Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
• 20 Chwefror 2024 • 29 Chwefror 2024 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith ar gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir –
· 20 Chwefror, 2024 · 29 Chwefror, 2024 (arbennig)
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 204 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod o Ebrill i Tachwedd 2024, fel y’i cyflwynir.
|
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2023/24 PDF 364 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer Ch3 2023/24 a nodi’r meysydd mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol ynghyd â’r mesurau lliniaru fel y nodir yn yr adroddiad |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ar gyfer 2022/23 PDF 328 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2022/23 (Atodiad A yr adroddiad). · Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yr awdurdod i lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Terfynol a'u ffeilio gyda'r Comisiwn Elusennau ar ôl cwblhau'r archwiliad yn foddhaol. · Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yr awdurdod mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, i edrych ar opsiynau ar gyfer cynyddu incwm o Ystâd Elusennol David Hughes, er mwyn diogelu hyfywedd tymor hir Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn er budd pobl ifanc Ynys Môn. Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn dewis yr opsiwn i’w ddilyn.
|
|
Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-29 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Cynllun Strategol Taclo Tlodi drafft ar gyfer 2024-29. · Cefnogi’r argymhelliad gan Sgriwtini bod llythyr ar y cyd ar ran yr Awdurdod hwn a Grŵp Llandrillo Menai yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru a San Steffan i fynegi pryder ynghylch effeithiau penderfyniadau diweddar i leihau’r cyllid yn sylweddol ar gyfer cynlluniau prentisiaethau yn y DU.
|
|
Cynllun Strategol Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029 PDF 717 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd argymell y Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-2029 i’w gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor llawn. |
|
Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2024 - 2054 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2024-2054.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 130 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Amlinellol Strategol - Rhaglen Dreigl Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol – Rhaglen Dreigl (SOP) · Awdurdodi Swyddogion i gyflwyno’r Rhaglen Amlinellol Strategol – Rhaglen Dreigl 9 mlynedd (RhAS / SOP) terfynol i swyddogion Llywodraeth Cymru cyn y terfyn amser sef 31 Mawrth 2024. · Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio – Addysg a’r Gymraeg, y Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio Cyllid, Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro, i newid yr RhAS os oes angen – os nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau sylweddol o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd parti.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 94 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: |
|
Porthladd Rhydd Ynys Môn - Llywodraethiant Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Rhoi sêl bendith i’r Cyngor greu Cwmni Cyfyngedig drwy Warant i weithredu fel endid cyfreithiol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn. · Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gytuno ar Erthyglau’r Cwmni a’i Gytundeb Aelodau. · Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i barhau i drafod gyda rhanddeiliaid allweddol a, lle bo’n briodol, gwahodd y cyfryw randdeiliaid i fod yn aelodau o Gwmni Porthladd Rhydd Ynys Môn.
|