Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, ac yn rhithiol drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Iau, 13eg Chwefror, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYS a

gynhaliwyd ar 17 Hydref 2024.

 

Materion sy’n codi o’r cofnodion: -

 

   Cynnwys Crynodeb y Cadeirydd yn Adran 1.1. o Adroddiad Blynyddol

    CYS.

   Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn diweddaru’r templed hunan-werthuso a

    gyflwynwyd yn yr adroddiad, a

   chyflwyno addasiadau i’r templed yng nghyfarfod nesaf y CYS.

   Bod fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer

    2023/24 yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru er gwybodaeth.

   Yr Uwch Reolwr Cynradd i drefnu ymweliad ag ysgol uwchradd ar Ynys

    Môn yn fuan.

   Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cysylltu â Jenny Downs o’r Eglwys yng

    Nghymru i geisio cymeradwyaeth i’r CYS gynnwys adroddiadau Adran 50

    yr Eglwys fel rhan o werthusiadau’r CYS mewn archwiliadau ysgolion.

   Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn gwahodd y Swyddog Amrywiaeth,

    Cydraddoldeb, Casineb a Throsedd i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym

    mis Chwefror i gyflwyno trosolwg ar waith yr Heddlu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYS a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol:-

 

Materion yn codi o’r cofnodion: -

 

  Nodwyd bod Crynodeb y Cadeirydd wedi’i gynnwys yn Adran 1.1 o Adroddiad Blynyddol y CYS a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth.

  Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod wedi diweddaru’r templed hunanarfarnu a gyflwynwyd yn yr adroddid er mwyn cynnwys elfennau ychwanegol yn ymwneud ag adroddiadau Adran 50, a byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ymweliadau ysgol nesaf.

  Cadarnhawyd bod ymweliad ag Ysgol y Graig, Llangefni wedi'i threfnu ar gyfer aelodau’r CYS, a byddant yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni maes o law.

  Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod wedi cysylltu â Jenny Downs o’r Eglwys yng Nghymru i ofyn am ganiatâd er mwyn i’r CYS gynnwys adroddiadau Adran 50 yr Eglwys fel rhan o arfarniadau’r CYS o arolygiadau ysgolion.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Uwch Reolwr Cynradd gysylltu â chynrychiolydd yr Eglwys Gatholig ar y CYS i drafod newidiadau i’r templed adroddiadau Adran 50.

 

  Gwahoddwyd Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb Heddlu Gogledd Cymru i gyfarfod y CYS ym mis Chwefror. Yn anffodus, nid oedd y swyddog yn gallu bod yn bresennol, ond bydd yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod nesaf y CYS ym mis Gorffennaf.

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 93 KB

a)       Ffilm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

b)    Prosiect Llais Yr Athro: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru

 

 I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS, Mr Phil

 Lord.

Cofnodion:

(a)  Cyflwynodd Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fideo a gyhoeddwyd gan Gymdeithas CYSAGau Cymru. Mae’r fideo’n esbonio i ysgolion diwyg posib Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd. Mae’r fideo’n canolbwyntio ar archwilio’r cwestiynau mawr am y dyfodol, ein byd a’r bobl sy’n byw ynddo. Roedd yn dangos hefyd sut y mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ein helpu i ddatblygu ein credoau a’n gwerthoedd ein hunain, a’n hymateb gwybodus mewn byd sy’n newid yn barhaus.

 

Roedd y CYS yn canmol y fideo a nododd ei fod yn crynhoi’r prif themâu yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Dywedodd cynrychiolydd athrawon y CYS y byddai’n fodel gwych ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau a dywedodd y byddai’n defnyddio’r fideo yn ei gwersi. Roedd y CYS o’r farn y byddai’r pynciau y cyfeirir atynt yn y fideo yn arwain at godi cwestiynau difyr. Nododd hefyd fod fideo Cymdeithas CYSAGau Cymru yn cynnwys cydbwysedd priodol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai dolen i’r fideo ar gael ar SharePoint, y bwletin ysgolion, ac y byddai’n cael ei drafod yn y Fforwm Strategol Cynradd.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn rhannu dolen i fideo Cymdeithas CYSAGau Cymru gydag ysgolion.

            

(b)  Nododd Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y CYS fod y ‘Prosiect Llais yr Athro: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymruyn brosiect Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan Gymdeithas CYSAGau Cymru sydd wedi’i anelu at athrawon yng Nghymru. Dywedodd y byddai’r arolwg yn gofyn am farn athrawon ynglŷn â sut y mae’r cwricwlwm newydd wedi cael ei dderbyn, ei ddeall a’i weithredu yn yr ysgolion. Gofynnwyd i’r Awdurdod Lleol hyrwyddo’r holiadur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg er mwyn i Gymdeithas CYSAGau Cymru gynnal ymchwil ar y Cwricwlwm yng Nghymru ar ôl derbyn adborth o’r holiaduron.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn hyrwyddo’rProsiect Llais yr Athroyn y bwletin ysgolion, mewn trafodaethau wyneb yn wyneb ac mewn fforymau strategol.

          

4.

Eitemau Cenedlaethol ar Grefydd Gwerthoedd a Moeseg - Beth sy'n newydd i restr chwarae Llywodraethwyr?

I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS.

Cofnodion:

Nododd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg bod y Rhestrau Chwarae i Lywodraethwyr yn adnodd defnyddiol iawn ar gyfer cynrychiolwyr Ffydd a Chred ac aelodau. Atgoffwyd aelodau’r CYS sut i ddod i hyd i’r rhestrau chwarae dwyieithog ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod y modiwl i gefnogi dealltwriaeth Llywodraethwyr o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cyfeirio at le Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau, a’r rhesymeg tu ôl i hynny, a pham fod enw’r pwnc wedi newid o Addysg Grefyddol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Awgrymodd yr Uwch Reolwr Cynradd y dylid cynnwys y Rhestr Chwarae newydd i Lywodraethwyr ar y Rhaglen Hyfforddi Llywodraethwyr a threfnu sesiwn hyfforddi ar y thema ar gyfer Llywodraethwyr ysgol. Ystyriwyd hefyd yr opsiwn o gyflwyno’r Rhestr Chwarae i Lywodraethwyr mewn sesiwn briffio aelodau hefyd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cynnwys y Rhestr Chwarae newydd i Lywodraethwyr ar y Rhaglen Hyfforddi Llywodraethwyr.

  Cynnal sesiwn hyfforddiant ar y Rhestr Chwarae i Lywodraethwyr a chynnwys y Rhestr Chwarae fel gweithred ar gyfer y sesiynau briffio aelodau.

5.

Crefydd, Gwerthoedda Moeseg Gorfodol - Cyflwyniad i Penaethiaid Uwchradd pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS.

Cofnodion:

Nododd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Penaethiaid Ysgolion Uwchradd Môn wedi derbyn y cyflwyniad yn ddiweddar, er mwyn eu hatgoffa am agwedd orfodol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Dywedodd fod y cyflwyniad wedi’i baratoi oherwydd bod athrawon yn holi a oedd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn statudol yn CA4, ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod y Cwricwlwm i Gymru wedi’i gyflwyno yn 2022, a’i gyflwyno fesul cam i wahanol oedrannau, gan ddechrau gyda disgyblion ym Mlwyddyn 7, ac yna Blynyddoedd 8 a 9. Y flwydyn nesaf, bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion ym Mlwyddyn 10 ac yna Blwyddyn 11.

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg grynodeb manwl o’r pwyntiau canlynol: -

 

  Crynodeb o ddeddfwriaeth;

  Statws gorfodol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

  Credoau crefyddol ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol;

  Mae’r hawl i ddileu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Ôl-16 wedi cael ei ddileu;

  Dylunio eich cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

  Datblygiad ysbrydol;

  Y lensys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

  Canllawiau Addysg Grefyddol ar gyfer plant 14 – 19 oed;

  Cymwysterau CenedlaetholSgiliau Bywyd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adborth gan Benaethiaid sydd wedi gweld y cyflwyniad yn gadarnhaol. Dywedodd bod llawer o frwdfrydedd ynglŷn â’r cwricwlwm ym Mlynyddoedd 10 ac 11 ar hyn o bryd.

 

Mynegodd cynrychiolydd athrawon y CYS bryder ynglŷn ag amseru Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm a chyflwyno’r TGAU newydd, gan y bydd y ddau’n cael eu cyflwyno ym mis Medi eleni. Dywedodd hefyd fod angen i athrawon yn ysgolion Môn gydweithio a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Penaethiaid Ynys Môn wedi cytuno y byddai’r Penaethiaid Adran yn dod at ei gilydd i drafod hyn yn fwy manwl. Nodwyd y bydd angen hysbysu disgyblion ynglŷn â phwrpas y cwrs TGAU newydd a bydd angen i athrawon gyfleu’r neges honno.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

6.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r Cwricwlwm i Gymru - Cyflwyniad i Athrawon Cynradd pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Proffesiynol i’r CYS.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gynllunio Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Athrawon a Phenaethiaid ysgolion cynradd. Dywedodd fod nifer o ysgolion cynradd yn ardal Caergybi wedi derbyn y cyflwyniad yn barod.

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg grynodeb cynhwysfawr o’r pwyntiau canlynol: -

 

·          Disgyblaethau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

·          Cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

·          Lensys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Nodwyd bod y cyflwyniad ar gael yn ddwyieithog a byddai’n bosib recordio fersiwn Gymraeg i’w hanfon at ysgolion. Nododd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai’n hapus i recordio troslais.

 

PENDERFYNWYD: -

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg grynodeb cynhwysfawr o’r pwyntiau canlynol: -

 

·     Disgyblaethau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

·     Cysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg;

·     Lensys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Nodwyd bod y cyflwyniad ar gael yn ddwyieithog a byddai’n bosib recordio fersiwn Gymraeg i’w hanfon at ysgolion. Nododd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai’n hapus i recordio troslais.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·     Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

·     Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn recordio fersiwn Gymraeg o’r

    cyflwyniad ar gyfer athrawon Cynradd.

7.

Cyflwyniad gan Heddlu Gogledd Cymru

I dderbyn cyflwyniad gan Einir Williams, y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb, Heddlu Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Nodwyd nad oedd Einir Williams o Heddlu Gogledd Cymru’n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, oherwydd salwch. Bydd yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod nesaf y CYS.

 

PENDERFYNWYD gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym mis Gorffennaf er mwyn rhoi cyflwyniad ar ei gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru.  

8.

Unrhyw faterion penodol i'r CYS

Materion i gyfarfod nesaf y CYS art 10 Gorffennaf 2025 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.

 

 

Cofnodion:

Mynegodd aelod o’r CYS bryder ynglŷn â hyfforddi athrawon Crefydd,   Gwerthoedd a Moeseg yn y dyfodol oherwydd toriadau o ran addysgu Addysg Grefyddol, yn enwedig yn yr Adran Ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y sefyllfa ddiweddaraf ym Mhrifysgol Bangor, lle mae enw’r ysgol wedi newid i Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Nodwyd mai Dr Gareth Evans-Jones yw’r unig ddarlithydd ym Mangor sy’n addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg trwy gyfrwng y Gymraeg.

PENDERFYNWYD: -

·     Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn anfon e-bost at Dr Gareth Evans-

  Jones er mwyn derbyn eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa bresennol ym

  Mhrifysgol Bangor, a

·     Bod Comisiynydd y Gymraeg a’r Gweinidog Addysg yn

    Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, yn derbyn copi o’r e-bost.

 

Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYS yn cael ei gynnal ar 10 Gorffennaf 2024 am 2:00pm.