Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 410 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 yn gywir. 

 

4.

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, ar 10 Mawrth, 2022, fod y Cyngor wedi gosod cyllideb ar gyfer 2022/23 gyda gwariant net o £158.365 miliwn, i'w ariannu o incwm Treth y Cyngor, Trethi Annomestig a Grant Cefnogi Refeniw Llywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2022/23, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor, yn danwariant rhagamcanol o £1.970 miliwn sy'n cynrychioli 1.24% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23. Mae cyllidebau Gwasanaethau Oedolion a Gofal Cymdeithasol Plant yn parhau i fod o dan bwysau ond mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan danwariant mewn gwasanaethau eraill, yn arbennig Casglu a Gwaredu Gwastraff. Ceir mwy o wybodaeth am amrywiannau yn y gyllideb yn yr adroddiad manwl. Er yr adroddwyd ar y sefyllfa ar ddiwedd y trydydd chwarter, gellir rhagweld y manylion terfynol gyda mwy o sicrwydd, gallai digwyddiadau annisgwyl ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn a gall Chwarter 4 fod yn gyfnod pan fo galw uchel a gallai'r naill a’r llall effeithio ar y safle altro terfynol.

 

Rhybuddiodd Aelod Portffolio Cyllid er y rhagwelir y bydd gwasanaethau’n gorwario £87k, mae Gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi gorwario'n sylweddol fel y dangosir yn Nhabl 4 yn yr adroddiad. Yn ogystal â hyn, mae'r sefyllfa sylfaenol wedi ei chuddio gan nifer o eitemau untro (swyddi gwag, cyllid grant ychwanegol a defnydd o gronfeydd wrth gefn) sydd wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol, heb y rhain byddai gwir sefyllfa ariannol gwasanaethau'r Cyngor yn llawer gwaeth ac wedi gwanhau gwytnwch ariannol y Cyngor yn sylweddol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y diffyg ariannol yng nghyllidebau ysgolion ar gyfer cyflogau fel y nodir yn Nhabl 3 yn yr adroddiad oherwydd bod cyfanswm dyfarniadau cyflog i ysgolion yn uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer yn 2022/23. Er bod y pwysau hwn yn disgyn ar wasanaethau eraill hefyd, oherwydd bod cyllideb yr ysgolion yn cael ei dirprwyo byddai'n rhaid i'r gost ychwanegol ddod o falansau ysgolion fel arfer; rhagamcanir y bydd y rhain yn gostwng wrth i ysgolion barhau i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau gan adael lleiafrif bychan o ysgolion heb unrhyw falansau o gwbl, neu bydd eu balansau’n isel iawn, tra bydd balansau gweddill yr ysgolion yn sylweddol is nag a welwyd yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. Felly, bydd yn anodd i rai ysgolion ariannu'r costau cyflog ychwanegol o'u cronfeydd wrth gefn eu hunain heb ddyraniad pellach yn y gyllideb. Os felly ac o ystyried maint y diffyg o £1.074m, gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith argymell bod y Cyngor Llawn yn cau'r bwlch hwnnw gydag arian o gronfa gyffredinol y Cyngor gyda'r dyraniad ychwanegol i'w ddosbarthu i ysgolion drwy'r fformiwla ariannu.

 

Wrth gyfeirio at y gorwario ar Wasanaethau Oedolion a Phlant, fe gadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 563 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, fod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai o £17.177 miliwn ar gyfer 2022/23 a Rhaglen Gyfalaf o £18.784 miliwn ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Yn ogystal â hyn, ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith i lithriad cyfalaf o £11.242 miliwn gael ei ddwyn ymlaen o 2021/22 gan ddod â'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £28.419m a £18.784m ar gyfer y CRT. Ers cwblhau’r broses gosod cyllideb, ychwanegwyd cynlluniau ychwanegol at y rhaglen ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyllido gan grantiau, sef cyfanswm o £10.837m, ynghyd â gostyngiad o £3.750m yng nghyllideb y CRT. Daw hyn â chyfanswm y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022/23 i £54.290m.  Y gyllideb a broffiliwyd ar ddiwedd Chwarter 3 oedd £32.065m tra bod y gwir wariant yn £24.315m gyda gwariant pellach o £2.907m wedi'i ymrwymo. Y tanwariant a ragwelir ar y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 yw £15.223m gyda hwn yn llithriad posibl i Raglen Gyfalaf 2023/24. Bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i mewn i 2023/24 a bydd yn cael ei gynnwys wrth lunio’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y cynlluniau grant ychwanegol a ariennir gan y rhaglen ers gosod y gyllideb fel y dangosir yn Atodiad C yn yr adroddiad sy'n dangos i ba raddau y mae'r Cyngor yn dibynnu ar grantiau ar gyfer ei wariant cyfalaf gan fod cyllid cyfalaf craidd wedi aros yn sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf gyda chwyddiant cynyddol bellach yn effeithio ar ei werth.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn ystod Chwarter 3.

 

6.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 710 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr, 2022, a oedd yn cynnwys refeniw a gwariant cyfalaf. Pwysleisiodd fod y CRT wedi'i glustnodi ac ni ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw ariannu costau sy'n ymwneud â stoc tai'r Cyngor gan gynnwys datblygu tai newydd. Mae'r Cyngor wedi bod yn rhagweithiol dros nifer o flynyddoedd wrth wella a datblygu ei stoc tai fel yr adlewyrchir yn Atodiad 3 sy'n dangos bod 180 o unedau tai ychwanegol wedi'u cynllunio ar gyfer 2022/23 sy'n cynnwys nifer o gynlluniau tai newydd ar draws yr Ynys yn ogystal ag ail-brynu hen eiddo cynllun hawl i brynu.

Mae gwarged/diffyg refeniw y CRT ar ddiwedd Chwarter 3 yn dangos gorwariant o £544k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r rhagolygon wedi’u hadolygu a rhagwelir gorwariant o £951k am y flwyddyn - ceir manylion pellach yn Atodiad A yn yr adroddiad. Mae'r gwariant cyfalaf £4,509k yn is na'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn £4,891k yn is na'r gyllideb - ceir manylion pellach yn Atodiad B. Mae'r diffyg a ragwelir gan gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £2,187k, £3,940k yn is na'r gyllideb yn bennaf oherwydd bod gwariant cyfalaf yn is na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer. Roedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT yn £12,333k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu ar gyfer defnyddio £6,128k o’r balans hwn. Fodd bynnag, bydd y rhagolygon diwygiedig a nodir uchod yn defnyddio £2,187k yn unig. Mae hyn yn rhoi balans o £10,146k yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fydd ar gael i ariannu gwariant CRT yn y dyfodol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth| (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiannau mwyaf arwyddocaol o ran gwariant cyfalaf a hefyd yn egluro'r rhesymau pam fod rhai cynlluniau wedi llithro, o bosibl oherwydd gwaith annisgwyl, oedi o ran cynllunio, materion yn ymwneud â thendro a/neu drafferth cael cymeradwyaeth gan asiantaethau allanol ar gyfer rhai agweddau ar gynllun.

Pwysleisiodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod costau uchel a phrinder contractwyr wedi cyfrannu'n sylweddol at y cynnydd yng ngwariant gwaith trwsio a chynnal a chadw gyda'r Uned Cynnal Tai yn dangos gorwariant o £749k ar ddiwedd Chwarter 3. Bu'n rhaid adolygu'r gyllideb ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ymatebol cyn y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gwneir darpariaeth ddigonol. O ran cyfalaf, mae 49 o unedau tai newydd yn cael eu gosod yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'r Gwasanaeth yn parhau i brynu 15 o hen dai’r cyngor yn ôl bob blwyddyn.

Penderfynwyd nodi'r canlynol –

 

·                Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT)  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 926 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sy'n cynnwys yr Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod yr adolygiad canol blwyddyn yn rhan o ofynion adrodd ar reoli’r trysorlys o dan God Ymarfer CIPFA a’i fod yn unol â Chynllun Dirprwyo'r Cyngor. Craffwyd ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith argymell bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ogystal ag argymell codi'r terfyn y gall y Cyngor fenthyca i awdurdodau lleol eraill o £5m i £10m. Mae hyn oherwydd bod ein balansau arian parod wedi cynyddu a’r galw gan awdurdodau eraill yn uwch, mae awdurdodau lleol hefyd yn cael eu hystyried yn opsiwn risg manteisiol ac isel.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys yn ystod hanner cyntaf 2022/23 ac yn cymharu perfformiad yn erbyn Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 a'r Dangosyddion Darbodus a nodir ynddi. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar sefyllfa cyfalaf. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod y Cyngor, yn ystod yr hanner blwyddyn hyd at 30 Medi, 2022, wedi gweithredu o fewn y Dangosyddion Darbodus hynny ac ni ragwelir unrhyw anawsterau i gydymffurfio â'r dangosyddion ar gyfer y blynyddoedd presennol neu'r dyfodol. Ni chynigir adolygu unrhyw bolisi. Fodd bynnag, ers y cyfnod dan sylw yn yr adolygiad canol blwyddyn, mae cyfraddau llog wedi codi'n sylweddol a fydd, o safbwynt buddsoddi, yn rhoi mwy o incwm i'r Cyngor y gellir ei ddefnyddio yn ei dro i gryfhau'r gyllideb refeniw. I'r gwrthwyneb, mae cyfraddau llog uwch yn golygu y bydd unrhyw fenthyciadau newydd yn fwy costus.

 

Penderfynwyd –

 

·      Argymell i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r newid yn y terfyn gwrthbarti i awdurdodau lleol eraill yn unol ag adain 5.3 yr adroddiad.

·      Nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.

 

 

8.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 1001 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (TMSS) yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau o ran ei weithrediadau rheoli'r trysorlys yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys. Craffwyd ar y TMSS gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 7 Chwefror, 2023.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi strategaeth fenthyca a buddsoddi'r Cyngor ar gyfer 2023/24 ac nad yw'n wahanol iawn i strategaeth y flwyddyn flaenorol o ran cynnal dull buddsoddi sy'n ceisio sicrhau diogelwch ei fuddsoddiad, hylifedd, gallu cael mynediad at arian parod pan fo angen ac yna elw o fuddsoddiad. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ceisio manteisio ar gyfraddau llog gwell yn 2023/24 er mwyn sicrhau'r enillion gorau o ran buddsoddiad o fewn y blaenoriaethau hynny. O ran benthyca, mae'r Cyngor wedi bod yn defnyddio adnoddau mewnol i ariannu gwariant cyfalaf a bydd yn parhau i gynnal sefyllfa o fenthyca yn unig yn ôl yr angen. Ond gyda chyfraddau llog yn codi bydd manteision benthyca mewnol/allanol yn cael eu monitro i sicrhau nad yw arbedion tymor byr drwy beidio â gwneud benthyciadau hirdymor newydd yn 2023/24 yn cael eu gorbwyso gan y potensial o fynd i gostau ychwanegol yn sgil gohirio benthyciadau allanol newydd. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi yn Atodiad 12 y Dangosyddion Darbodus a ddefnyddir fel sail i fonitro gweithgaredd y Trysorlys yn ystod y flwyddyn.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd y ffaith ei bod yn ofynnol yn ôl Cod Rheoli Trysorlys CIPFA i'r swyddog cyfrifol sicrhau bod Aelodau Etholedig sy'n gyfrifol am reoli'r trysorlys yn cael hyfforddiant digonol ar reoli'r trysorlys, a chadarnhaodd fod yr hyfforddiant hwn wedi'i ddarparu.

 

Penderfynwyd nodi’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 ac i anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylwadau pellach.

 

9.

Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 5 a oedd yn amlinellu newidiadau arfaethedig i Bolisi MRP y Cyngor i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Ynghlwm yn yr adroddiad yn Atodiad 3 roedd adroddiad gan Link Group, Ymghynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor a gomisiynwyd ym mis Chwefror 2021 a oedd yn cynnwys adolygiad o strategaeth a pholisi MRP y Cyngor ynghyd ag arfarniad opsiynau.

 

Crynhodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid y cyd-destun rheoleiddiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol godi tâl ar y cyfrif refeniw ar gyfer bob blwyddyn ariannol, sef y Ddarpariaeth Refeniw Isaf (MRP) fydd yn gyfrifol am y gost ar gyfer eu dyled yn ystod y flwyddyn ariannol. Rhaid i'r tâl MRP fod yn ddarbodus, y nod yw sicrhau bod cost y ddyled yn cael ei gymryd o’r cyfrif refeniw yn ystod cyfnod sy’n cyd-fynd â’r amser y bydd y gwariant cyfalaf yn darparu buddion ac yn fforddiadwy. Nodir y dulliau sydd ar gael i bennu darpariaeth ddarbodus yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddarpariaeth Refeniw Isaf - ceir 4 dull gwahanol – y Dull Rheoleiddio; y Dull CFR; Y Dull Oes Ased (wedi'i rannu'n ddau opsiwn pellach sef y dull rhandaliad cyfartal a'r dull blwydd-dal) a'r Dull Dibrisio. Gall awdurdod lleol newid y dull y mae’n ei ddefnyddio i gyfrifo'i holl MRP, neu ran ohono, ar unrhyw adeg.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi diwygio ei Bolisi MRP yn 2018 a’i fod wedi mabwysiadu’r Dull Oes Ased (Rhandaliad Cyfartal) i gyfrifo ei daliad MRP ar gyfer benthyciadau â chymorth a benthyciadau digymorth. Ym mis Chwefror 2021 rhoddodd gyfarwyddyd i'w Ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys (Link Group) adolygu ei bolisi MRP i sefydlu a oedd Polisi 2018 yn parhau i fod yn addas ar gyfer cynlluniau gwariant presennol ac yn y dyfodol ond oherwydd materion eraill ni ystyriwyd canlyniad yr adolygiad ymhellach ar y pryd. Gyda'r newid yn yr hinsawdd economaidd a'r pwysau'n deillio o hynny, ystyrir ei bod yn amserol bellach i ystyried canlyniadau'r adolygiad Link. Mae'r adroddiad Link fel y mae wedi’i atodi yn argymell y dull Oes Ased (Blwydd-dal) i gyfrifo taliadau MRP o 2022/23 ymlaen ar gyfer benthyciadau â chymorth a digymorth CRT ac ar gyfer benthyciadau â chymorth a digymorth y Gronfa Gyffredinol, ar y sail ei fod yn ddarbodus, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

 

Esboniodd yr Aelod Portffolio beth oedd mabwysiadu'r dull Blwydd-dal yn ei olygu gan ddweud ei fod yn dilyn dull tebyg i forgais ad-dalu safonol lle mae’r swm ad-dalu cyfunol o ad-daliadau prifswm a llog yn parhau'r un fath, ac o ganlyniad, mae cyfanswm y prifswm a ad-delir yn ystod y blynyddoedd cyntaf yn isel ac yn cynyddu dros amser. Felly, dan y dull blwydd-dal, mae’r taliad MRP yn isel yn y blynyddoedd cyntaf ac yn cynyddu dros amser. Er bod y swm cyffredinol a neilltuir trwy'r polisïau MRP presennol ac arfaethedig yr un fath, pan ystyrir amseriad y llif arian parod a gwerth symiau yn y dyfodol wedi’u lleihau i'w gwerth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2023/24 pdf eicon PDF 654 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod lefel ar gyfer ffioedd gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2023/24.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, mai'r arferiad yw adolygu'r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref bob blwyddyn i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae'r adroddiad yn nodi'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 ar gyfer gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r canlynol –

·                Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl A yn yr adroddiad, sef:

 

Haen 1 Analog – bydd pawb yn talu £55.90 y chwarter;

Haen 2 a 3 Analog – bydd pawb yn talu £111.41 y chwarter;

Haen 1 Digidol – bydd pawb yn talu £71.50 y chwarter;

Haen 2 a 3 Digidol – bydd pawb yn talu £142.48 y chwarter

 

·                Y Taliadau Teleofal Blynyddol, fel yr amlinellir yn Nhabl B:

 

Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £133.18

Gwasanaethau yn unig £86.08

Costau gosod unwaith ac am byth £53.25

 

·                Cyfradd o £14.50 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

 

·                Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd.

 

·                Cynnydd o 10.57% i £41.55 yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol.

 

·                Cynnydd o £1.55 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.

 

·                Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C:-

 

Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.25;

Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.05;

Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.70

 

11.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu Ffi Safonol 2023/24 pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod lefel Ffi Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol am y flwyddyn Ebrill, 2023 i Fawrth, 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio  Gwasanaethau Oedolion ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol o dan Adran 22 Deddf Cymorth Cenedlaethol 1948, bennu’r ffi safonol ar gyfer eu cartrefi.  Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Ffi Safonol fel yr amlinellir yn y tabl o fewn yr adroddiad a oedd yn dangos amcangyfrif o’r gost fesul preswylydd yr wythnos am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024 sef £863.30. Yr argymhelliad yw codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynnydd chwyddiant o 7.71% yn llai na'r hyn a ganiateir i ddarparwyr sector annibynnol.

Penderfynwyd codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30 yr wythnos.

 

12.

Ffiioedd a Thaliadau 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Yn ôl y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, fel rhan o'r broses flynyddol o osod y gyllideb, mae holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor yn cael eu hadolygu. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan fod yr holl ffioedd a thaliadau yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi galluogi Penaethiaid Gwasanaeth i gynyddu ffioedd unigol o fwy neu lai na 3% ond, yn gyffredinol, mae’r cynnydd ar draws y gwasanaeth yn cyd-fynd â chynnydd o 3%. Mae’r holl ffioedd statudol wedi eu cynyddu yn ôl y swm a osodir gan y corff cymeradwyo, lle mae’r cynnydd wedi ei gyhoeddi. Lle nad yw’r taliad diwygiedig yn hysbys, dangosir y ffi feli’w gadarnhau’ a bydd yn cael ei ddiweddaru unwaith y bydd gwybodaeth am y ffi newydd yn cael ei derbyn. Mae’r cynnydd mewn ffioedd Gofal Cymdeithasol yn cael eu hadrodd arnynt i’r Pwyllgor Gwaith fel eitemau agenda ar wahân.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio nad yw'r holl ffioedd a thaliadau yn cael eu huwchraddio ar gyfer 2023/24 gyda'r tâl am brydau ysgol yn aros yr un fath.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2023/24, fel yr amlinellir yn y llyfryn atodol i’r adroddiad.

 

13.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24 pdf eicon PDF 514 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei hadolygu’n derfynol a chytuno arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol o ran cyllideb 2023/24. Bydd modd wedyn i’r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2023. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw y Cyngor a’r Dreth Gyngor wedi hynny am 2023/24; Strategaeth Ariannol Tymor Canol y Cyngor wedi’i ddiweddaru a defnyddio unrhyw gyllid untro i ategu’r gyllideb.

 

Cynigiodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb o £172.438m am 2023/24 ac, o ystyried yr AEF dros dro o £123.555m, byddai’n rhaid codi'r Dreth Gyngor 5.00% a defnyddio £1.758m o falansau cyffredinol y Cyngor i gael cyllideb gytbwys. Cafodd y dull a gymerwyd o gyfuno arbedion a chynyddu'r Dreth Gyngor a defnyddio balansau i sicrhau cyllideb gytbwys ei gymeradwyo fel rhan o'r broses ymgynghori cyhoeddus ar Gynllun y Cyngor a chafodd ei gefnogi hefyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol pan ystyriodd gynigion cychwynnol y gyllideb yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr, 2023. Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys cynnydd arfaethedig ym Mhremiwm y Dreth Cyngor ar gyfer ail gartrefi i 75% gyda’r incwm a geir yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ar 24 Chwefror cyhoeddodd y Cyflogwyr y cynnig cychwynnol ar gyfer cyflogau i'r Undebau mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog i rai nad ydynt yn athrawon. Mae’r cynnig yn gynnydd cyfradd unffurf o £1,925 i’r holl weithwyr, gyda chynnydd o 3.88% ar gyfer yr holl weithwyr sydd ar bwynt cyflog (SCP) 43 ac uwch, gyda chynnydd o 3.5% i Uwch Swyddogion a’r Prif Weithredwr. Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu costau tua 7% o gymharu â’r 3.5% y caniatawyd ar ei gyfer yn y cynnig cychwynnol ar gyfer y gyllideb. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol o £2m ar y gyllideb. Ar ôl ystyried sut i ariannu'r gost ychwanegol hon, ac ar ôl dod i'r casgliad bod dod o hyd i arbedion gwerth £2m yn hwyr yn y broses o osod y gyllideb yn anymarferol a bod cynyddu'r Dreth Gyngor o 10% i dalu'r gost yn annerbyniol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r Pwyllgor Gwaith yn cynnig y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i dalu am y gost hon yn 2023/24 fel yr unig opsiwn realistig. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio fod yr opsiwn hwn yn bosibl oherwydd bod cyllid y Cyngor wedi cael ei reoli'n ddarbodus dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod, gan hynny, wedi adeiladu cronfeydd wrth gefn i lefel sy'n caniatáu i'r Cyngor dalu costau o'r fath heb amharu ar wasanaethau neu'r cyhoedd. Mae cael lefel ddigonol o gronfeydd wrth gefn nid yn unig yn fodd i ddiwallu anghenion cyfredol y Cyngor ond yn ei roi mewn sefyllfa well i allu delio â heriau'r dyfodol. Roedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Strategaeth Gyfalaf pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 Swyddog a oedd yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2023/24 gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, o dan God Darbodus diwygiedig CIPFA (Medi 2017) ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio strategaeth gyfalaf sy'n nodi'r cyd-destun tymor hir i benderfyniadau am wariant cyfalaf a buddsoddi. Pwrpas y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ar gyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion gwasanaethau ac yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth Gyfalaf yn gysylltiedig â nifer o gynlluniau a strategaethau allweddol eraill fel y nodwyd yn yr adroddiad - rhai ohonynt heb eu cymeradwyo eto; felly mae’r strategaeth gyfalaf sy'n cael ei chyflwyno yn strategaeth dros dro. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod 2023/24 i gwblhau a chymeradwyo'r cynlluniau hynny ac i asesu eu heffaith ar y strategaeth gyfalaf yn y tymor hir ac ar ôl hynny bydd strategaeth gyfalaf ddiwygiedig, wedi’i diweddaru yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith cyn cychwyn blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Penderfynwyd cefnogi’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24 a’i hargymell i’r Cyngor Llawn.

 

15.

Cyllideb Gyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 587 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Cyllideb Gyfalaf o £37.962 miliwn ar gyfer 2023/24 yn cael ei chynnig yn cynnwys cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2022/23, adnewyddu/newid asedau presennol, prosiectau untro newydd, y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a'r Cyfrif Refeniw Tai i'w hariannu o gyfuniad o'r Grant Cyfalaf Cyffredinol, benthyciadau â chymorth a derbyniadau cyfalaf fel yr amlinellir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad. Dangosir y rhaglen gyfalaf arfaethedig fanwl olaf yn Atodiad 2 yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran151, pan fydd yr adroddiad alldro cyfalaf ar ddiwedd Chwarter 4 2022/23 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith, bydd unrhyw symiau llithriad y gofynnwyd iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2023/24 yn

destun cymeradwyaeth y Pwyllgor hwn ar yr adeg honno. Hefyd gellir sicrhau bod grantiau cyfalaf ychwanegol ar gael ac yn cael eu cynnwys wedi hynny o fewn y gyllideb gyfalaf sy'n golygu bod y gyllideb a'r rhaglen fel y'i cyflwynir yn fan cychwyn a bydd yn cael ei diwygio a'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw gyllid ychwanegol a gafwyd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y Pwyllgor ar 28 Chwefror, 2023 y cyflwynwyd cyllideb a rhaglen gyfalaf 2023/24 iddi, a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhaglen gyfalaf a’r cynlluniau arfaethedig yng nghyd-destun yr arian cyfalaf cyfyngedig ar gael ar gyfer y gronfa gyffredinol a’i fod wedi gofyn am eglurhad gan y Swyddogion a'r Aelod Portffolio ynghylch sut mae'r cynnig hwnnw’n hwyluso’r gwaith o sicrhau’r blaenoriaethau tymor canolig y Cyngor gan gydbwyso pwysau tymor byr yn ogystal â'r graddau y gall y Cyngor benderfynu ar ei flaenoriaethau a'i wariant cyfalaf ei hun.  Ar ôl cael sicrwydd a chyngor ar y materion hynny, ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor argymell y gyllideb gyfalaf arfaethedig o £37.962m i'r Pwyllgor Gwaith. 

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd ynghylch y gostyngiad mewn adnoddau cyfalaf sy'n cyfyngu ar yr hyn y mae'r Cyngor yn gallu ei gyflawni o ran buddsoddi cyfalaf a phrin yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a bod angen felly cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid cyfalaf, cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod gyda rheoleiddwyr yn gynharach yn yr wythnos pan godwyd y mater hwn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y rheoleiddwyr wedi cael cais i uwchgyfeirio'r mater o gyllid cyfalaf digonol i lefel genedlaethol gan ddweud hefyd, er bod y ffocws wedi bod yn bennaf ar wariant refeniw, bod buddsoddi yn asedau'r Cyngor a chynnal a chadw'r adeiladau y mae gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu ohonynt yr un mor bwysig. Mae llawer o stoc adeiladau'r Cyngor wedi'i ddyddio ac angen eu huwchraddio gyda nifer o adeiladau ddim yn diwallu anghenion trigolion Môn yn y ffordd y byddai'r Cyngor yn dymuno. Hefyd mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cynllun y Cyngor 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys Cynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2023-28 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Roedd y Cynllun yn cynnwys y nodau lles corfforaethol yn ogystal â'r amcanion strategol a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid fod Cynllun y Cyngor fel y'i cyflwynwyd yn benllanw 12 mis o baratoi gan gynnal proses ymgynghori helaeth a chynhwysfawr fel y disgrifir yn yr adroddiad a oedd yn defnyddio amryw o ffyrdd i gyrraedd y cyhoedd a phartïon â diddordeb er mwyn creu cymaint o ddiddordeb ac ymatebion â phosibl. Cafwyd dros 2,500 o ymatebion yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn datblygu'r Cynllun ac roedd yr ymatebion hynny'n chwarae rhan ganolog wrth osod yr amcanion strategol. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio er bod y Cynllun yn adlewyrchu'r cyd-destun y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddi, mae'n rhaid iddo fod yn ymatebol i unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod pum mlynedd, a bydd yn cael ei addasu yn unol â hynny.

 

Ailadroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y sylwadau am elfen gynhwysol y broses ymgynghori gyda'r Cynllun wedi’i baratoi ar sail y gwaith ymgynghori mwyaf pellgyrhaeddol a wnaed erioed gan y Cyngor. Mae'r Cynllun yn pennu'r cyfeiriad strategol i'r Cyngor dros y cyfnod pum mlynedd nesaf gan fynd i'r afael â meysydd y mae'r cyhoedd wedi'u nodi sy'n feysydd blaenoriaeth iddynt mewn perthynas â gofal cymdeithasol a lles; addysg, tai a'r economi, ynghyd â newid hinsawdd a'r Gymraeg.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod Cynllun drafft y Cyngor 2023-28 wedi ei dderbyn gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror pan heriodd yr Aelodau yr Aelod Portffolio a'r Swyddogion gan ofyn a oedd modd cyflawni’r Cynllun ac a oedd unrhyw fylchau yn y ddogfen; y modd y mae'n mynd i'r afael â dyletswyddau statudol ac yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru); rôl partneriaid y Cyngor wrth helpu i wireddu amcanion y Cynllun a'r trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd.  Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd a'r sicrwydd a dderbyniwyd, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith argymell bod Cynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion strategol lefel uchel y Cyngor ac y bydd cynlluniau pellach, manylach, yn cael eu datblygu o dan bob amcan strategol. Wrth siarad fel Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg dywedodd ei fod, yng ngoleuni data Cyfrifiad 2021 a oedd yn dangos dirywiad parhaus ym mhoblogaeth siaradwyr Cymraeg Cymru, am weld y Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu yn y rhestr o amcanion strategol, ac fe gynigiodd y dylid argymell Cynllun y Cyngor i'r Cyngor Llawn gyda'r gwelliant hwnnw.

 

Penderfynwyd argymell bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cymeradwyo Cynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2023-2028 yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2023, yn amodol ar flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg yn y rhestr o flaenoriaethau strategol yn yr adroddiad.

 

17.

Rhannu Swydd ar y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 672 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn nodi newidiadau statudol i drefniadau Gweithrediaeth o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chymru 2012 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Yn yr adroddiad cynigiwyd y dylid diwygio Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu a darparu ar gyfer y newidiadau statudol oedd wedi eu cynnwys yn Neddf 2021.

Crynhodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid y cefndir deddfwriaethol gan ddweud bod Deddf 2021 yn cynnwys gofyniad bod yn rhaid i awdurdodau lleol gynnwys yn eu trefniadau Gweithrediaeth ddarpariaeth sy'n galluogi dau neu fwy o gynghorwyr i rannu swydd ar y Pwyllgor Gwaith. Mae adran 58 o'r Ddeddf hefyd yn nodi y dylai’r ddarpariaeth hon gynnwys rhannu swydd yr arweinydd neu’r dirprwy arweinydd. Tra bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys darpariaeth i'r Arweinydd rannu swydd ac i ddau neu fwy o gynghorwyr rannu swydd fel Aelodau Gweithredol does dim darpariaeth benodol i'r rôl Dirprwy Arweinydd gael ei rhannu. Nid yw'r Cyfansoddiad chwaith yn darparu ar gyfer sut y bydd materion cworwm neu bleidleisio yn cael eu heffeithio lle mae trefniant i rannu swydd nac yn manylu ar sut y bydd trefniadau rhannu swyddi yn effeithio ar nifer cyffredinol yr aelodau ar y Pwyllgor Gwaith. Cynigir bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu a darparu ar gyfer y newidiadau statudol yn Neddf 2021 fel y manylir yn adran 1.2 yr adroddiad ac ymhellach yn Atodiad 1 ynghyd ag unrhyw newidiadau cyfansoddiadol eraill sy'n codi.

 

Cadarnhaodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod y newidiadau'n statudol ac nid yn fater o ddewis lleol a'i bod felly yn angenrheidiol bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu darpariaethau'r Ddeddf o ran rhannu swyddi ar y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad yn nodi ac yn gofyn am gytundeb y Pwyllgor Gwaith i  argymell y newidiadau cyfansoddiadol sydd angen eu gwneud i’r Cyngor Llawn.

 

Penderfynwyd argymell a bod y Cyngor yn cytuno i newid y Cyfansoddiad er mwyn:

 

·                Caniatáu i un neu o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith.

·                Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd, a

·                Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd -

 

a)Yn unol â'r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad

b)unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.

 

·         Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.