Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Cofnodion: Penodwyd Mr. Vaughan Hughes yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Etholiad Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Cofnodion: Etholwyd Mrs. Margaret M. Roberts yn Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd Ms. Llinos M. Huws ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 036 (Clwb Gymnasteg Ynys Môn) ac ni chymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Hydref, 2016. Cofnodion: Nodwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2016. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Grantiau Blynyddol 2017/18 PDF 520 KB Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynglŷn â’r uchod.
Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i brosiectau o dan y categorïau a ganlyn :-
· Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach) · Grantiau Eraill (grantiau bychan unwaith ac am byth yn bennaf)
Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach, ac felly dim ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol fydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wneud yn dilyn hynny. £8,000 yw uchafswm y grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a hyd at 70% o’r costau cymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu uchafswm a chanran y gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbyniwyd.
Mae Swyddogion perthnasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiad A sydd ynghlwm i’r adroddiad. Defnyddiwyd system gyfeirio ar y cyd ar gyfer y ddau fath o grant a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; mae unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm.
Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac roedd copi ohono ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.
Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellir ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2017/18 fel a ganlyn :-
|