Cofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Iau, 24ain Ionawr, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Proposed venue: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Cafwyd Datganiad o Ddiddordeb gan Mr. Selwyn Williams ynglyn â Chanolfan Goffa Porthaethwy.

2.

Cofnodion

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 29 Mai, 2012.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol

Cofnodion:

3.1 Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd, fel y bo’r angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2012.

 

3.2 Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd, fel y bo’r angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Gorffennaf 2012.

 

YN CODI O’R COFNODION

 

EITEM A GYMERWYD YN BREIFAT

 

Cais 46 - Môn FM (Prosiect Radio Cymunedol)(I gyllido trosglwyddydd ac offer erial)

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) mewn perthynas â’r uchod.

 

Nodwyd bod y cais gan Môn FM wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ar 10 Gorffennaf 2012, pryd ystyriwyd bod angen rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’r sefydliad er mwyn medru gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch dyfarnu grant. Roedd y cais yn un

am £10k, er bod yr uchafswm ar gyfer y grantiau hyn yn £6k. Roedd y Cynllun Busnes, manylion am y strwythur (manylion ynghylch yr Ysgrifennydd/ Trysorydd ac ati), amodau’r Drwydded Weithredu a gwybodaeth am grantiau eraill a gafwyd ynghlwm wrth yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Adroddwyd hefyd fod Trwydded wedi ei chynnig i Menter Môn, ar ran Môn FM, ond nad oedd wedi ei rhoi hyd yma i Menter Môn, ar ran Môn FM. Roedd hyn oherwydd mai dim ond cwmnïau cyfyngedig fedr ddal trwydded radio cymunedol.

 

Mae’r gyllideb o £50k a neilltuwyd ar gyfer y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi ei defnyddio’n llawn.Oherwydd bod blwyddyn 2012/13 yn prysur ddod i ben, mae’r proffil cyllidol wedi ei adolygu a nodwyd fod £16k ar ôl oherwydd nad oedd grantiau wedi eu cymryd i fyny. Nid oedd hynny wedi ei nodi yn y gyllideb wreiddiol.

 

Mynegodd Aelodau’r Ymddiriedolaeth eu bod yn gwbl gefnogol i gais Môn FM oherwydd y bydd yn hyrwyddo gweithgareddau o’r fath ac y bydd o fudd i bobl ifanc ar yr Ynys sy’n dymuno cymryd rhan yn y byd darlledu a’r cyfryngau.

 

PENDERFYNWYD

 

·           rhoi grant o £6k i Môn FM, yn amodol ar ddatrys mân-fanylion rhwng

Swyddogiona’r sefydliad;

 

·           gofyn i Môn FM gyflwyno cais pellach, os ydynt yn dymuno, dan y trefniadau arferol ar gyfer gwahodd ceisiadau.

4a

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011/12

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w fabwysiadu, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) mewn perthynas â’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2011/12.

 

Ers cylchredeg yr adroddiad a’r cyfrifon drafft i’r Aelodau, adroddwyd bod yr archwiliad wedi ei gwblhau a dim ond mân gamgymeriad rowndio a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2011/12 ac awdurdodi Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth i lofnodi fersiwn derfynol yr adroddiad ar ôl gwneud y mân newidiadau.

 

4b

Oriel Ynys Môn

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) ynghyd ag adroddiad, er gwybodaeth, gan y Pennaeth Gwasanaeth (Hamdden a Diwylliant) ar gyflawniadau a pherfformiad Oriel Ynys Môn yn 2011/12.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r adroddiad i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol er gwybodaeth a sgriwtini.

5.

Gweinyddu'r Ymddiriedolaeth

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd yr Ysgrifennydd bod trafodaeth wedi bod yn y cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 29 Mai 2012 ynghylch priodoldeb sefydlu trefniadau gweinyddol gwahanol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth a fyddai’n annibynnol ar drefniadau gweinyddol y Cyngor. Cafwyd trafodaeth

gyffredinol ar rai opsiynau ar gyfer allanoli’r gwaith gweinyddol neu sefydlu system weinyddol benodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth. Cyfeiriwyd at roi swm o £20,000 o’r neilltu ar gyfer cynnal astudiaeth ar ddichonoldeb y cynnig, ond ni wnaed penderfyniad ffurfiol i’r perwyl. Nodwyd Panel I roi rhagor o sylw i’r mater gyda’r bwriad iddo ateb yn ôl i’r Ymddiriedolaeth. Nid yw’r Panel wedi

cyfarfod hyd yma, ond, yn y cyfamser, cafwyd nifer o gyfarfodydd rhwng Swyddogion, a rhwng Swyddogion a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth.

 

Ar hyn o bryd mae cwestiynau wedi codi ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth sy’n mynd y tu draw i’r trafodaethau ynghylch gwahanu gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth oddi wrth weinyddiaeth y Cyngor. Yn y lle cyntaf, roedd y Swyddogion yn credu nad oedd ganddynt, yn

eu barn hwy, yr arbenigedd na’r capasiti i ddarparu cymorth cynhwysfawr ac effeithiol i’r Ymddiriedolaeth. Erbyn hyn, roedd ystyriaethau eraill yn dod i’r wyneb mewn perthynas â sicrhau bod cyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn addas i’r pwrpas fel endid elusennol a chanddi’r nod o fod o fudd cyhoeddus cyffredinol i drigolion Ynys Môn y tu draw i’r meysydd y

mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol amdanynt.

 

Roedd y Cadeirydd a’r Swyddogion o’r farn y dylai’r Ymddiriedolaeth ofyn am gyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer yr aelodau fel bod modd iddynt benderfynu pa mor addas i’r pwrpas yw’r cyfansoddiad cyfredol, y priodoldeb o sefydlu terfynau clir rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth a’r ffordd o ddelio gydag asedau’r Ymddiriedolaeth a’r dulliau a fabwysiedir i hyrwyddo budd

cymunedol trwy ddyfarnu grantiau ac ati.

 

Adroddodd yr Ysgrifennydd ymhellach bod busnesau allanol wedi datgan diddordeb mewn prynu safle Rhosgoch, sydd ym mherchenogaeth yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Ymddiriedolaeth eisoes wedi

cymeradwyo caffael cyngor arbenigol, yn unol â rheoliadau’r Comisiwn Elusennol, er mwyn cynorthwyo yn y broses o werthu’r safle, yn dilyn arweiniad a roddwyd gan ei Swyddogion ei hun nad oedd ganddynt y sgiliau na’r wybodaeth arbenigol i gynghori a chefnogi’r broses.

 

Roedd yr Aelodau yn cytuno bod rhaid i fusnes yr Ymddiriedolaeth Elusennol a’r Cyngor Sir fod ar wahân. Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD :-

 

·           Caffael cyngor arbenigol i ystyried pa mor addas i’r pwrpas yw cyfansoddiad cyfredol yr Ymddiriedolaeth a’i threfniadau gweinyddol yng nghyd-destun y newidiadau diweddar i strwythur gwleidyddol y Cyngor ei hun a’r cyfleon newydd sy’n codi ar gyfer

budd cymunedol yn Ynys Môn;

 

·           Cadarnhau’rangen i gaffael gwasanaethau Syrfëwr Cymwys i hwyluso’r broses o werthu safle Rhosgoch;

 

·           Awdurdodi Trysorydd yr Ymddiriedolaeth, i gaffael y cyngor arbenigol angenrheidiol, gan lynu wrth drefniadau caffael y Cyngor,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cais am Gyllid gan y Panel Rhiant Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd bod Panel Rhiant Corfforaethol y Cyngor Sir, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2012, wedi penderfynucyflwyno cais i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ei fod yn ystyried

darparu cyllid cyfatebol bob blwyddyn i gyd-fynd â’r cyfraniad o £200 bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru i Gyfrif Cynilion Unigol pob plentyn sy’n derbyn gofal.’

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) bod angen i unrhyw brosiect, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cyllid, gydymffurfio â dibenion elusennol cyffredinol a phenodol yr Ymddiriedolaeth Elusennol a disgyn o fewn y Datganiad o Flaenoriaethau Cyllido. Nodwyd mai Dibenion Elusennol

yr Ymddiriedolaeth yw budd cyffredinol cyhoeddus pobl sy’n byw yn y Fwrdeistref. Nid yw’r cais yn ffitio’n dda gydag amcanion yr Ymddiriedolaeth.

 

Fel Cadeirydd y Panel Rhiant Corfforaethol, dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod yn dymuno nodi nad yw wedi cymryd unrhyw ran yn y drafodaeth ar y cais hwn. Nododd bod Mr. K.P. Hughes a Mr. J.V. Owen yn aelodau o’r Panel Rhiant Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r cais yn ôl i’r Panel Rhiant Corfforaethol ar y sail nad yw’r cais yn gymwys oherwydd :-

 

·           Dibenion Elusennol yr Ymddiriedolaeth yw budd cyhoeddus cyffredinol pobl sy’n byw yn y Fwrdeistref;

 

·           Nid yw’r cynnig yn disgyn o fewn y dibenion penodol yng Ngweithred yr Ymddiriedolaeth;

 

·           Mae Datganiad yr Ymddiriedolaeth ar ei Flaenoriaethau Cyllido yn nodi, ac eithrio Oriel Ynys Môn a gweithgareddau eraill a gymeradwywyd cyn Ebrill 2007, na fydd prosiectau a weithredir gan Gyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cefnogi.