Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 21ain Ebrill, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2015 yn amodol ar gynnwys enw Mr. John Griffiths yn y rhestr o ymddiheuriadau.

 

 

3.

Gweinyddu yr Ymddiriedolaeth Elusennol

Derbyn diweddariad gan Mr. Philip Heath, Weightmans LLP mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod Mr. Philip Heath, Weightmans LLP wedi cael gwahoddiad i annerch y cyfarfod ynghylch y materion a godwyd yn y cyfarfod diwethaf mewn perthynas ag amrywio gweithred yr Ymddiriedolaeth.  Nodwyd fod Mr. Heath yn parhau i ddisgwyl ymateb gan y Comisiwn Elusennau i’r cais.

 

Yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf, ychwanegodd yr Ysgrifennydd y dylid ystyried ardal Amlwch yn yr un modd ag unrhyw ardal arall yn yr Ynys o ran gwneud ceisiadau am gyllid grant gan yr Ymddiriedolaeth.  Roedd wedi cysylltu gyda Chyngor Tref Amlwch am wybodaeth mewn perthynas â mantolen a buddiolwyr y gwaddol gan Shell UK i’r dref.  Roedd y wybodaeth a oedd gan y Cyngor Tref ynghylch y gwaddol yn gyfyngedig ond nodwyd bod Amlwch wedi derbyn £69k gan Shell UK i’w ddosbarthu i achosion da yn yr ardal.  Nododd yr Ysgrifennydd nad yw wedi derbyn unrhyw fantolen nac unrhyw arwydd ynghylch pa sefydliadau yn yr ardal sydd wedi elwa o’r cyllid grant.

 

Roedd Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn ystyried y dylid caniatáu i ardal Amlwch wneud ceisiadau am grant yn yr un modd ag ardaloedd eraill ar yr Ynys, ond y dylid cyflwyno mantolen sy’n dangos pwy sydd wedi derbyn arian o’r gwaddol.

 

PENDERFYNWYD

 

·           Bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol gan Mr. Philip Heath, Weightmans LLP ar Amrywio Gweithred yr Ymddiriedolaeth a Gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth.

 

·           Y dylid caniatáu i ardal Amlwch gyflwyno ceisiadau am grant yn yr un modd ag ardaloedd eraill ar yr Ynys.

 

4.

Newidiadau i'r Trefniadau ar gyfer penodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth pdf eicon PDF 36 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gyfer y Cyngor Sir mewn perthynas â newidiadau i’r trefniadau ar gyfer penodi swyddogion ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Oherwydd cyfrifoldebau’r Cyngor fel y corff sy’n gweinyddu’r Ymddiriedolaeth, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 pan fo swyddog perthnasol yr Ymddiriedolaeth yn peidio â bod yn swyddog perthnasol i’r Cyngor maent yn rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw i’r Ymddiriedolaeth ar unwaith a daw trefniadau dros dro i rym hyd nes y bydd swyddogion newydd wedi eu penodi.  Bydd unrhyw oedi o ran penodi swyddogion perthnasol yr Ymddiriedolaeth felly’n fygythiad posib i lefel y ddarpariaeth gwasanaeth a dylid cyfyngu’r bygythiad hwnnw i’r eithaf.

 

Er mwyn gwella effeithlonrwydd, hyblygrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau, cynigir y dylid ymestyn y diffiniad o swyddogion perthnasol y Cyngor i gynnwys penodiadau dros dro a bod swyddogion perthnasol y Cyngor yn dod yn swyddogion perthnasol yr Ymddiriedolaeth ar sail ex-officio.  Effaith y cynnig hwn fyddai tynnu cyn swyddog A151 y Cyngor fel Trysorydd yr Ymddiriedolaeth a’i disodli gyda Swyddog A151 cyfredol y Cyngor. Yn ogystal, mae Prif Weithredwr y Cyngor yn ymddeol ar 31 Mai 2015 a bydd y Prif Weithredwr newydd a benodwyd yn cymryd drosodd fel Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth o 1 Mehefin 2015.

 

·           Cymeradwyo ymestyn y diffiniad o swyddogion perthnasol i gynnwys swyddogion dros dro'r Cyngor sy’n cyflawni swyddi’r Prif Weithredwr, Swyddog A151, Swyddog Monitro (neu Brif Gyfreithiwr/wraig y Cyngor os nad yw’r Swyddog Monitro’n Gyfreithiwr/wraig) i swyddi Ysgrifennydd, Trysorydd a Chyfreithiwr/wraig yr Ymddiriedolaeth.

·           Cadarnhau bod Prif Weithredwr, Swyddog A151 a Swyddog Monitro’r Cyngor (neu Brif Gyfreithiwr/wraig y Cyngor os nad yw’r Swyddog Monitro’n Gyfreithiwr/wraig) yn dal swyddi Ysgrifennydd, Trysorydd a Chyfreithiwr/wraig yr Ymddiriedolaeth ar sail ex-officio.

·           Nodi mai’r Swyddog A151 cyfredol (Mr. Richard Micklewright) yw Trysorydd yr Ymddiriedolaeth o ddyddiad y cyfarfod hwn.

 

5.

Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi a MÔn - Cais am Cyllid pdf eicon PDF 5 MB

Derbyn cyflwyniad gan Mr. Ray Williams, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi a Môn mewn perthynas a chais am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Ymddiriedolaeth gais am gyllid a wnaed gan Ganolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn.  Gwnaed cais am £60k i gyllido offer penodol ar gyfer perfformiad ac i’r cyhoedd eu defnyddio.  Roedd cynllun datblygu ar gyfer y cyfnod 2015/2018 wedi ei gyflwyno gyda’r cais.

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan Ray Williams mewn perthynas â’r cais a hanes Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn hyd yma.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Byron Jones a oedd yn gynrychiolydd o’r Ganolfan ac amlinellodd yr hyn yr oedd wedi llwyddo i wneud hyd yma a sut daeth i chwarae rhan yng ngweithgareddau’r ganolfan.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Ymddiriedolaeth ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cais am gyllid a wnaed gan Ganolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn am swm o £60k ar yr amod bod y Ganolfan yn cyflwyno mantolen a bod yr Ysgrifennydd a’r Trysorydd yn monitro’r drefn ar gyfer prynu offer ar gyfer y Ganolfan.

 

Nododd Aelodau’r Ymddiriedolaeth eu bod yn dymuno cael trefn ar gyfer achosion pan gyflwynir ceisiadau am symiau mawr o arian.  Nodwyd ymhellach y dylid ystyried sefydlu cronfa benodol o arian cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn amlinellu trefn ar gyfer delio gyda cheisiadau mawr a neilltuo arian ar gyfer y Pwyllgor Adfywio i ddelio gyda cheisiadau o’r fath.

 

6.

Tir Rhosgoch - Gohebiaeth a dderbyniwyd pdf eicon PDF 312 KB

·           Cyflwyno gohebiaeth a dderbyniwyd gan Mr. Rhun ap Iorwerth AC.

 

·           Cyflwyno gohebiaeth a dderbyniwyd gan Glerc Cyngor Tref Amlwch.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Ysgrifennydd y cafwyd gohebiaeth gan yr isod mewn perthynas â thir Rhosgoch:-

 

·         Gohebiaeth gan Mr. Rhun ap Iorwerth AC.

·         Gohebiaeth gan Glerc Cyngor Tref Amlwch.

 

Cytunwyd y byddai’r eitemau o ohebiaeth yn cael eu trafod yn eitem 8 ar y Rhaglen.

 

 

7.

EITEMAU A GYMERWYD YN BREIFAT

8.

Diweddariad - Tir Rhosgoch

Cyflwyno adroddiad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas a Thir Rhosgoch.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Tony O’Keefe DTZ i’r cyfarfod.

 

Cafwyd adroddiad diweddaru gan Mr. O’Keefe ynghylch y broses ar gyfer gwahodd tendrau i ddenu darpar brynwyr ar gyfer y tir yn Rhosgoch.

 

Amlinellodd yr Ysgrifennydd y broses ofynnol ar gyfer cwrdd â darpar brynwyr ac awgrymodd y dylid sefydlu panel o blith Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd at ohebiaeth a gafwyd gan Mr. Rhun ap Iorwerth AC a Chlerc Cyngor Tref Amlwch yn gofyn i’r Ymddiriedolaeth ohirio’r broses o werthu safle Rhosgoch i ganiatáu amser i drafod gyda datblygwyr Wylfa Newydd. Roedd Aelodau’r Ymddiriedolaeth yn ystyried bod mater gwerthiant safle Rhosgoch wedi bod yn mynd ymlaen am nifer o flynyddoedd ac y dylai’r Ymddiriedolaeth bellach symud ymlaen i werthu’r tir ond y dylid cysylltu gyda datblygwyr Wylfa Newydd i sefydlu a oes ganddynt ddiddordeb yn safle Rhosgoch.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn symud ymlaen i werthu’r safle.

 

·           Sefydlu panel i gwrdd â darpar brynwyr gyda’r aelodaeth a ganlyn:-

 

Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol

Mr. W.T. Hughes

Mrs. Llinos M. Huws

Mr. H. Eifion Jones

Mr. Ieuan Williams

 

·           Awdurdodi’r Ysgrifennydd i gysylltu â datblygwyr Wylfa Newydd i sefydlu a oes ganddynt ddiddordeb yn safle Rhosgoch.

 

 

9.

Diweddariad ar ddyled yr Ymddiriedolaeth Elusennol i Gyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth(Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.