Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, ac yn rhithwir drwy Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023. Cofnodion: Materion yn codi -
Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023 I’r Pwyllgor. Ceisiwyd eglurder ar y penderfyniad yn Eitem 9 y cofnodion mewn perthynas â phenodi aelod newydd i’r CYSAG.
Roedd aelod o’r CYSAG yn cofio mai’r gair allweddol oedd ‘grŵp’, a byddai’n rhaid i’r cynrychiolydd newydd fod yn aelod o ‘grŵp’ sy’n weithredol ar Ynys Môn, ac nid unigolyn. Derbyniodd y Pennaeth Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y sylw, a chynhigiwyd trafod y mater ymhellach yn Eitem 4 yr agenda, gan eithrio’r cyhoedd a’r wasg, a bu i’r CYSAG gytuno ar hynny. |
|
Sgwrs Ymweliadau i Ysgolion - Addoli ar y Cyd I dderbyn diweddariad. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Cynradd yn ymwneud â’r cymorth a’r adnoddau sydd ar gael ar-lein ar Hwb Cymorth Arweinwyr Ysgolion Ynys Môn. Rhoddodd drosolwg o’r wybodaeth sydd ar gael ar y dudalen CYSAG a darparodd ddolen fel bo’r CYSAG yn gallu gweld y wybodaeth ar yr Hwb. Dywedodd mai’r bwriad yw datblygu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ymhellach ar y wefan. Nodwyd bod y ficrowefan yn esblygu’n barhaus, ac yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd, ac mai dyma’r brif ffordd mae ysgolion a sefydliadau addysgiadol yn cyfathrebu.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod ef, a’r Ymgynghorydd GwE, wedi mynychu cynhadledd Amrywiaeth a Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol (DARPL) yng Nghaerdydd yn ymwneud â hyfforddiant gwrth-hiliol ar gyfer gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol. Dywedodd bod cyswllt da wedi’i wneud gyda DARPL yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd hefyd fod adnoddau wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael ar gyfer ysgolion.
Rhoddwyd cynnig i ysgolion weithio gyda CYSAG drwy wahodd aelodau i fynychu sesiynau addoli ar y cyd a theithiau cerdded addysgol y flwyddyn nesaf. Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai aelodau’r CYSAG yn ymweld ag ysgolion mewn capasiti cefnogol yn hytrach na goruchwylio gwersi, er mwyn gweld beth sy’n digwydd mewn ysgolion. Nodwyd bod angen hyblygrwydd wrth gynnal teithiau cerdded addysgol oherwydd gellir eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol e.e. canolbwyntio ar waith y dysgwr, siarad â disgyblion, athrawon, cydlynwyr, yr ymdeimlad o ethos, edrych ar enghreifftiau o waith ysgol. Argymhellwyd y dylid gosod cyfyngiad ar nifer yr aelodau CYSAG a all gymryd rhan mewn ymweliad ysgol ar yr un pryd, fel nad yw ymweliadau o’r fath yn dasg feichus ar gyfer ysgolion.
Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar a ellir cynnwys sesiynau addoli ar y cyd a theithiau cerdded mewn un ymweliad, ac a ellir defnyddio’r templed presennol ar gyfer y ddau h.y. Rhan A - Addoli ar y Cyd; Rhan B - teithiau cerdded.
Roedd yr athrawon-gynrychiolwyr yn croesawu’r ymweliadau ar y cyd mewn ysgolion, cyn belled a bo’r CYSAG yn ymwybodol o’r hyn maen nhw’n ymrwymo iddo, a bod Penaethiaid yn ymwybodol o’r hyn fydd ynghlwm â bob ymweliad.
PENDERFYNWYD: -
• Bod y CYSAG yn derbyn y cynnig i gymryd rhan mewn teithiau cerdded gydag ysgolion. • Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn ysgrifennu at Benaethiaid ysgolion Ynys Môn er mwyn gofyn iddynt gytuno i gynnal teithiau cerdded yn eu hysgolion, a chodi’r mater hwn mewn fforwm strategol cyn cyfarfod nesaf y CYSAG. • Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn trefnu i’r CYSAG ymweld ag ysgolion a pharatoi canllawiau ar gyfer teithiau cerdded addysgol. |
|
Cyfansoddiad y Cyngor I dderbyn diweddariad. Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon mewn sesiwn breifat, fel y cytunwyd yn Eitem 2.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y penderfyniad yn Eitem 9 y cofnodion. Dywedodd y byddai angen cyngor cyfreithiol ar Gyfansoddiad y CYSAG, yn ogystal ag eglurder ar faterion eraill a drafodwyd yn ystod y cyfarfod, cyn y gellid penodi cynrychiolydd newydd i’r CYSAG. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod nesaf y CYSAG ar 10 Hydref 2023.
PENDERFYNWYD: -
• Bydd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn cysylltu gyda’r Adran Gyfreithiol i geisio cyngor ar Gyfansoddiad y CYSAG. • Bydd yr Adran Addysg yn ceisio gwybodaeth bellach fel y trafodwyd yng nghyfarfod heddiw, er mwyn penodi cynrychiolydd newydd i’r CYSAG. • Paratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y CYSAG ar 10 Hydref 2023 yn manylu’r meini prawf y mae’n rhaid i unrhyw gynrychiolydd newydd o’r CYSAG ei fodloni er mwyn ymuno a’r CYSAG. |
|
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg I dderbyn diweddariad. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Miss Bethan James, yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (GwE) yn ôl i’r CYSAG. Dywedodd Miss James ei bod hi’n hapus i ail-ymuno â CYSAG Ynys Môn unwaith eto ar ôl cymaint o flynyddoedd. Bu iddi gydymdeimlo â’r CYSAG a theuluoedd y diweddar Mrs Catherine Jones a’r diweddar Gynghorydd Alun Mummery am eu colled. Dywedodd bod ganddi atgofion melys iawn o’r ddau pan roeddynt yn cynrychioli Ynys Môn ar y CYSAG.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwlliant (GwE) ei bod wedi gweithio’n agos gyda Mr Phil Lord er mwyn cefnogi’r Dyniaethau ledled Gogledd Cymru. Dywedodd fod GwE wedi llwydo i gynnal hyfforddiant dwyieithog ar-lein ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Dywedodd y cynhaliwyd yr hyfforddiant ar-lein ym mis Mai – bu i 37 gofrestru ar gyfer y sesiwn Saesneg; roedd 3 athro o Ynys Môn yn bresennol yn yr hyfforddiant. Bu i 21 gofrestru ar gyfer y sesiwn Gymraeg; roedd 4 athro o Ynys Môn yn bresennol. Nodwyd fod dolen ar gael er mwyn manteisio ar yr hyfforddiant drwy wefan GwE.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (GwE) ei bod hi a Mr Phil Lord wedi cyfrannu at gynhadledd yn Venue Cymru ar 22 Mehefin yn ymwneud â’r Cwricwlwm i Gymru, lle cafodd ysgolion cynradd ac uwchradd glywed am brofiadau ysgolion eraill o ddatblygu’r cwricwlwm yn eu hysgolion. Cafwyd cyflwyniadau gan Owen Lloyd, Llywodraeth Cymru, Graham Donaldson, Chantelle Haughton (DARPL). Cynhaliwyd gweithdai ar gyfer y Dyniaethau a Meysydd a Phrofiadau Dysgu eraill, lle cafodd ysgolion gyfle i ddangos enghreifftiau o’u gwaith. Mae dolen at y cyflwyniadau ar gael ar wefan GwE.
Nodwyd bod ymgynghorwyr GwE wedi cynnal sesiynau hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer darpar athrawon ysgolion cynradd. Mae GwE hefyd wedi cael eu gwahodd i gynnig sesiynau hyfforddiant y flwyddyn nesaf ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 1 a blwyddyn 2.
Mewn perthynas â’r sector cynradd, mae GwE wedi comisiynu 6 ysgol gynradd o bob awdurdod lleol i ddatblygu pecyn i arddangos sut mae pob ysgol wedi paratoi a theilwra’r cwricwlwm i fod yn addas ar gyfer eu hysgol. Mae Ysgol Morswyn wedi derbyn comisiwn, a bydd ei phecyn cymorth ar gael ar gyfer ysgolion eraill yn 2024.
Mewn perthynas â’r sector uwchradd, mae GwE’n gobeithio trefnu Cynhadledd Dyniaethau ar gyfer athrawon uwchradd ym mis Tachwedd 2023. Rhennir holiadur ym Mwletin GwE yr wythnos hon ar anghenion ysgolion.
· Nodir wybodaeth a gyflwynwyd. · Fod yr Uwch Reolwr Cynradd yn dosbarthu holiadur · Dyniaethau GwE ymhlith ysgolion Ynys Môn. |
|
I dderbyn diweddariad. Cofnodion: Arolygiad Ysgolion Estyn
Rhoddodd yr Uwch Reolwr Cynradd grynodeb o ganfyddiadau Arolygiadau Estyn y cwblhawyd mewn ysgolion ledled Ynys Môn.
Mynegwyd pryderon bod angen atgoffa Estyn i ddefnyddio’r derminoleg gywir mewn adroddiadau Cymraeg a Saesneg. Nodwyd, yn adroddiad Ysgol Esceifiog, fod Estyn yn nodi fod yr ysgol yn “Mynychu gwasanaethau a gweithredoedd addoli dyddiol ar y cyd”, sy’n amlygu na allant fod yn gwneud y ddeubeth. Nid yw’r gair “gwasanaethau” bellach yn cael ei gynnwys mewn addoliad ar y cyd, ac mae “addoli dyddiol ar y cyd” hefyd yn anghywir yn y fersiwn Gymraeg o’r adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai’n mynegi pryderon y CYSAG i Estyn yn ei gyfarfod nesaf yn ystod yr hanner tymor.
Roedd y CYSAG yn teimlo bod angen canmol ysgolion Ynys Môn gan fod yr holl sylwadau gan Estyn yn gadarnhaol.
PENDERFYNWYD: -
• Nodir wybodaeth a gyflwynwyd. • Bod y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn codi pryderon y CYSAG mewn perthyn â therminoleg Estyn mewn adroddiadau, a chynnwys eitem ar yr agenda ar gyfer cyfarfod chwarterol nesaf Estyn.
Cyflwynodd Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Santes Fair yng Nghaergybi, gyflwyniad a oedd yn crynhoi’r gwaith sy’n digwydd yn ei ysgol, gan gynnwys addoli ar y cyd ac addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Diolchodd aelodau’r CYSAG i Mr Jones am ei gyflwyniad ysbrydoledig, a’i longyfarch am ei waith rhagorol yn yr ysgol. Cafodd ei ganmol hefyd am gyflwyno elfen Gymraeg i Ysgol Gatholig.
Bu i aelod ofyn a ellir rhannu taflen werthuso’r ysgol gyda Chlerc y CYSAG er mwyn gweld a oes unrhyw elfen yn berthnasol i daflen werthuso’r CYSAG. |
|
Unrhyw Fusnes Arall I ystyried unrhyw fusnes arall – gyda chytundeb y Cadeirydd. Cofnodion: Mynegwyd pryderon nad oedd cofnodion y CCYSAGauC ar gyfer Mawrth 2022, a manylion am Gyfarfod Blynyddol y CCYSAGauC, wedi cael eu cynnwys yn agenda heddiw.
Ymddiheurodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc am y camgymeriad, a dywedodd fod y cyfnod diwethaf wedi bod yn heriol i’r Adran Addysg oherwydd newidiadau ymhlith staff. Rhoddodd sicrwydd i’r CYSAG y byddai’r mater yn cael ei flaenoriaethu a’i adfer erbyn cyfarfod nesaf y CYSAG.
PENDERFYNWYD y byddai’r Cadeirydd a’r Uwch Reolwr Cynradd yn trafod materion yn ymwneud â’r CCYSAGauC. |
|
Cyfarfod Nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG ar ddydd Mercher, 11 Hydref 2023 am 2.00 o’r gloch yp. Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 11 Hydref 2023 am 2:00 pm. |