Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth Mr Trefor Ll Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 3 – Newid Prosiect – Parc Caergybi ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.
Aeth yr Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer y cyfarfod oherwydd fod y Cadeirydd wedi datgan diddordeb. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 87 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-
“Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 2917, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod ar y sail ei fod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Newid i Brosiect - Parc Caergybi Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynghylch yr uchod.
PENDERFYNWYD bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi’r cais diwygiedig a chyflawni’r prosiect fesul cam ar yr amod y ceir cadarnhad fod Parc Caergybi wedi cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Caergybi. |