Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddrodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth Mr Dylan Rees ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 007 (Gobaith Môn) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais. |
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2018. (Cofnodion wedi cael eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod a gafwyd ar 18 Medi, 2018). Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2018. (Cafodd y cofnodion eu cadarnahu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2018). |
|
Grantiau Blynyddol 2019/20 PDF 162 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau a oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol:-
Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan) Grantiau Eraill (grantiau unwaith ac am byth yn bennaf)
Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125k i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach ac, o’r herwydd, ni fydd angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol o hyn ymlaen. Uchafswm y grant mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yw £8,000 a hyd 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn i godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law.
Mae’r swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, i’r graddau y mae hynny’n bosibl ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am gyllid o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.
Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac mae copi ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad.
Dyma’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon 2019/20 fel a ganlyn:-
001 – DHDC (Darganfod Cyfieithu hanes llawn deiliaid £3,500 Hen Dai Cymreig) Plas Penmynydd o 1500 hyd heddiw, yn cynnwys adroddiad pensaernïol a thaflenni o hanes byr Plas Penmynydd ar gyfer ymwelwyr.
002 – Parti Meibion Bara Brith Prynu allweddell a weithredir gan £79 fatri i biano trydan i’w defnyddio lle nad oes trydan ar gael ac i brynu bag i’w gludo.
005 - MȎN-SAR Prynu offer achub hanfodol i ymdopi DIM gydag ehangu’r tîm a chyhoeddusrwydd.
(cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Adfywio)
006 – Cymdeithas Ddinesig Cyhoeddi llyfryn yn ymwneud £848 Bro Porthaethwy â bwyd traddodiadol Ynys Môn. Uwchraddio’r Wefan i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
007 – Gobaith Môn Prynu cawell pêl-droed a threlar. £5,600
008 – Neuadd Goffa Amnewid dau foeler gwres canolog £5,005 Bodedern a phrynu byrddau a throli i’w cludo.
009 – Cyngor Cymuned Gosod matiau diogelwch o dan/o DIM Bryngwran gwmpas offer cae Chwarae Bryngwran.
(Wedi derbyn grant yn 2017/18 felly ddim yn gymwys)
010 – Cantorion Menai Prosiect Cerddorol ar raddfa fawr i £4,500 lwyfannu gwaith corawl gydag unawdwyr Proffesiynol o Gymru, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |