Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y cyfarfod - 18 Ebrill 2018 PDF 447 KB • Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018.
• I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar yr isod:-
Materion yn codi
(2) - Cofnodion
• Cafodd ymateb Mr Rhun ap Iorwerth, AC i benderfyniad Pwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru ar y ddeiseb addoli ar y cyd ei anfon at aelodau’r CYSAG ar 9 Mai, 2018. • Ymhellach i bryderon y CYSAG ynghylch prinder hyfforddiant addas i athrawon AG drwy gyfrwng y Gymraeg, dywed Yr Athro Euros Wyn Jones y bydd Mr Rheinallt Thomas, fel Llywydd yr Eglwysi Rhydd yng Nghymru, yn codi’r mater mewn cyfarfod fforwm o’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg a’r Colegau Addysg Uwch ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG yn y man. • Nodwyd bod y templed newydd ar gyfer adroddiadau hunanarfarnu ysgolion wedi cael ei rannu gyda’r CYSAG.
(3) - Crynodeb y Cadeirydd o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2016/17
Cadarnhawyd bod copi o Grynodeb y Cadeirydd wedi cael ei anfon at y Pennaeth Dysgu fel y gellir cwblhau’n derfynol Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2016/17.
(4) – Safonau Addysg Grefyddol
Oherwydd y rhaglen lawn, ni fu modd cynnwys ‘Addoli ar y Cyd mewn Ysgolion’ ar raglen Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd yn Ynys Môn ar 6 Gorffennaf, 2018.
PENDERFYNWYD bod y Cadeirydd, ar ran y CYSAG, yn gofyn am i ‘Addoli ar y Cyd mewn Ysgolion’ gael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer ei drafod yn yng nghyfarfod nesaf Cymdeithasu CYSAGau Cymru.
Gweithredu: Fel y nodir uchod.
(5) – Cefnogaeth ar gyfer y Dyfodol
• Nodwyd nad yw Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, wedi ymateb i ohebiaeth y Cadeirydd yn mynegi pryderon y CYSAG fod cefnogaeth Miss Bethan James i GYSAG Ynys Môn wedi cael ei thynnu’n ôl heb air o rybudd ymlaen llaw.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, yn mynegi siom y CYSAG nad yw wedi ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cadeirydd. • Bod y CYSAG yn gwahodd Mr Thomas i fynychu ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2019.
Gweithredu: Fel y nodir uchod.
• Dywedodd y Cadeirydd fod y Pennaeth Dysgu wedi trefnu i Benaethiaid Adrannau Addysg Grefyddol pob un o’r 5 ysgol uwchradd yn Ynys Môn weithredu fel Ymgynghorwyr Her i’r CYSAG, gan ffeirio bob blwyddyn.
Cytunodd y CYSAG i fonitro’r sefyllfa ond roedd yn teimlo nad oedd modd i’r trefniant hwn ddiwallu’r gefnogaeth a’r arweiniad sydd ei angen arno i ymgymryd â’i rôl a’i gyfrifoldebau. Roedd aelodau’r CYSAG yn pryderu y byddai athrawon yn cael eu rhoi dan fwy o bwysau i gymryd dyletswyddau ychwanegol pan maent eisoes yn rhy brysur.
• Nodwyd bod yr Aelod Portffolio Addysg wedi cael ei hysbysu am bryderon y CYSAG ynghylch y ffaith bod GwE wedi tynnu’n ôl gefnogaeth ac arweiniad Ymgynghorydd Her GwE i’r CYSAG.
• Mae’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Adroddiad Blynyddol CYSAG Môn ar gyfer 2016/17 PDF 838 KB • Cyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17.
• Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG.
Cofnodion: Mabwysiadwyd yr adroddiad uchod gan y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf ym mis Ebrill, 2018.
Dywedodd y Cadeirydd y cafodd y Cynllun Gweithredu ei lunio gan Miss Bethan James, yr Ymgynghorydd Her GwE ar y pryd a’i fod yn seiliedig ar y pedwar argymhelliad yn yr adroddiad.
Mynegodd y CYSAG bryderon nad oedd y Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddiweddaru a bod ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn paratoi Adroddiadau Blynyddol y CYSAG yn y dyfodol. Awgrymwyd a chytunwyd gan y CYSAG y byddai’n yn gofyn am arian drwy’r Pennaeth Dysgu, gyda golwg ar brynu arbenigedd allanol i ymgymryd â’r dasg o baratoi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18, sy’n ofyniad statudol.
Nodwyd bod rhai o aelodau’r CYSAG yn teimlo nad oeddynt wedi cael cyfle i ymgymryd â’u dyletswyddau’n llwyddiannus o ran cyflawni’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2016/17.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Clerc, ar ran y CYSAG, yn gofyn am gyllid gan y Pennaeth Dysgu gyda golwg ar sicrhau arbenigedd allanol i ymgymryd â’r dasg o baratoi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18. • Bod Mrs Helen Bebb, gyda chymorth Mrs Heledd Hearn, yn paratoi Cynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2018/19. Er mwyn i’r trefniant hwn weithio, bydd angen cytuno i Mrs Bebb gael oriau ychwanegol.
Gweithredu: Fel y nodwyd uchod. |
|
Cyflwyno adroddiad ar Arolwg Estyn (Mehefin 2018) mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 and Chyfnod Allweddol 3. Cofnodion: Cafwyd crynodeb gan Glerc y CYSAG o’r wybodaeth ar Adroddiad Arolwg Estyn ar AG yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Mae’r adroddiad yn nodi’n glir y safonau a ddisgwylir o ysgolion.
Nodwyd bod safonau’n dda o ran AG yn y mwyafrif o ysgolion. Yn CA2, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth AG. Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion yn gwneud digon o gynnydd gyda phlant mwy galluog a’r angen i’w herio mwy. Yn CA3, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn gwersi ac yn cyflawni’n unol â’u gallu a’u hoedran.
Amlygwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth:-
• Mae geiriau fel ‘dylai’ yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro yn nherminoleg Estyn, sy’n datgan beth yn union sy’n ddisgwyliedig o’r ysgolion. Wrth gyfeirio at ffigyrau, mae Estyn yn defnyddio geiriau megis ‘llawer’ i olygu 70% neu ragor; ‘ychydig’ i olygu dan 20%. Mae’n bwysig bod athrawon yn gyfarwydd â therminoleg newydd Estyn. • Mae angen mwy o waith pontio rhwng y sector cynradd ac uwchradd o ran AG. • Mae arweinyddiaeth yn gyffredinol yn dda yn y rhan fwyaf o’r ysgolion ac yn gryfach yn y sector uwchradd na’r sector cynradd. • Mae angen gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth yn unig mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson 2015). Nodwyd mai dim ond lleiafrif o ysgolion sydd wedi gwneud newidiadau i’r cwricwlwm hyd yma. • Mynegwyd pryderon ynghylch y defnydd cynyddol o TG mewn AG a’r cwricwlwm newydd ac effaith hyn ar athrawon. Mae disgwyl iddynt addasu i’r newidiadau heb gael cynnig unrhyw hyfforddiant TG i wella eu sgiliau. • Mae rhai athrawon ofn rhag iddynt ‘ddweud y peth anghywir’ wrth ddysgu crefyddau eraill ac eithrio Cristnogaeth. Nododd yr athrawon hefyd y gall fod yn heriol pan mae teimladau agnostig cryf yn y cartref. • Nodwyd nad oes gan y CYSAG drosolwg o gydlynwyr AG mewn ysgolion yn y sector cynradd er mwyn hwyluso rhannu gwybodaeth ac adnoddau. O’r herwydd, awgrymyd a chytunwyd bod data-bas o gydlynwyr AG yn cael ei lunio fel bod gan yr ysgolion a’r CYSAG bwyntiau cyswllt yn yr ysgolion cynradd. • Dywed yr adroddiad bod ‘y rhan fwyaf o Brifathrawon yn ymwybodol o’r CYSAG lleol, ond yn ansicr ynghylch ei rôl a’i bwrpas’.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch rôl a chyfrifoldeb y CYSAG, awgrymwyd y dylai aelodau’r CYSAG gael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod nesaf o Benaethiaid ysgolion uwchradd Ynys Môn.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y CYSAG yn derbyn yr argymhellion uchod. • Bod yr Ymgynghorydd Her yn cynnwys yr argymhelliad ym mhwynt bwled 7 uchod yng Nghynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2017/18. • Bod Clerc y CYSAG yn diweddaru’r Cadeirydd ar y trefniadau ar gyfer cyfarfod Penaethiaid Ysgolion Ynys Môn. • Estyn gwahoddiad i Mrs Heledd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Safonau Addysg Grefyddol PDF 517 KB Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag arolygiadau ysgolion - Hydref 2017, Gwanwyn ac Haf 2018. Cofnodion: Arolygiadau Ysgol Estyn - Gwanwyn 2018
Cyflwynwyd er ystyriaeth y CYSAG, wybodaeth o adroddiadau arolygiadau Estyn ar gyfer Ysgol Rhosybol, Ysgol Bryngwran ac Ysgol Gynradd Llanfairpwll.
Dywedodd y Cadeirydd bod y tair ysgol a arolygwyd wedi cael canlyniadau ardderchog gan Estyn ac y dylid eu llongyfarch ar eu gwaith.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd.
• Bod Clerc y CYSAG:-
• yn ysgrifennu at y tair ysgol yn eu llongyfarch ar eu llwyddiant yn adroddiadau arolwg Estyn, ac • yn dweud wrth yr ysgolion uchod bod y CYSAG wedi trafod eu llwyddiannau yn y cyfarfod heddiw fel rhan o waith y CYSAG sy’n ymwneud â monitro safonau AG mewn ysgolion, ac • yn gwahodd Pennaeth Ysgol Rhosybol i gyfarfod nesaf y CYSAG i drafod llwyddiannau ac arferion da yn yr ysgol.
Gweithredu: Fel y nodir uchod. |
|
Canllawiau i Ysgolion ar Gyfer Hunanarfarnu PDF 1012 KB Cyflwyno canllawiau i Ysgolion Môn ar sut i hunan arfarnu Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd. Cofnodion: Dywedodd Clerc y CYSAG bod y canllawiau wedi cael eu paratoi gan Miss Bethan James, a’u bod yn ddefnyddiol iawn o ran sut i hunanarfarnu addoli ar y cyd ac AG mewn ysgolion. Maent yn cynnwys syniadau i ysgolion ynghylch sut i gyflwyno tystiolaeth ac yn defnyddio geiriau sy’n gyfarwydd i Estyn. Cyfeiriodd y Clerc at y templed hunanarfarnu ar gyfer ysgolion, sy’n rhestru enghreifftiau o’r math o wybodaeth y dylid ei chyflwyno mewn diwyg electronig. Nodwyd bod Estyn yn awr wedi cynnwys pump o gwestiynau yn y templed o gymharu â’r tri blaenorol. Nodwyd ymhellach bod yr holl ysgolion a arolygwyd y llynedd wedi derbyn copi o’r canllawiau.
Mynegodd y CYSAG eu gwerthfawrogiad i Miss Bethan James am ei gwaith ardderchog.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn y wybodaeth a gyflwynwyd.
Gweithredu: Dim
(Gadawodd Mrs Helen Bebb y cyfarfod am 3.00 pm)
|
|
Gweithdy CYSAG mewn perthynas a'r Cwricwlwm Newydd PDF 393 KB • Cyflwyno diweddariad gan Mr Christopher Thomas, CYSAG Môn, ar y cyfarfod o’r Gweithdy CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018.
• Cyflwyno’r cyhoeddiad ar y Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Haf 2018). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod o Weithdy CYSAG ar 18 Medi, 2018 yn Llandudno gyda Mr Christopher Thomas a Mrs Anest Frazer.
Rhoes Mr Christopher Thomas ddiweddariad ar y cyfarfod gan ddweud ei fod wedi ei galonogi gan y ffaith y bydd ysgolion yn cael y cyfle yn awr i ddylunio eu cwricwlwm eu hunain o fewn y fframwaith. Nodwyd bod Mr Thomas o’r farn bydd gwneud i ffwrdd ag arholiadau yn y dyfodol yn gam ymlaen a chyfeiriodd at y canlyniadau cyrhaeddiad positif y bydd ysgolion yn eu defnyddio ar gyfer asesiadau, e.e. ‘Gallaf wneud hyn’, ‘Rwyf wedi cael profiad o hyn’, sy’n rhoi argraff well o lawer o’r hyn y mae plentyn yn ei wneud.
Nodwyd y bydd Dyfodol Llwyddiannus yn cael ei weithredu yn 2022, ac y bydd hyn yn cael effaith ar y disgyblion hynny sydd ym Mlwyddyn 2 ar hyn o bryd. Nodwyd ymhellach nad yw absenoleb yr Ymgynghorydd Her Gwe i ddarparu cyngor glir a gwrthrychol am helpu’r CYSAG yn ei rôl.
Dywedodd Mrs Anest Frazer bod hwn yn amser pryderus i athrawon a disgyblion sydd wedi dewis AG fel pwnc TGAU oherwydd nad oes unrhyw adnoddau dwyieithog nac ychwaith unrhyw gydnabyddiaeth o statws cyfredol y cwricwlwm. Dywedodd ei bod wedi disgwyl i’r cwricwlwm newydd ddarparu mwy o atebion yn hytrach na’r ansicrwydd hwn.
Dygwyd at sylw’r CYSAG y ffaith y daethpwyd o hyd i anghysonderau yn ddiweddar mewn papur arholiad AG gan CBAC. Nodwyd bod gwahaniaethau rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg 5 o gwestiynau a gafwyd yn yr arholiad. Dywedodd y CYSAG fod anghysonderau o’r fath mewn papurau arholiad yn annerbyniol a chytunwyd i hysbysu CBAC am eu pryderon.
PENDERFYNWYD:-
• Bod Mrs Heledd yn cadarnhau ar bapur i’r Cadeirydd, amgylchiadau’r anghysonderau y daethpwyd ar eu traws gyda’r papur arholiad uchod. • Bod y Cadeirydd ar ran y CYSAG, yn drafftio llythyr swyddogol i CBAC yn gofyn am eglurhad ynghylch y camgymeriadau yn y papur arholiadau ac yn gofyn iddynt nodi pryderon y CYSAG ynghylch yr anghysonderau mewn papurau arholiad.
Gweithredu: Fel y nodir uchod.
|
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru PDF 1 MB Derbyn diweddariad gan Gadeirydd CYSAG Môn ar y cyfarfod CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ym Môn ar 7 Gorffennaf, 2017. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd bod nifer dda o aelodau CYSAG Ynys Môn wedi mynychu’r cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru ar gynhaliwyd yn Ynys Môn ar 6 Gorffennaf, 2018. Dywedodd bod y prif bwyntiau a godwyd yn cynnwys pryderon yng Ngogledd Cymru yn dilyn gwneud i ffwrdd â gwasanaeth Ymgynghorydd Her Gwe sydd hefyd effeithio CYSAGau Gwynedd, Fflint, Conwy a Sir Ddinbych. Nodwyd y mynegwyd pryder ynglŷn â’r dyfodol o ran y modd y dylai’r CYSAGau symud ymlaen a bod hwn yn fater sydd yn parhau i gael ei adolygu.
Dywedodd y Cadeirydd y cafwyd cyflwyniad ar yr adroddiad Estyn yn CA2 a CA3; trafodwyd cwricwlwm newydd Donaldson ynghyd â’r cyfarfod Gweithdy yn Llandudno.
Nodwyd bod Mrs Helen Bebb bellach yn aelod o’r Panel Asesu Cenedlaethol ar gyfer AG (NAPfRE). Fel aelod, disgwylir i Mrs Bebb fynychu cyfarfod cenedlaethol NAPfRE, fel cynrychiolydd CYSAG Ynys Môn.
PENDERFYNWYD nodi adborth y Cadeirydd a’r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod.
Gweithredu: Dim |
|
• Derbyn llythyr gan Kirsty Williams, AM, mewn ymateb i ohebiaeth y Cadeirydd ynglŷn â phryderon ynghylch TGAU a CBAC Safon Uwch mewn Addysg Grefyddol.
· Aelodaeth Dyneiddiol CYSAG Ynys Môn
I ystyried cais i aelod o’r Grŵp Dyneiddwyr lleol gael ymuno â CYSAG Môn. Cofnodion: Trafodwyd ymateb gan Kirsty Williams, AC yn eitem 2(5) y cofnodion.
Aelodaeth Dyneiddwyr ar CYSAG Ynys Môn
Darllenodd y Cadeirydd lythyr yr oedd wedi’i dderbyn ym mis Mehefin, 2018 oddi wrth Mr Richard Spate, Cadeirydd Grŵp Dyneiddwyr Bangor yn gofyn i’r CYSAG dderbyn cynrychiolwyr o grwpiau nad ydynt yn grefyddol ar y CYSAG.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am wybodaeth gan Mr Spate ynghylch nifer y Dyneiddwyr ar Ynys Môn ond nad ydyw wedi derbyn unrhyw ymateb hyd yn hyn.
PENDERFYNWYD nad yw’r CYSAG yn gwneud penderfyniad ar hyn o bryd, ond yn disgwyl am ymateb gn Mr Spate i gais y Cadeirydd.
Gweithredu: Dim |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Nodi bod y cyfarfod nesaf y CYSAG wedi ei raglennu ar gyfer 19 Chwefror 2019. Cofnodion: Nododd y CYSAG fod y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor wedi cael ei raglennu ar gyfer dydd Mawrth 19 Chwefror, 2019.
|