Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYS a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2025.
Materion y codi o’r cofnodion: -
· Gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb i gyfarfod nesaf y CYS. · Yr Uwch Reolwr Sector Cynradd i gysylltu â Swyddog Cyswllt Estyn yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â’r ystyriaeth a roddir i CGM yn Fframwaith newydd Estyn a’r trefniadau adrodd. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol: -
Materion yn codi o’r cofnodion: -
• Cadarnhaodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu at Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb Heddlu Gogledd Cymru ar ddau achlysur i wahodd y Swyddog i gyfarfod o’r CYS ond nid yw wedi derbyn ymateb hyd yma. • Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd ei fod wedi ysgrifennu at Estyn i ofyn am gysondeb ganddo ynglŷn â’i broses adrodd ac i ddarparu sylwadau ar ysgolion sydd wedi cael canlyniadau cadarnhaol yn eu hadroddiadau Estyn. Dywedodd ei fod yn aros am ymateb gan Estyn. Nodwyd, pan fydd cyfle, y bydd cynrychiolydd o Estyn yn cael ei wahodd i gyfarfod o’r CYS. • Nodwyd bod angen newid Ysgol Rhyd y Llan yn y cofnod yn gysylltiedig ag Eitem 4, i Ysgol y Graig. • Cyfeiriwyd at y sylw gan yr Ymgynghorydd CGM yn gysylltiedig ag Eitem 4 ar yr agenda a oedd yn nodi “bod yr hawl i dynnu’n ôl yn berthnasol i CGM”, sydd yn anghywir. Nodwyd bod yr hawl i dynnu’n ôl wedi dod i ben ers i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym. |
|
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCC) Cyflwyno er gwybodaeth: -
· Gweithgareddau’r Gymdeithas am y cyfnod 2024/25 · Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - 2.7.24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: • Cyflwynwyd adroddiad ar weithgareddau CCYSAGauC yn ystod 2024/25 a nodwyd yr wybodaeth.
• Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGauC cyflwynwyd y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2024/25 a nodwyd yr wybodaeth.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Drafft CYS Ynys Môn ar gyfer 2024/25 I gyflwyno Adroddiad Blynyddol Drafft CYS Ynys Môn ar gyfer 2024/25 i’w gymeradwo, gan gynnwys unrhyw newidiadau. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft y CYS ar gyfer 2024/25 am sylwadau ac fe’i cymeradwywyd gan y CYS heb unrhyw newidiadau pellach.
PENDERFYNWYD: -
• Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer 2024/25, fel y’i cyflwynwyd. • Bod copi o fersiwn terfynol Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer 2024/25 yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth. |
|
|
Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Bangor I gyflwyno Joanna Thomas, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Bangor. Cofnodion: Rhoddodd Mrs Joanna Thomas gyflwyniad ar ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Bangor ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru.
Adroddodd Mrs Thomas bod ei gwaith yn cynnwys cefnogi ysgolion eglwysig ledled Ynys Môn. Dywedodd ei bod wedi ymweld ag Ysgol Cybi yng Nghaergybi ac Ysgol Santes Dwynwen yn Niwbwrch.
Cyfeiriwyd at yr Arolygon Adran 50 ar gyfer Ysgolion Eglwysig yng Nghymru. Eglurodd Mrs Thomas bod rhaglenni peilot wedi cael eu cynnal y tymor diwethaf ac y bydd yr hyfforddiant i arolygwyr yn dechrau fis nesaf. Dywedodd bod Penaethiaid y ddwy ysgol yr ymwelodd â hwy wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r broses a rhannu arfer da gydag ysgolion eraill.
Nodwyd y bydd adroddiadau’r rhaglenni peilot ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru, gyda’r nod o ddod ag athrawon ynghyd i weithio ar adnoddau Cymraeg. Rhoddwyd pwyslais ar gynnal ansawdd mewn ysgolion a sicrhau bod addoli ar y cyd a’r ethos Cristnogol yn cael ei ddatblygu.
Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Thomas am roi mewnwelediad i’w gwaith ac am ei chyflwyniad addysgiadol.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
|
Cynllun Datblygu CYS Ynys Môn 2025/26 I drafod y ffordd orau y gall y CYS gefnogi ei ysgolion: -
· Hybu CYS(AG) · Datblygu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg · Datblygu Gwasanaeth Ymgynnull Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM bod rhaid i bob CYS ddarparu adroddiad blynyddol i adlewyrchu ar ei fusnes. Bydd y CYS yn cynghori Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob CYS ei gynllun datblygu ei hun.
Nodwyd bod y drafodaeth ledled Cymru wedi canolbwyntio ar y posibilrwydd o ganiatáu i’r CYSau ddatblygu eu hamcanion eu hunain, ac o ganlyniad bydd camau gweithredu mewn adroddiadau blynyddol yn canolbwyntio ar gynnydd y CYSau tuag at gyflawni eu cynlluniau datblygu. Yr amcan gyntaf i CYS Ynys Môn fydd sicrhau bod aelodaeth y CYS yn cwrdd â’r gofynion.
Amlygwyd mai prif gyfrifoldeb y CYS yw cefnogi ysgolion a datblygu CGM, a gellid defnyddio hyn fel amcan arall ar gyfer y CYS, drwy gymryd camau i gefnogi a datblygu ysgolion. Awgrymwyd y gallai’r cynrychiolwyr ffydd rannu cofnodion y CYS, adroddiadau blynyddol ayb., i barhau â’r drafodaeth ynglyn â’r modd y gallai’r sefydliadau sy’n cefnogi’r CYS gefnogi CGM mewn ysgolion.
Yn drydydd, gofynnwyd sut y gallai’r CYS gefnogi addoli ar y cyd mewn ysgolion? Awgrymwyd y byddai Cylchlythyr yn un ffordd dda o symud ymlaen ynghyd â Rhwydwaith ar gyfer Penaethiaid Adran yn y sector Uwchradd, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu i gefnogi dysgu proffesiynol.
Nodwyd bod aelodau’r CYS wedi arsylwi sesiynau addoli ar y cyd ac y gallai ystyried arsylwi gwasanaethau neu wersi CGM? Byddai cael banc o adnoddau a rhestr o bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy’n fodlon mynd i ysgolion i gynnal gwasanaethau hefyd yn ffordd dda o gefnogi ysgolion.
Trafodwyd a ddylai CCYSAGauC gynhyrchu templed i annog y CYSau i fabwysiadu amcanion cenedlaethol ac ychwanegu amcanion lleol yn eu cynlluniau datblygu er mwyn nodi arfer da ar gyfer ardaloedd eraill? Cynigwyd a derbyniwyd y dylai’r CYS ysgrifennu’n ffurfiol at CCYSAGauC i ofyn i’w Weithrediaeth drafod y mater maes o law.
Cyfeiriodd un o’r cynrychiolwyr athrawon at bwynt gweithredu posib ar gyfer y dyfodol yn gysylltiedig â chydweithio rhwng y CYS ac ysgolion uwchradd yn benodol. Dywedodd bod disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 yn cwblhau gwaith cwrs a thasg nad yw’n arholiad, sy’n cael ei chyflwyno ar gyfer athrawon a disgyblion. Pob mis Medi, mae CBAC yn cyflwyno dau gwestiwn i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 ac mae’n rhaid iddynt chwilio am dystiolaeth, sy’n heriol iddynt, gyda’r athrawon yn eu harwain drwy’r gwaith. Awgrymodd y gallai’r CYS roi ei farn ar y pwnc a gyflwynir yn flynyddol.
Awgrymodd y CYS y gallai fod yn bwynt cyswllt diddorol ar gyfer safbwyntiau crefyddol ac y gellid ei rannu ag ysgolion Ynys Môn sy’n cwblhau’r dasg. Gellid hefyd ei gynnwys yn y Cylchlythyr a’i ddefnyddio fel ffynhonnell wybodaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a’i ymgorffori i waith y cynrychiolwyr ffydd.
Estynnwyd gwahoddiad i’r CYS i Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yng Nghaergybi i arsylwi sesiwn addoli ar y cyd. Awgrymwyd y gallai’r aelod CYS ysgrifennu erthygl fer yn dilyn yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Culham St Gabriel - Cais am Grant Cyflwyno adroddiad llafar ar gais am grant Prosiect cynllunio CGM Clwstwr Cynradd Caergybi. Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod wedi gwneud cais am gyllid grant gan Culham St Gabriel yn gysylltiedig â Phrosiect Cynllunio CGM Clwstwr Cynradd Caergybi. Dywedodd bod y clwstwr wedi bod yn awyddus i gwrdd a datblygu set o adnoddau i’w rannu gydag ysgolion ledled Ynys Môn. Cafodd cais hwn ei wrthod.
Cysylltwyd eto â Llywodraeth Cymru ynglyn â chwricwlwm a yrrir gan brosesau, lle mae disgyblion yn chwilio am wybodaeth i ateb cwestiynau. Gobeithir y gellir defnyddio CGM fel fframwaith i gwrdd â’r strwythur am gyllid gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at ‘adnodd’, un o gyrff Llywodraeth Cymru, sy’n comisiynu adnoddau dwyieithog i gefnogi’r cwricwlwm yng Nghymru. Nodwyd bod amserlen y sefydliad ar gyfer gwneud cais am adnoddau wedi pasio.
Pwysleisiodd y CYS bwysigrwydd dysgu hanes Seintiau lleol yn ein hysgolion. Nodwyd y bydd Mudiad Addysg Cymru yn cyhoeddi llyfr dwyieithog ar Seintiau a thraddodiadau yng Nghymru.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. |
|
|
I drafod y posibilrwydd o greu a dosbarthu cylchlythyr CYS Ynys Môn. Cofnodion: Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd CGM at gylchlythyr CYSAG Sir Ddinbych a Chonwy yn ystod Eitem 8 ar yr agenda a gofynnodd am farn y CYS ar gynhyrchu Cylchlythyr tebyg ar gyfer Ynys Môn i hyrwyddo gwaith y CYS ac ysgogi athrawon. Trafodwyd a fyddai’n well cael Cylchlythyr ar gyfer ysgolion, eglwysi ayb Gogledd Cymru neu Ynys Môn. Dywedodd y CYS y byddai’n well gan ei aelodau gael Cylchlythyr unigryw ar gyfer Ynys Môn.
Awgrymwyd y gellid cyflwyno aelodau’r CYS dros gyfres o gylchlythyrau. Dylai’r Cylchlythyr gynnwys gwybodaeth wreiddiol a lleol yn gysylltiedig ag Addysg Grefyddol, yn cynnwys gwybodaeth a gyflwynir gan ysgolion yn ystod cyfarfodydd y CYS ac ymweliadau gan gynrychiolwyr y CYS.
Mynegwyd pryder bod ysgolion yn poeni am ddilysrwydd yr wybodaeth sydd ar gael ar-lein. Bydd rhaid sicrhau bod yr wybodaeth yn y Cylchlythyr yn gywir, deniadol a rhywbeth y gall ysgolion ac athrawon ei ddefnyddio.
Dywedodd cynrychiolydd athrawon y CYS y dylai’r Cylchlythyr fod yn berthnasol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Eglurodd y bydd rhaid ei gynllunio’n ofalus yn ystod y flwyddyn gyntaf i sicrhau ei fod yn berthnasol i’r gynulleidfa. Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n ddefnyddiol clywed barn ar wahanol grefyddau.
PENDERFYNWYD: -
• Cytuno i gynhyrchu Cylchlythyr ar gyfer CYS Ynys Môn. • Bod y Cylchlythyr yn cael ei adolygu’n gyfnodol.
(Fe wnaeth Mrs Mefys Jones-Edwards a Mr Owain Roberts adael y cyfarfod am 3:00 pm)
(Fe wnaeth y Parchedig Neil Ridings adael y cyfarfod am 3:10 pm) |
|
|
Cynhadledd FFEAAG (Fforwm Ewropeaidd Athrawon AG) 2025 Cyflwyno adroddiad llafar o’r Gynhadledd FFEAAG ddiweddar a gynhaliwyd ym Mwdapest. Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM ei fod wedi mynychu Fforwm Athrawon Addysg Grefyddol Ewrop yn ddiweddar. Cynhaliwyd y fforwm mewn coleg hyfforddi Lutheraidd ym Mwdapest, lle gwnaeth gyfarfod â phobl sy’n gweithio ym maes addysg grefyddol ledled Ewrop. Amlygodd sut y mae Addysg Grefyddol/CGM yn wahanol iawn yn Ewrop o’i gymharu â’r DU; yn y wlad yma mae Addysg Grefyddol wedi symud ymlaen yn y 25 i 30 mlynedd diwethaf, lle mae’r rhan fwyaf o Ewrop wedi aros yn ei unfan fwy neu lai. Eglurodd bod Addysg Grefyddol yn Ewrop yn enwadol yn bennaf, ac mae eglwysi a sefydliadau crefyddol yn datblygu’r cwricwlwm y mae’r ysgolion yn ei gyflwyno. Nodwyd bod credoau’n cael eu dysgu o fewn gwahanol sefydliadau crefyddol: yn y Ffindir mae Cristnogaeth Lutheraidd yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, tra bo Mwslimiaid yn dewis Addysg Grefyddol Islamaidd, yn hytrach na delio â sawl pwnc dan un pennawd fel CGM.
Cafwyd cyflwyniad ar gwestiynu. Yr athrawon sy’n gofyn y cwestiynau yn y dosbarth ac nid y disgyblion. Roedd yn amlwg bod athrawon yn gofyn cwestiynau i brofi gwybodaeth y disgyblion yn hytrach na’u dealltwriaeth. Doedd neb yn gofyn ‘Pam?’ yn aml iawn. Amlygodd yr Ymgynghorydd CGM mai’r nod yw cael disgyblion i fod yn feddylwyr beirniadol a gofyn mwy o gwestiynau.
Cafwyd trafodaeth ar gwestiynau dirfodol, cwestiynau mawr bywyd, a sut i ddod o hyd i atebion i gwestiynau anodd ymysg cenhedlaeth bryderus. Amlygwyd bod ein dysgwyr yn cael eu hamddifadu o sgiliau i’w galluogi i drafod y pethau mawr. Nodwyd bod CGM yn darparu llwyfan i helpu dysgwyr ddatblygu iaith a gwneud synnwyr o’r cwestiynau hyn.
Dywedodd yr Ymgynghorydd CGM bod ei ymweliad â Bwdapest wedi bod yn agoriad llygaid a’i fod yn berthnasol i athrawon yng Nghymru.
PENDERFYNWYD: -
• Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghrynodeb yr Ymgynghorydd CGM ar y Fforwm Athrawon Addysg Grefyddol Ewrop 2025 yn Hwngari. • Bod crynodeb o’r ymweliad uchod yn cael ei gynnwys yng Nghylchlythyr y CYS. |
|
|
Unrhyw faterion penodol i'r CYS Materion i’r cyfarfod nesaf. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd bod pedair sedd wag ar y CYS i gynrychioli’r enwadau crefyddol a ganlyn: -
· Undeb Annibynwyr Cymru; · Yr Eglwys Fethodistaidd; · Islam; · Tystion Jehovah.
Dywedodd yr Uwch Reolwr, Sector Cynradd y byddai’n ymchwilio i’r mater ac adrodd yn ôl i’r CYS yn ei gyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD y byddai’r Uwch Reolwr, Sector Cynradd (Clerc y CYS) yn cysylltu â’r 4 enwad i ofyn iddynt enwebu aelod o’u Grŵp crefyddol i’w cynrychioli ar y CYS. |
|
|
Cyfarfod Nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf y CYS am 2:00 o’r gloch yp ar 10 Chwefror 2026. Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYS yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror 2026 am 2:00 pm. |