Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Roedd Mr. Derlwyn R. Hughes yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod yn cael ei gefnogi gan Medrwn Môn sy’n rhannu swyddfa gyda Menter Môn. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2014. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Mawrth 2014 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Holodd yr Aelodau a oedd adroddiad i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar y mater a godwyd yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â thrafodaethau i godi’r cyllid cyfalaf ar gyfer dyraniadau grant. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod ffurflenni cais am grantiau wedi eu hanfon allan ar gyfer blwyddyn ddinesig 2014/2015 ac y bydd angen cael trafodaeth ar y broses ddyrannu grantiau yn 2015/2016. Nododd ymhellach y bydd angen hefyd ystyried y cyfarwyddiadau ar gyfer dyrannu grantiau. |
|
Cais am Arian Cyfatebol ar gyfer Grant y Gymuned Ewropeaidd mewn Ardaloedd Gwledig Derbyn cyflwyniad gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Dywedodd yr Ysgrifennydd bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi dyrannu arian cyfatebol i Menter Môn dros y blynyddoedd. Roedd yr arian cyfatebol hwn yn hollol ar wahân i’r broses gyllido grant blynyddol i gaeau chwarae, neuaddau pentref/cymuned ac ati.
O fewn Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fe geir Pwyllgor Adfywio a fu’n ystyried cyllid economaidd a Grantiau Ewropeaidd i Ardaloedd Gwledig.
Cafwyd cyflwyniad gan Mr. Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn mewn perthynas â chais am arian cyfatebol o £330,000 ar gyfer derbyn Grant y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru Wledig 2014 – 2019.
Dywedodd Mr. Jones y byddai’r cyllid yn denu £2,805,000 o arian yr EARDF a chyllid arall drwy raglen LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig UE i helpu gydag ailstrwythuro economaidd Ynys Môn. Byddai’r cyllid hwn yn cynnwys y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2014 a 31 Rhagfyr 2017. Roedd ffigyrau’n nodi y byddai cyllid yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cyfateb i 10.5% o gyfanswm cronfa o £3,135,000.
Rhoddodd Mr. Jones fraslun o gefndir Menter Môn o’i sefydlu yn 1995. Nid yw’r cwmni’n dosbarthu elw; mae iddo’r bwrpasau hollol anhunanol o ychwanegu gwerth economaidd a chreu swyddi. Mae Annog Cyf., yn gwmni masnachol atodol i Menter Môn ac mae’r ddau yn cyflogi 65 aelod staff ac yn 2013 fe ddychwelwyd trosiant o £7m.
Cytunodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i ddarparu £300k o arian i Menter Môn i gynhyrchu cyfanswm cyllidebol o £3m ar gyfer 2010 - 2014ac yn ystod y cyfnod fe ganolbwyntiwyd ar wneud Gwelliannau mewn Pentrefi a Gwella Mentrau a Gwasanaethau Cymunedol. Cwblhawyd 18 o brosiectau cyfalaf, derbyniodd 15 o gymunedau tref/pentrefi fuddsoddiad, cynghorwyd 25 o grwpiau cymunedol a 219 o unigolion, derbyniodd 41,600 o boblogaeth yr ardaloedd fantais ac elwodd 1,212 o blant o weithiau.
Bydd Rhaglen Grant y Gymuned Ewropeaidd 2014 – 2019 yn cael ei dargedu tuag at :- · Ddefnyddio technoleg digidol · Hwyluso datblygiad cyn fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwad byr · Ymchwilio i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol · Ynni Adnewyddadwy ar Lefel Gymunedol · Ychwanegu gwerth i hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
Rhai materion a godwyd gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth :-
· Gofynnwyd cwestiynau am y ganran o’r dyraniad grant a dreulir ar weinyddu. Dywedodd Mr. Gerallt Jones y byddai llai na 10% o’r grant yn cael ei ddefnyddio i bwrpasau gweinyddol. · Gofynnwyd cwestiynau a oedd yn bosibl i sefydliadau gael grant gan Menter Môn a chan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ar gyfer yr un prosiect. Dywedodd Mr. Gerallt Ll. Jones y byddai angen i’r cais am grant fod ar wahân h.y. am fenter wahanol o fewn y prosiect. · Yr angen i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai Tref Amlwch wneud cais am gyllid grant o gronfeydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Nodwyd nad yw Amlwch ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel oedd wedi ei nodi yng Ngweithredoedd yr Ymddiriedolaeth. · Ceisiodd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |