Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Ailetholwyd Mr. Bob Parry OBE yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr. Alwyn Rowlands yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-
Mr. Alwyn Rowlands – datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 8 Canolfan Hamdden Biwmares a’r cylch ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.
Mr. Ieuan Williams - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 9 Cyngor Cymuned Llanfair ME ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Mr. T.V. Hughes - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 22 Cwmni Tref Llangefni ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.
Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Mr. T.Ll. Hughes - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 2 Cyngor Tref Caergybi a Chais 27 – Cymdeithas Cae Cybi ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.
Rheolydd Grantiau – datganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 4 Cymunedau’n Gyntaf Môn. |
|
Cyflwyno’r cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Adfywio fel â ganlyn :-
· 24 Chwefror, 2016 · 3 Mawrth, 2106
(Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gafwyd ar 15 Mawrth, 2016) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Adfywio fel a ganlyn:-
• 24 Chwefror, 2016 • 3 Mawrth, 2016
(Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ar 15 Mawrth, 2016) |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 15 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm.” |
|
Ceisiadau Grantiau Mawr 2017/18 Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ar y ceisiadau a dderbyniwyd am Grantiau Mwy.
Dywedodd y Trysorydd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd 2016, wedi penderfynu rhyddhau swm o £350k tuag at Grantiau Mwy yn 2017/18. Yn ystod yr wythnosau’n cychwyn ar 21 Tachwedd a 28 Tachwedd, hysbysebwyd y grantiau a oedd ar gael gan Ymddiriedolaeth Ynys Môn am symiau dros £8,000 i gynorthwyo gyda phrosiectau cyfalaf mawr neu i gyllido gwasanaethau penodol a fyddai o fudd i bobl Ynys Môn. Er mwyn medru ystyried y ceisiadau am grantiau, rhaid iddynt gwrdd ag o leiaf un o amcanion yr Ymddiriedolaeth fel y cânt eu pennu yng Ngweithred yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Dyma’r amcanion hynny:-
• Cymorth i grwpiau difreintiedig • Adfywio’r economi leol • Gwella sgiliau • Lleihau tlodi • Gwarchod treftadaeth • Gwarchod yr amgylchedd • Cymryd rhan mewn gweithgareddau’n gysylltiedig â chwaraeon, iechyd a lles y gymuned • Datblygu ysbryd a llesiant cymunedol
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Ynys Môn 31 o geisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 6 Ionawr, 2017. Roedd manylion am y ceisiadau ynghlwm fel Atodiad A yr adroddiad. Er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i ystyried y ceisiadau, roedd y Swyddogion wedi eu sgorio ymlaen llaw yn erbyn cyfres o feini prawf a oedd eisoes wedi cael eu defnyddio i asesu’r ceisiadau. Derbyniodd y Pwyllgor fanylion ynghylch cefndir y ceisiadau gan y Swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:-
• Rhoi sylw i 12 cais mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn a bod Aelodau’r Pwyllgor Adfywio’n cael copïau o’r ceisiadau a’r matrics sgorio; • Bod y sawl gyflwynodd 9 cais yn cael eu cynghori i gyflwyno eu ceisiadau am grant bychan gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol; • Rhoi’r awdurdod i’r Trysorydd hysbysu’r sawl gyflwynodd y 10 cais arall bod eu ceisiadau wedi bod yn aflwyddiannus.
|