Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor, ac yn rhithwir drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod CYS blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o'r cofnodion: -

 

  Nodwyd cywiriad yn eitem 5 o'r cofnodion Saesneg, a ddylai fod wedi nodi 'Cyfaill Eglwysi Digyfaill'.

  Cadarnhawyd bod taith ddysgu nesaf y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) i Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni, Bydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd.  

  Gan gyfeirio at brosiect y CYS ar leoliadau crefyddol ac ysbrydol ar Ynys Môn, cadarnhawyd bod y Tîm Archifau wedi dechrau ar y gwaith o gasglu adnoddau ar gyfer ysgolion.

  Cadarnhawyd y bydd Adroddiad Blynyddol drafft y CYS yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y CYS.

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 314 KB

·       Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd yn rhithiol ar 5 Mawrth 2024.

 

·       Derbyn diweddariad o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhalwyd ar 13 Mehefin 2024 ym Mhrifysgol Wrecsam.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd yn rhithwir ar 5 Mawrth 2024 er gwybodaeth a chawsant eu nodi.

 

Dywedodd aelod cyfetholedig y CYS ei fod wedi mynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) CYSAGauC ar 13 Mehefin 2024, a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a drafodwyd ar yr agenda yn y cyfarfod. 

 

Nodwyd bod angen talu ffi tanysgrifiad flynyddol CCYSAGauC. Mae’n dal i fod yn £495.00.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG Annibynnol, gan fod CYS Ynys Môn yn tanysgrifio i CCYSAGauC, fod hawl gan ysgolion Ynys Môn i gael mynediad at adnoddau ar wefan CCYSAGauC trwy gyfrineiriau penodol, a fydd yn cael eu rhannu i’r ysgolion.

 

PENDERFYNWYD bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cytuno i dalu ffi tanysgrifio flynyddol CCYSAGauC, sef £495.00 am aelodaeth eleni.

4.

Lleoliadau Crefyddol ac Ysbrydol Ynys Môn

Trafodaeth agored.

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd y bydd adnoddau a baratowyd gan y Tîm Archifau ar leoliadau crefyddol ac ysbrydol ar gael ar ffurf ddigidol i ysgolion.  Bydd ysgolion yn gallu dewis gwybodaeth yn ôl y meysydd pwnc yn eu cwricwlwm.  

 

Y tymor nesaf, bydd y Tîm Archifau yn cyflwyno gwybodaeth ac arteffactau sy'n ymwneud â Sant Seiriol, gyda chysylltiadau â lleoliadau hanesyddol ac eglwysi penodol yn ardal De-ddwyrain Ynys Môn, a fydd hefyd yn cael eu rhannu gyda'r CYS.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd.

5.

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Dr Gareth Evans-Jones ar waith Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

Cofnodion:

Oherwydd problemau technegol yn ystod y cyfarfod, bydd yr eitem hon yn cael ei haildrefnu.

 

PENDERFYNWYD gwahodd Dr Gareth Evans-Jones i fynychu cyfarfod nesaf y CYS i roi trosolwg o waith y Ganolfan Addysg Grefyddol.

6.

Esgobaeth Bangor

Derbyn diweddariad ar waith yr Esgobaeth.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Nia Edwards o Esgobaeth Bangor ar Brosiect Llan, sy'n rhan o Brosiect Pererindod yr Eglwys yng Nghymru.  Dywedodd fod pererindodau, adnoddau Cymraeg a mentrau cymunedol yn cael eu datblygu, e.e. cerdded llwybrau ysbrydol ac archwilio eglwysi.  Dywedodd y bydd yr Eglwys yn lansio dwy wefan newydd yn fuan, h.y. https://pererin.com/cy/, a gwefan newydd ar gyfer ysgolion, www.pererinschools.cymru.

 

Nodwyd bod llwybr pererindod Cadfan yng Ngwynedd bron â chael ei gwblhau ac y bydd yn cael ei lansio ym mis Medi.  Bydd yr Esgobaeth yn dechrau gweithio ar deithiau cerdded Sant Cybi a Sant Seiriol ar Ynys Môn yng Ngwanwyn 2025.  Bydd y cynllun o fudd i bob ysgol ar Ynys Môn yn sgil ymweliadau gan ysgolion, gweithdai a phecynnau gwybodaeth i hyrwyddo gwaith yr Eglwys a phwysigrwydd Cristnogaeth yng nghyd-destun hanes lleol.  Mae ffilm hefyd yn cael ei chynhyrchu, a fydd yn cael ei lansio mewn ysgolion. 

 

Bydd cymorth cynllunio ar gael i athrawon ac ysgolion er mwyn edrych ar themâu a'r cwestiynau o bwys i sicrhau bod tasgau'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.  Nodwyd bod y camau cynnydd yn cynnwys datblygu pererindodau lleol ar gyfer ysgolion ac ymweliadau pellach ag ysgolion uwchradd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Bod y Prif Uwch Reolwr yn dosbarthu copïau o gyflwyniad y Prosiect Pererinion i'r CYS.

          

7.

Dadansoddi Adroddiadau Estyn Ynys Môn pdf eicon PDF 183 KB

Derbyn a dadansoddi Adroddiadau Arolygon diweddar Estyn.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Annibynnol grynodeb o adroddiadau Estyn Môn a gyhoeddwyd rhwng Ebrill 2023 a Mai 2024, a dadansoddodd egwyddorion ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn ei adroddiad. 

 

Nodwyd bod sylwadau ar addoli ar y cyd, datblygiad ysbrydol a hyd yn oed

crefydd, gwerthoedd a moeseg yn gyfyngedig mewn adroddiadau Estyn.  Fodd bynnag, mae'n ofynnol i Estyn adrodd ar ysgolion nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion, ac mewn achosion o'r fath bydd yn rhoi sylwadau ar ddatblygiad ysbrydol, yn aml o ran darpariaeth addoli ar y cyd.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Annibynnol y bydd Estyn yn defnyddio Fframwaith Arolygu newydd o fis Medi 2024.  O dan y system newydd, bydd ysgolion yn cael eu dewis ar hap, a gallai arolwg gael ei gynnal fwy nag unwaith y flwyddyn, neu ddim o gwbl. 

 

Y 5 pennawd presennol ar gyfer arolygiadau gyda newid i'r 3 phennawd canlynol o dan y Fframwaith newydd: -

 

  Lles ac agweddau tuag at ddysgu;

  Profiadau dysgu ac addysgu;

  Gofal, cefnogaeth ac arweiniad. 

 

Nodwyd bod un ysgol wedi cael ei harolygu fel peilot o dan y Fframwaith Arolygu newydd, ac mae crynodeb o'r sylwadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ni chodwyd unrhyw bryderon am yr ysgolion a arolygwyd.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd.

8.

Diweddariad gan CBAC ar Gymwysterau TGAU ac Lefel A

Derbyn diweddariad gan Mr Christopher Owen, CBAC, ar gymwysterau TGAU ac Lefel A.

 

Cofnodion:

Dywedodd Mr Christopher Owen, CBAC fod y meini prawf ar gyfer y cymhwyster Astudiaethau Crefyddol newydd wedi dod i law gan Gymwysterau Cymru, a'i fod ar hyn o bryd yn y cam datblygu. 

 

Bydd y cymhwyster newydd yn cynnwys dau bapur arholiad a dau asesiad di-arholiad (NEA).  Mae'r NEA yn cael ei gyflwyno ar draws yr holl bynciau Dyniaethau, a disgwylir y bydd y manylebau terfynol ar gyfer Hanes, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Medi.  Bydd Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (SAMs) yn dilyn, a fydd yn cynnwys deunyddiau cymorth ar gyfer y ddau NEA newydd.

 

Ym mis Ionawr/Chwefror 2025, bydd canllawiau manwl ar gyfer athrawon yn cael eu llunio ochr yn ochr â'r fanyleb, a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi 2024, flwyddyn cyn i athrawon ei haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. 

 

Bydd adnoddau ar gael ar wefan CBAC i gefnogi athrawon i addysgu'r cymhwyster newydd.  Bydd rhai agweddau o'r cwrs TGAU y bydd athrawon yn gyfarwydd â nhw, yn ogystal â deunydd newydd. 

 

Rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2025, bydd 12 digwyddiad yn cael eu cynnal ledled Cymru, lle bydd athrawon arbenigol yn bresennol i gefnogi athrawon AG a darparu arweiniad ar y fanyleb newydd, yn gynnar yn y camau paratoi. 

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd.

9.

Diweddariad gan y Cyfarwyddwr

Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.  

Cofnodion:

Ni thrafodwyd yr eitem hon.

 

10.

Unrhyw Faterion Eraill

Unrhyw faterion eraillgyda chytundeb y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

  Dywedodd y Prif Uwch Reolwr ei fod ar hyn o bryd yn gweithio ar Adroddiad Blynyddol drafft y CYS, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod CYS nesaf.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y CYS i'r cyfarfod CYSAG nesaf ar 17 Hydref 2024.

 

  Pwysleisiodd y Cadeirydd fod 2 sedd wag ar y CYS ar hyn o bryd ar gyfer aelodau o'r Cyngor Sir. 

 

PENDERFYNWYD bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cysylltu â Phennaeth Democratiaeth i ofyn i 2 aelod newydd gael eu penodi i lenwi'r ddwy sedd wag ar y CYS.

11.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf CYS ar ddydd Iau, 17 Hydref 2024 am 2.00 o’r gloch yp.

 

Cofnodion:

Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y CYS yn cael ei gynnal ddydd Iau, 17 Hydref 2024 am 2:00 pm.