Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, ac yn rhithwir drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2024 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, ac yn rhithwir drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 ar yr agenda, gan ei fod yn aelod o’r Symudiad Arloesi (Pioneer Movement).

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG ar 16 Tachwedd 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion: -

 

  Rhoddodd yr Uwch Reolwr Cynradd ddiweddariad ar yr adnoddau sydd ar gael ar Hwb i ysgolion a’r CYSAG, yn cynnwys yr E-lythyrau ar Grefydd, Gwerthoedd   

a Moeseg i gefnogi’r gwaith o ddylunio’r cwricwlwm. Dywedodd bod modiwlau dysgu ar gael i gefnogi’r sector cynradd ac uwchradd ynghyd â dolenni i

gyflwyniadau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Bydd yn rhannu’r rhain â’r CYSAG.

  Mewn perthynas â chasglu gwybodaeth ar leoliadau crefyddol ac ysbrydol ar Ynys Môn, bydd y mater yn cael ei drafod yn ystod Eitem 5 ar yr agenda.

  Mae Prosiect Pererin yr Eglwys yng Nghymru yn mynd rhagddo a’r gobaith yw gwahodd aelod o’r prosiect i gyfarfod nesaf y CYSAG i roi diweddariad ar y gwaith o baratoi adnoddau i ysgolion. 

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 256 KB

  Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2023.

 

  Ystyried enwebiadau i Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas (gohebiaeth ynghlwn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd yn rhithiol ar 25 Hydref 2023 er gwybodaeth a chawsant eu nodi.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau i Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.  Dywedodd y dylid anfon unrhyw enwebiadau at Ysgrifennydd CCYSAGauC erbyn 22 Mawrth 2024.

 

Rhoddodd aelod o’r CYSAG wybod i’r Pwyllgor y cynhelir Cynhadledd CCYSAGauC yn Wrecsam ar 13 Mehefin 2024. Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd y bydd y gwahoddiadau yn cael eu hanfon i’r CYSAG yn dilyn y cyfarfod heddiw.

 

PENDERFYNWYD y bydd yr Uwch Reolwr Cynradd yn anfon neges at yr aelodau ddechrau mis Mawrth 2024 i’w hatgoffa’r ynglŷn â’r gwahoddiad i gynnig enwebiadau i Bwyllgor Gwaith CCYSAGauC.

4.

Teithiau Dysgu - Ysgol Bodffordd pdf eicon PDF 78 KB

  Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd ac aelodau’r CYSAG a fynychodd Ysgol Bodffordd.

 

  Trafodaeth am bererindodau lleol Môn.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi ymweld ag Ysgol Bodffordd gyda Mr Edward Morus Jones ar ‘daith ddysguar 6 Chwefror 2024. Roedd crynodeb o’r ymweliad wedi’i gynnwys yn y pecyn adroddiadau. Fel rhan o’r ymweliad, cafodd aelodau’r CYSAG gyfle i weld y plant yn cymryd rhan mewn gwasanaeth torfol, a’r thema oedd ‘cariad a charedigrwydd’.

 

Rhoddodd Mr Edward Morus Jones adborth yn dilyn yr ymweliad a dywedodd bod gan Ysgol Bodffordd bennaeth, 3 athro a 85 disgybl. Dywedodd bod y disgyblion wedi trafod ystyr y gair haerllugrwydd (arrogance) a phwysigrwydd bod yn garedig. Atebodd y plant gwestiynau a dywedodd bod pobl o’r gymuned yn dod i’r ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau e.e.Agor y Llyfr’. Roedd plant yr ysgol hefyd yn medru adrodd rheolau’r ysgol ar goedd, sefGeiriau Caredig, Dwylo Caredig, Traed Caredig”.

 

Dywedodd aelodau’r CYSAG eu bod edmygu awyrgylch naturiol a hamddenol yr ysgol ac roedd wedi bod yn fraint cael sgwrs gyda’r Pennaeth, athrawon a disgyblion. 

 

Roedd y CYSAG wedi’u hysbrydoli gyda’r modd y mae pobl ifanc yn addasu i newidiadau yn ein hysgolion ac roeddent yn gwerthfawrogi’r adborth yn dilyn yr ymweliad ag Ysgol Bodffordd. Amlygwyd y dylai’r CYSAG gael ei herio ac y dylai ddysgu o’r newidiadau y mae disgyblion yn eu profi mewn ysgolion.

 

Roedd aelodau’r CYSAG yn teimlo y byddai’n fanteisiol caeltaith ddysgumewn ysgol uwchradd i hyrwyddo’r cydweithio rhwng y CYSAG ac ysgolion Môn. Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd y bydd y ‘daith ddysgunesaf yn digwydd yn Ysgol Gyfun Llangefni.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ar y ‘Teithiau Dysgu’.

  Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn trefnu i gynnal taith ddysgu nesaf y

   CYSAG yn Ysgol Gyfun, Llangefni.                    

5.

Lleoliadau Crefyddol ac Ysbrydol ar Ynys Môn

Trafodaeth agored gan y CYSAG.

 

(Gofynni’r i’r aelodau baratoi gwybodaeth am leoliadau fel testyn trafod a datblygu.)

Cofnodion:

Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd bod y CYSAG wedi trafod y posibilrwydd o ddewis 2 neu 3 lleoliad crefyddol neu ysbrydol yn ei gyfarfod diwethaf er mwyn creu adnoddau i’w rhannu gydag ysgolion Ynys Môn.

 

Mewn ymateb i gais am wybodaeth, cynigodd aelodau’r CYSAG y lleoliadau isod gan roi crynodeb o’u rheswm dros ddewis y lleoliadau hyn: -

 

  Eglwys Unedig Noddfa, Trearddur

  Capel Rhos y Gad, Llanfairpwll

  Canolfan Geidiaid Ynys Môn, Penrhoslligwy

  Ardal RhosyrEglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn, Aberffraw

  Eglwys Niwbwrch

  Eglwys Cybi Sant, Caergybi

  Stori Cybi Sant a Sant Seiriol, Ffynnon Cybi Caergybi a Ffynnon Seiriol,  

   Penmon

  Eglwys Llanbadrig, Cemaes

  BiwmaresEglwys Hanesyddol; Eglwys Sant Tysilio, Porthaethwy a  

   Llanfairpwll

  Capel Cildwrn a Chapel Penuel, Llangefni

  Eglwys Llanfigael, Llanfachraeth 

  Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill

  Capel Ebeneser, Rhosmeirch

  Capel Seion, Llandrygarn

  Yr Eglwys Gatholig; Eglwys y Llan; Capel Mawr, Amlwch

 

Adroddodd aelodau’r CYSAG bod llyfrau ar gael ar leoliadau crefyddol ar Ynys Môn. Awgrymwyd y dylid gweithio gyda’r gwasanaeth llyfrgelloedd ac archifau i greu pecynnau gwybodaeth. Nodwyd bod aelod staff o’r Prosiect Pererin yn gweithio ar adnoddau ar gyfer ysgolion Ynys Môn, yn cynnwys Sant Seiriol a Chybi Sant. 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd y byddai’n cysylltu â staff y Gwasanaeth Archifau i ofyn am help i gasglu a chyflwyno gwybodaeth ar leoliadau crefyddol ac ysbrydol.  Yna, bydd cyfle i’r CYSAG roi barn ar y pecynnau i ysgolion a’u cymeradwyo maes o law.

 

PENDERFYNWYD y bydd yr Uwch Reolwr Cynradd yn cysylltu â’r Gwasanaeth Archifau a Llyfrgelloedd i drafod a pharatoi adnoddau’r CYSAG ar gyfer ysgolion.

6.

Aelodaeth a Chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) pdf eicon PDF 390 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc am y newidiadau deddfwriaethol yn sgil Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’r gofyniad i awdurdod lleol sefydlu CYSAG wedi cael ei ddisodli gyda’r gofyniad i gynnwys Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Dywedodd y Cyfarwyddwr bod briff y CYS yn fwy eang na’r CYSAG a hynny am ei fod yn cynnwys nid yn unig crefydd, ond crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn Fframwaith y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cyfansoddiad y CYS yn wahanol oherwydd mae’n rhaid iddo gynnwys cynrychiolwyr sydd ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.

 

Ym mis Mawrth 2022 cyflwynwyd adroddiad i’r CYSAG a oedd yn awgrymu y dylid gwahodd aelod o Ddyneiddwyr y DU i ymuno â’r CYSAG. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnwyd am gyngor cyfreithiol a phenderfynwyd y dylid adolygu aelodaeth y CYSAG.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod Swyddogion o’r Gwasanaeth Dysgu wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth ar wahanol grwpiau crefyddol ar Ynys Môn. Anfonwyd gohebiaeth at y grwpiau hyn yn gofyn iddynt rannu gwybodaeth am nifer eu haelodau, ac mae’r ymatebion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd nad yw’r data’n gyflawn. Er hynny, fe’i defnyddiwyd i gynnig argymhelliad i’r Cyngor Sir i fwrwmlaen â’r mater hwn. 

 

Gofynnwyd i’r CYSAG ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, h.y. i barhau i gynnig sedd i’r chwe enwad Cristnogol, y grefydd gryfaf ar Ynys Môn (51.5%).  Hefyd, bod sedd yn cael ei chynnig i gynrychiolydd o’r Tystion Jehova, y Dyneiddwyr ac Islam. Cynigir y bydd y newid yn sicrhau cynrychiolaeth deg o ran yr enwadau Cristnogol, crefyddau eraill ac argyhoeddiadau anghrefyddol, ac y bydd yn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

 

Bu i aelodau’r CYSAG amlygu anghysondebau o ran niferoedd yr aelodau sy’n cynrychioli’r enwadau Cristnogol. Bu i aelodau’r CYSAG ddarparu’r diweddariad a ganlyn: -

 

  Roedd gan yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru 962 aelod yn 2022.

  Mae’r ffigwr a ddarparwyd ar gyfer yr Eglwys Gatholig yn cynrychioli nifer y

   mynychwyr ar un diwrnod o’r flwyddyn ac nid yw’r ffigwr yn adlewyrchu nifer

   aelodau’r Eglwys Gatholig.

  Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru 28 aelod ychwanegol o Undeb

   Bedyddwyr Prydain Fawr ac nid yw’r rhain wedi cael eu cynnwys yn y

   ffigurau.

 

Roedd aelodau’r CYSAG yn poeni am y ffigurau a ddarparwyd ar gyfer yr Eglwysi Cristnogol, yn enwedig yr Eglwys Bentecostaidd a’r Eglwys Arloesi (Pioneer Church), y gellid eu labelu’n eglwysi carismataidd, gyda nifer o aelodau gweithgar iawn. Amlygwyd y byddai’r ffigyrau ar gyfer yr eglwysi hyn, pe byddent yn cael eu cyfuno, yn uwch na’r ffigurau ar gyfer y cynrychiolwyr Cristnogol presennol sydd wedi cael eu rhestru yn yr adroddiad.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â newid cyfansoddiad y CYSAG i sicrhau mwy o gydraddoldeb ac amrywiaeth. Awgrymwyd y dylid edrych ar aelodaeth bresennol y CYSAG ac ystyried gwahodd gwahanol eglwysi gyda  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Unrhyw Faterion Eraill

Unrhyw faterion eraillgyda chytundeb y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd ei fod yn paratoi Adroddiad Blynyddol drafft a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y CYSAG.

8.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG ar ddydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024 am 2.00 o’r gloch yp.

 

Cofnodion:

Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024 am 2:00 pm.