhwng £1,000 a £10,00. Barnwyd bod yr holl waith oedd yn costio dros £10,000 yn addasiadau mawr a byddent yn parhau i fod yn rhan o’r drefn prawf modd. Yn yr adroddiad, ceid enghreifftiau o'r math o waith a ddeuai dan y categorïau bach a chanolig. Byddai cael gwared â’r profion modd o broses y Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn lleihau’r amser y byddai’n ei gymryd i brosesu ceisiadau. Gallai, hefyd, leihau nifer y cleientiaid a wnâi heb addasiadau a gâi eu hargymell, oherwydd y prawf modd. Ystyriai’r adroddiad, hefyd, effaith bosibl y newid mewn polisi ar alw a'r hyn y gallai cynnydd yn y galw ei olygu o ran costau a'r amserlen ar gyfer cwblhau addasiadau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cael gwared â’r prawf modd ariannol o'r broses ymgeisio am Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer gwaith bach a chanolig hyd at £10,000.