Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 22ain Medi, 2015 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganaid o ddiddrodeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 30 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Gorffennaf, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2015.

3.

Bwriad i Amrywio Gweithred yr Ymddiriedolaeth pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r bwriad i amrywio Gweithred yr Ymddiriedolaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y codwyd mater ynghylch a fyddai modd i’r Ymddiriedolwr weithredu Gweithred Amrywio i ddiwygio Gweithred yr Ymddiriedolaeth dyddiedig 5 Mehefin 1990 er mwyn tynnu allan y cyfeiriadau at hen Fwrdeistref Ynys Môn yn y Dibenion Elusennol a’u disodli gyda chyfeiriadau at Ynys Môn gan gynnwys Ynys Gybi (yr Ynys).  Mae ardal yr hen Fwrdeistref (y Fwrdeistref) yn rhannu'r un ffiniau ag ardal ddaearyddol yr Ynys.  Cafwyd Cyngor Cyfreithiol gan Weightmans LLP a chan Francesca Quint, Bargyfreithiwr yn Siambrau Radcliffe.  Roedd y Cyngor Cyfreithiol wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Amrywio Gweithred yr Ymddiriedolaeth trwy gynnwys y geiriau Ynys Môn (gan gynnwys Ynys Gybi) yn lle’r geiriau ‘y Fwrdeistrefpryd bynnag y maent yn digwydd yn Atodlen B Gweithred yr Ymddiriedolaeth dyddiedig 5 Mehefin 1990.

 

·           Awdurdodi a chyfarwyddo’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro i weithredu Gweithred Amrywio yn enw ac ar ran yr Ymddiriedolwr ar y ffurflen sydd ynghlwm.

 

·           Cadw’r Weithred Amrywio wreiddiol gyda chofnodion yr Ymddiriedolwyr mewn perthynas â’r Ymddiriedolaeth ac anfon copi ardystiedig o’r Weithred Amrywio a weithredwyd yn brydlon i’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Lloegr a Chymru.

 

 

EITEM FRYS GYDA CHANIATÂD CADEIRYDD YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod yn dymuno codi mater ynghylch gweinyddu’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn y dyfodol ynghyd â’r posibilrwydd o benodi Ymddiriedolwyr o’r tu allan i aelodau’r Cyngor.  Cytunodd y Cadeirydd i restru’r mater fel un brys am y rheswm y soniwyd amdano gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (sef y dylid ystyried y mater yn awr oherwydd os cytunir ar unrhyw newidiadau, byddai angen eu gweithredu erbyn cychwyn y flwyddyn ariannol nesaf).  Awgrymwyd y dylid sefydlu Panel gydag aelodau o blith aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol a Swyddogion a’u bod yn adrodd yn ôl i gyfarfod diweddarach gyda’u canfyddiadau.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD sefydlu Panel o 6 Aelod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol i drafod gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth yn y dyfodol sef:-

 

Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;

Mr. Aled Morris Jones, R. Meirion Jones, Richard O. Jones,

Ieuan Williams.

 

4.

Yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Rheolau Gweithredol y Cyngor pdf eicon PDF 24 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ysgrifennydd ynghylch yr uchod.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol, yn ei chyfarfod ar 31 Gorffennaf 1990, wedi penderfynu y dylai Rheolau Sefydlog a Rheolau Trafodaeth y Cyngor Bwrdeistref fod yn berthnasol i’r Ymddiriedolaeth fel oedd yn briodol.  Ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1996, olynwyd y Cyngor Bwrdeistref fel awdurdod lleol gan Gyngor Sir Ynys Môn (‘y Cyngor Sir’). Y Cyngor Sir wedyn oedd unig ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth.  Yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 1996, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol fabwysiadu Rheolau Sefydlog y Cyngor Sir fel yr oeddent yn briodol i gynnal busnes yr Ymddiriedolaeth. Ers 1996, mae’r Cyngor Sir wedi mabwysiadu’r Cyfansoddiad yn ei ffurf gyfredol sy’n cynnwys y Rheolau Gweithdrefn a Rheolau Mynediad i Wybodaeth fel gweithdrefnau sy’n cyfateb i reolau sefydlog ar gyfer cynnal busnes yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir a’i Bwyllgorau. Fodd bynnag, yn dechnegol, mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i weithredu dan benderfyniad 1996 tra bo’r rheolau gweithdrefn wedi newid ers hynny.

 

Cododd yr Aelod y mater bod rhaid i Aelodau siarad i sefyll yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir yn unol â 4.1.24.1 yn y Cyfansoddiad.  Gofynnodd a fyddai’r Ymddiriedolaeth Elusennol hefyd yn mabwysiadu hynny. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·                Cyhydag y bydd y Cyngor Sir yn parhau i fod yr unig Ymddiriedolwr, bod pob cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth a’i Bwyllgorau yn cael eu cynnal yn unol â Rheolau

Gweithdrefn y Cyngor Sir sydd mewn grym ar y pryd ac eithrio lle byddai hynny’n anghyson gyda darpariaethau Gweithred yr Ymddiriedolaeth fel y cafodd ei diwygio.

 

·                Na fydd yr angen i ‘sefyll i siarad’ o fewn y Cyfansoddiad yn 4.1.24.1 yn cael ei fabwysiadu ar gyfer trafodaethau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

 

(Roedd Mr. Aled M. Jones yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad i beidio â sefyll i siarad yng nghyfarfodydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn).

 

5.

Delio gyda cheisiadau sylweddol a dyrannu cyllid i'r Pwyllgor Adfywio pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r weithdrefn ar gyfer delio gyda cheisiadau sylweddol a dyrannu cyllid i’r Pwyllgor Adfywio.

 

Dywedodd y Trysorydd, bod yr Ymddiriedolaeth, bob blwyddyn ym mis Ionawr, yn derbyn adroddiad gan y Trysorydd yn nodi cyllideb arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi rhagamcan o’r incwm buddsoddi y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei ddisgwyl ynghyd â ffigwr ar gyfer ffioedd rheoli.  Yn ogystal, roedd yn nodi cyllideb sydd wedi ei dirprwyo i’r Pwyllgor Grantiau fel y gall ddyrannu grantiau. Ychwanegir at y drefn hon o gyllideb 2016/17 ymlaen drwy wneud argymhelliad a gosod cyllideb debyg wedi ei dirprwyo i’r Pwyllgor Adfywio ar gyfer grantiau mwy. Bydd y cyfanswm a fydd ar gael i’r ddau bwyllgor yn cael ei benderfynu ar ôl cymryd i ystyriaeth yr angen i gynnal gwerth parhaus buddsoddiadau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Bydd y Trysorydd yn gwneud trefniadau i sicrhau fod proses cyflwyno ceisiadau gadarn yn bodoli ar gyfer ceisiadau am grantiau mwy sy’n cydymffurfio gydag arfer dda o ran rheoliadau mewnol.  Bydd y broses yn amodol ar y darpariaethau a nodir yn yr adroddiad.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad gan godi’r materion a ganlyn:-

 

·           Mynegwyd barn gan Aelod o’r Ymddiriedolaeth na ddylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol fod yn cyllido Oriel Ynys Môn; gofynnodd am gael tynnu allan rhif (viii) y canllawiau meini prawf yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at Oriel Ynys Môn.  Dywedodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi cyllido Oriel Ynys Môn yn hanesyddol a’i fod felly wedi ei gynnwys yn y canllawiau meini prawf.  Nododd mai mater i’r Pwyllgor Adfywio a’r Ymddiriedolaeth lawn fyddai trafod cyllido Oriel Ynys Môn yn y dyfodol.

·           Y dylid cynnwys ‘diwylliant’ a ‘gwarchod yr amgylchedd’ yn rhif (iv) y canllawiau meini prawf yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod yr Ymddiriedolaeth yn cytuno:-

 

·           Ar y dull o benderfynu ar gyllideb ar gyfer y Pwyllgor Adfywio bob blwyddyn;

 

·           Y broses a’r meini prawf sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

·           Bod diwylliant a gwarchod yr amgylchedd yn cael eu cynnwys yn rhif (iv) canllawiau meini prawf yr adroddiad.

 

 (Roedd y Mri. Jeff M. Evans a Dafydd R. Thomas yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio yn erbyn cynnwys cyllido Oriel Ynys Môn yn rhif (viii) y canllawiau meini prawf yn yr adroddiad.)

 

6.

Eitem sydd yn debygol o gael ei chymryd yn breifat pdf eicon PDF 8 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm

 

7.

Diweddariad parthed Safle Rhosgoch

Derbyn adroddiad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoes yr Ysgrifennydd a’r Prif Swyddog Prisio adroddiad o ddiweddariad ynghylch Safle Rhosgoch.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.