Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Bob Parry OBE FRAgS yn Gadeirydd.

2.

Etholiad Is Gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr J Arwel Roberts yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiadau o ddiddordeb isod :-

 

Datganodd Mr Richard Griffiths ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau MawrCais 1 – Caru Amlwch a Chais 18 – Treftadaeth Ddiwylliannol Amlwch ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar bleidlais ar yr eitemau hyn.

 

Datganodd Mr Bryan Owen ddiddordeb personol yn eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau MawrCais 4 – Clwb Pêl-droed Aberffraw.  Aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Datganodd Mr J Arwel Roberts ddiddordeb personol yn Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau MawrCais 11 – Meithrinfa Morlo.

 

Datganodd Mr R O Jones, Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau MawrCais 1 – Caru Amlwch ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno. 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 25 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mawrth, 2018.

 

(Cadarnhawyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gafwyd ar 17 Ebrill, 2018)

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2018.

 

(Cadarnhawyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018)

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 14 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y gallai gwybodaeth gael ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn unol ag Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â cheisiadau a dderbyniwyd am Grantiau Mawr.

 

Dywedodd y Trysorydd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2018 wedi penderfynu argymell cyllideb o £350k ar gyfer Grantiau Mawr yn 2019/20.  Cymeradwywyd y gyllideb honno gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2018.  Lansiwyd y broses ymgeisio yn Rhagfyr 2018 gyda dyddiad cau o 25 Ionawr, 2019 ar gyfer ceisiadau.  Gwahoddwyd ceisiadau am gyllid dros swm o £8k i gynorthwyo gyda phrosiectau cyfalaf mawr neu refeniw i gyllido gwasanaethau penodol a fydd o fudd i bobl Ynys Môn. Rhaid i geisiadau fodloni unrhyw un o’r meini prawf isod :-

 

·      Cymorth i grwpiau difreintiedig;

·      Adfywio’r economi leol;

·      Gwella sgiliau;

·      Lleihau tlodi;

·      Gwarchod treftadaeth;

·      Diogelu’r Amgylchedd;

·      Cyfranogiad mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chwaraeon, iechyd a budd cymunedol;

·      Datblygu ysbryd a llesiant cymunedol.

 

Yn y cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2017, penderfynwyd na fyddai sefydliadau a oedd wedi derbyn arian o’r gronfa Grantiau Mawr o fewn y bum mlynedd ddiwethaf yn cael eu gwahardd rhag ymgeisio ond y byddai’r sefydliadau hynny ond yn cael eu hystyried unwaith y byddai’r holl geisiadau eraill wedi cael eu hystyried a bod arian yn parhau i fod ar ôl.

 

Dywedodd y Trysorydd y derbyniwyd 28 o geisiadau erbyn y dyddiad cau. Cafodd manylion y ceisiadau eu cynnwys fel Atodiad A yr adroddiad. Derbyniwyd un cais hwyr a phenderfynodd y Pwyllgor dderbyn y cais hwnnw ar gyfer ei ystyried.

 

Derbyniodd y Pwyllgor fanylion y ceisiadau gan y Swyddogion ac yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD :-

 

·      Ystyried 14 o geisiadau mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn;

·      Cynghori 1 ymgeisydd i gyflwyno eu cais i gronfa Grantiau Bach yr Ymddiriedolaeth Elusennol.