Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 11eg Tachwedd, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddidordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr Lewis Davies diddordeb personol yng nghyswllt Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn ymwneud â chais am grant gan Neuadd Gymuned, Llanfaes.

 

Datganodd Mr Jim Evans ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 4 – Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Porthaethwy.

 

Datganodd Mr Jeff Evans ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 4 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref - am ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi.

 

Datganodd Mr John Griffith ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, yn ymwneud â chais grant (28) gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant.   Datganodd ddiddordeb personol a rhagfarnol arall yng nghyswllt Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, yn ymwneud â chais grant (52) gan Faes Chwarae Llanfaethlu a chais am grant (53) gan Fenter Mechell.

 

Datganodd Mr T.Ll. Hughes ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 3 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref gan ei fod yn Aelod o Gyngor Tref Caergybi.

 

Datganodd Mr Carwyn E. Jones ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, yn ymwneud â chais am grant gan Neuadd Gymuned Llanfaes.

 

Datganodd Mr R.O. Jones ddiddordeb personol a rhagfarnol yng nghyswllt Eitem 4 – Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn oherwydd mai ef yw Is-Gadeirydd y Gymdeithas.  Gadawodd y cyfarfod yn ystod y pleidleisio ar y cais.

 

Datganodd Mr Bob Parry OBE ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, yn ymwneud â chais am grant gan Gyngor Cymuned Trewalchmai a Chyngor Cymuned Bryngwran.  Datganodd ddiddordeb personol hefyd yng nghyswllt Eitem 4 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref oherwydd iddo lofnodi deiseb i gefnogi cadw’r Camerâu Diogelwch.

 

Datganodd Mr Dylan Rees ddiddordeb personol a rhagfarnol yng nghyswllt Eitem 4 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref fel Aelod o Gyngor Tref Llangefni (roedd y Cyngor Tref yn Gyd-Ymgeisydd).  Dywedodd ei fod wedi cael barn gyfreithiol ac iddo gael cyngor y gallai siarad yng nghyswllt y cais hwn.

 

Datganodd Mrs Nicola Roberts ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 4 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref gan ei bod yn Aelod o Gyngor Tref Llangefni.

 

Datganodd Mr Peter S. Rogers ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 4 - Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref oherwydd ei fod yn gyn Ynad.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 41 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Mehefin, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2014.

3.

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gafwyd ar 8 Gorffennaf, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd lle yr oedd angen, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2014.

4.

CEISIADAU AM GEFNOGAETH GRANT pdf eicon PDF 777 KB

·           Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn

 

Derbyn cyflwyniad a chais gan Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn. 

 

·           Bwrdd Prosiect Camerâu Goruchwylio’r Pum Tref

 

Derbyn cyflwyniad a chais gan Bwrdd Proseict Camerâu Goruchwylio’r Pum Tref.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·               Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn

 

            Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn i roi cyflwyniad yng nghyswllt cais am gymorth grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

 

Rhoddodd y cynrychiolwyr grynodeb o weithgareddau Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn gan adrodd am lwyddiant nifer o athletwyr sydd wedi cynrychioli Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd dros y blynyddoedd.

 

Roedd y fid am gymorth  grant yn un am brosiect 5 mlynedd fel a ganlyn:-

 

Blwyddyn 1                     -          £50,000  (Bydd £10k tuag at Gystadleuaeth Gymnasteg Rhyng-Gemau 2015)

 

Blynyddoedd 2 i 5           -           £40,000 y flwyddyn

 

Nodwyd y byddai bid lwyddiannus yn sicrhau dyfodol Gemau’r Ynysoedd dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Roedd y rhesymau am y fid am gymorth grant fel a ganlyn:-

 

·         roedd y cais yn cael ei wneud er mwyn gwella perfformiad;

·         i gynyddu cynrychiolaeth;

·         i gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol;

·         i ymestyn yr iaith a diwylliant;

·         sicrwydd ariannol i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn;

·         sicrhau cynrychiolaeth Ynys Môn;

·         i ddatblygu athletwyr;

·         i ddatblygu hyfforddwyr a swyddogion;

 

Dywedwyd hefyd y bydd Ynys Môn yn Lletya’r gystadleuaeth Gymnasteg Rhyng-Gemau 2015 gyda 8 Ynys yn cystadlu.   Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaergybi dros 5 diwrnod.

 

I ddilyn, cafwyd sesiwn o gwestiynau ac atebion gan Aelodau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r cynrychiolwyr o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn a thrafodwyd y materion a ganlyn:-

 

·         cefnogaeth unfrydol i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn ac estynnwyd canmoliaeth uchel i’r athletwyr ar eu llwyddiant yng Ngemau’r Ynysoedd.;

 

·         dylai cynllun busnes a mantolen ariannol fod wedi eu hatodi i’r cais am gymorth grant;

 

·         dylid rhoi manylion ynglŷn â gweinyddwyr Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn.

 

·         dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i ragori mewn gweithgareddau chwaraeon;

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol:-

 

·         I gymeradwyo’r cais am gyllid a wnaed gan Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn am £50k yn y flwyddyn gyntaf a £40k wedi hynny am y 4 blynedd ddilynol;

 

·         Y dylai Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn roi manylion am weinyddwyr y Gymdeithas i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;

 

·         Bod mantolen ariannol a Chynllun Busnes llawn Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn cael eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn cyn rhyddhau’r cyllid grant.

 

·         Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y Pum Tref

 

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Cliff Everett, Clerc Cyngor Tref Caergybi fel cynrychiolydd Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y Pum Tref a’r Arolygydd Guy Blackwell, Heddlu Gogledd Cymru i roi cyflwyniad yn gysylltiedig â chais am gymorth grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

 

Dywedodd Mr Everett mai ymgyrch oedd y prosiect hwn ar ran y 5 Cyngor tref i weithio mewn partneriaeth i fabwysiadu a rheoli gwasanaeth Camerâu Diogelwch newydd am y 10 mlynedd nesaf gyda golwg ar gael trafodaeth bellach gyda datblygwyr mawr am eu cyfraniad tuag at wella diogelwch y cyhoedd ar Ynys Môn.  Bydd pob Cyngor Tref yn cymryd cyfrifoldeb am eu cynllun eu hunain o ran y dyluniad cychwynnol, cynllunio, caffael, ardaloedd goruchwylio, cynnal a chadw ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitem sydd yn debygol o gael ei drafod yn breifat - Tir Rhosgoch

Derbyn adroddiad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ysgrifennydd ddiweddariad llafar i Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar y sefyllfa mewn perthynas â thrafodaethau ynglŷn â gwerthu safle Rhosgoch a’r materion oedd yn codi o hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a disgwyl am ddiweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Materion eraill

 

Gweinyddu’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn y dyfodol

 

Cododd yr Aelodau fater gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn y dyfodol.

 

Nododd yr Ysgrifennydd ei fod yn ymwybodol iawn o bryderon Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol yng nghyswllt gweinyddiaeth yr Elusen i’r dyfodol ac am ddiogelu asedau’r Ymddiriedolaeth er budd preswylwyr Ynys Môn.

 

Gofynnwyd cwestiynau hefyd yng nghyswllt cymhwysedd ardal Amlwch yn awr i allu cyflwyno ceisiadau am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Roedd aelodau’r Ymddiriedolaeth hefyd yn dymuno cael cyngor gan y Rheolwyr Buddsoddi ar y llog a dderbynnir ar fuddsoddiad yr Ymddiriedolaeth.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD galw Cyfarfod Arbennig o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i drafod y materion a godwyd.