Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, ac yn rhithiol drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Iau, 10fed Gorffennaf, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol CYS a gynhaliwyd ar 13 Chwefror.

                                                

Materion y codi o’r cofnodion: -

 

  Yr Uwch Reolwr Cynradd (URC) i gysylltu â chynrychiolydd yr Eglwys Gatholig ar y CYS i drafod  newidiadau i’r templed adroddiadau Adran 50.

  Yr URC i rannu dolen i fideo Cymdeithas CYSAGau Cymru gydag ysgolion.

  Yr URC i hyrwyddo’r ‘Prosiect Llais yr Athro’ yn y bwletin ysgolion, mewn trafodaethau wyneb yn wyneb ac mewn fforymau strategol.

  Yr URC i gynnwys y Rhestr Chwarae newydd i Lywodraethwyr ar y Rhaglen Hyffordi   Llywodraethwyr.

  Cynnal sesiwn hyfforddiant ar y Rhestr Chwarae i Lywodraethwyr a chynnwys y Rhestr Chwarae fel gweithred ar gyfer y sesiynau briffio aelodau.

  Yr URC i recordio fersiwn Gymraeg o’r Cyflwyniad ar gyfer athrawon Cynradd.

  Gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym mis Gorffennaf er mwyn rhoi cyflwyniad ar ei gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru.

  Yr URC i anfon e-bost at Dr Gareth Evans-Jones er mwyn derbyn eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa bresennol ym Mhrifysgol Bangor, a

  Bod Comisiynydd y Gymraeg a’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, yn derbyn copi o’r e-bost.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYS a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol:

 

Materion yn codi o’r cofnodion: -

 

  Dywedodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd ei fod wedi anfon e-bost at gynrychiolydd yr Eglwys Gatholig ar y CYS er mwyn trafod y newidiadau i’r templed adroddiadau Adran 50 ac mae’n disgwyl am ymateb gan Mrs Owens.

  Dywedodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd fod y ddolen ar gyfer fideo Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg CCYSAGau Cymru wedi’i rhannu ag ysgolion yn y bwletin ysgolion ac ar SharePoint.

  Cadarnhawyd bod ‘Prosiect Llais yr Athrowedi’i rannu â holl ysgolion Môn yn y bwletin ysgolion.

  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd fod y Rhestr Chwarae Llywodraethwyr newydd wedi’i ychwanegu at y Rhaglen Hyfforddi Llywodraethwyr ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd fod pecyn wedi’i baratoi ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi.

  Cadarnhawyd y byddai dyddiadau sesiynau hyfforddi Llywodraethwyr yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen Hyfforddi Llywodraethwyr a’u rhannu maes o law.

  Esboniodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd nad yw’r fersiwn Cymraeg o’r cyflwyniad Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer athrawon cynradd wedi’i gwblhau eto. Dywedodd fod y dasg wedi’i chynnwys ar Raglen Waith yr Adran i’w chwblhau.

  Gan nad oedd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw i roi cyflwyniad ar ei gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru, PENDERFYNWYD gwahodd y Swyddog i gyfarfod nesaf y CYS.

  Cadarnhawyd bod yr Uwch Reolwr Sector Cynradd wedi anfon e-bost at Dr Gareth Evans-Jones, er mwyn gofyn am eglurhad o’r sefyllfa bresennol ym Mhrifysgol Bangor mewn perthynas â chydweithio, ac mae’n disgwyl ymateb, ac

  Anfonwyd copi o’r e-bost at Gomisiynydd y Gymraeg a Lynne Neagle, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 533 KB

·  I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar y 6ed o Fawrth 2025.

·  I nodi llythyr at Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

·  Cynhelir cyfarfod CCYSAGauC ar yr 2il o Orffennaf 2025 yn rhithiol gan Ynys Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf y Gymdeithas, a gynhaliwyd

    yn rhithwir ar 6 Mawrth 2025 er gwybodaeth a chawsant eu nodi.

 

  PENDERFYNWYD nodi’r llythyr at Lynne Neagle, AS, Ysgrifennydd y

   Cabinet dros Addysg, gan Gadeirydd CCYSAGauC ynglŷn â

   Chefnogaeth ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mandadol yng

   Nghymru.

 

  Dywedodd Ymgynghorydd CGM y CYS fod y Cadeirydd wedi croesawu

   pawb i’r cyfarfod CCYSAGauC rhithwir oedd dan ofal Ynys Môn ar 2

   Gorffennaf 2025.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd CGM at gyflwyniad yn y cyfarfod ar Ymdeimladoldeb, sef cangen o Ddyneiddiaeth ac Anffyddiaeth, oedd yn edrych ar y parch y mae pob unigolyn ymdeimladol yn ei haeddu. Gan fod Addysg Grefyddol bellach wedi troi’n Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae gan ysgolion fwy o ryddid i edrych ar wahanol systemau cred a byd-olygon anghrefyddol. Cyfeiriodd at Anffyddiaeth, sy’n cael ei rannu’n nifer o systemau cred gwahanol, ac roedd yn annog ysgolion i archwilio’r amrywiaeth eang o bynciau o fewn y systemau.

4.

Ymweliad Aelodau ag Ysgol y Graig

Ymweliad Aelodau ag Ysgol y Graig, Llangefni.

Cofnodion:

Ymwelodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Dylan Rees ag Ysgol y Graig, Llangefni ym mis Mawrth eleni. Dywedodd y Cadeirydd bod gwasanaeth rhithwir yn cael ei gynnal yn yr ysgol ar foreau Llun ac mae’n cael ei gynnal yn y dosbarthiadau. Esboniodd fod y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Ysgol y Graig Fach bod yn ail wythnos, ar ddydd Gwener.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi a’r Cynghorydd Rees wedi mwynhau cymryd rhan yn y gwasanaeth boreol, pan fuodd y plant yn actio stori am yr Iesu. Esboniodd ei bod yn amlwg o’r cyflwyniad bod y plant yn mwynhau actio a dod â gwahanol elfennau addysgol at ei gilydd. Ar ddiwedd y perfformiad roedd yr ysgol wedi rhannu gwobrwyon i bob dosbarth a derbyniodd y plant sticeri er mwyn diolch iddynt am helpu. Ychwanegodd bod yr ysgol yn dathlu’r pethau bychain mewn bywyd ac roedd gweithredoedd y disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi a dywedodd bod hynny’n rhywbeth cadarnhaol i’w weld.

 

Roedd un o’r athrawon wedi esbonio bod yr ysgol yn defnyddio Beibl.net a dywedodd y byddai’n hoffi gweld y wefan yn cael ei diweddaru a bod pedwar pwrpas Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gael ar Hwb hefyd. Gofynnodd i’r Cadeirydd godi’r materion hyn gyda’r CYS.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi mwynhau’r ymweliad ag Ysgol y Llan yn fawr ac roedd y Cynghorydd Rees wedi mwynhau hefyd.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod yn annog ysgolion i gadw addoli ar y cyd a CGM ar wahân, gan fod yr hawl i dynnu’n ôl yn berthnasol i CGM ond nid ar gyfer addoli ar y cyd. Dywedodd fod Maes Llafur Cytûn Ynys Môn wedi’i gynnwys ar Hwb fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau, sydd wedi cael ei ddigideiddio.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

5.

Cyfieithu'r Anghyfeiithadwy (yr hyn sydd mor ystyrlon nad oes modd ei gyfieithu)

I dderbyn cyflwyniad gan Jennie Downs ar Gynefin a datblygiad ysbrydol ym maes y Dyniaethau.

Cofnodion:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Jenny Downs o Brifysgol Bangor ar yr effaith a gafodd cyfieithiad 1588 o’r Beibl i’r Gymraeg ar ysbrydolrwydd yng Nghymru, ei diwylliant ieithyddol a’i thirwedd. Dywedodd iddi archwilio naratif y cyfieithiad trwyCynefina’i bod wedi ceisio deall ei ystyr dyfnach a sut mae’n cefnogi datblygiad ysbrydol dysgwyr yn y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru.

 

Esboniodd Ms Downs fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi bod yn arwyddocaol o ran codi proffil y Gymraeg ac mae wedi esgor ar y newidiadau a arweiniodd at ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Dywedodd bod y pedwar pwrpas yn hyrwyddo’r newid, a’u bod yn paratoi cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer byw mewn byd ansicr. Amlygwyd pwysigrwydd elfen fandadol CGM hefyd fel rhan o’r daith hon.

 

Cyfeiriodd Ms Downs at y fethodoleg a ddefnyddiodd yn ei hymchwil, gan ddefnyddioCynefinfel cyfrwng i archwilio chwe dimensiwn yn naratif y cyfieithiad. Mae pob adran yn cael ei rhannu’n dair rhan: hanes cyfieithu’r Beibl; sut oedd y cyfieithwyr wedi cael gafael ar lawysgrifau hynafol; barddoniaeth y beirdd oedd yn sylfaen i’r iaith. Dywedodd fod y cysylltiadau â’r cwricwlwm a’r ‘Hyn sy’n Bwysigmewn Dyniaethau yn cael eu harchwilio ac mae’n dangos sut y gall datblygiad ysbrydol dysgwyr ddatblygu trwy ddefnyddio cyd-destun y cyfieithiad fel thema. Er enghraifft, ystyried beth oedd wedi cymell William Morgan - ac yn benodol, dylanwad y dirwedd naturiol o’i amgylch, yn enwedig yn Nhŷ Mawr a Llanrhaeadr ym Mochnant, y lleoedd lle bu’n byw ac a ddylanwadodd ar ei feddyliau. Nodwyd y gall y gair ‘Cynefinddisgrifio synnwyr o’r ysbrydol, y cyfrin, cydblethiad o dreftadaeth, hunaniaeth a diwylliant.

 

Dywedodd Ms Downs fod ei hadolygiad o lenyddiaeth wedi dechrau gan ddefnyddioCynefinyn y Cwricwlwm ac esblygiadCymreigrwydd’. Mae hi wedi cynnal ymchwil pellach ar agweddau byd-eangCynefin’, gyda chysylltiadau penodol â Chwricwlwm Seland Newydd, sydd yn canolbwyntio ar naratif diwylliannol, ieithoedd a thraddodiadau tebyg.

 

I orffen, rhannodd Ms Downs y canfyddiadau canlynol o’i hymchwil:

 

  Mae’n hanfodol creu amgylchedd ddysgu ddiogel sy’n meithrin archwiliad

   mwy manwl o gwestiynau CGM a chefnogi datblygiad ysbrydol

   trwy hynny.

  Gellid defnyddio cyd-destun dilys y cyfieithiad ar draws y continwwm dysgu

   a Chymru;

  Pwysigrwydd galluogi ymarfer i esblygu mewn CGM;

  Bydd cam nesaf ymchwil Ms Downs yn edrych ar naratif a ‘Cynefin’.

 

Gofynnodd yr Uwch Reolwr Sector Cynradd a fyddai’n bosib addasu gwybodaeth o’r cyflwyniad, sydd ar lefel academaidd, i lefel a fyddai’n addas ar gyfer yr ystafell ddosbarth a’i rannu gydag ysgolion? Mewn ymateb dywedodd Ms Downs yn sicr bod darn o waith y gallai ysgolion ei ddefnyddio sydd yn edrych ar stori’r Beibl Cymraeg a dywedodd y byddai’n hapus i helpu mewn unrhyw ffordd.

Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod yn gwneud cais am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ymarfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) mewn ysgol gynradd yn Ynys Môn

I dderbyn cyflwyniad gan Nia Lloyd Thomas, Pennaeth Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu.

Cofnodion:

Derbyniwyd cyflwyniad ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan Nia Lloyd Thomas, Pennaeth Ysgol y Llan, Llanfaethlu, ysgol a agorodd 8 mlynedd yn ôl.

 

Dywedodd y Pennaeth fod 116 o blant yn yr ysgol ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at arwyddair yr ysgol, ‘Hwyl a Her yn ein Hafan Hapus’ ac esboniodd mai dyma yw ei gweledigaeth ar gyfer yr ysgol. Dywedodd fod Ysgol Rhyd y Llan yn ysgol hapus, lle mae’r athrawon yn cael llawer o hwyl gyda’r plant. Amlygodd bwysigrwydd herio’r plant a chreu amgylchedd hapus yn yr ysgol.

 

Dywedodd y Pennaeth nad oedd gan Ysgol Rhyd y Llan lawer o lyfrau y llynedd oedd yn cynnwys tasgau’n gysylltiedig â CGM. Ers hynny, rhoddwyd blaenoriaeth i’r mater hwn a’i gynnwys yng Nghynllun Datblygu’r ysgol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nodwyd fod amser wedi’i ddyrannu i athrawon er mwyn darllen am CGM a deall gofynion y cwricwlwm. Nodwyd hefyd fod yr ysgol wedi cynnal archwiliad o adnoddau.

 

Fel rhan o broses hunanarfarnu’r ysgol, dywedodd y Pennaeth fod un o Lywodraethwyr yr ysgol yn gyfrifol am flaenoriaeth benodol, ac mae’r unigolyn yn ymweld â’r ysgol i edrych ar lyfrau a siarad â dysgwyr am eu profiadau.

 

Un o’r prif bwyntiau a ddysgwyd, yn ôl y Pennaeth, oedd bod CGM yn llawer mwy nag Addysg Grefyddol. Yr elfennau gwerthoedd yw ethos yr ysgol; sut mae’r plant yn gweithio o ddydd i ddydd; sut maen nhw’n ymddwyn tuag at ei gilydd.

 

Nodwyd bod y chwyddwydrau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i athrawon a’u bod yn darparu fframwaith i adeiladu arno. Esboniodd y Pennaeth bod angen canolbwyntio ar CGM yn hytrach nag Iaith wrth wneud tasgau’n gysylltiedig â chrefydd. Dywedodd y Pennaeth mai’r cam nesaf fydd parhau i gynllunio tasgau diddorol a sicrhau fod dyfnder i’r dysgu.

 

Cyflwynodd y Pennaeth sioe sleidiau o waith y plant yn yr ysgol, gan gynnwys ymweliad ag eglwys leol, stori Arch Noa, Santes Dwynwen, y Samariaid Trugarog, gwahanol grefyddau a chredoau, natur ac ati.

 

Dywedodd aelod o’r CYS oedd wedi ymweld â’r ysgol fod y plant yn groesawgar iawn ac roedd yn hawdd siarad â nhw. Dywedodd fod y plant yn cael eu hannog i fod yn unigolion hyderus fydd yn tyfu i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymuned.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Thomas am ei chyflwyniad diddorol a’r cipolwg ar fywyd yn Ysgol Rhyd y Llan.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

7.

Diweddariad ar gefnogaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Eilradd

Derbyn adroddiad llafar ar ddatblygu rhwydwaith CGM eilradd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd CGM y CYS adroddiad llafar ar ddatblygu rhwydwaith CGM Uwchradd ar Ynys Môn, fel y trafodwyd yng nghyfarfod diwethaf y CYS. Dywedodd iddo gyfarfod â Phenaethiaid yn y gwanwyn, cyn cael cyfarfod llwyddiannus iawn â phedwar Pennaeth Adran yn ddiweddar. Canolbwyntiodd y sgwrs ar yr elfennau mandadol yng Nghyfnod Allweddol 4 ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11, nad yw llawer o ysgolion yn eu darparu. Trafododd yr athrawon yr effaith ar ysgolion a sut y gellid gwella mynediad disgyblion at CGM dros gyfnod estynedig o amser gan ddefnyddio cyfnodau tiwtorial, diwrnodau anffurfiol, y Ganolfan AG ar gyfer cynadleddau. Dywedodd ei fod wedi anfon e-bost at athrawon a’i fod yn gobeithio parhau â’r rhwydwaith uwchradd y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

8.

Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu pdf eicon PDF 76 KB

I dderbyn dadansoddiad o adroddiadau arolygu diweddar gan Estyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd CGM Annibynnol y CYS ddadansoddiad o adroddiadau arolygu diweddar Estyn. Gofynnodd y Cadeirydd pam nad yw Estyn wedi gwneud sylw am rai ysgolion yn eu hadroddiadau. Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM nad yw Estyn ond yn adrodd ar ysgolion pan geir elfen negyddol mewn perthynas ag addoli ar y cyd neu Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Dywedodd fod y sylwadau cadarnhaol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a’u bod i’w croesawu. Nodwyd fod Estyn wedi darparu llai o sylwadau yn ei adroddiadau ar ysgolion ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y broses ar gyfer llunio Adroddiad Blynyddol y CYS.

 

Roedd Estyn yn defnyddio’r Fframwaith Arolygu newydd am y tro cyntaf eleni, lle mae adroddiadau’n cael eu hymgorffori mewn un naratif ar gyfer pob pwnc, yn wahanol i’r dull systematig blaenorol.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Y byddai’r Uwch Reolwr Sector Cynradd yn cysylltu â Swyddog

   Cyswllt Estyn yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â’r ystyriaeth a

   roddir i CGM yn Fframwaith newydd Estyn a’r trefniadau adrodd.

9.

Unrhyw faterion penodol i'r CYS

 Materion i’r cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

  Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM y byddai’n paratoi Adroddiad Blynyddol

   y CYS ar gyfer 2024/25 yn ystod yr haf. Dywedodd ei fod wedi codi

   adroddiadau blynyddol fel mater yng nghyfarfod diwethaf CCYSAGauC a

   phenderfynwyd fod CCYSAGauC yn ystyried pwyso ar Lywodraeth Cymru

   mewn perthynas â chynnwys yr adroddiadau blynyddol. Esboniodd bod

   angen i adroddiadau blynyddol gynnwys gwybodaeth y gall y CYS ac

   ysgolion ei defnyddio i wella CGM ar yr ynys. Dywedodd fod yr adroddiadau

   blynyddol yn adlewyrchu’r 12 mis diwethaf yn hytrach na’n edrych ymlaen.

 

   Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod wedi awgrymu y dylai CYSAGauC

   argymell i Lywodraeth Cymru y dylai ddiweddaru’r ffordd y mae’n edrych ar

   adroddiadau blynyddol. Awgrymodd bod y CYS yn gweithio ar 2 neu 3

   pwynt bwled er mwyn amlinellu rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol.

   Dywedodd y gallai’r CYS, mewn 12 mis, fod â’i gynllun datblygu ei hun y

   gallai edrych yn ôl arno ac a fyddai’n cynnwys unrhyw weithredoedd.

   Nodwyd y gallai’r cynllun hwn fod ar waith erbyn mis Medi, dan arweiniad yr

   awdurdod lleol.

 

   Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc ei fod yn cytuno â’r

   cynnig ac y byddai’n parhau i drafod â’r Ymgynghorydd CGM maes o law.

 

  Dywedodd Mr Edward Morus Jones y byddai’n ymddeol o’r CYS ar ôl 40

   mlynedd o wasanaeth fel cynrychiolydd Annibynwyr Cymru.  Dywedodd ei

   fod wedi mwynhau bod yn rhan o waith y CYS a dymunodd yn dda i’r

   aelodau a’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

   Diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei gyfraniad gwerthfawr i’r CYS dros

   nifer fawr o flynyddoedd. Dywedodd y byddai colled fawr ar ei ôl oherwydd

   ei fod mor brofiadol a dymunodd yn dda iddo yn y dyfodol.

10.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y CYS ar 16 Hydref 2025.

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf y CYS ar 16 Hydref 2025.