Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Derbyniwyd y datganiadau o ddiddordeb canlynol :-
Datganodd Mr. Alwyn Rowlands ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Ganolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch o dan Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.
Datganodd Mr. T. V. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gwmni Tref Llangefni o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.
Datganodd Mr. T. Ll. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gyngor Tref Caergybi o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.
Datganodd Mr. Ieuan Williams ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 28 Chwefror, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol PDF 24 KB Pwyllgor Adfywio
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’i mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Chwefror, 2017. Cofnodion: Pwyllgor Adfywio
Cadarnhawyd a mabwysiadwyd, yn ôl y gofyn, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017.
Dywedodd y Trysorydd bod angen i’r Ymddiriedolaeth lawn gadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Adfywio i gefnogi 12 o geisiadau grant ond bod yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfrinachol nes bod yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud penderfyniad terfynol.
PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd ac i fabwysiadu’r isod:
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”
Adroddodd y Trysorydd fod cyfanswm o 31 o geisiadau wedi eu derbyn, gwerth dros £1.6m. Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Adfywio ar 10 Chwefror 2017 a 24 Chwefror 2017 i drafod y ceisiadau hynny.
PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017 fel a ganlyn :-
· Nodwyd y canlynol :-
Ni chymeradwywyd 9 o geisiadau a hysbyswyd y sefydliadau unigol. Cyfeiriwyd 8 cais i’r Pwyllgor Grantiau Bach. Barnwyd bod 2 gais yn anghymwys.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd “Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Drefniadau Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn Derbyn diweddariad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Brown Jacobson LLP angen ychydig o fanylion pellach gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth cyn cyflwyno cais i gofrestru’r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) gyda’r Comisiwn Elusennau.
PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cyflwyno’r manylion sydd eu hangen ar Browne Jacobson LLP, fel y nodwyd uchod.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn pryderu mai dim ond 2 Ymddiriedolwr Annibynnol fydd ar Sefydliad Elusennol Ynys Môn. Nododd ei fod o’r farn y dylai’r Sefydliad Elusennol ystyried cynyddu nifer yr ymddiriedolwyr annibynnol yn y dyfodol.
|