Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canolynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.” Cofnodion:
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12 y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
I apwyntio 'Syrfewr Cymwysedig' i weithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas a gwerth tir elusennol ac i gynghori ar ddibenion cysylltiedig Cyflwyno adroddiad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad llafar gan yr Ysgrifennydd yn rhoi gwybodaeth gefndirol ar y bwriad i gyflogi Syrfëwr Cymwysedig mewn perthynas â’r uchod.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag amseriad y gwerthiant arfaethedig a chefndir moesegol y cwmni oedd yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD y dylid rhoddi awdurdod i’r Ysgrifennydd symud ymlaen i benodi Syrfëwr Cymwysedig i weithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth gyda gwerthu tir yr elusen ac i roi cyfarwyddyd i’r Cyngor ar faterion perthynol.
(Roedd Ms. Ann Griffith yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei bod wedi atal ei phleidlais ar y mater.) |
|
Future Administration of the Charitable Trust Cofnodion:
Cymerodd yr Ysgrifennydd y cyfle i roi diweddariad i’r aelodau ar y cynnydd a wnaed ynglŷn â gweinyddu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol.
Gofynnodd yr Aelodau am i adroddiad ar y mater gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth a bod ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi yn y cyfarfod hwnnw i’r polisi mewn perthynas â buddsoddiadau a grantiau.
PENDERFYNWYD y byddid yn gofyn i’r Ysgrifennydd adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth ar y materion a godwyd uchod. Mr. |