Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennnig, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Llun, 27ain Ionawr, 2014 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Nodyn: Yn syth ar ôl y Cyngor Sir 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 25 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd,  2013.

 

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2013.

3.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2012/13 pdf eicon PDF 501 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2012/13.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2012/2013.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon bellach wedi eu cwblhau a’u bod yn cael eu cyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar gyfer eu mabwysiadu.Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau o bwys yn fformat neu gynnwys y cyfrifon eleni.

 

Codwyd y materion isod gan aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol :-

 

Yr angen i ymchwilio i strategaeth wario’r Ymddiriedolaeth Elusennol oherwydd bod y difidendau o’r portffolio yn uwch na’r meincnod o £400k ar gyfer yr incwm buddsoddi blynyddol;

 

· Yr angen i sicrhau fod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cael ei diogelu yn wyneb y posibilrwydd y bydd awdurdodau lleol yn cyfuno. Dywedir yn glir yng nghanllawiau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei bod er budd trigolion yr Ynys;

Yr angen i ymchwilio ar frys i’r modd y gweinyddir yr Ymddiriedolaeth;

Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r cyfraniad a roddir i Oriel Ynys Môn bob blwyddyn o’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

PENDERFYNWYD

Cymeradwyo’rAdroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2012/2013 a rhoi’r awdurdod i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd lofnodi’r fersiwn derfynol;

Bod pob un o Is-Bwyllgorau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn trafod strategaeth wario’r Ymddiriedolaeth ac yn adrodd yn ôl i’r Ymddiriedolaeth lawn ym mis Ebrill;

Ymchwilioar frys i’r modd y byddir yn gweinyddu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol.

 

 

 

 

4.

Eitem sydd yn debygol o gael ei drafod yn breifat - Ystyried argymhellion yr Ymgynghorwyr Allanol ar y Broses i Waredu Safle Rhosgoch

Cyflwyno adroddiad llafar.

Cofnodion:

Rhoes cynrychiolwyr o DTZ gyflwyniad ar yr opsiynau a’r dadansoddiad safle o Safle Rhosgoch. Nodwyd y gellid defnyddio’r safle i nifer o bwrpasau cydnaws ar yr un pryd ac efallai na fyddai gwerthu’r safle yn golygu y byddai’n cael ei ddatblygu ar unwaith. Y cyngor a gafwyd gan y Cwmni oedd y dylid ystyried cael Adroddiad Llygredd i gynorthwyo’r broses drafod ac er mwyn gwneud y safle’n fwy deniadol i brynwyr posibl.

 

Nodwyd y bydd DTZ yn paratoi adroddiad yn y man a fydd yn cynnwys sylwadau Aelodau’r Ymddiriedolaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD :-

ComisiynuAdroddiad Llygredd drwy broses dendro ac mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;

 

Rhoi’rawdurdod i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, mewn ymgynghoriad gyda Swyddogion perthnasol yr Ymddiriedolaeth, i ddelio gyda materion o ddydd i ddydd yn ystod y broses farchnata. Fodd bynnag, bydd unrhyw fwriad i werthu’r safle’n cael ei drafod mewn cyfarfod llawn o’r Ymddiriedolaeth Elusennol.