Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd Mr R O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Cais Grant – Gemau’r Ynysoedd. Cymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater wedi iddo gael cyngor cyfreithiol. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Ionawr, 2018. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2018 fel rhai cywir. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd “Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrywdd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.” |
|
Cais am Grant - Gemau'r Ynysoedd Cyflwyno adroddiad gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â chais a gafwyd am gymorth ariannol i gynnal Gemau’r Ynysoedd yn Ynys Môn yn 2025.
Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Bwyllgor Cais Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn 2025 ac fe gafodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyniad manwyl ganddynt. Yn dilyn sesiwn holi ac ateb, gadawodd y cynrychiolwyr y cyfarfod cyn i’r cais gael ei drafod.
Anerchwyd y cyfarfod gan yr Ysgrifennydd, y Trysorydd a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD :-
· Bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi’r cais, mewn egwyddor, a’i bod yn gosod amodau i sicrhau gwariant elusennol priodol; · Bod angen Cynllun Busnes llawn sy’n nodi’n glir i ba ddibenion y bydd arian yr elusen yn cael eu gwario a bod unrhyw drefniadau ar gyfer rhyddhau arian yn amodol ar dderbyn prawf bod meini prawf y flwyddyn flaenorol wedi’u bodloni o dan y Cynllun Busnes os yn berthnasol; · Rhoi pŵer dirprwyedig i’r Ysgrifennydd (mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol, y Trysorydd ac unrhyw Swyddogion eraill fel y gwêl yr Ysgrifennydd yn briodol) i osod unrhyw amodau ar unrhyw grant neu ymrwymiad er mwyn diogelu priodoldeb gwario arian elusennol; · Bod yr amodau a osodir yn cynnwys amod bod raid adrodd ar y mater eto i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn cyn rhyddhau unrhyw arian o’r fath. |