Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor, ac yn rhithwir drwy Zoom, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Iau, 17eg Hydref, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.     

Cofnodion:

Dim i’w derbyn.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 156 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, a chadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd 17 Gorffennaf 2024, yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion: -

 

  Mae cyflwyniad gan Ganolfan Addysg Grefyddol Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda heddiw.

  Cadarnhawyd bod copi o gyflwyniad y Pilgrimage Project wedi’i rannu gyda’r CYS.

  Bydd Adroddiad Drafft Blynyddol y CYS ar gyfer 2023/24 yn cael ei gyflwyno i’r CYS yn ystod eitem 4 ar yr agenda heddiw.

  Cadarnhawyd bod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng y Pennaeth Democratiaeth ac Arweinwyr Grŵp ynghylch penodi dau aelod newydd i’r seddi gwag ar y CYS. 

3.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno’r canlynol er gwybodaeth: -

 

·   Gweithgareddau’r Gymdeithas 2023/24

·   Adroddiad y Trysorydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar weithgareddau’r CCYSAGauC yn ystod 2023 a 2024, a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 13 Mehefin 2024 er gwybodaeth a chawsant eu nodi.

 

Roedd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS yn bresennol yng Nghynhadledd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y CCYSAGauC ar 13 Mehefin 2024, ym Mhrifysgol Wrecsam, ar y cyd â PYCAG.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol o’r cyfarfod: -

 

  Fe siaradodd yr Athro Graham Donaldson am bwysigrwydd CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

  Siaradodd Lynn Neagle am CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru, ac amlinellu ei blaenoriaethau.

  Cynhaliwyd seminarau ymneilltuo gan ysgolion ar y Cwricwlwm i Gymru.

Cyfeiriwyd at un ysgol oedd yn cymryd rhan mewn Prosiect y Cyngor Celf ar y themaCynefin’. Roedd yr ysgol yn edrych ar amrywiaeth yn ei chymuned ac wedi gweithio gydag ysgol yn Wrecsam ar ddarn celf yn seiliedig ar y themahunaniaeth’. Drwy’r thema hwn, cafodd y disgyblion gyfle i fyfyrio ar eu hunaniaeth, pwy oedden nhw, eu credoau, o ble maen nhw wedi dod a ble maen nhw’n ei alw’nadref’.

 

Nodwyd bod athrawon ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru wedi mynychu Cynhadledd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y CCYSAGauC. Roedd trafodaethau’n canolbwyntio ar lywodraethu ym maes CYSau, a sut mae CYSau yn darparu cefnogaeth ac yn monitro eu hysgolion eu hunain.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

      (Ymunodd Sarah Lloyd a Dr Gareth Evans-Jones â’r cyfarfod am 2:10pm)

4.

Adroddiad Blynyddol Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 503 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol CYS Ynys Môn ar gyfer 2023/24.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft y CYS ar gyfer 2023/24 gerbron y CYS am ystyriaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd a rhoddodd deyrnged i’r diweddar Miss Bethan James, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y CYSAG, a fu farw mis Ionawr eleni. Diolchodd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS, a fu’n gweithio gyda Miss James yn GwE, i’r Cadeirydd am ei geiriau caredig.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pwyntiau canlynol yn ei chrynodeb: -

 

  Mae newidiadau diweddar i aelodaeth y CYS wedi ehangu’r cwmpas ar

   gyfer aelodau newydd.

  Mae adroddiadau archwilio Estyn yn ystod y 12 mis diwethaf wedi dangos

   bod safonau Addysg Grefyddol yn Ynys Môn wedi bod yn rhagorol.

  Bu Cadeirydd ac aelod arall o’r CYS yn ymweld ag Ysgol Bodffordd ac

   roeddynt wedi synnu pa mor dda mae CGM wedi ymgorffori mewn gwersi

   yn yr ysgol. Cafodd aelodau eraill o’r CYS eu hannog i ymweld ag ysgolion

   yn ystod y flwyddyn newydd.

  Mae nifer y disgyblion sy’n astudio CGM TGAU wedi cynyddu.

  Gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r cwricwlwm drwy gynhyrchu casgliad o

   leoliadau ysbrydol ar gyfer ysgolion, fydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

 

Cyfeiriodd Ymgynghorydd Proffesiynol CYS at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad: -

 

  Bydd crynodeb y Cadeirydd yn cael ei gynnwys dan Adran 1.1. yr

   adroddiad.

  Mae dolenni at Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru

   wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

  Mae blynyddoedd 10, 11, 12 a 13 mewn ysgolion ar Ynys Môn yn

   defnyddio’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol fel eu Maes Llafur

   Cytunedig Lleol.

  Mae nifer y disgyblion sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch

   wedi disgyn ers y llynedd.

  Archwiliodd Estyn 7 ysgol y llynedd, ac adrodd ar bob un.

  Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweithredu ar geisiadau gan y CYS, a amlinellir

   yn Adran 2.4 yr adroddiad.

  Mae’n ddyletswydd ar ysgolion i gynnig sesiynau addoli ar y cyd mewn

   ysgolion. Mae adnoddau ar gyfer ysgolion ar wefan y CCYSAGauC i fodloni

   gofynion statudol mewn perthynas ag addoli ar y cyd.

  Mae templed CYS yn adran 3.3 yr hunan-werthusiad ar gyfer ysgolion

   mewn perthynas â safonau Addysg Grefyddol yn cyfeirio at Addysg

   Grefyddol yn hen Fframwaith Archwilio Estyn. Mae Estyn wedi addasu ei

   Fframwaith, a bellach mae ganddo 3 maes archwilio yn hytrach na 5. Mae’r

   templed wedi dyddio, a bydd angen cael gwared arno ar gyfer yr adroddiad

   blynyddol nesaf. Efallai y bydd angen ei ail ysgrifennu os yw ysgolion yn

   edrych ar Addysg Grefyddol drwy lygaid Estyn.

  Roedd y meini prawf maes archwilio ar dudalen 28 ar gyfer hunan-

   werthusiad ysgolion ar Addysg Grefyddol yn berthnasol yn ystod cyfnod yr

   adroddiad, ond bydd angen ei ddiweddaru.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Addysg, yr Uwch Reolwr Cynradd (Clerc y CYS) ac Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS am eu gwaith yn paratoi Adroddiad Blynyddol y CYS.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi’r wybodaeth a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Dr Gareth Evans-Jones ar waith Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.

Cofnodion:

Cafwyd gyflwyniad gan Dr Gareth Evans Jones ar Ganolfan Genedlaethol  Addysg Grefyddol Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi athrawon ac Addysg Grefyddol ers yr 1970au. Dywedodd, ynghyd â Mrs Mefys Jones-Edwards, ei fod yn rhan o dîm a ail lansiodd y Ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023. Mae’r Ganolfan bellach yn cynrychioli sawl crefydd a ffydd gwahanol er mwyn hyrwyddo addysg sy’n gysylltiedig â nhw.

 

Mae’r Ganolfan yn cynnig nifer o gyfleoedd i ymgysylltu gydag ysgolion a sefydliadau ffydd, am ddim. Ymhlith digwyddiadau diweddar mae: -

 

·        Cynhaliwyd Ysgol Basg oedd yn cynnig sesiynau adolygu ar gyfer disgyblion oedd yn astudio TGAU a Safon Uwch.

·        Cynhaliwyd cynhadledd yng Ngholeg Sir Gâr, gyda dysgwyr blwyddyn 7 o ysgolion gwahanol yn bresennol.

·        Cafwyd sgwrs gyda Ficer Eglwys Anglicanaidd Trawsfynydd yn y Ganolfan, gyda 4 ysgol yn mynychu’n rhithiol.

·        Mae’r Ganolfan wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar yr Holocost, lle cafwyd panel rithiol i drafod sut i gofio’r Holocost mewn ffordd ddigidol. Codwyd pwyntiau, megis a yw’n dderbyniol defnyddio hologramau a DA (Deallusrwydd Artiffisial) i drafod yr Holocost.

 

Nodwyd bod y Ganolfan yn rhannu gwybodaeth am wahanol feddylwyr, athronwyr a damcaniaethwyr ar Instagram. Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, bydd gwybodaeth am arweinwyr crefyddol du pwysig yn cael ei rhannu ar Instagram, sy’n cysylltu â’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y Cwricwlwm i Gymru o ran creu amrywiaeth ehangach.

 

Ar Ddiwrnod y Ddaear, rhennir dyfyniadau gan amgylchfydwyr gwahanol. Mae cynrychiolydd o’r Ganolfan yn gweithio gyda’r Prosiect Heddwch mewn Addysg, a gafodd ei gynnal yn Eisteddfod Llangollen.

 

Nod y Ganolfan yw parhau i gefnogi athrawon ledled Cymru a chefnogi Addysg Grefyddol. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Ganolfan yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rolau ymgynghorol a sefydliadau ffydd a bydolygon. Mae trafodaethau ar sut i gydweithio’n well â’r CYS hefyd wedi bod yn mynd rhagddynt.

 

Dywedodd Mrs Mefys Jones-Edwards bod staff yn y Ganolfan wedi cynnig cefnogaeth i ysgolion Ynys Môn, yn enwedig Ysgol Syr Thomas Jones (YSTJ). Dywedodd bod athrawon yr ysgol uwchradd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r sesiynau hyfforddi sydd ar gael i ysgolion, sy’n cael eu darparu mewn ffordd ddiddorol. Nodwyd bod y Ganolfan yn darparu adnoddau arbennig, ac mae disgyblion YSTJ wedi elwa o gymryd rhan yn y sesiynau. Diolchodd yr athrawes i Mr Evans-Jones a’i staff am eu gwaith.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut mae gwerthoedd anghrefyddol yn cael eu cysylltu â gwaith y Ganolfan mewn ffordd gadarnhaol? Dywedodd Dr Evans-

Jones bod staff yn y Ganolfan yn gweithio’n agos gyda Humanists UK, ac wedi meithrin perthynas iach gyda’r sefydliad. Dywedodd bod y Ganolfan yn cydnabod ac yn ymgorffori bydolygon anghrefyddol yn eu gwaith, a’i fod yn rhan annatod o’r Cwricwlwm Newydd. Nodwyd bod cynrychiolydd ar gyfer y Dyneiddwyr yn mynychu Diwrnod y Panel Rhyng-ffydd ym Mhrifysgol Bangor ar 13 Tachwedd 2024, a bydd bydolygon llai poblogaidd hefyd yn cael eu cynrychioli.

 

Gofynnwyd a oedd y Ganolfan ynghlwm ag addysgu diwinyddiaeth cyd-destunol ar lefel gradd neu ôl-radd? Dywedodd Dr Evans-Jones ei fod yn ddarlithydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ymweliad Aelod CYSAG Ynys Môn i Ysgol Uwchradd

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynradd bod trefniadau ar waith i aelod o’r CYS ymweld ag ysgol uwchradd ar Ynys Môn. Yn anffodus, nid oedd yr ysgol yn gallu hwyluso’r ymweliad hwnnw, a thynnwyd eu gwahoddiad yn ôl.

 

Dywedodd y Cadeirydd ac Is-gadeirydd eu bod yn fodlon mynychu ymweliad ysgol.

 

PENDERFYNWYD bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn trefnu ymweliad ag ysgol uwchradd ar Ynys Môn yn fuan.

 

(Ymunodd Mrs Manon Morris-Williams â’r cyfarfod am 3:00pm)        

 

7.

Diweddariad ar Ysgolion Uwchradd a TGAU Astudiaethau Crefyddol Drafft pdf eicon PDF 1 MB

·        Derbyn diweddariad ar Ysgolion Uwchradd Ynys Môn.

 

·        Derbyn diweddariad ar gymhwyster newydd TGAU Astudiaethau Crefyddol o fis Medi 2025.

Cofnodion:

Siaradodd Mrs Mefys Jones-Edwards am ei phrofiad o addysgu Addysg Grefyddol yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Dywedodd bod nifer uchel o ddisgyblion yn dilyn y pwnc ar lefel TGAU a Safon Uwch yn ei ysgol.

 

O ran pynciau Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, dywedodd yr athrawes bod y cwestiwn mawr yn cael ei drin mewn ffordd ddisgyblaethol. Dywedodd ei bod yn addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, tra bod yr arbenigwyr Hanes a Daearyddiaeth yn addysgu eu pynciau unigol, a bod yr athro Busnes yn darparu mewnbwn i’r pwnc. Nodwyd, yn YSTJ, bod myfyrwyr yn gwneud llawer o waith ar y pwnc: maent yn edrych ar lyfrau, mae’r athro’n cwestiynu’r disgyblion ac yn gwrando arnynt, sy’n creu sylfaen gref wrth baratoi ar gyfer TGAU.

 

Dywedodd yr athrawes, er mwyn cyflwyno’r cwestiwn mawr mewn Dyniaethau, rhaid cynllunio ymlaen llawn. Mae’n rhaid i bob athro Dyniaethau fod yn ymwybodol o’r hyn mae athrawon eraill o fewn y pwnc yn ei addysgu fel eu bod yn plethu gyda’i gilydd er mwyn creu’r darlun mwy. Ar ddiwedd bob cwestiwn mawr, gall athrawon gwahanol ymateb i bob pwnc Dyniaethau. Mae’n rhaid i athrawon allu gweld y cysylltiad rhwng pynciau er mwyn bodloni anghenion y Cwricwlwm Newydd. Dywedodd ei bod yn bosibl dewis eich trywydd, a chynhelir trafodaethau cyson rhwng athrawon a disgyblion. Dywedodd yr athrawes ei bod yn angerddol iawn dros Addysg Grefyddol, a’i bod hi eisiau gweithredu’r manyleb newydd yn gywir, fel bod disgyblion yn cyrraedd y safon.

 

Mynegodd yr athrawes bryder bod y Manyleb Drafft newydd ar gyfer TGAU yn drwm a manwl, er bod rhai elfennau’n plethu gyda’r Cwricwlwm i Gymru. Gwahoddodd aelodau o’r CYS i ymweld ag YSTJ i siarad a dysgwyr ac edrych ar eu gwaith.

 

Dywedodd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS fod CBAC wedi cadw’r elfen Addysg Grefyddol yn hytrach na newid y cymhwyster i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg TGAU. Dywedodd fod pryderon wedi’u mynegi nad yw disgyblion yn barod ar gyfer TGAU ym mlynyddoedd 7, 8 a 9, a’u bod yn colli allan ar ehangder y lensys am eu bod yn paratoi ar gyfer TGAU. Gall hyn gyfyngu’r cwricwlwm a bydd disgyblion yn colli allan ar gyfleoedd diddorol yn ystod blynyddoedd 7, 8 a 9, gan fod Cristnogaeth a’r 5 system cred mawr dal yn cael eu defnyddio. Nodwyd y bydd cyfle yn un o’r unedau i drafod Paganiaeth, er enghraifft, ond ni fydd hynny yn ystod y cwrs TGAU cyfan.

          

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

8.

Unrhyw faterion eraill yn benodol i'r CYS

Materion i’r cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Gofynnwyd a oedd CYS Ynys Môn yn adrodd ar archwiliadau Adran 50 ar gyfer Addysg grefyddol, gan fod gan ysgolion enwadol gwirfoddol a gynorthwyir archwiliadau ar wahân ar gyfer Addysg grefyddol.

 

Dywedodd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS nad yw adrodd ar archwiliadau Adran 50 o fewn cylch gorchwyl y CYS, ond byddai’n croesawu hynny yn sgil y berthynas rhwng y sectorau gwahanol o ganlyniad i’r Cwricwlwm i Gymru a’r ddogfen canllawiau. O ran pleidleisio’r CYSAG, byddai agen cymeradwyaeth gan yr Eglwys yng Nghymru, y Sector Catholig a’r CYS. Nodwyd nad yw ysgolion yr Eglwys yng Nghymru wedi’u harchwilio ers cyn Covid.

 

  Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn e-bost gan athro ar Ynys Môn yn gofyn am eglurder ynghylch y gofynion statudol ar gyfer Addysg Grefyddol Cyfnod Allweddol 4.

 

Dywedodd Ymgynghorydd Proffesiynol y CYS fod yr hawl statudol wedi cynyddu i 16 oed. Dywedodd fod rhaid addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg neu Addysg Grefyddol i bob disgybl ym mlwyddyn 7, 8 a 9. Os addysgir Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddisgybl, mae hynny’n disodli Addysg Grefyddol. Os nad yw disgyblion yn astudio Addysg Grefyddol, byddai’n rhaid iddynt lynu wrth y Maes Llafur Cytunedig.

 

 

  Dywedodd y Cadeirydd bod cynnydd wedi bod mewn troseddau casineb a chrefydd. Dywedodd y dylid gwahodd cynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru i roi cyflwyniad ar drosedd casineb. Dywedodd ei bod wedi derbyn gohebiaeth gan y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb, Casineb a Throseddu, ac gofynnod am sylwadau’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

  Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn cysylltu â Jenny Downs o’r Eglwys yng Nghymru i geisio cymeradwyaeth i’r CYS gynnwys adroddiadau Adran 50 yr Eglwys fel rhan o werthusiadau’r CYS mewn archwiliadau ysgolion.

  Bod yr Uwch Reolwr Cynradd yn gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb, Casineb a Throsedd i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym mis Chwefror i gyflwyno trosolwg ar waith yr Heddlu.

9.

Cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf CYS ar Ddydd Iau, 13 Chwefror 2025 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.     

Cofnodion:

Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y CYS yn cael ei gynnal ddydd Iau, 13 Chwefror 2025 am 2:00 pm.