Rhaglen

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Iau, 9fed Gorffennaf, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol y CYS a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2026.

 

Matterion yn codi o’r cofnodion: -

 

Yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd i: -

 

·     gysylltu â’r Pennaeth Democratiaeth i drafod penodi aelod etholedig i’r sedd wag ar

    y CYS.

·     anfon gwybodaeth ynglŷn â chynnwys y sesiwn hyfforddiant HMS nesaf ar gyfer

    ysgolion.

·     rannu’r llythyr i rieni ar ddiddymu’r hawl i dynnu yn ôl o GGM gyda Phenaethiaid.

·     gwahodd yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor i roi cyflwyniad ar Edrych ar Iddewiaeth trwy gydol hanes Cymru.

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth: -

·     Cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2026.

 

·     Cynhaliwyd cyfarfod CCYSAGauC ar 24 Mehefin 2026 yn rhithiol gan Gonwy.

4.

Addysgu Iddewiaeth - Adnoddau i Ysgolion

I dderbyn cyflwyniad gan Anna Silver, Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain.

5.

Gwella Ysgolion ac Ynys Môn

I dderbyn cyflwyniad gan Rhys Williams, Arweinydd Strategol Cynradd.

6.

Diweddariad ar y cymorth a ddarpariwyd i Ysgolion

Diweddariad gan Ymgynghorydd CGM ar y canlynol: -  

 

a)       Diwrnod HMS 20 Mawrth 2026

b)       Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Cynradd

c)       Rhwydwaith Penaethiaid Adran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Uwchradd

7.

Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu pdf eicon PDF 92 KB

a)       I dderbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddar gan Estyn.

 

b)       I dderbyn cyflwyniad ar ganfyddiadau arolygu Estyn ar y Dyniaethau - https://adroddiad-blynyddol.estyn.llyw.cymru/2025-2/datblygu-maes-dysgu-a-phrofiad-mdaph-y-dyniaethau/

Dogfennau ychwanegol:

8.

Unrhyw faterion pendol i'r CYS

Materion i’r cyfarfod nesaf.

9.

Cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y CYS ar 8 Hydref 2026 am 2:00 o’r gloch.