Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Tachwedd, 2014. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2014 fel rhai cywir. |
|
Gweinyddu yr Ymddiriedolaeth Elusennol Derbyn arweiniad gan Mr. Philip Health, Weightmans LLP mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion:
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr. Phillip Heath, Weightmans LLP i’r cyfarfod.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd adroddiad cefndirol i’r cyfarfod ar y rhesymau pam fod Mr. Heath wedi’i wahodd i annerch y cyfarfod. Nododd bod gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth bryderon ynglŷn â gweinyddu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol ac ynglŷn â diogelu asedau’r Ymddiriedolaeth er budd preswylwyr Ynys Môn.
Rhoddodd Mr. Phillip Heath amlinelliad o’r materion y bydd angen cael eglurder arnynt er mwyn diogelu asedau’r Ymddiriedolaeth:-
• Roedd Gweithred wreiddiol yr Ymddiriedolaeth yn dyddio o 1990 ac mae’n cyfeirio at Ynys Môn fel ‘Bwrdeistref’ ac o fewn termau diffinio’r ddogfen mae’n diffinio’r Ymddiriedolwyr fel y ‘Cyngor’ ac unrhyw bersonau eraill sy’n dal swydd fel Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth. Yn 1996 fe wnaed ‘Gweithred Amrywio’ gyda’r awdurdod lleol yn cysylltu â’r Comisiwn Elusennol i ddweud mai’r awdurdod lleol erbyn hyn oedd Cyngor Sir Ynys Môn. Fodd bynnag mae’n ymddangos ar wefan y Comisiwn Elusennol nad ydynt wedi diwygio eu dogfennau. Mae’r ‘ardal sydd yn elwa’ yn cael ei nodi fel ‘Bwrdeistref Ynys Môn’ ar wefan y Comisiwn Elusennol.
• Pe bai yna newid yn y dyfodol yn strwythur llywodraeth leol byddai unrhyw Aelod o’r Cyngor hwnnw yn dod yn Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth boed ef/hi yn byw neu’n cynrychioli pobl ar yr ynys a’i peidio. Roedd Mr. Heath o’r farn y dylai’r Ymddiredolaeth bresennol ystyried mynd i gyswllt â’r Comisiwn Elusennol i gyflwyno Gweithred Amrywio i ddileu’r cyfeiriad at y ‘Cyngor’ a sicrhau mai’r ardal i elwa fyddai Ynys Môn yn hytrach na’r ‘Bwrdeistref’ neu’r ‘Cyngor’.
• Dylid hefyd ystyried yr amcanion elusennol er mwyn eu diwygio i fod er budd cyffredinol rhai oedd yn byw ar Ynys Môn.
Roedd Aelodau’r Ymddiredolaeth Elusennol yn unfrydol yn eu dymuniad i Mr. Heath weithredu ar ran yr Ymddiredolaeth drwy gysylltu â’r Comisiwn Elusennol ynglŷn â’r materion a nodwyd uchod.
Wedi hynny rhoddodd Mr. Health amlinelliad o faterion yn ymwneud â gweinyddu’r Ymddiredolaeth Elusennol. Fe allai’r Comisiwn Elusennol ystyried bod y gwahaniad mewn diddordeb rhwng y Cyngor a’r Ymddiredolaeth Elusennol yn cyfateb i wrthdaro o ran diddordeb. Roedd angen i’r Ymddiriedolwyr ystyried fel a ganlyn:-
• Datgan bod y Cyngor yn darparu cefnogaeth weinyddol i’r Ymddiredolaeth. Byddai angen ymchwilio i gost y gefnogaeth ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Ymddiredolaeth; • Bod yr Ymddiredolaeth yn sefydlu ei Ysgrifenydd/ion ei hun i ddarparu cefnogaeth i’r Ymddiredolaeth; • Allanoli gweinyddiaeth yr Ymddiredolaeth i sefydliad allanol.
Gofynnodd Aelodau’r Ymddiredolaeth Elusennol am i adroddiad gael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiredolaeth yn rhoi amlinelliad o’r costau a hefyd risgiau’r 3 opsiwn uchod.
Dywedodd yr Ysgrifennydd bod cwestiynau wedi’u codi yn y cyfarfod diwethaf o’r Ymddiriedolaeth ynglŷn â chymhwyster Amlwch i allu cyflwyno ceisiadau am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Nododd fod Amlwch wedi derbyn etifeddiaeth ariannol gan Shell UK pan fu i’r cwmni adael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2013/14 PDF 501 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2013/14. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad drafft gan y Pennaeth Swyddogaeth Adnoddau/ Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) bod yr Adroddiad Blynyddol a’r cyfrifon yn awr wedi’u cwblhau a’u bod yn cael eu cyflwyno i’w mabwysiadu gan yr Ymddiredolaeth Elusennol. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y fformat nac yng nghynnwys y cyfrifon y flwyddyn hon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon am 2013/2014 ac i awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r fersiwn derfynol. |
|
Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r Alldro Dros Dro 2014/15 a Chyllideb 2015/16.
Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) bod angen i’r adroddiad gadarnhau dyraniadau cyllid ar gyfer 2015/16 ac i ddirprwyo’r pwerau cyllido i gyfleusterau cymunedol a chwaraeon a grantiau bychan i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Roedd y ffigurau o fewn yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcan o’r alldro ar gyfer 2014/15. Roedd yr alldro a ragamcenir am 2014/15 yn golygu y byddai arian refeniw wrth gefn ar 31 Mawrth 2015 yn dangos dyled o £25k. Gyda’r twf a ragamcenir mewn incwm buddsoddi, a chan dybio lleihad yng nghyllid Oriel Ynys Môn i £200k, a dychweliad cyllideb 2013/14 (£50k) a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, rhagamcenir y bydd yr arian refeniw wrth gefn yn cynyddu i sefyllfa o warged o £7k yn 2015/16.
Y gyllideb grantiau sy’n cael ei hargymell ar gyfer 2015/16 yw:-
Oriel Ynys Môn £200k Neuaddau Pentrefi £80k Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan £50k (y pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gael awdurdod dirprwyedig i wneud y dyraniadau grant hyn).
Roedd sut yr oedd yr alldro dros dro a’r arian wrth gefn refeniw am 2014/15 yn gwahaniaethu oddi wrth y strategaeth a’r gyllideb wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.
Cynigiwyd hefyd bod yr hysbyseb ar gyfer y grantiau blynyddol sydd i’w dyrannu gan y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn cael eu gosod ganol fis Chwefror 2015, gydag amser cau o ganol mis Mai 2015 ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Rhai materion a godwyd gan yr Aelodau:-
• Mynegwyd pryderon bod yr argymhelliad o fewn yr adroddiad i ostwng y cyllid i Gyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan o £100k i £50k yn annerbyniol gan y bydd yn cael effaith ar sefydliadau bychan;
• Roedd yr Aelodau o’r farn y dylai’r cyfyngiad grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan gael ei godi o £6k i £8k;
· Roedd rhai o aelodau'r Ymddiriedolaeth yn bryderus bod y cyllid i Oriel Ynys Môn i’w dorri. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod penderfyniad i leihau dibyniaeth Oriel Ynys Môn ar gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl gyda lleihad blynyddol fesul cam. Holodd Aelodau eraill a oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gweithredu’n gywir yn gyfreithiol wrth gefnogi’r Oriel. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi’i ddefnyddio i sefydlu’r Oriel ac i dalu costau ei rhedeg dros y blynyddoedd. Bydd cyfrifon yr Ymddiriedolaeth yn cael eu hanfon yn flynyddol i’r Comisiwn Elusennol ac nid oedd unrhyw her wedi ei derbyn erioed.
PENDERFYNWYD:- • I fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2015/16 fel a ganlyn:-
Oriel Ynys Môn £215k Neuaddau Pentrefi £80k Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan £125k
• I ddirprwyo’r swm o £125k i’r Pwyllgor Grantiau cyffredinol ar gyfer delio â cheisiadau. • Bod uchafswm y grant yng nghyswllt Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan yn cael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) bod y rhestr o rai a awdurdodwyd i arwyddo’r mandad banc cyfredol ar gyfer cyfrifon banc lleol (rheolaeth uniongyrchol) yr Ymddiriedolaeth wedi cael eu diweddaru ym mis Mawrth 2013, i gydymffurfio â phenderfyniad yr Ymddiredolaeth a Gweithred yr Ymddiredolaeth. Roedd mandad y banc yn cyfeirio at y rhai oedd â hawl i arwyddo ar gyfer y materion canlynol:-
(a) I dalu’r holl sieciau ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill i dalu neu dderbyn cyfarwyddiadau i stopio taliadau o’r fath;
(b) Darparu unrhyw eitem sy’n cael ei ddal ar ran yr Ymddiriedolwr Corfforaethol gan y banc mewn lle diogel;
(c) I weithredu ar ran yr Ymddiriedolwr Corfforaethol mewn unrhyw drafodion eraill gyda’r banc (yn cynnwys cau cyfrifon);
(d) I gyflenwi i’r banc restr o rai sydd wedi’u hawdurdodi i arwyddo, rhoi derbynebau a gweithredu ar ran yr Ymddiriedolwr Corfforaethol.
Roedd angen person i arwyddo fel Trysorydd mewn nifer o fannau fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad. Nid oes gan yr Ymddiriedolaeth Drysorydd ar hyn o bryd, ac felly er mwyn sicrhau bod y mandad yn parhau i fod yn gyfredol mae angen cael gwelliant i’r rhestr o rai a awdurdodwyd i arwyddo. Bwriedir y caiff rhestr newydd o rai a awdurdodwyd i arwyddo fel mesur dros dro gael ei hadolygu unwaith y caiff Trysorydd ei benodi neu fel arall fel fydd yn briodol.
PENDERFYNWYD, yng nghyswllt (a) i (d) (yn gynwysedig) uchod, i awdurdodi llofnod unrhyw ddau o’r canlynol, Ysgrifennydd yr Ymddiredolaeth, Trysorydd yr Ymddiriedolaeth, Cadeirydd yr Ymddiredolaeth Elusennol, Is-Gadeirydd yr Ymddiredolaeth Elusennol a Chadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. |
|
Eitem sydd yn debygol o gael ei drafod yn breifat - Tir Rhosgoch Cyflwyno diweddariad llafar gan yr Ysgrifennydd. Cofnodion: EITEMAU A GYMERWYD YN BREIFAT
Rhoddodd yr Ysgrifennydd adroddiad fel diweddariad ar werthiant y tir yn Rhosgoch. Nododd bod yr amser cau ar gyfer mynegiannau o ddiddordeb wedi cau fis Rhagfyr gyda nifer galonogol o rai yn dangos diddordeb yn y tir. Bydd yr ymgynghorwyr eiddo DTZ yn cynnal trafodaethau gyda phrynwyr tebygol a byddant yn adrodd yn ffurfiol wedi hynny i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |