Rhaglen

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 10fed Chwefror, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 240 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYS a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2025.

 

Matterion yn codi o’r cofnodion: -

 

·     Bod copi o fersiwn terfynol Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Mon ar gyfer

    2024/25 yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth. 

·     Yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd, (Clerc y CYS) yn ysgrifennu at

    CCYSAGauC i ofyn i’w Weithrediad ystyried darparu templed i annog pob

    CYS i fabwysiadu amcanion cenedlaethol, lle gellid ychwanegu amcanion

    lleol i gynlluniau datblygu’r CYSAGau i nodi a rhannu arfer da.

·     Yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd (Clerc y CYS) i gysylltu a’r 4 enwad i

    ofyn iddynt enwebu aelod o’u Grwp crefyddol i’w cynrychioli ar y CYS.

 

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth gofnodion cyfarfod CYSAGauC a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2025.

4.

Dyneiddiaeth - Manteision cynnwys argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yn y Cwricwlwm CGM

Derbyn cyflwyniad gan Luke Donnellan, Cyfarwyddwr Deall Dyneiddiaeth, Dyneiddwyr y DU.

5.

Cynllun Gweithredu CYS Ynys Môn 2025/26 pdf eicon PDF 375 KB

  Hybu CYS

  Datblygu Crefydd, Gwerthoedd ac Moeseg

  Datblygu Addoli ar y Cyd

6.

Rheoli'r diddymu neu'r Hawl i dynnu'n ôl o Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) pdf eicon PDF 144 KB

I drafod a chytuno ar y gefnogaeth y mae ysgolion eu hangen i reoli’r newid deddfwriaethol hwn yn effeithiol.

 

7.

Cylchlythyr CYS Ynys Môn

I drafod y posibilrwydd o gylchlythyr CYS Ynys Môn.

8.

Unrhyw faterion penodol i'r CYSAG

Materion i’r cyfarfod nesaf.               

9.

Cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfafod nesaf y CYS ar 9 Gorffennaf 2026 am 2:00 pm.