Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Nicola Roberts ddatgan buddiant personol yn unig yn ystod eitem 7 oherwydd ei swydd ran amser gyda’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

  20 Chwefror 2024

  29 Chwefror 2024 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn i’w cadarnhau: -

 

·      20 Chwefror, 2024

·      29 Chwefror, 2024 (arbennig)

 

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith ar gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir –

·      20 Chwefror, 2024

·      29 Chwefror, 2024 (arbennig)

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ebrill – Tachwedd 2024 i’w chadarnhau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau i’r Flaenraglen Waith yn cynnwys symud yr eitem ar y Farchnad Dai Leol o gyfarfod mis Mawrth 2024 i gyfarfod mis Gorffennaf 2024 a chynnwys eitem ar berfformiad a monitro’r gyllideb yng nghyfarfod mis Tachwedd 2024.  Cadarnhaodd y Pennaeth Democratiaeth bod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2024/25 wrthi’n cael ei chwblhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod o Ebrill i Tachwedd 2024, fel y’i cyflwynir.

 

5.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2023/24 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Nododd mai dyma’r cerdyn sgorio mwyaf cadarnhaol ar gyfer Chwarter 3 ers i’r cerdyn sgorio gael ei gyflwyno fel arf ar gyfer mesur perfformiad.  Mae 91% o’r holl ddangosyddion perfformiad yn perfformio’n well na’u targed neu o fewn 5% i’r targedau ar gyfer y chwarter. Amlygodd nifer o feysydd sydd wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter megis y Gymraeg mewn ysgolion, NERS, nifer y cartrefi gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Digartrefedd, Rheoli Gwastraff, a’r Gwasanaeth Cynllunio. Mae angen gwaith pellach mewn perthynas ag ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, rheoli cwynion, cyflawni’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r amser a gymerir i ail-osod eiddo gwag, ac mae’r meysydd hyn yn cael eu monitro a’u harchwilio gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol.   Er bod y Cyngor yn dal i wynebu pwysau ariannol ac er y bydd rhaid mynd i’r afael â rhai pwysau ariannol  yn ystod y flwyddyn nesaf, mae perfformiad y Cyngor o ran i reolaeth ariannol yn gadarnhaol a rhagwelir tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ac, os caiff ei wireddu,  bydd yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor.

Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ategu sylwadau’r Aelod Portffolio gan ddweud bod y cerdyn sgorio’n adlewyrchu perfformiad cadarnhaol ledled y sefydliad ac er bod ambell faes y gellir ei wella, mae’r Cyngor yn ymdrechu’n barhaus i wella ei berfformiad.

Adroddodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol  ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor wrth graffu ar y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 yn ystod y ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2024. Roedd y materion hyn yn cynnwys meysydd sy’n perfformio yn unol â’u targed ond lle mae’r tuedd ar i lawr, gwersi a ddysgwyd gan gwynion ac i ba raddau y mae’r rhain yn cael eu defnyddio i wella’r broses ac ymarfer a’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r cerdyn sgorio newydd ar gyfer 2024/25 a’i chyswllt â Chynllun y Cyngor 2023-28. Ar ôl trafod y materion a derbyn sicrwydd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio ac ar ôl cydnabod y perfformiad cadarnhaol sy’n cael ei adlewyrchu yn y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3, penderfynodd y Pwyllgor argymell yr adroddiad ar gerdyn sgorio Ch3 2023/24 a’r mesurau lliniaru yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd y Prif Weithredwr bod sicrhau’r llwyddiant a adlewyrchir yn y cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 wedi golygu llawer iawn o waith caled a bu iddo longyfarch y Penaethiaid Gwasanaeth a’u rheolwyr a’u staff ar eu hymrwymiad. Er y bydd yn heriol cynnal ac adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol presennol, er mwyn parhau i ddatblygu a gwella rhaid i hyn fod yn ddyhead i’r Cyngor.

Bu i aelodau’r Pwyllgor Gwaith gydnabod canlyniadau’r cerdyn sgorio ar gyfer Ch3, sy’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 328 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adroddiad blynyddol a chyfrifon Stad Elusennol David Hughes ac Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, a roddodd drosolwg o gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a’r tair cronfa, sef Cronfa Waddol David Hughes, Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Ymddiriedolaeth Addysg Ynys Môn 2/3 sy’n darparu budd addysgol i bobl ifanc sydd yn, neu sydd wedi, mynychu ysgolion uwchradd yr Ynys. Cyfeiriodd at y cyllid a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2019 a sut y cafodd y cyllid hwn ei ddefnyddio gan yr ysgolion yn ystod 2022/23 fel y nodir yn adran 5 a 6 yn yr adroddiad. Gan na chynhyrchodd Stad Elusennol David Hughes unrhyw warged yn 2022/23 nid oedd unrhyw gyllid ar gael i’w drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth y flwyddyn honno ac felly nid oedd unrhyw ddyraniad i’r ysgolion. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf a’i bod yn dal i fod yn addas i bwrpas.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y cyfrifon ar gyfer 2022/23  yn dangos bod costau rhedeg y stad yn fwy na’r incwm rhent a gynhyrchir drwy fân-ddaliadau’r stad ac felly nid oedd incwm ar gael i’w ddosbarthu i Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn 2022/23. Mae’r stad, sy’n cynnwys mân-ddaliadau a buddsoddiadau eraill, werth oddeutu £4.88m. Er bod gwerth y stad wedi cynyddu nid yw incwm net y gronfa wedi cynyddu ac os ydi’r sefyllfa hon yn parhau bydd rhaid ystyried ffyrdd o gynhyrchu mwy o incwm fel y gellir parhau i ddosbarthu cyllid i’r Ymddiriedolaeth Addysg Bellach, neu mae risg y bydd yr Ymddiriedolaeth yn dod i ben yn ogystal â’r buddion i ysgolion uwchradd a disgyblion Ynys Môn.

 

Yn sgil y cyngor hwn ynglŷn ag incwm y stad, cynigodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Gwaith yn gwneud argymhelliad penodol a fyddai’n caniatáu i’r Swyddog Adran 151 ystyried yr opsiynau sydfd ar gael fel y gall Stad Ddiwydiannol David Hughes gynhyrchu mwy o incwm er mwyn diogelu hyfywedd yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn yr hirdymor er budd pobl ifanc Ynys Môn. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad pellach ar yr opsiynau i benderfynu ar y ffordd ymlaen gan ystyried anghenion tenantiaid yn ogystal â phobl ifanc Ynys Môn. 

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 (Atodiad A yr adroddiad).

·      Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yr awdurdod i lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Terfynol a'u ffeilio gyda'r Comisiwn Elusennau ar ôl cwblhau'r archwiliad yn foddhaol.

·      Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yr awdurdod mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu incwm o Ystâd Elusennol David Hughes, er mwyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-29 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd y cynnwys y Cynllun Strategol Taclo Tlodi ar gyfer 2024 – 2029 i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Strategol Taclo Tlodi gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gosod gweledigaeth a phrif feysydd blaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â thlodi ar Ynys Môn dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r angen ar gyfer y Cynllun Strategol Taclo Tlodi hwn wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth, ac mae’n cael ei yrru gan Gynllun y Cyngor 2023-28 sy’n rhagweld Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu. Mae’r Cynllun wedi cael ei ddatblygu gan Swyddogion a rhanddeiliaid ac mae’n dibynnu ar eu cefnogaeth barhaus a chydweithrediad. Wrth ddatblygu’r Cynllun mae’r Cyngor wedi ystyried ei gyfyngiadau ariannol ac mae’n cydnabod bod rhaid iddo gyflawni mwy gyda llai. Mae’r dangosfwrdd costau byw sydd newydd gael ei lansio yn darparu data a gwybodaeth fel y gall y Cyngor wneud y penderfyniad cywir er mwyn mynd i’r afael â thlodi ar Ynys Môn yn ogystal â monitro cynnydd yn effeithiol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar yr hyn a drafododd y Pwyllgor wrth graffu ar y Cynllun Strategol Taclo Tlodi yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth 2024. Wrth drafod y Cynllun Strategol bu i’r Pwyllgor godi nifer o faterion yn ymwneud â’r diffiniad o dlodi a sut y penderfynwyd ar y diffiniad hwnnw, cynwysoldeb y broses ymgysylltu, y broses ar gyfer casglu gwybodaeth am dlodi ar yr Ynys ynghyd â’r trefniadau ar gyfer monitro’r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r blaenoriaethau allweddol a gwerthuso llwyddiant y Cynllun. Bu i’r Pwyllgor gwestiynu a yw’r chwe blaenoriaeth allweddol yn rhy uchelgeisiol yn yr hinsawdd bresennol ac wrth drafod tlodi ariannol gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynglŷn â pha mor hygyrch yw’r cyngor sydd ar gael ar fudd-daliadau a rheoli dyledion a hefyd y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i bobl leol yn enwedig mewn perthynas â chydlynu â chwmnïau sy’n gweithredu ar yr Ynys i greu prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc. Wrth argymell y Cynllun strategol i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar gam gweithredu ychwanegol sef y byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ar ran yr Awdurdod a Grŵp Llandrillo Menai i fynegi eu pryder ynglŷn ag effaith y penderfyniad diwedar i leihau’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau prentisiaeth yn y DU yn sylweddol. Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pwyllgor Sgriwtini am ei gyfraniad a chytunodd i gefnogi'r weithred ychwanegol a gynigiwyd ganddo.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi’n bwysig deall bod tlodi yn golygu lawer iawn mwy na diffyg arian a’i fod yn cynnwys y profiadau a chyfleodd sydd ar gael i bobl, yn enwedig pobl ifanc, a sut y gall diffyg cyfleoedd effeithio ar eu bywydau a’u cyfleodd bywyd ac mae hyn yn ychwanegu at faint y dasg o fynd i’r afael â thlodi yn enwedig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029 pdf eicon PDF 717 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-29 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Strategol gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fel dogfen lefel uchel sy’n gosod y cyfeiriad strategol a’r egwyddorion a fydd yn arwain penderfyniadau a phrosesau’r Cyngor mewn perthynas â rheoli ei asedau hyd at 2029.  Cyfeiriodd at y cyfyngiadau cyllidebol a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Cyngor gynnal a chadw ei holl asedau i’r lefel y mae’n ei ddymuno, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddo adolygu ei bortffolio i sicrhau bod ei asedau’n ddiogel, hygyrch ac addas i bwrpas.  Mae’r gwaith o gasglu a phrosesu gwybodaeth am bortffolio asedau’r Cyngor yn hanfodol bwysig er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau. Mae’r gwaith yma eisoes ar y gweill.

 

Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd Gwastraff ac Eiddo mai pwrpas y cynllun Strategol yw sicrhau bod gan y Cyngor bortffolio asedau sy’n gynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol, sydd wedi’i resymoli i fod yn addas i bwrpas ac sy’n ddiogel er mwyn darparu gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau bod asedau’r Cyngor yn cefnogi a helpu i gyflawni’r blaenoriaethau strategol yn unol â Chynllun y Cyngor.  Mae gan y Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol  gyswllt agos  â’r Strategaeth Gyfalaf, sy’n nodi’r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i arwain blaenoriaethau cyfalaf a dyrannu adnoddau cyfalaf ledled gwasanaethau’r Cyngor. Mae gan y Cyngor bortffolio o asedau amrywiol ond nid yw’r portffolio hwn yn cynnwys eiddo a gedwir o dan y Cyfrif Refeniw Tai na’r seilwaith priffyrdd.   Bydd y Cynllun Strategol yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Eiddo mewn cydweithrediad agos â gwasanaethau eraill y Cyngor sydd gan asedau megis ysgolion, canolfannau hamdden a chartrefi preswyl.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd gwell rheolaeth o asedau’r Cyngor yn darparu gwell asedau, yn y lleoliadau cywir, gan yrru effeithlonrwydd a rhesymoli  a chefnogi’r Cyngor ar ei siwrnai tuag at ddod yn gyngor sero net yn ogystal.

 

Aeth y Prif Swyddog Eiddo ac Asedau ymlaen i sôn am y pedwar maes blaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Strategol yn gysylltiedig â sicrhau bod asedau’n addas, cynaliadwyedd asedau, rheoli asedau ar y cyd fel adnodd corfforaethol a defnyddio data i gynllunio a gwneud penderfyniadau. Cyfeiriodd at bwysigrwydd cael gwybodaeth gywir a diweddar ynglŷn ag asedau’r Cyngor fel y gellir gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin.

 

Adroddodd y cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y hyn yr oedd y Pwyllgor wedi’i drafod wrth ystyried y Cynllun Strategol Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2024.  Roedd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys sut fydd y Cynllun yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei amcanion corfforaethol, fforddiadwyedd y Cynllun yn yr hinsawdd ariannol bresennol a’r trefniadau ar gyfer monitro cynnydd a mesur llwyddiant. Bu i’r Pwyllgor hefyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2024 - 2054 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y CRT 2024 – 2054 i’w ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd Cynllun Busnes y CRT gan y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr y Cyngor, sydd oddeutu £2.7m ar gyfer 2024-25. Mae’r Cynllun yn cyfrannu tuag at yr holl themâu sylfaenol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor ond mae’n cyfrannu’n bennaf at sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle’n gartref, gofal cymdeithasol a llesiant yn ogystal â datblygu’r economi. Mae’r Cynllun yn cyfeirio at  Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gyrraedd y safonau newydd ar ôl llwyddo i fodloni’r safonau gwreiddiol yn ôl yn 2012, yr ail Gyngor yng Nghymru i wneud hynny. 

 

Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai gadarnhau y bydd y ffocws eleni ar gynllunio’r dull o gyflawni’r Safonau newydd. Cwblhawyd arolwg o gyflwr stoc dai’r Cyngor yn ystod 2023/24 a chafwyd mynediad i 88% o’r eiddo er mwyn sefydlu gwaelodlin i baratoi ar gyfer y safonau newydd. Bydd gwaith hefyd yn cael ei gwblhau i greu Llwybrau Ynni fel bod tai cymdeithasol y Cyngor yn defnyddio ynni yn fwy effeithlon. Mae’r galw am dai cymdeithasol yn uwch nag erioed ac mae 704 o bobl ar y rhestr aros. Er bod gan y Cyngor 3,981 o unedau tai ar hyn o bryd mae wedi ymrwymo i gynyddu ei stoc dai i ymateb i’r her dai leol ac i gwrdd â’r galw. Mae £17m wedi cael ei neilltuo yng nghyllideb 2024/25 i ddatblygu tai cymdeithasol newydd a phrynu hen dai cyngor yn ôl ynghyd â £13m ar gyfer y rhaglen cynnal a chadw, £1m ar gyfer gwaith datgarboneiddio a £5.7m ar gyfer gwaith atgyweirio heb ei gynllunio. Rhagwelir incwm o £23m drwy renti.

 

Bu i’r Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol grynhoi’r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor wrth iddo graffu ar Gynllun Busnes y CRT yn ei gyfarfod ar 12 Mawrth 2024 sef fforddiadwyedd y Cynllun, yr heriau o ran cyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, canran y tai Cyngor sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif a’r rhesymeg y tu ôl i amserlen 30 mlynedd y Cynllun. Ar ôl ystyried y materion hyn a’r ymatebion penderfynodd y Pwyllgor argymell Cynllun Busnes y CRT 2024-2054 i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r Cyngor o ran cwrdd â’r galw cynyddol am dai ar yr Ynys a gofynion safonau ansawdd tai Cymru 2023 ac roeddent yn gwerthfawrogi gwaith y Gwasanaethau Tai a’u hymrwymiad parhaus i barhau i wella’r cartrefi a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ledled Ynys Môn yn ogystal â buddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd ar yr Ynys.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2024-2054.

 

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 130 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A o’r Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.

 

11.

Rhaglen Amlinellol Strategol - Rhaglen Dreigl

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn cynnwys y Rhaglen Amlinellol Strategol - Rhaglen Dreigl i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith cyn iddi gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r Rhaglen Amlinellol Strategol gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith cyn iddynt gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cam nesaf y seilwaith ariannu strategol ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, (sef y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif gynt). Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n gwneud i ffwrdd â’r rhaglen fandio ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn ysgolion a cholegau ac y byddai’n symud tuag at ddefnyddio Rhaglen Amlinellol Strategol dros gyfnod o 9 mlynedd.  Dan y trefniadau hyn, rhaid cyflwyno rhaglen gyfalaf 9 mlynedd, yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer y 9 mlynedd i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru er mwyn derbyn ymrwymiad a chymorth ar gyfer y 3 blynedd gyntaf a chymorth mewn egwyddor ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Bydd blynyddoedd 7 i 9 yn adlewyrchu’r prosiectau hirdymor sydd gan yr Awdurdod mewn golwg. Mae’r Rhaglen yn nodi ffocws rhaglen dreigl 9 mlynedd yr Awdurdod hwn a manylion y cynlluniau arfaethedig a fydd yn cael eu hariannu yn ystod cyfnod y rhaglen ynghyd â’r costau arfaethedig a goblygiadau cyllidebol.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol – Rhaglen Dreigl (SOP)

·      Awdurdodi Swyddogion i gyflwyno’r Rhaglen Amlinellol Strategol – Rhaglen Dreigl 9 mlynedd (RhAS / SOP) terfynol i swyddogion Llywodraeth Cymru cyn y terfyn amser sef 31 Mawrth 2024.

·      Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio – Addysg a’r Gymraeg, y Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio Cyllid, Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro, i newid yr RhAS os oes angen – os nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau sylweddol o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd parti.

 

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol –

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A o’r Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.

 

13.

Porthladd Rhydd Ynys Môn - Llywodraethiant

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn gosod y trefniadau llywodraethu ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd. Fel yr adroddwyd mewn adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd 2023, mae swyddogion y Cyngor a’i ymgynghorwyr wedi bod yn gweithio i ddod i gytundeb ynglyn â’r ffurf gorau ar gyfer yr endid cyfreithiol er mwyn caniatáu i’r Porthladd Rhydd gyflawni ei gyfrifoldebau i’r ddwy Lywodraeth a sicrhau fod risgiau ac atebolrwydd yn cael eu trosglwyddo a’u rheoli’n briodol. Yn seiliedig ar y cyngor a dderbyniwyd ac yn unol â chytundeb Stena Line, yr opsiwn a ffefrir yw bod y Cyngor yn sefydlu Cwmni Cyfyngedig drwy Warant i weithredu fel endid cyfreithiol ar gyfer y Porthladd Rhydd. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r ystyriaethau llywodraethu yn gysylltiedig â’r dull hwn ynghyd â’r camau nesaf.

 

Penderfynwyd –

·      Rhoi sêl bendith i’r Cyngor greu Cwmni Cyfyngedig drwy Warant i weithredu fel endid cyfreithiol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gytuno ar Erthyglau’r Cwmni a’i Gytundeb Aelodau.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i barhau i drafod gyda rhanddeiliaid allweddol a, lle bo’n briodol, gwahodd y cyfryw randdeiliaid i fod yn aelodau o Gwmni Porthladd Rhydd Ynys Môn.