Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Llun, 13eg Gorffennaf, 2015 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ailetholwyd Mr. T. Victor Hughes yn Gadeirydd.

 

Diolchodd Mr. Hughes i Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol am eu hyder ynddo.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. T.Ll. Hughes yn Is-Gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr. K.P. Hughes, Mr. T. Victor Hughes, Mr. Aled M. Jones, Mr. Bob Parry OBE a Mr. Peter Rogers ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus yn eitem 5 – Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn ac aethant allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 36 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gafwyd ar 21 Ebrill, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd confodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ebrill, 2015.

 

YN CODI

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd y bydd yr eitemau mewn perthynas ag amrywio gweithred yr Ymddiriedolaeth a Gweinyddu’r Ymddiriedolaeth ynghyd â’r eitem mewn perthynas â’r drefn o ran delio gyda cheisiadau mawr yn cael sylw yn y cyfarfod arferol nesaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn.  Nododd bod Swyddogion yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn ymwneud ag eitem bwysig sy’n berthnasol i’r Ymddiriedolaeth yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.

5.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 29 KB

·        Pwyllgor Adfywio

 

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Mai, 2015.

 

YN CODI

 

·      Menter Môn – cais am gyllid cyfatebol ar gyfer Cynllun LEADER – Partneriaeth Wledig Ynys Môn

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn eu bod yn cefnogi bid Menter Môn am gyllid cyfatebol ar gyfer y rhaglen LEADER sef £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.

 

·      Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn – cais i wella cyfleusterau er mwyn denu gweithgareddau pellach

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei bod yn cefnogi bid Cymdeithas Sioe Amaethyddol ynys Môn am gyllid cyfatebol £60k ar yr amod fod y Gymdeithas yn cael cyllid cyfatebol arall o ffynonellau lleol a dod a’r mater yn ôl i’r Ymddiriedolaeth pan fydd canlyniad y fid hon yn hysbys fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

 

·        Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mehefin, 2015.

 

YN CODI

 

·        Rheoli Buddsoddi

 

·        PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn y dylid symud y portffolio i Gronfa Twf ac Incwm.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Pwyllgor Adfywio

 

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 22 Mai 2014.

 

YN CODI

 

·         Menter Môn – cais am gyllid cyfatebol ar gyfer Cynllun LEADER – Partneriaeth Wledig Ynys Môn

 

Cyflwynwyd – yr argymhelliad isod o’r cyfarfod uchod fel a ganlyn:-

 

·            PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei bod yn cefnogi bid LEADER Menter Môn am gyllid cyfatebol o £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 22 Mai 2015 i gefnogi bid LEADER Menter Môn  am gyllid cyfatebol o £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.

 

·         Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn – cais i wella cyfleusterau er mwyn denu gweithgareddau pellach.

 

Cyflwynwyd – yr argymhelliad isod o’r cyfarfod uchod fel a ganlyn:-

 

·            PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei bod yn cefnogi bid Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn am gyllid cyfatebol o £60k, ar yr amod fod y gymdeithas yn cael cyllid cyfatebol arall o ffynonellau lleol a dod â’r mater yn ôl i’r Ymddiriedolaeth pan fydd  canlyniad y fid hon yn hysbys fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2015 i gefnogi cais Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn am gyllid cyfatebol o £60k ar yr amod fod y Gymdeithas yn cael cyllid cyfatebol arall o ffynonellau lleol a dod â’r mater yn ôl i’r Ymddiriedolaeth pan fydd canlyniad y fid hon yn hysbys fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

 

·           Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd yn ôl yr angen, cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2015.

 

YN CODI

 

·         Rheoli Buddsoddiad

 

Cyflwynwyd – yr argymhelliad isod o’r cyfarfod uchod fel a ganlyn:-

 

·            Argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn y dylid symud y portffolio i ‘Gronfa Twf ac Incwm’.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2015 y dylid symud y portffolio i ‘Gronfa Twf ac Incwm’.

 

6.

Eitem sydd yn Debygol o gael ei Chymryd yn Breifat pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

7.

Tir Rhosgoch

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Prisio mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoes yr Ysgrifennydd gyflwyniad manwl i Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar y broses ac ar ganlyniadau’r trafodaethau mewn perthynas â chael gwared ar dir yn Rhosgoch.  Gwahoddwyd 3 o gwmnïau i gyflwyno eu cynigion gerbron Panel yr Ymddiriedolaeth ar ddechrau mis Mehefin 2015.

 

Cyflwynwyd adroddiad hefyd gan y Prif Swyddog Prisio mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl PENDERFYNWYD :-

 

·           Derbyn y fid a wnaed gan Gwmni ‘A’ i gaffael tir Rhosgoch fel eiddo rhydd-ddaliadol ar yr amod fod Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig ffurfiol gan DTZ fod derbyn y bid yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth fel elusen gofrestredig o ran cael gwared ar dir yn unol â’r Ddeddf Elusennau.

 

·           Rhoddi’r awdurdod i’r Swyddogion, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd a’r Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol, roddi trefn derfynol ar y telerau ac amodau ac i gwblhau’r broses o gael gwared ar y tir.