Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr. Bob Parry OBE yn Gadeirydd.
Diolchodd Mr. Parry i’r Aelodau am eu hyder ynddo.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr. Derlwyn R. Hughes yn Is-Gadeirydd.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth Mr. T.V. Hughes (Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol) a Mr. Bob Parry OBE ddatganiad o ddiddordeb yn y cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn ac aethant allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.
|
|
EITEMAU A DRAFODWY YN BREIFAT |
|
Ceisiadau am grant i gefnogi mentrau adfywio economi Ynys Môn Cyflwyno adroddiad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r uchod a derbyn cyflwyniad gan y mudiadau a nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â cheisiadau am grantiau a dderbyniwyd i gefnog mentrau i adfywio economi Ynys Môn.
Dywedwyd mai cylch gorchwyl y Pwyllgor Adfywio yw ystyried sut y gellir defnyddio adnoddau’r Ymddiriedolaeth i wella ansawdd bywyd dinasyddion yn Ynys Môn, drwy adfywiad economaidd, creu swyddi cynaliadwy a fydd yn caniatáu i bobl Ynys Môn (yn arbennig felly’r bobl ifanc) i aros ac ennill bywoliaeth yn eu cymunedau, a defnyddio’r adnoddau hynny er budd y gymuned. Dros y blynyddoedd, mae'r Ymddiriedolaeth wedi darparu cyllid cyfatebol i gefnogi prosiectau megis Cynlluniau Ewropeaidd Menter Môn, sy'n denu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr Ynys o amryfal ffynonellau allanol sydd ar gael ar gyfer adfywiad economaidd. Mae'r gweithgaredd hwn yn ychwanegol at y grantiau a roddwyd yn rheolaidd i sefydliadau gwirfoddol sy'n ymwneud â gweithgaredd yn y gymuned.
Dywedodd yr Ysgrifennydd y derbyniwyd 3 o geisiadau gan Menter Môn, Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn a GeoMôn.
· Menter Môn – cais am gyllid cyfatebol ar gyfer Cynllun LEADER – Partneriaeth Wledig Ynys Môn
Dywedodd yr Ysgrifennydd fod Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn eisoes wedi rhoddi cyflwyniad ar y cais hwn i’r cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth lawn a gyfarfu ar 22 Ebrill 2014. Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth bryd hynny i gefnogi’r cais mewn egwyddor a gofynnodd i’r mater gael ei ohirio er mwyn cael trafodaeth fanylach yn y Pwyllgor Adfywio. Y rheswm am wneud hynny oedd mai cais amlinellol oedd yr un a gyflwynwyd i’r Ymddiriedolaeth nid oedd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig. Ar 6 Chwefror 2015, cafwyd gwybodaeth bod y cais wedi bod yn llwyddiannus yn amodol ar sicrhau cyllid cyfatebol.
Rhoes Rheolwr-gyfarwyddwr menter Môn gyflwyniad manwl i’r Pwyllgor Adfywio. Y fid am gyllid cyfatebol dan gynllun LEADER Menter Môn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yw £330,000 yn seiliedig ar yr £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.
Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn eu bod yn cefnogi bid Menter Môn am gyllid cyfatebol ar gyfer y rhaglen LEADER sef £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.
· Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn – cais i wella cyfleusterau er mwyn denu gweithgareddau pellach
Rhoes Mr. John Adshead gyflwyniad manwl i’r Pwyllgor Adfywio. Roedd cynrychiolwyr o Bwyllgor y Sioe hefyd yn bresennol a chafwyd ganddynt wybodaeth gefndirol ar weithgareddau’r sioe a’r manylion ariannol. Mae Cymdeithas Sioe Amaethyddol ynys Môn yn gofyn am gyllid cyfatebol o £60k i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei bod yn cefnogi bid Cymdeithas Sioe Amaethyddol ynys Môn am gyllid cyfatebol £60k ar yr amod fod y Gymdeithas yn cael cyllid cyfatebol arall o ffynonellau lleol a dod a’r mater yn ôl i’r Ymddiriedolaeth pan fydd canlyniad y fid hon yn hysbys fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.
· GeoMôn – cais GeoBarc Ynys Môn
Rhoes Dr. Margaret Wood a Mr. John ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |