Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
• Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020.
• I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
• Adroddodd Mr Rheinallt Thomas y bu datblygiadau ers iddo godi pryderon y CYSAG yng nghyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 7 Hydref 2020, ynghylch y llwyth gwaith y mae ysgolion yn gorfod ei ysgwyddo mewn perthynas â’r Maes Llafur Cytûn. Dywedodd Mrs Mefys Jones-Edwards fod CBAC wedi ymateb i’r pryderon a godwyd a’u bod wedi addasu’r maes llafur TGAU ac AS drwy leihau’r llwyth gwaith i ysgolion. Dywedodd fod disgyblion yn awr yn gallu dewis 3 allan o 4 uned yn y maes llafur Addysg Grefyddol ym Mlynyddoedd 10 ac 11, o gymharu â 4 yn flaenorol. Er ei bod yn amlwg fod ysgolion yn falch o ymateb CBAC, roedd yr athrawon wedi mynegi pryder ynghylch dyfodol Addysg Grefyddol ar ôl i’r pandemig Covid-19 ddod i ben a’r hyn fydd yn digwydd ar ôl 2021. Roedd yr athrawon a’r CYSAG yn teimlo bod angen cyfleu eu pryderon i CBAC unwaith eto. • Cadarnhawyd y bydd Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Santes Fair, Caergybi yn ymuno â Phanel Gweithredol Ysgolion CYSAG. • Cytunwyd y byddai’r Parch Jim Clarke yn cynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y CYSAG. • Cadarnhawyd y bydd Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG yn cysylltu ag Ysgol Rhoscolyn i ddarparu cymorth ynghylch y derminoleg gywir i’w defnyddio wrth baratoi adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.
PENDERFYNWYD:-
• Bod Ymgynghorydd AG y CYSAG yn ysgrifennu at CBAC i ddiolch iddynt am roi sylw i bryderon CYSAG Ynys Môn, gan ddatgan hefyd pryderon y Pwyllgor ynghylch dyfodol Addysg Grefyddol yn 2022. • Anfon copi o’r llythyr at Linda Maddock, Swyddog Addysg Grefyddol CBAC. |
|
Diweddariad gan yr Ymgynghorydd AG i'r CYSAG Yr Ymgynghorydd AG i’r CYSAG i roi diweddariad llafar ar y canlynol:-
· Adroddiad Blynyddol CYSAG a’r Cynllun Gweithredu · Y Cwricwlwm Newydd Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y data ar gyfer Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn wedi cael ei gasglu a’i ddadansoddi. Dywedodd fod cynnydd wedi bod yn arafach na’r disgwyl ac y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn wahanol i adroddiadau blaenorol, oherwydd Covid-19 ac am nad oedd disgyblion wedi sefyll arholiadau. Nodwyd y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2021.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y Cwricwlwm i Gymru 2022 a’r cynnig i newid yr enw Addysg Grefyddol i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno gyda chymorth y Fframwaith newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, a bydd angen i ysgolion ddylunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru yn llunio’r Fframwaith terfynol ar hyn o bryd.
Mynegwyd pryderon y bydd risgiau’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd os nad yw ysgolion yn rhoi digon o bwyslais ar bob pwnc. Mewn perthynas ag Addysg Grefyddol, bydd rhaid i’r pwnc gystadlu â Hanes a Daearyddiaeth ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau er mwyn cael lle mewn ysgolion, ac efallai y bydd perygl y bydd Addysg Grefyddol yn cael ei wanhau ymhellach. Nodwyd, er bod y cwricwlwm yn gadarnhaol o ran ei ddull thematig, roedd y CYSAG yn teimlo nad yw’r themâu’n ddigon miniog, a bydd rhaid cynllunio’n ofalus i addasu’r cwricwlwm. Yn ogystal, nodwyd bod mwy o risg i Addysg Grefyddol na phynciau eraill gan fod llai o athrawon sy’n arbenigwyr yn y maes, a bod llai o ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer athrawon Addysg Grefyddol.
Mae’r amserlen gyfredol yn parhau er gwaethaf Covid-19, a bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu yn 2022. Bydd Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG yn gweithio i sicrhau nad yw Addysg Grefyddol yn mynd ar goll ymysg pynciau eraill.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr heriau sy’n wynebu CYSAGau mewn perthynas â’u rôl yn y cwricwlwm newydd. Bydd angen i’r CYSAGau fonitro a chynghori ysgolion, a chynnig eu cefnogaeth i sicrhau y rhoddir amser priodol i bob pwnc. Ni ddylai’r CYSAGau ystyried y Cwricwlwm Newydd fel rhwymedigaeth, ond fel cyfle i helpu ysgolion i gael gweledigaeth ehangach o’r byd.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
Crynodeb o Weithgareddau PDF 115 KB Yr Ymgynghorydd AG i’r CYSAG i adrodd ar weithgareddau diweddar.
Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar y canlynol:-
• Cynhaliodd y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 11 Mawrth 2020 a chraffwyd ar adroddiadau hunan arfarnu a gyflwynwyd gan Ysgol Goronwy Owen, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Rhoscolyn, Ysgol y Tywyn ac Ysgol Llanfawr. Canolbwyntiodd y drafodaeth hefyd ar yr enw newydd arfaethedig ar gyfer Addysg Grefyddol, er mwyn derbyn barn athrawon ac ysgolion ar y mater. Nodwyd na chynhaliwyd yr un cyfarfod pellach hyd yma, ond y gobaith yw y bydd modd i’r Panel Gweithredol ailgychwyn y broses yn fuan. • Nodwyd fod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r aelod cyfetholedig wedi mynychu cyfarfod NAPfRE. Gofynnwyd am farn y rhai oedd yn bresennol ar yr enw newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, sef Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Rhannwyd adnoddau ar gyfer athrawon yn y cyfarfod, ac maent wedi cael eu rhannu ag ysgolion ar Ynys Môn. • Ymatebodd y CYSAG i’r Ymgynghoriad ar y cwricwlwm drwy ysgrifennu llythyr yn mynegi anfodlonrwydd y CYSAG fod y cwestiynau’n anodd eu deall ac yn amherthnasol. • Mae Mr Owain Davies, Swyddog Addysg, wedi ymuno â’r Panel Gweithredol i oruchwylio gwaith y Panel. • Gwahoddir Mrs Helen Robets o Brifysgol Bangor, sydd hefyd yn aelod o’r Panel Gweithredol, i gyfarfod nesaf y CYSAG ym mis Chwefror i gyflwyno trosolwg o waith y Panel yn yr ysgolion. • Darparwyd cyllid i ryddhau aelodau’r Panel Gweithredol o’u dyletswyddau er mwyn mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi. • Mewn perthynas â Chynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2020-22, cadarnhawyd fod llwyfan electronig wedi cael ei greu er mwyn i ysgolion rannu adnoddau ac arfer dda mewn Addysg Grefyddol, ynghyd â gwaith y CYSAG a’r Panel Gweithredol mewn ysgolion. Cytunodd y CYSAG fod y llwyfan yn syniad ardderchog ac y byddai’n codi proffil y CYSAG a’r Panel Gweithredol yn yr ysgolion ac yn rhoi cyfle i ysgolion ddatblygu eu gwaith a rhannu eu syniadau. • Mae Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru a GwE wedi bod yn cydweithio i rannu adnoddau gydag ysgolion. Roedd yr Eglwys yn teimlo fod plant angen cymorth gydag Addoli ar y Cyd, gan nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn gwasanaethau dyddiol mewn ysgolion. Bu’r Eglwys yn recordio sesiynau Addoli ar y Cyd cyfrwng Cymraeg ac mae GwE wedi eu rhannu ag ysgolion. Cytunodd Mrs Anest Frazer i anfon yr adnoddau uchod at Owain Davies ar gyfer y Panel Gweithredol.
Codwyd pryderon nad yw athrawon yn cael cyfle bellach i fynychu cyrsiau a drefnir gan CBAC oherwydd y pandemig. Yn hytrach, maent yn cael gwahoddiad i fynychu sesiynau gweminar dwy awr o hyd ar gyfer TGAU a Lefel A, sy’n cael eu cynnal ar wahanol ddiwrnodau. Nodwyd fod pob sesiwn gweminar yn costio £100, sy’n dod i gyfanswm o £300 ar gyfer pob pwnc. Nid yw pob ysgol yn gallu fforddio’r gost gan olygu fod rhai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cymdeithas CYSAGau CYMRU Derbyn diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas, aelod cyfetholedig CYSAG, ynglŷn â chyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020. Cofnodion: Adroddodd Mr Rheinallt Thomas ar y prif bwyntiau a drafodwyd yng nghyfarfod rhithwir Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.
Cyfeiriwyd at y Fframwaith Cefnogi Addysg Grefyddol. Nodwyd bod yr oedi o ran cyhoeddi’r Fframwaith wedi cael ei achosi gan Adran Gyfreithiol Llywodraeth Cymru gan y bu’n rhaid iddynt ymateb i heriau ychwanegol mewn perthynas â deddfwriaeth newydd yn ystod y pandemig. Nodwyd fod y Fframwaith ar gael ers mis Mehefin, i’w gylchredeg i’r CYSAGau. Cytunodd Cymdeithas CYSAGau Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon ynghylch y diffyg gweithredu a’r oedi wrth rannu’r Fframwaith â’r CYSAGau a’i gyhoeddi wedi hynny. Gofynnwyd a ddylid gohirio’r amserlen ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion gan y bydd y Fframwaith yn ganllaw ar gyfer y cwricwlwm.
Mae ansicrwydd ynghylch a fydd Addysg Grefyddol yn cael ei alw’n Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae rhai’n ffafrio’r term Crefydd a Bydolygon.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar a ddylid caniatáu i grwpiau digrefydd ymuno â’r CYSAGau? Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu efallai y gellid creu grŵp CYSAG ychwanegol a’i alw’n Grŵp Aa ar gyfer grwpiau digrefydd, tra y byddai’r CYSAG presennol yn cael ei alw’n Grŵp A. Mae anghytundeb rhwng cynrychiolwyr o gefndiroedd crefyddol a Llywodraeth Cymru wrth geisio datrys y mater o gael cynrychiolaeth o blith grwpiau digrefydd ar y CYSAGau. Roedd Mr Thomas wedi awgrymu y dylai drafft newydd y ddeddf llywodraeth leol adlewyrchu’r ardal ac aelodau’r gymuned.
Rhoddwyd diweddariad i’r CYSAG ynghylch apwyntiadau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru, y cyfarfod blynyddol ac adroddiad y Trysorydd.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru. |
|
Cyfarfod Nesaf Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ar ddydd Mawrth, 16 Chwefror 2021. Cofnodion: Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ddydd Mawrth, 16 Chwefror 2021. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf. |
|
Gohebiaeth I ystyried cais i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol gael ymuno â CYSAG Môn.
Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais gan y Grŵp Dyneiddwyr Lleol i ymuno â CYSAG Ynys Môn.
Ystyriwyd cais y Dyneiddwyr gan y CYSAG a cheisiwyd cyngor gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr opsiynau oedd ar gael.
Ar ôl ystyried cyngor y Cyfreithiwr, PENDERFYNODD y CYSAG beidio â chefnogi’r penodiad ar y sail ganlynol:-
• Nid oes seddi gwag ar gyfer aelodau newydd ar GYSAG Ynys Môn ar hyn o bryd; • Mae CYSAG Ynys Môn yn bwriadu adolygu ei Gyfansoddiad, pan gyhoeddir manylion pellach ar aelodaeth y CYSAG, yn unol â newidiadau deddfwriaethol arfaethedig fel rhan o ddatblygiadau yn ymwneud â Chwricwlwm i Gymru gan Lywodraeth Cymru.
Adroddodd y Cadeirydd y bydd Mrs Margaret Peters, Clerc y CYSAG, yn gadael ei swydd gydag Adran Addysg y Cyngor yn fuan, ac yn mynd i weithio i Gyngor Conwy. Ar ran y CYSAG, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Peters am ei gwaith rhagorol fel Clerc a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd. |