Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ymddiheuriad.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen a gadawodd y cyfarfod pan drafodwyd y mater.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim i’w adrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 26 Tachwedd 2024 · 10 Rhagfyr 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol i’w cadarnhau –
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir –
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2025.
Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau i’r Flaen Raglen Waith, sef bod adroddiadau monitro perfformiad a monitro ariannol chwarterol wedi’u hychwanegu fel eitemau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2025, a bod adroddiad ar ddod â phartneriaeth ranbarthol GwE i ben wedi’i gynnwys fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Cyllideb Refeniw Drafft 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, a dywedodd fod y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer y gyllideb wedi cael eu cyflwyno’n llawn i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Ionawr 2025. Cafodd y cynigion eu harchwilio a’u herio’n fanwl mewn trafodaeth gynhwysfawr gan aelodau’r pwyllgor, yn ogystal ag Aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a oedd wedi derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod. Cyflwynodd grynodeb o’r sefyllfa gan ddweud bod y setliad drafft ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr 2024 yn rhoi cynnydd o 3.6% i Ynys Môn (0.7% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 16eg cynnydd uchaf o blith y 22 awdurdod yng Nghymru). Er bod y setliad yn well na’r disgwyl, mae’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i gwrdd â’r cynnydd mewn costau sy’n wynebu’r Cyngor ac, ar ôl darparu ar gyfer y prif newidiadau yn y gyllideb, sy’n cael eu hesbonio yn adran 4 o adroddiad y Swyddog Adran 151, mae’r Cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £10.791m cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r Dreth Gyngor. Pe byddai’r Cyngor yn ceisio cwrdd â’r diffyg dim ond drwy gynyddu’r Dreth Gyngor, byddai angen cynnydd o 20.6% yn y Dreth Gyngor. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn nad yw hyn yn ddewis realistig ac nid yw’n gam y byddai’n dymuno ei gymryd. Cynnig y Pwyllgor Gwaith felly yw defnyddio cyfuniad o arbedion cyllidebol, defnyddio arian wrth gefn a chodi’r Dreth Gyngor er mwyn llunio cyllideb gytbwys, rhywbeth y mae’n rhaid i’r Cyngor ei wneud yn unol â’r gyfraith. Mae cyllideb refeniw ddrafft gychwynnol o £195.234m yn cael ei chynnig ac mae’n cynnwys arbedion o £699k, defnyddio £2m o arian wrth gefn a chynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor (yn cynnwys 0.65% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân). Byddai hyn yn golygu cynnydd o £2.87 yr wythnos yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion cychwynnol drafft ar gyfer y gyllideb er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a’r bwriad yw cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 22 Ionawr a 7 Chwefror. Roedd y Cynghorydd Robin Williams yn annog trigolion Môn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a lleisio eu barn er mwyn dylanwadu ar gynigion terfynol y gyllideb cyn ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth. Ychwanegodd na fyddai’r setliad terfynol yn cael ei gadarnhau tan fis Chwefror ac y byddai unrhyw newidiadau yn sgil hynny, a’r effaith ar y gyllideb arfaethedig, yn cael eu hystyried bryd hynny.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac y byddai’r pwyllgor hwnnw’n ystyried cynigion terfynol y gyllideb ac adborth y cyhoedd yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2025. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i bennu’r ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor yn 2025/26.
Gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod gan iddo ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r eitem hon, ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod hyn yn ofyniad blynyddol o dan Adran 22 Deddf Cymorth Gwladol 1948.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion at faterion yr oedd rhaid eu hystyried wrth gyfrifo’r ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad, a dywedodd fod yr argymhellion ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cyflwyno ffi ar wahân ar gyfer gofal preswyl i henoed bregus eu meddwl (EMI).
Penderfynwyd –
|
|
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n arferol adolygu’r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau gofal cartref bob blwyddyn, er mwyn cyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau pensiwn a budd-daliadau.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cyd-destun ar gyfer pob categori o’r ffioedd a thaliadau ac esboniodd y rhesymau tu ôl i’r ffi arfaethedig ym mhob achos. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â heriau recriwtio yn y gwasanaethau gofal cartref y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr heriau hynny’n parhau a chyfeiriodd at y prif ffactorau, sef natur y gwaith, oriau anghymdeithasol a chyfraddau tâl anghystadleuol. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am effaith y cap o £100 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y swm y mae cynghorau’n cael ei godi am ofal a chymorth yn y cartref, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cap wedi’i gyflwyno naw mlynedd yn ôl erbyn hyn a phe byddai chwyddiant wedi cael ei ychwanegu byddai’r gost dros £150 erbyn heddiw. Mae’r cap yn golygu hefyd bod bwlch rhwng costau gofal preswyl a gofal yn y gymuned ac mae cleientiaid sy’n derbyn gofal a chymorth yn y gymuned yn talu llai am y ddarpariaeth nag y byddent mewn lleoliad gofal preswyl, a gallai hynny ddylanwadu ar benderfyniadau pobl ynglŷn â’u gofal ac efallai eu bod yn aros yn y gymuned yn hirach nag y dylent. Gall y gwahaniaeth yn y costau fod yn sylweddol mewn rhai achosion, a gellid ystyried bod hynny’n annheg, yn enwedig os yw’r modd gan unigolyn i dalu.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts bod y mater wedi’i godi gyda Gweinidog Iechyd blaenorol Llywodraeth Cymru a chafwyd addewid y byddai’r mater yn cael ei adolygu, ond nid yw hyn wedi digwydd. Roedd trafodaeth ddiweddar rhwng Aelodau Portffolio a’r Gweinidog Iechyd newydd ym mis Rhagfyr y llynedd yn fwy cadarnhaol a’r gobaith yw y gwelir rhyw fath o weithredu mewn perthynas â’r mater hwn maes o law.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
|