Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd am y flwyddyn i ddod. Cofnodion: Etholwyd Mr. T. Victor Hughes yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfarfod am ei hyder ynddo.
|
|
Etholiad Is Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Cofnodion: Etholwyd Mr. Aled Morris Jones yn Is-Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.
Diolchodd yr Is-Gadeirydd i’r cyfarfod am ei hyder ynddo.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2013.
|
|
Aelodaeth Pwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn PDF 16 KB
I ystyried aelodaeth Pwyllgorau’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel a ganlyn :-
· Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau
· Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
· Pwyllgor Adfywio Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan yr Ysgrifennydd ar sefydlu’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn dilyn y gymynrodd a gafwyd gan Shell UK er budd pobl Ynys Môn. Dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth yn werth o gwmpas £15m ynghyd â’r tir yn Rhosgoch sydd dros 190 o erwau. Y Cyngor Sir yw Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Elusennol, gan weithredu trwy’r aelodau.
Dywedodd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi trafod y gwrthdaro diddordeb posib rhwng rôl swyddogion y Cyngor Sir a’r Ymddiriedolaeth Elusennol, ynghyd â rôl yr Aelodau Etholedig fel Aelodau o’r Cyngor Sir a’r Ymddiriedolaeth. Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi penderfynu gofyn am gyngor proffesiynol ynghylch gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth i’r dyfodol, ynghyd â chyngor mewn perthynas â gwerthu’r tir yn Rhosgoch. Wrth i gyfraith elusennau ddod yn fwyfwy cymhleth, a gan bod raid cydymffurfio gyda chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, byddai gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wrth y Cyngor yn sicrhau y byddai cyngor a chymorth arbenigol addas ar gael i’r Ymddiriedolaeth i’r dyfodol.
Nododd yr Ysgrifennydd ymhellach y bydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gweithredu gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd a thri phwyllgor: y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau, y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a’r Pwyllgor Adfywio. Fodd bynnag, ychydig o weithgareddau fu o fewn y Pwyllgor Adfywio yn y blynyddoedd diwethaf ac yn anaml iawn y mae’n cyfarfod. Yn y gorffennol mae’r Aelodau wedi ceisio osgoi cyflwyno agweddau gwleidyddol yng ngweithgareddau’r Ymddiriedolaeth ac roedd disgwyl i bob aelod wasanaethu ar un o’r tri phwyllgor.
Yn unol â’r Weithred sy’n llywodraethu’r Ymddiriedolaeth, mae’r aelodau yn arwyddo sieciau ar gyfrif yr Ymddiriedolaeth. Mae angen tri aelod ar y mandad, gydag unrhyw ddau ohonynt yn arwyddo bob tro. Y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd ac un arall sydd yn arwyddo - yr arferiad yw mai’r cyn-Gadeirydd yw’r trydydd llofnodydd.
PENDERFYNWYD:
· Awdurdodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Chadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol (pan fydd wedi ei benodi/phenodi) i arwyddo sieciau ar ran yr Ymddiriedolaeth; · Cadarnhau sefydlu tri phwyllgor i weithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth lawn ac, yn unfrydol, hepgor yr angen am gydbwysedd gwleidyddol. Bydd yr aelodaeth fel a ganlyn: Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau:
Ann Griffith, Kenneth P. Hughes, Trefor Ll. Hughes, A.M. Jones, G.O. Jones, H. Eifion Jones, R.Ll. Jones, Alun Mummery, Ms. Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas.
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.
Pwyllgor Grantiau Cyffredinol:
Lewis Davies, Richard A. Dew, Jeff M. Evans, Jim Evans, Vaughan Hughes, Victor Hughes, Llinos M. Huws, Richard O. Jones, Dylan Rees, Peter S. Rogers.
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.
Pwyllgor Adfywio :
John Griffith, Derlwyn R. Hughes, W.T. Hughes, Carwyn Jones, Raymond Jones, R. Meirion Jones, Bob Parry OBE, J. Arwel Roberts, Alwyn Rowlands, Ieuan Williams.
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel aelodau ex-officio.
· Awdurdodi’r Pwyllgorau i benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd fel bod modd iddynt weithredu’n effeithiol.
· Derbyn y gall bod angen ailystyried yr uchod yn dilyn yr adolygiad cyfredol o Gyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth a’i dulliau gweithredu pan fydd y Cyfreithwyr allanol a gomisiynwyd i gwblhau gwaith yn adrodd yn ôl ar fath faterion.
· Bod aelodaeth y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |