Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 321 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod CYSAG blaenorol a gynhaliwyd 22 Mehefin 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Nodwyd fod yr Ymgynghorydd AG wedi anfon y fideo Canolfan St Giles ar ddilyn canllawiau a dolenni ymlaen i’r CYSAG.

3.

Derbyn adroddiad gan Ymgynghorydd AG CYSAG pdf eicon PDF 295 KB

Derbyn adroddiad gan Ymgynghorydd AG CYSAG ar y canlynol:-

 

   Sefyllfa gyfredol ysgolion parthed Covid-19;

   Crynodeb trefniadau Addoli ar y cyd Ysgolion Uwchradd;

   Canlyniadau asesiadau allanol a niferoedd disgyblion 2020-21; 

   Panel gweithredol CYSAG: Cadarnhau arian cefnogaeth; 

   Diweddariad ar Cwricwlwm i Gymru;

   Cynhadledd Ysgolion Heddwch; 

   Diweddariad ar Adroddiad Blynyddol.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG grynodeb o’i adroddiad, a nododd y pwyntiau canlynol:-

 

  Mae ysgolion yn parhau i wynebu amseroedd heriol oherwydd y pandemig. Mae penaethiaid dan bwysau sylweddol i sicrhau trefniadau i atal lledaeniad Covid-19, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

  Yn ddiweddar bu cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc sydd wedi dal Covid-19, ac mae mwy o athrawon wedi dal yr haint.

  Mae pryder cynyddol bod mwy o rieni yn tynnu eu plant o'r ysgol ac yn darparu addysg gartref. Nodwyd bod yr ansefydlogrwydd a'r presenoldeb is wedi cael effaith negyddol ar ysgolion, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei fonitro gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. Mae tîm lles y Cyngor yn gweithio'n agos gyda rhieni i gynnig cefnogaeth a mynd i'r afael ag anghenion unigol plant. Cynigir cefnogaeth ychwanegol hefyd i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a / neu anabledd.

 

Mae’r CYSAG wedi mynegi pryder nad yw effaith addysg gartref wedi cael sylw digonol yng nghyfarfodydd y Cyngor. Am fod AG yn bwnc arbenigol, teimlodd CYSAG nad oes gan rieni'r lefel angenrheidiol o arbenigedd yn y pwnc i addysgu eu plant gartref i'r safon ofynnol. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y dylid codi pryderon CYSAG yng nghyfarfod nesaf y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

  Mae tair ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd yn Ynys Môn wedi cymryd rhan yn hyfforddiant Athroniaeth i Blant Llywodraeth Cymru. Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan athrawon CYSAG, sy'n credu y bydd yr hyfforddiant yn ategu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE).

  Mae trefniadau Addoli ar y Cyd wedi parhau mewn ysgolion uwchradd trwy gydol y pandemig, er gwaethaf yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu.

  Cymerodd 103 o ddisgyblion AG fel pwnc TGAU yn 2020/21 - cyflawnodd 46.7% A * - A; Cyflawnodd 83.5% A * - C. Astudiodd 23 o ddisgyblion Lefel A AG yn yr un cyfnod - cyflawnodd 95.7% A * - C, a llwyddodd pob disgybl i basio.

  Nid yw canlyniadau asesiadau allanol TGAU a Safon Uwch wedi'u cadarnhau eto. Bydd data ystadegol o asesiadau llynedd a chanlyniadau arholiadau’r blynyddoedd blaenorol yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol CYSAG, a fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf CYSAG i’w fabwysiadu.

 

Codwyd pryderon ynghylch diffyg eglurder gan Lywodraeth Cymru os bydd  arholiadau ynteu asesiadau yn cael eu trefnu at y flwyddyn nesaf. Nodwyd bod y diffyg gwybodaeth yn rhoi straen ar athrawon a disgyblion ym Mlynyddoedd 11 a 13. Nodwyd ymhellach bod CBAC wedi adrodd mewn cyfarfod diweddar NAPfRE y byddai arholiadau'n cael eu hadolygu'n gyson ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Codwyd cwestiwn a yw Lefel A AG yn cael ei ddarparu ym mhob ysgol? Ymatebodd yr Ymgynghorydd AG, pan mai dim ond nifer fach o ddisgyblion sydd eisiau astudio pwnc Lefel A penodol, mae trefniadau ar waith i ysgolion penodedig arwain ac addysgu'r pynciau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 495 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth:-

 

  Cofnodion drafft y cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021.

 

  Datganiad o Gyfrifon y Gymdeithas 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Rheinallt Thomas ddiweddariad am y prif bwyntiau canlynol a godwyd yng nghyfarfod CCYSAGauC heddiw: -

 

  Atgoffodd Cadeirydd CCYSAGauC bawb o bwysigrwydd bod yn y meddylfryd iawn, trwy geisio bod yn bositif yng ngoleuni digwyddiadau'r 18 mis diwethaf.

  Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol CCYSAGauC ar TEAMS yn hytrach na Zoom. Cafwyd siom nad oedd gwasanaeth cyfieithu ar gael.

  Cadarnhawyd bod CCYSAGauC wedi ymateb i Ymgynghoriad Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

  Rhoddodd NAPfRE gyflwyniadau gan 3 chonsortia; Canolbarth y De, EAS a GwE. Roedd arbenigwyr ym maes AG yn bresennol, yn cynrychioli Canolbarth y De ac EAS. Er bod cynrychiolydd o GwE hefyd yn bresennol, roedd yn amlwg nad oedd Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu cefnogi gan GwE.

  Gan gyfeirio at ddatblygiad proffesiynol, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CCYSAGauC i baratoi adnoddau. Mae Pwyllgor Gwaith y CCYSAGauC wedi gosod amserlen, gyda dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd ar y 3ydd o Ragfyr 2021. Bydd tîm ar waith i baratoi adnoddau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2021. Nodwyd bod tri chais wedi eu derbyn hyd yma. Cadarnhaodd y Cynghorydd AG ei bod wedi derbyn cyfathrebiad gan CCYSAGauC yn gofyn i athrawon wneud cais.

  Cyfeiriwyd at y Gynhadledd Statudol a phwyslais ar fabwysiadu'r Fframwaith AG. Cynhelir cynhadledd ym mis Ionawr i ddiweddaru’r Cyfansoddiad CYSAG, yng ngoleuni'r newidiadau a wnaed ers 1996.

  Nodwyd er gwybodaeth, bod Paula Webber bellach wedi'i phenodi'n Gadeirydd CCYSAGauC, a Phil Lord yn Is-Gadeirydd.

  Cyflwynwyd Datganiad Cyfrifon CCYSAauC ar gyfer 2020/21 er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Nodi Datganiad Cyfrifon CCYSAGauC ar gyfer 2020/21.

5.

Gohebiaeth

   Y Cadeirydd i adrodd ar ymddeoliad Mr Gerald Hewitson fel aelod o’r

    CYSAG.

 

   Y Cadeirydd i roi diweddariad ynglyn â chynrychiolaeth yr Eglwys yng

    Nghymru ar CYSAG Môn.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod Mr Gerald Hewitson wedi ymddeol o'r CYSAG. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi anfon gohebiaeth at Mr Hewitson yn diolch iddo am ei gefnogaeth a'i gyfraniad i'r CYSAG.

         

          Adroddodd y Cadeirydd hefyd y bydd Mrs Anest Frazer yn ymddiswyddo o’r CYSAG, gan ei bod wedi dechrau swydd newydd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi e-bostio Mrs Frazer yn diolch iddi am ei chefnogaeth a'i chyfraniad i'r CYSAG dros y blynyddoedd, a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd.

 

      Adroddodd y Cadeirydd ymhellach ei fod wedi ysgrifennu at yr Archddiacon, y Parch Andrew Herrick yn gofyn iddo enwebu aelod newydd o'r Eglwys yng Nghymru i gynrychioli'r CYSAG. Ymatebodd yr Archddiacon gan nodi y bydd angen cynnal trafodaethau yn Swyddfa'r Esgobaeth, cyn y gellir gweithredu ar y cais, gan fod yn rhaid penodi cynrychiolydd newydd hefyd i eistedd ar CYSAG Gwynedd.

     

Cafwyd gohebiaeth hefyd gan y Parch Jim Clarke, a fydd hefyd yn ymddeol o’r CYSAG, gan y bydd ei Gadeiryddiaeth dros Undeb Annibynwyr Cymru yn dod i ben. Cynigiodd y Cadeirydd ac roedd y CYSAG yn cytuno y dylid gofyn i'r Parch Clarke enwebu cynrychiolydd newydd.

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Parch Jim Clarke enwebu aelod newydd i gynrychioli Undeb Annibynwyr Cymru ar y CYSAG. 

6.

Unrhyw faterion eraill

Unrhyw faterion eraill i’w trafodgyda chytundeb y Cadeirydd.

 

Er gwybodaethdolen i waith a wnaed gan Esgobaeth Bangor ar Brosiect Pererindod 'Pererin'.

 

https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/llanpererindod/

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod yr Eglwys yng Nghymru wedi derbyn cyllid i sefydlu Prosiect Pererindod. Mae'r Eglwys yn bwriadu gwahodd disgyblion o ysgolion Ynys Môn i gymryd rhan yn y prosiect, a chodi ymwybyddiaeth o bererindodau ar Ynys Môn. Awgrymwyd y dylid gwahodd aelod o’r prosiect i gyfarfod nesaf CYSAG i gyflwyno trosolwg o’r cynllun. Cytunodd y CYSAG i'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD gwahodd aelod o’r eglwys i fynychu cyfarfod nesaf y CYSAG i gyflwyno trosolwg o’r Prosiect Pererindod.  

 

Hysbysodd Cadeirydd y CYSAG y bydd y Parch Deborah Stammers yn cael ei ordeinio ddydd Sadwrn, 27 Tachwedd 2021 yng Nghapel Bethel, Caergybi am 2.30pm. Mynegodd y CYSAG eu dymuniadau gorau i'r Parch Stammers.