Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2013. |
|
Cau allan y wasg a'r cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, ohderwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf.” |
|
Ystyried argymhellion yr Ymgynghorwyr Allanol ar y Broses i Waredu a Safle Rhosgoch Derbyn adroddiad llafar mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cafwyd crynodeb o hanes safle Rhosgoch gan yr Ysgrifennydd ynghyd gwybodaeth am yr ymdrechion a wnaed i gael gwared ar y tir dros y blynyddoedd. Pwysleisiodd y bydd yn rhaid i’r broses ar gyfer cael gwared ar y safle gydymffurfio gyda rheoliadau’r Comisiwn Elusennau a bod er budd pobl Ynys Môn.
Nodwyd bod Weightmans LLP wedi eu penodi i roi cyngor cyfreithiol ynghylch cael gwared ar y safle yn Rhosgoch ac yn dilyn eu hargymhelliad i gontractio cymorth arbenigol i asesu’r safle ac I fynd trwy’r broses gwerth gorau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, penodwyd DTZ i wneud gwaith ymchwil arbenigol ar ran yr Ymddiriedolaeth.
Cafwyd amlinelliad o gefndir y cwmni gan gynrychiolwyr DTZ ac roeddent yn awyddus i ddeall dyheadau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer cael gwared ar safle Rhosgoch a’r broses ar gyfer marchnata a chael gwared ar y tir.
Yn dilyn trafodaethau manwl PENDERFYNWYD:-
· ComisiynuDTZ i gynnal trafodaethau gyda’r rheini a all fod â diddordeb yn safle Rhosgocha chyflwyno gwahanol opsiynau i’r Ymddiriedolaeth lawn ar ddechrau’r flwyddyn.
|