Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Committee Room 1 - Council Offices, Llangefni and virtually via Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf y CYSAG, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi o’r cofnodion: -
• Mewn ymateb i gais y CYSAG i gymryd rhan mewn teithiau dysgu mewn ysgolion, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod wedi trafod cynnig y CYSAG gyda Chadeirydd Fforwm Strategol y Penaethiaid. Dywedodd fod y Fforwm yn disgwyl am ymateb ynglŷn â disgwyliadau’r CYSAG o ran y teithiau dysgu. Nodwyd y bydd sylwadau’r CYSAG, ar ôl iddynt ymgynghori ar y mater, yn cael eu cyflwyno i Gadeirydd y Fforwm Strategol, er mwyn diweddaru ysgolion ynglŷn â natur ymweliadau ysgol arfaethedig y CYSAG.
Cynigiwyd y dylid trafod teithiau dysgu mewn sesiwn anffurfiol yn dilyn y cyfarfod ffurfiol heddiw, a derbyniodd y CYSAG y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn cyflwyno sylwadau’r CYSAG i Gadeirydd Fforwm Strategol y Penaethiaid.
• Mewn perthynas â Chyfansoddiad y CYSAG, cadarnhawyd fod cais wedi’i wneud am gyngor cyfreithiol ac mae’r mater yn parhau i dderbyn sylw. Cyflwynir adroddiad diweddaru yng nghyfarfod nesaf y CYSAG ar 15 Chwefror 2024. • Nodwyd fod GwE yn addasu ei holiadur Dyniaethau ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion Môn cyn y Nadolig.
PENDERFYNWYD y byddai’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (GwE) yn rhoi diweddariad ar ganlyniadau’r holiadur yng nghyfarfod nesaf y CYSAG.
• Mewn perthynas â phryderon CYSAG ynglŷn â therminoleg mewn adroddiadau Estyn, dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai’n codi unrhyw faterion pellach gydag Estyn yn y dyfodol.
|
|
Diweddariad Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) PDF 225 KB • Derbyn diweddariad gan Glerc y CYSAG ac aelodau’r CYSAG a fynychodd cyfarfod CCYSAGauC ar 25 Hydref 2023.
• Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft y cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023. Cofnodion: Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod wedi mynychu cyfarfod rhithiol CCYSAGauC ar 25 Hydref 2023. Dywedodd fod sawl eitem ar y rhaglen yn ymwneud â’r datblygiadau sy’n mynd rhagddynt mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru.
Nodwyd y bydd cofnodion drafft y cyfarfod yn cael eu cyflwyno, er gwybodaeth, yng nghyfarfod nesaf y CYSAG ar 15 Chwefror 2024.
Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 er gwybodaeth, a chawsant eu nodi.
|
|
Ysgol Santes Dwynwen - Llythrennedd trwy gyfrwng Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg I dderbyn diweddariad gan Bennaeth Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysgol Santes Dwynwen ar lythrennedd trwy gyfrwng Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Disgrifiodd sut mae 3 sgil llythrennedd – gwrando/siarad ar lafar, darllen ac ysgrifennu – yn cael eu hymgorffori mewn addoli ar y cyd, a sut mae’r plant yn cymryd rhan trwy ddilyn stori, gwrando, edrych ar luniau, darllen a dilyn y geiriau.
Dywedodd yr athrawes fod gwasanaethau addoli ar y cyd wythnosol yn cael eu rhannu’n uniongyrchol gyda’r plant yn eu cartrefi yn ystod y cyfnod clo, gan ddefnyddio’r system ‘SeeSaw’. Roedd hi’n dewis emyn, gan arddangos y geiriau ar y sgrin, a byddai’r plant yn dysgu canu emyn trwy ddilyn cyfres o sleidiau.
Ar ôl i’r plant ddychwelyd i’r ysgol, roedd y trefniant hwn yn parhau yn yr ystafell ddosbarth a chafodd ei ymestyn i gynnwys tasgau a gweithgareddau ar gyfer y disgyblion fel dilyniant i’r addoli ar y cyd. Roedd y tasgau’n cynnwys pynciau trafod i ddatblygu sgiliau’r disgyblion, clipiau fideo i ddatblygu eu sgiliau gwrando, ysgrifennu llythyr neu weddi, neu ymchwilio mewn llyfrau neu ar-lein i ddatblygu eu sgiliau darllen. Byddai’r plant hefyd yn goleuo cannwyll yn ystod y gwasanaeth er mwyn myfyrio a meddwl am berson arbennig, gan ddweud gweddi bersonol ar gyfer y person hwnnw cyn diffodd y gannwyll.
Dywedodd yr athrawes fod yr ysgol wedi bod yn gweithio ar waith Ms Bethan James yn ddiweddar, ar gamau cynnydd o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o’r cwricwlwm, trwy ofyn cwestiynau; recordio a gwrando ar wybodaeth; dadansoddi ac arfarnu tystiolaeth, dod i gasgliad a chyflwyno tystiolaeth.
Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau’r CYSAG i Mrs Morris-Williams am ei chyflwyniad ardderchog ar waith yr ysgol mewn perthynas â chrefydd a Christnogaeth. |
|
Teithiau Dysgu (Uwchradd) • Diben - Dealltwriaeth gyfredol CYSAG Ynys Môn o gwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). • Sesiwn holi’r Pwyllgor - ‘Beth hoffwch chi weld?’ • Tasg
Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon mewn cyfarfod anffurfiol yn dilyn y cyfarfod ffurfiol heddiw.
|
|
Rhestrau Chwarae - Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg I dderbyn diweddariad gan Glerc y CYSAG. Cofnodion: Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd fod Hwb a Llywodraeth Cymru wedi creu Rhestrau Chwarae, sef sleidiau rhyngweithiol ar lwyfan Hwb ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac maent yn adnoddau ardderchog ar gyfer ysgolion. Dywedodd fod CCYSAGauC, GwE a rhanddeiliaid eraill wedi cyfrannu at y maes hwn trwy greu a rhannu adnoddau i gyd-fynd â’r Rhestrau Chwarae.
PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn rhoi diweddariad ar y Rhestrau Chwarae yng nghyfarfod nesaf y CYSAG. |
|
Lleoliadau Crefyddol ac Ysbrydol Ynys Môn • Defnyddio arbenigedd aelodau • Tasg Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi gofyn am farn yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant (GwE) a’r Uwch Reolwr Cynradd ynghylch creu hwb i ganiatáu i athrawon a disgyblion gael mynediad at wybodaeth am leoliadau crefyddol ac ysbrydol ar Ynys Môn. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd am farn aelodau’r CYSAG ynglŷn â chreu hwb.
Awgrymodd yr Uwch Reolwr Cynradd fod y CYSAG yn edrych ar wahanol adeiladau a lleoliadau sy’n gysylltiedig â chrefydd, neu leoliadau ysbrydol, y gellid eu cynnwys er mwyn eu trafod yng nghyfarfodydd y CYSAG. Dywedodd y byddai’n hapus i arwain ar y pwnc hwn a chyflwyno gwybodaeth ar ffurf ddigidol ar y safle micro er mwyn ei rannu gydag ysgolion.
Nodwyd fod Prosiect Pererin yr Eglwys yng Nghymru wedi penodi aelod newydd o staff a bydd yn creu adnoddau ar gyfer ysgolion Môn, a byddant ar gael i’r CYSAG maes o law.
Croesawodd y CYSAG y cynnig i blant ymweld â lleoliadau crefyddol er mwyn gwella eu hymwybyddiaeth ynglŷn ag ymweld â lleoedd sanctaidd. Roedd y CYSAG yn pryderu am y dirywiad mewn ysgolion o ran dathlu diolchgarwch ac roedd yn teimlo bod angen pwysleisio pwysigrwydd diolchgarwch mewn ysgolion.
Dywedodd yr athrawes gynradd y byddai angen cynllunio’n ofalus i hwyluso ymweliadau â lleoliadau crefyddol a byddai angen cynnwys pobl sydd â gwybodaeth leol. Dywedodd y byddai rhestr o bersonau cyswllt ar gyfer lleoliadau crefyddol yn ddefnyddiol hefyd, er mwyn i ysgolion wybod gyda phwy i gysylltu cyn ymweld. Nodwyd y gallai ymweliad ag eglwys neu gapel bontio’r sbectrwm ar ffurf ddigidol, e.e., hanes, celf ac ati, y gall pobl leol, sydd â mynediad at wybodaeth ynglŷn â lleoliadau crefyddol ar-lein, ei rannu.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut y gellir casglu adnoddau o wahanol ardaloedd ar yr Ynys er mwyn eu rhannu gydag ysgolion. Codwyd y pwyntiau a ganlyn:-
• A fyddai modd i’r CYSAG ddarparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer lleoliadau crefyddol ym mhob ardal benodol ar Ynys Môn a gynrychiolir ganddynt? • Awgrymwyd y dylai’r Uwch Reolwr Cynradd gysylltu â’r Adain Archifau yn Llangefni i ganfod ym mha ffordd y gallant gynorthwyo’r CYSAG trwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau ynglŷn ag adeiladau crefyddol ar Ynys Môn. • Cynigiodd aelod Eglwys o’r CYSAG gynnal ymweliadau yn ei chapel yng Nghaergybi. Dywedodd y gallai ddarparu rhestr i aelodau o gysylltiadau ar gyfer capeli/eglwysi enwadau crefyddol eraill yn yr ardal. • Awgrymwyd fod y CYSAG yn gwahodd aelod o’r Prosiect Pererin i gyfarfod nesaf y CYSAG i roi trosolwg o’i gwaith.
PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr Cynradd yn:-
• Casglu gwybodaeth a dderbyniwyd ar leoliadau crefyddol gan aelodau ac unigolion perthnasol eraill. • Gwahodd aelod o’r Prosiect Pererin i ddarparu diweddariad ar ei gwaith wrth baratoi adnoddau ar gyfer ysgolion. • Cysylltu â’r Gwasanaeth Archifau a Llyfrgelloedd i drafod pa adnoddau sydd ar gael i ysgolion am leoliadau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr I dderbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Addyg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon gan yr Uwch Reolwr Cynradd o dan Eitem 2 ar y rhaglen.
|
|
Unrhyw Faterion Eraill Unrhyw faterion eraill – gyda chytundeb y Cadeirydd. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei bod, fel rhan o’i swydd tu allan i’r Cyngor, yn cysylltu ag ysgolion i ofyn a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn ymgyrch Calendr Adfent o chwith. Dywedodd mai syniad Calendr o chwith yw ein bod ni’n rhoi yn hytrach na derbyn. Apeliodd ar bobl i feddwl am eraill a chyfrannu at fanciau bwyd lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn. |
|
Cyfarfod nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG ar ddydd Mercher, 15 Chwefror 2024 am 2:00 o’r gloch yp. Cofnodion: Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 15 Chwefror 2024 am 2:00pm.
|