Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaeth Mr Richard Griffiths ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Caru Amlwch ac ni chymerodd ran yn y bleidlais ar yr eitem.
Gwnaeth Mr Richard O Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Caru Amlwch a ni chymerodd ran yn y bleidlais ar yr eitem.
Gwnaeth Mr J Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Meithrinfa Morlo. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Chwefror, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 14 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
‘O dan Adran 100(A)4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.’ Cofnodion: PENDERFYNWYD :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar sail y tebygolrwydd y gall gwybodaeth gael ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Ceisiadau Grantiau Mawr 2019/20 Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ar yr uchod.
Dywedodd y Trysorydd y derbyniwyd 29 o geisiadau’n wreiddiol ac y cafodd y rheiny ystyriaeth gychwynnol gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2019. Penderfynodd y Pwyllgor roi 14 o geisiadau am grantiau ar restr fer ar gyfer asesiad manylach ac er mwyn derbyn gwybodaeth bellach am y ceisiadau hyn yn ôl yr angen. Nodwyd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2018 wedi penderfynu argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn fod £350k yn cael ei ryddhau tuag ag ariannu grantiau mawr yn 2019. Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, penderfynnodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gymeradwyo’r argymhelliad.
Cafwyd trafodaeth fanwl ar y 14 cais a oedd ar y rhestr fer a PHENDERFYNWYD argymell fel a ganlyn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn ei gyfarfod ar 16 Ebrill, 2019:-
· Bod 12 o’r ceisiadau am grantiau a oedd ar y rhestr fer yn cael eu cefnogi gydag 11 ohonynt yn derbyn y swm y gofynnwyd amdanol ac un yn derbyn swm llai na’r un y gofynnwyd amdano; · Nad oedd 1 o’r 14 cais ar y rhestr fer wedi bod yn llwyddiannus; · Anfon 1 o’r 14 cais ar y rhestr fer ymlaen i’r Ymddiriedolaeth lawn i’w ystyried ar gyfer ei ariannu y tu allan i’r broses flynyddol ar gyfer dyfarnu grantiau mawr; · Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gyda’r symiau a argymhellir fel y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Adfywio. |