Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Proposed venue: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Etholwyd Mr. Jeff Evans yn Gadeirydd. Diolchodd i’r Aelodau am eu hyder ynddo |
|||||||||||||
Ethol Is-Gadeirydd Cofnodion: Etholwyd Mr. Jim Evans yn Is-Gadeirydd. |
|||||||||||||
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Richard Dew mew perthynas â chais 23 – Chwarae Cymunedol Rhosneigr. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor y Neuadd Bentref. Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Jim Evans mewn perthynas â chais 17 – Clwb Bowlio Tref Biwmares. Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Peter Rogers mewn perthynas â chais 1 - Clwb hwyl ar ôl ysgol – Parc y Bont, Llanddaniel. |
|||||||||||||
Grantiau Blynyddol 2013/14 Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau hynny sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Gwneir dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r mathau canlynol o brosiectau :- · Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (grantiau cyfalaf bach) · Grantiau Eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf) Yn ei gyfarfod ar 23 Ebrill, 2013, cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth lawn swm o £50,000 i’r Panel Grantiau i’w ddyrannu i’r categorïau arferol. Mae’r swyddogion perthnasol o’r gwahanol adrannau wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, amodau a sefydlwyd yn y gorffennol ac o fewn y swm sydd ar gael i’w ddyrannu. Mae argymhellion y swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm i’r adroddiad. Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Amodau ar gyfer dosbarthu grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’ ac yr oedd copi ynglwm fel Atodiad C i’r adroddiad. Nodwyd bod un cais arall sy’n llai syml ac sydd heb ei gynnwys yn y crynodeb uchod ond y byddai efallai’n werth ei gefnogi. Y cais oedd :- Cais Rhif 11 - Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch: (Mae rhedeg y ganolfan wedi ei drosglwyddo’n ddiweddar o Gyngor Sir Ynys Môn, ynghyd â’r offer y maent yn dymuno’i ailosod). Roedd yr Aelodau o’r farn y dylid neilltuo swm o £2,352 (grant sy’n cyfateb i 80% o gyfanswm y gost) i’r sefydliad gan eu bod yn teimlo fod yr achos yn haeddu cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol. PENDERFYNWYD rhyddhau swm o £2,352 i Ganolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch. Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i’w dyrannu ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yn 2012/13 fel a ganlyn :-
|