Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 24ain Mehefin, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor yr Ymddiredolaeth Elusennol.

Cofnodion:

Etholwyd Mr T.Victor Hughes yn Gadeirydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer  Pwyllgor yr Ymddiredolaeth Elusennol.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. Aled Morris Jones yn Is-Gadeirydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen gan Mrs Llinos Huws a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater hwn. Yn ogystal, datganodd ddiddordeb personol, ond nid un rhagfarnus, mewn perthynas ag

eitem 8 ar y sail bod ei phlant yn aelodau o’r Urdd.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol, ond nid diddordeb rhagfarnus, gan Mrs Nicola Roberts mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen oherwydd iddi fod yn aelod o’r Urdd yn y gorffennol ac am fod ei phlant yn aelodau o’r sefydliad ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai'n cadw meddwl agored ar

y mater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol, ond nid un rhagfarnus, gan Mr Carwyn Jones mewn perthynas ag eitemau 7 ac 8 ar y rhaglen fel cyn-aelod o Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac oherwydd bod ei blant yn aelodau o’r Urdd.  Dywedodd y byddai’n cadw meddwl agored ar y ddau fater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol, ond nid un rhagfarnus, gan Mr Aled Morris Jones mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen oherwydd iddo fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol yn y gorffennol ac am fod ei ferch yn aelod o’r sefydliad hwnnw hefyd ar hyn o bryd. Dywedodd y byddai’n cadw meddwl agored ar y mater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol, ond nid un rhagfarnus, gan Mr W T Hughes mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen fel cyn-aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol a dywedodd yntau hefyd y byddai’n cadw meddwl agored ar y mater.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus gan Mr R P Jones ynghylch eitem 7 ar y rhaglen oherwydd bod Cadeirydd Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn berthynas agos iddo a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad ar y mater. Yn ogystal, gwnaeth ddatganiad o ddiddordeb nad oedd yn un rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen fel cyfrannwr i fudiad yr Urdd.

4.

Cofnodion Cyfarfod 22 Ebrill, 2014 pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 22 Ebrill, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Is-Bwyllgor Buddsoddi a Chontractau pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, cofnodion cyfarfod yr Is-Bwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2014 ac fe’u mabwysiadwyd lleroedd angen gwneud hynny.

6.

Cyllideb 2014/15 pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno’r Gyllideb am 2014/15. (I Ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu’r canlyniadau amodol ar gyfer 2013/14 ynghyd ag argymhellion ynghylch dyraniadau cyllidol ar gyfer 2014/15.

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro fod y canlyniadau rhagamcanedig fel y cawsant eu diweddaru a’u crynhoi yn nhabl 2.5 yr adroddiad yn dangos fod gan gronfeydd refeniw’r Ymddiriedolaeth warged o £210k ar 31 Mawrth, 2014 a bod modd rhagamcanu canlyniadau 2014/15 a 2015/16 yn seiliedig ar amcangyfrif o dwf o 3% ar yr incwm a fuddsoddir.

Rhagwelir felly y bydd £471k ar gael i’w wario yn 2014/15 a £484k yn 2015/16.

 

Roedd y gyllideb ar gyfer 2014/15 fel y cafodd ei hadlewyrchu yn yr adroddiad ysgrifenedig yn cynnig yr isod

 

·           Dyraniad o 200k i Oriel Ynys Môn yn unol â’r strategaeth i ostwng cyllid ar gyfer yr Oriel a fabwysiadwyd fel rhan o’r broses o bennu cyllideb 2013/14.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda Mr Hywel Eifion Jones ac yn wyneb sefyllfa ariannol yr Oriel dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod yn argymell y dylid codi’r dyraniad o £215k i £220k.

 

·           Dyraniad o £66k i neuaddau pentref.

 

Yn dilyn trafodaethau dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod yn argymell codi’r dyraniad hwn i £80k.

 

·           Dyraniad o £50k i gyfleusterau cymunedol ac ar gyfer mân-grantiau

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg Dros Dro ei bod, ar ôl iddi gael trafodaethau, yn argymell glynu wrth y dyraniad o £50k ond y dylid codi lefel pob grant unigol o £6k i £10k y flwyddyn.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod y penderfyniad i fabwysiadu strategaeth i ostwng cyllid ar gyfer Oriel Ynys Môn wedi ei wneud yn rhannol i greu gwahaniad clir rhwng darpariaeth a wneir gan y Cyngor a chyfrifoldebau'r Ymddiriedolaeth fel endid elusennol. Ar hyn o bryd mae Oriel Ynys Môn

yn cael rhai anawsterau o ran cwrdd â’i thargedau incwm ac mae perygl o orwariant. Mae Mr Hywel Eifion Jones yn cynnig gwyro oddi wrth y strategaeth ar gyfer eleni i ganiatáu ar gyfer gwneud dyraniad uwch i’r Oriel. Fodd bynnag, rhaid i'r Ymddiriedolaeth ddod i benderfyniad ar lefel y cyllid i’r Oriel yn annibynnol ar bersbectif y Cyngor.

 

Mewn perthynas â’r dyraniad arfaethedig ar gyfer cyfleusterau cymunedol a mân-grantiau, dywedodd yr Ysgrifennydd wrth yr Ymddiriedolwyr yr amcangyfrifir bod cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, sef 9 Mai (cyn iddynt gael eu harchwilio ar gyfer cydymffurfiaeth gyda meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth) yn £137k, sydd yn bell y tu hwnt i’r £50k a

argymhellwyd fel cyllideb i’w dirprwyo i'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i’r pwrpas hwn. Yn ogystal, mae ceisiadau eraill am gyllid wedi dod i law neu yn yr arfaeth, gan gynnwys ceisiadau gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ac Urdd Gobaith Cymru sy'n cael sylw yn y cyfarfod heddiw. Fodd bynnag, mae gwario y tu allan i ffiniau’r gyllideb yn golygu defnyddio cyfalaf yr Ymddiriedolaeth o £18m ac mae hynny’n rhywbeth y gall yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais i'r Ymddiriedolaeth - Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn pdf eicon PDF 345 KB

Ystyried cais i ariannu Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn o’r Ymddiriedolaeth Elusennol. (I Ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, gais am gyllid a wnaed gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn. Roedd y cais yn gofyn am gyfraniad blynyddol o £30,000 dros y 5 mlynedd nesaf i gyllido rhan o gostau rhedeg y Ffederasiwn dros y cyfnod hwnnw, ac i hyrwyddo ei raglen o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol. Cefnogwyd y cais gan ddogfennau a oedd yn amlinellu

gweithgareddau’r Ffederasiwn yn Ynys Môn yn 2013/14 a sut mae'r rheini’n cyfrannu at ddatblygiad personol ei aelodau, yn ogystal â chyfoethogi bywyd cymunedau lleol ar yr Ynys; hyrwyddo dwyieithrwydd; ei sefyllfa ariannol, a sut mae'n ymdrechu i ddarparu gwerth am arian.

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan Sian Pierce Roberts, Cadeirydd Sirol Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, Gerallt Hughes, Cadeirydd Sirol ar gyfer Hyfforddiant ac Ann Postle, Trefnydd Sirol yn annerch yr Ymddiriedolaeth ar y cais a sut byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio, yn ogystal â’r manteision y cawsant hwy yn bersonol o fod yn aelodau o Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn '.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau'r Ymddiriedolaeth ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Mudiad.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r cais am gyllid a wnaed gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn am £30k y flwyddyn am gyfnod o 5 mlynedd.

8.

Cais i'r Ymddiriedolaeth - Urdd Gobaith Cymru pdf eicon PDF 799 KB

Ystyried cais i ariannu Urdd Gobaith Cymru o’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Ymddiriedolaeth, gais am gyllid a wnaed gan Urdd Gobaith Cymru. Roedd y cais yn gofyn am gyfraniad blynyddol o £40,000 i ddatblygu gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer plant a phobl ifanc yn Ynys Môn dros y 5 mlynedd nesaf fel bod modd i aelodau’r sefydliad gael

mynediad i fwy o'i wasanaethau bob dydd ac i ehangu gwaith yr Urdd i gymunedau ar yr Ynys nad ydynt efallai wedi cael y gwasanaeth llawn yn y gorffennol. Cefnogwydy cais gan ddogfennaeth a oedd yn disgrifio'r gwasanaethau y gall yr Urdd eu cynnig; ei Gynllun Busnes a’i amcanion ynghyd â'i weithgareddau yn Ynys Môn trwy amryfal fforymau, pwyllgorau, aelwydau, eisteddfodau a sianelau eraill.

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan Eryl Williams, Swyddog Datblygu Môn, Manon Rowlands, Mari Evans, Iestyn Wyn Lewis a Carwyn Jones a anerchodd yr Ymddiriedolaeth ar y cais a sut y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio, gan sôn hefyd am eu profiadau eu hunain fel aelodau o'r Urdd

yn Ynys Môn.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau'r Ymddiriedolaeth ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Sefydliad.

 

Penderfynwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r cais am gyllid a wnaed gan Urdd Gobaith Cymru am £40k y flwyddyn am gyfnod o 5 mlynedd.

9.

Eitem sydd yn Debygol o gael ei Chymryd yn Breifat - Diweddariad ar Dir Rhosgoch

Derbyn diweddariad ar lafar gan yr Ysgrifennydd.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ysgrifennydd ddiweddariad llafar i Aelodau’r Ymddiriedolaeth ar y sefyllfa mewn perthynas â thrafodaethau ynghylch cael gwared ar dir yn Rhosgoch a’r materion a oedd yn codi o hynny.  Nododd yr Aelodau’r wybodaeth a gafwyd gan fynegi eu safbwyntiau ar y materion yr adroddwyd arnynt.