Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r CYSAG. Cofnodion: Rhoddwyd sylw i ethol Cadeirydd ar gyfer y CYSAG. Dywedodd yr Is-Gadeirydd cyfredol wrth yr Aelodau bod cyrff CYSAG Gwynedd ac Ynys Môn wedi cadw’r hawl i ethol Cadeirydd o blith aelodau etholedig yr Awdurdodau Addysg Lleol ar y fforwm CYSAG ac y byddai cynnig fel arall yn anghyfansoddiadol. Ymhellach, yn hanesyddol penodwyd y Cadeirydd trwy gonsensws gan yr AALl.
Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd gohirio ethol Cadeirydd i ganiatáu i gynrychiolwyr yr Awdurdodau Addysg Lleol ddod i gytundeb ynghylch penodi Cadeirydd ar gyfer y CYSAG. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd i’r CYSAG.
(Is-Gadeirydd presennol – Mr Rheinallt Thomas, Eglwys Bresbyteraidd Cymru) Cofnodion: Ailetholwyd Mr Rheinallt Thomas, Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Is-Gadeirydd ar gyfer y CYSAG. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2013 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
Materion yn codi -
• Cyfeiriodd y Swyddog Addysg at y tair ysgol gynradd nad oedd eu dogfennau hunanarfarnu Addysg Grefyddol wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf, a dywedodd wrth yr aelodau fod hunanarfarniad Ysgol Penysarn (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) bellach wedi cyrraedd. Eglurodd yn gryno mai trwy archwilio adroddiadau hunanarfarnu AG y gofynnir i ysgolion yr ynys eu darparu y mae’r CYSAG yn cyflawni ei swyddogaeth ymgynghorol mewn perthynas â safonau Addysg Grefyddol ac ansawdd addoli ar y cyd. Fodd bynnag, nid yw adroddiadau hunanarfarnu Ysgol y Fali ac Ysgol Pentraeth wedi dod i law. Ychwanegodd y Swyddog fod adroddiadau hunanarfarnu Ysgol Gynradd Llanbedrgoch ac Ysgol Tywyn a arolygwyd yn nhymor yr Hydref 2012 bellach wedi dod i law ac fe’u cyflwynwyd fel rhan o’r materion yn codi. Yn unol â’r patrwm a welwyd eisoes, mae peth amrywiaeth o ran ansawdd a chynnwys y wybodaeth a gyflwynir gan yr ysgolion yn eu hunanarfarniadau a dim ond un o’r ysgolion sydd wedi mabwysiadu model Ysgol Corn Hir.
Pwysleisiodd yr Is-Gadeirydd ei bod yn hanfodol bod y CYSAG yn cael y wybodaeth hon oherwydd mai dyma’r unig ffordd sydd gan y CYSAG ar hyn o bryd i gyflawni ei gyfrifoldebau monitro. Dywedodd y Swyddog Addysg y byddai’n parhau i fynd ar drywydd y mater hwn gyda’r ddwy ysgol nad ydynt wedi cyflwyno eu hunanarfarniadau, ond roedd yn credu bod amgylchiadau lliniarol o ran pam nad oedd yr adroddiadau wedi eu cyflwyno i’r CYSAG ac esboniodd yr amgylchiadau hynny i’r Aelodau.
Nodwyd y wybodaeth gan Aelodau’r CYSAG ynghyd â’r sefyllfa mewn perthynas â’r ddwy ysgol nad oedd eu hunanarfarniadau wedi dod i law hyd yma.
Cam Gweithredu yn codi: Y Swyddog Addysg i barhau i wneud ymholiadau ynghylch yr adroddiadau hunanarfarnu nad ydynt wedi eu cyflwyno i’r CYSAG hyd yma.
• Dygodd y Swyddog Addysg sylw’r Aelodau at ymateb Prif Arolygydd Estyn i ohebiaeth a anfonwyd ati yn dilyn cyfarfod diwethaf CYSAG i ddwyn sylw at gamgymeriadau yn adroddiad yr Arolygydd ynghylch Ysgol Tywyn mewn perthynas â’r defnydd o derminoleg yr oedd y CYSAG wedi nodi. Yn ei hymateb mae’r Prif Arolygydd yn cyfeirio at ganllawiau atodol Estyn ar gyfer Arolygwyr mewn perthynas ag addoli ar y cyd a’r ffaith bod y canllawiau’n gwahaniaethu rhwng addoli ar y cyd a gwasanaethau boreol a’r ffaith y gall gwasanaethau boreol ymgorffori gweithred o addoli ar y cyd. Mae’r canllawiau hefyd yn dwyn sylw at y berthynas rhwng addoli ar y cyd a datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol. Nid oes rhaid i Arolygwyr gyfeirio at addoli ar y cyd mewn adroddiadau arolygu ac eithrio lle nad yw’r ysgol dan sylw yn cydymffurfio gyda’r gofynion statudol yn y cyswllt hwn neu os yw’r gwasanaethau boreol neu’r gweithredoedd addoli ar y cyd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol CYSAG Môn 2011/12 PDF 548 KB Cyflwyno fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol 2011/12. Cofnodion: Cyflwynwyd fersiwn swyddogol Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2011/12 ac fe’i nodwyd er gwybodaeth yn unig.
|
|
Safonau Addysg Grefyddol Y Swyddog Addysg i adrodd. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Addysg wrth Aelodau’r CYSAG fod un ysgol, sef Ysgol Llanfachraeth, wedi ei harolygu yn ystod tymor y Gwanwyn a bod yr adroddiad arolygu’n dda. Yng nghyd-destun Addysg Grefyddol, dywed yr Arolygydd bod yr ysgol yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu cyfoethog sy’n ennyn diddordeb y rhan fwyaf o’r disgyblion ac sy’n cwrdd â gofynion y cyfnod sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol ac Addysg Grefyddol yn llawn. Gan gyfeirio at ddatblygiad ysbrydol a moesol y disgyblion, mae’r arolygydd yn disgrifio’r ysgol fel cymuned gyfeillgar a gofalgar a bod yr holl staff yn hyrwyddo gwerthoedd uchel. Mae darpariaeth ar gyfer hyrwyddo datblygiad moesol, cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol yn effeithiol. Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw argymhellion yn codi o’r adroddiad arolygu mewn perthynas ag AG ac/neu addoli ar y cyd.
Roedd yr Aelodau yn croesawu’r wybodaeth a llongyfarchwyd holl staff a disgyblion Ysgol Llanfachraeth ar eu llwyddiant.
Cytunwyd i dderbyn a nodi’r wybodaeth.
Cam Gweithredu yn codi: Bydd y Swyddog Addysg yn anfon llythyr ar ran y CYSAG i Bennaeth Ysgol Llanfachraeth i gydnabod ymdrechion a llwyddiant yr ysgol fel yr adlewyrchwyd hynny yn adroddiad Estyn. |
|
Sut gall y CYSAG gyflawni ei ddyletswyddau yn y dyfodol PDF 170 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Addysg. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Addysg adroddiad briffio yr oedd wedi ei anfon at bob un o Benaethiaid ysgol Ynys Môn yn gofyn am sylwadau ar gynnig i gynorthwyo’r CYSAG i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran monitro safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion lle byddai CYSAG yn casglu adroddiadau hunanarfarnu o fewn cylch 3 blynedd a fyddai’n golygu y byddai ysgolion unigol yn cyflwyno adroddiad i’r CYSAG bob tair blynedd yn seiliedig ar y patrwm a awgrymir yn yr adroddiad. Dywedodd y Swyddog bod penaethiaid cynradd wedi ystyried y cynnig a’u bod yn barod i’w fabwysiadu ond y byddent yn gwerthfawrogi cael rhybudd o ba bryd y byddai angen yr adroddiadau. Nid oedd penaethiaid uwchradd wedi ystyried y mater hyd yma. Y bwriad oedd y byddai’r Swyddog Addysg yn cydgysylltu gydag 16 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd bob blwyddyn i ofyn iddynt gyflwyno adroddiadau hunanarfarnu i’r CYSAG. Dywedodd Miss Bethan James fod y cynnig yn golygu y byddai’r CYSAG yn gallu archwilio 5 adroddiad hunanarfarnu bob blwyddyn ac y gallai hefyd ystyried gwahodd pennaeth i annerch y CYSAG yn y mis dilynol.
Cytunwyd i dderbyn y cynnig fel ffordd o gynorthwyo’r CYSAG i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran monitro safonau Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd yn ysgolion Ynys Môn.
Cam Gweithredu yn codi: Bod y Swyddog Addysg yn gweithredu’r system yn amodol ar gael cytundeb y penaethiaid uwchradd.
Rhoddodd Miss Bethan James gyflwyniad i’r Aelodau ar fodel drafft ynghylch sut y gallai’r CYSAG fonitro safonau o gofio, dan y system newydd dan y GwE, nad oes unrhyw gyfrwng i swyddogion gysylltu gydag ysgolion i bwrpas rhoi atborth i’r CYSAG ar y ddarpariaeth o Addysg Grefyddol a’r trefniadau ar gyfer addoli ar y cyd. Cyfeiriodd at yr ystyriaethau isod:
• Sut y gall y CYSAG gasglu gwybodaeth a’r ffynonellau sydd ar gael. • Y pro fforma hunanarfarnu y mae’r CYSAG wedi ei fabwysiadu i gael gwybodaeth gan ysgolion ar eu hunanasesiad o’r canlyniadau mewn Addysg Grefyddol; ansawdd y ddarpariaeth AG ac ansawdd y trefniadau ar gyfer addoli ar y cyd. • Yr angen i hunanarfarniadau ysgolion adlewyrchu’r iaith arolygu yn y defnydd o ymadroddion gwerthuso ac i adlewyrchu dealltwriaeth o’r hyn a olygir gan Estyn trwy gyfeirio a chyfrannau • Cyhoeddiadau sydd wedi eu dylunio i gefnogi athrawon yn eu dealltwriaeth o safonau a gweithgareddau AG. • Holiadur y gofynnodd i Aelodau’r CYSAG ei gwblhau i ddangos eu dealltwriaeth o AG a sut y gellid monitro safonau. • Yr adolygiad thematig o Addysg Grefyddol a gynhaliwyd gan Estyn yn seiliedig ar sampl o ysgolion trwy Gymru(nid oedd ysgolion o Wynedd ac Ynys Môn yn rhan o’r sampl) a oedd yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth AG yn CA3 a’r ddarpariaeth AG statudol i ddisgyblion 14-16 oed, o dan y teitl Addysg Grefyddol mewn Ysgolion Uwchradd. Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad yn benodol ar gyfer ysgolion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru PDF 724 KB · Cyflwyno cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar 22 Mawrth, 2013.
· Cyflwyno adborth o gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar 19 Mehefin, 2013
Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd cofnodion ac adroddiadau cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru Gyfan a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2013.
Er nad oedd wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar 19 Gorffennaf roedd yn gallu cyflwyno gwybodaeth ynghylch y prif bwyntiau trafod o’r cyfarfod fel y cawsant eu cyfleu gan unigolyn arall a fu’n bresennol yn y cyfarfod. Roedd y rhain yn cynnwys y marc ansawdd AG ac Adolygiad Thematig Estyn o AG mewn ysgolion uwchradd fel y trafodir uchod. Yn ogystal, cyflwynwyd ac ystyriwyd ymateb y Gweinidog ar gyfer Addysg a Sgiliau i ohebiaeth a anfonwyd ato mewn perthynas â’r diffyg sylw a roddwyd i AG yn yr adolygiad cyfredol o’r cwricwlwm. Yn ei ymateb, mae’r Gweinidog yn pwysleisio mai dim ond y pynciau hynny yn y cwricwlwm cenedlaethol sy’n destun adolygiad ar hyn o bryd; ei fod yn argyhoeddiedig bod gan AG rôl allweddol i’w chwarae o ran datblygu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion; y bydd cyrff CYSAGau yn cael eu ychwanegu at y rhestr ddosbarthu ar gyfer yr adroddiad adolygu ac y byddai’n croesawu atborth gan gyrff CYSAGau o ran mabwysiadu ei argymhellion.
Rhoddodd yr Is-Gadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r CYSAG ar benodiadau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru ac i swyddi’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd.
Dim cam gweithredu pellach yn codi. |
|
Adolygu'r Maes Llafur Cytun Y Swyddog Addysg i adrodd. Cofnodion: Dywedodd yr Is-Gadeirydd wrth Aelodau’r CYSAG bod Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi awgrymu y dylid gohirio adolygiad o’r maes llafur cytûn hyd nes y bydd adolygiad o bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol wedi ei gwblhau.
Ar ran y grwpiau Enwadau Crefyddol cynigiodd yr Athro Euros Wyn Jones y dylid dilyn yr awgrym hwn ac fe’i eiliwyd gan Mrs Bethan Ll. Jones ar ran y grŵp Athrawon. Fel cynrychiolydd grŵp aelodau etholedig yr AALl nododd y Cynghorydd Alun Mummery ei fod yn cytuno gyda’r cynnig.
Cytunwyd i ohirio’r adolygiad o’r Maes Llafur Cytûn hyd nes y bydd yr adolygiad cyfredol o bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol wedi ei gwblhau.
Dim cam gweithredu bellach yn codi.
|
|
Llawlyfr i Aelodau'r CYSAG PDF 4 MB Llawlyfr ynghlwm. Cofnodion: Cylchredwyd gwybodaeth ynghylch llawlyfr ar gyfer aelodau CYSAGau yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod. Cadarnhaodd y Swyddog Pwyllgor bod aelodau etholedig yr AALL sy’n newydd i’r CYSAG wedi cael copi o’r llawlyfr yn uniongyrchol.
Dim cam gweithredu’n codi. |
|
Cyfarfod Nesaf y CYSAG Dydd Mawrth, 8 Hydref, 2013 am 2 o’r gloch y prynhawn. Cofnodion: Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal am 2pm ar ddydd Mawrth 8 Hydref 2013.
|