Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Cafwyd y datganiadau o ddiddordeb canlynol :-
Bu Mr Richard Griffiths ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 7 Cymdeithas Dreftadaeth Diwydiannol Amlwch.
Bu Mr Trefor Ll Hughes ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.
Bu Mr R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 14 Band Biwmares a Chais18 Cwmni’r Fran Wen.
Bu Mr Bryan Owen ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 6 Tudur Cyf.
Bu Mr Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn a Cais 25 Gobaith Môn.
Bu Mrs Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.
Bu Mr Robin Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 28 Chwefror, 2018. · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 27 Mawrth, 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir :-
· Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2018. · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 27 Mawrth, 2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol Pwyllgor Adfywio
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Chwefror, 2018 · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mawrth, 2018 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pwyllgor Adfywio
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir :-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2018. · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.” |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19 Cyflwyno adroddiad gan Drysorydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Cofnodion: Adroddodd y Trysorydd bod cyfanswm o 34 o geisiadau grant wedi dod i law a oedd yn werth £1,467,487m i gyd. Cytunodd y Pwyllgor Adfywio ar 14 Chwefror, 2018 ar restr fer o geisiadau a nodwyd y rhai hynny lle roedd angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr. Ar 13 Mawrth, 2018 fe ystyriodd y Pwyllgor Adfywio’r ceisiadau ar y rhestr fer ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol a lefel y cyllid y dylid argymell ei gymeradwyo. Penderfynwyd y dylid cyfeirio 14 cais i’r Ymddiriedolaeth Lawn ar gyfer eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2018 fel â ganlyn:-
· Prosiectau a gymeradwywyd
· Bod yr Ymddiriedolaeth yn dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd i gysylltu â’r ymgeiswyr aflwyddiannus yn nodi’r rhesymau pam nad oedd eu cais yn llwyddiannus.
· Bod yr Ymddiriedolaeth yn dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd anfon llythyr cynnig ffurfiol at yr ymgeiswyr llwyddiannus.
|