Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
• Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg nad oedd wedi cysylltu â Phrif Weithredwr Estyn mewn perthynas â’r diffyg cyfeiriad at Gristnogaeth fel y brif grefydd yn adroddiadau arolygiadau Estyn, gan fod y dull o arolygu ysgolion yn mynd trwy gyfnod trosiannol ar hyn o bryd. Nodwyd fod Estyn wedi dweud mewn cyfarfod diweddar o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol (NAPfRE) ei bod “yn parhau i fod yn gyfnod o newid a bydd canllawiau ar y disgwyliadau’n cael eu datblygu dros gyfnod o amser”. • Awgrymodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y dylid codi pryderon y CYSAG am adroddiadau arolygiadau Estyn gyda Phanel Gweithredol y CYSAG maes o law, yn hytrach na gyda Phrifathrawon. • Awgrymodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Prifathrawon ysgolion a arolygwyd gan Estyn yn ddiweddar yn cael eu gwahodd i gyflwyno enghreifftiau o waith eu disgyblion.
Mynegwyd pryderon fod deddfwriaeth yn datgan mai Cristnogaeth yw’r brif grefydd yng Nghymru, ond ni chaiff hyn ei adlewyrchu yng Nghanllawiau’r Maes Llafur Cytûn.
Darllenodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ddyfyniad o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 sydd yn nodi fod rhaid i’r dysgu a’r addysgu a ddarperir:-
(a) Adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a (b) Adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yng Nghymru.
PENDERFYNWYD gwahodd Penaethiaid o ysgolion a arolygwyd yn ddiweddar i gyflwyno enghreifftiau o waith eu disgyblion i’r CYSAG. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Ynys Môn 2021/22 PDF 1 MB I ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cysag Ynys Môn am y cyfnod 2021/22. Cofnodion: Darllenodd y Cadeirydd Grynodeb y Cadeirydd o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn a diolchodd i’r Cynghorydd Dylan Rees am ei arweinyddiaeth yn ystod y 9 mlynedd diwethaf.
Derbyniodd y CYSAG yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2021/22, yn amodol ar gywiro’r mân gamgymeriadau a nodwyd yn y cyfarfod. Ar ran y CYSAG, diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg am ei gwaith rhagorol wrth baratoi Adroddiad Blynyddol cynhwysfawr ar gyfer CYSAG Ynys Môn.
PENDERFYNWYD:-
• Bod yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn paratoi Cynllun Gweithredu i gofnodi cynnydd wrth gyflawni argymhellion y CYSAG yn yr Adroddiad Blynyddol, gan eu bod yn esblygu’n barhaus. • Mabwysiadu Adroddiad Blynyddol Drafft y CYSAG ar gyfer 2021/22, yn amodol ar gywiro mân gamgymeriadau. • Bod yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn anfon copi o fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol y CYSAG at Lywodraeth Cymru. |
|
Prosiect Pererindod yr Eglwys yng Nghynmru Derbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Crefydd , Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ar Brosiect Pererindod yr Eglwys yng Nghymru. Cofnodion: Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ei bod wedi mynychu cyfarfod ym mis Ionawr gyda Mrs Manon Williams o’r CYSAG a Mrs Elin Owen o Esgobaeth Bangor, i drafod ffyrdd o amlinellu a datblygu’r prosiect “Llan”, sef prosiect pum mlynedd yr Eglwys yng Nghymru. Nodwyd fod Esgobaeth Bangor yn mynd ati i benodi Swyddog Addysg ar hyn o bryd a bydd y swyddog yn cydweithio ar y prosiect gydag ysgolion ar Ynys Môn.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y bydd yn gofyn i Benaethiaid ar Ynys Môn enwebu cynrychiolydd o’r sector cynradd ac uwchradd i ymuno â Phanel Gweithredol CYSAG. Dywedodd y bydd prosiect yr Eglwys yng Nghymru’n ganolog i waith y Panel i hyrwyddo Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac y caiff ei rannu gydag ysgolion ledled y rhanbarth.
Dywedodd Mrs Manon Williams y gall ysgolion o wahanol ddalgylchoedd gymryd rhan yn y prosiectau “Llan” a “Pererin”. Dywedodd mai cynllun gwreiddiol yr Eglwys ar gyfer “Llan” oedd canolbwyntio ar Sant Cadfan a chyflwyno sioe ‘mewn cymeriad’. Bu’r actor Llion Williams yn portreadu Sant Cadfan mewn ysgolion, ac mae’r Esgobaeth wedi paratoi adnoddau dysgu i gyd-fynd â’r gweithgareddau hyn. Y bwriad yw cyflwyno’r sioe mewn capeli ac eglwysi ym mhob dalgylch a gwahodd disgyblion o wahanol ysgolion i fynychu, ynghyd ag arweinwyr crefyddol. Dywedodd y gellir defnyddio’r hyn y mae’r prosiect wedi’i gyflawni’n barod fel templed ar gyfer ysgolion, ac y gellir dilyn patrwm Sant Cadfan yn lleol neu mewn ardal ehangach. Ychwanegodd fod llawer iawn o arian wedi’i fuddsoddi ar bontio plant o’r sector cynradd i’r uwchradd ac awgrymodd y gellid defnyddio arbenigedd o’r sector uwchradd i greu prosiect pontio ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 6 a 7 i weithio gyda’i gilydd. |
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru PDF 317 KB Cyflwyno, er gwybodaeth:-
• Cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
• Llythyr gan Gadeirydd CCYSAGauC ar ran y Pwyllgor Gwaith.
• Ystyried enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith (gohebiaeth ynghlwn).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 er gwybodaeth a chawsant eu nodi.
Darllenodd y Cadeirydd lythyr gan Gymdeithas CYSAGau Cymru yn gwahodd CYSAGau ledled Cymru i gyflwyno enwebiadau ar gyfer dau aelod newydd i eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. Nodwyd y caniateir i bob CYSAG enwebu un aelod yn unig ar gyfer y Pwyllgor Gwaith. Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau anfon enwebiadau at yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg cyn gynted â phosib er mwyn eu cyflwyno i Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 31 Mawrth 2023.
Nodwyd nad os unrhyw un o Ynys Môn na Gwynedd wedi bod yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru ers tro byd ac nid oes unrhyw siaradwyr Cymraeg yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith ar hyn o bryd. Cynigiwyd fod y Cadeirydd, y Cynghorydd Non Dafydd, yn cael ei henwebu ar gyfer y Pwyllgor Gwaith ac eiliwyd y cynnig. Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn dymuno cael amser i feddwl am yr enwebiad ac y byddai’n ymateb maes o law.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn rhithwir ar 16 Tachwedd 2022. • Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. |
|
Unrhyw faterion eraill Unrhyw faterion eraill – gyda chytundeb y Cadeirydd. Cofnodion: Mynegwyd pryderon ynghylch presenoldeb gwael yng nghyfarfodydd CYSAG Ynys Môn. Nodwyd nad yw un aelod etholedig wedi mynychu’r un o gyfarfodydd y CYSAG a bod angen annog yr aelod dan sylw i fynychu.
Dywedodd Mr Rheinallt Thomas ei fod wedi rhannu dwy ddogfen gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru gydag aelodau’r CYSAG, sef ‘Canllawiau Ymweld ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd’ a ‘Cysylltu Eglwysi ac Ysgolion’. Nododd fod y CYSAG wedi derbyn y dogfennau a’u bod yn berthnasol i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm Newydd ac arsylwi Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Dywedodd fod croeso i aelodau’r CYSAG rannu’r dogfennau os ydynt yn dymuno.
Awgrymodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y dylai’r CYSAG ailgydio yn yr ymweliadau ag ysgolion i arsylwi Addoli ar y Cyd a phrofi’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn ysgolion Môn gan fod hynny’n bwysig yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd. Awgrymwyd y dylid trafod amserlen i ailgydio yn yr ymweliadau i arsylwi Addoli ar y Cyd yng nghyfarfod nesaf y Panel Gweithredol ar 23 Mawrth 2023. Dywedodd Mr Owain Roberts fod gwaith yn mynd rhagddo mewn ysgolion i gyflwyno’r Cwricwlwm Newydd ond dywedodd y byddai’n fodlon trefnu i aelodau’r CYSAG ymweld ag Ysgol Cybi maes o law.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod Estyn wedi cynnal arolygiadau yn yr ysgolion a ganlyn yn ddiweddar a byddant yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y CYSAG - Ysgol Cybi, Caergybi; Ysgol Gynradd Biwmares; Ysgol Santes Fair, Caergybi; Ysgol Uwchradd Bodedern; Ysgol Caergeiliog; Ysgol Esceifiog Gaerwen. Nodwyd y bydd Ysgol Goronwy Owen, Benllech ac Ysgol Moelfre’n cael eu harolygu'r wythnos hon. Dywedodd yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fod pedwar o leoliadau nas cynhelir wedi cael eu harolygu yn ystod y tymor hwn hefyd - Cylch Henblas, Cylch Rhoscolyn, Cylch Kingsland a Chaban Enfys. Nodwydd fod yr arolygiadau’n llwyddiannus, a bod dwy astudiaeth achos wedi deillio o’r arolygiadau hyn. Yn ogystal, gan y bydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei addysgu i blant rhwng 3 ac 16 oed yn awr, efallai y gallai’r CYSAG ystyried ymweld â’r lleoliadau hynny yn y dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd y bydd Mrs Gwyneth Hughes, yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, yn ymddeol yn fuan. Ar ran y CYSAG, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Hughes am ei harweiniad, ei gwaith caled a’i hymrwymiad i’r CYSAG ers 2018, a dymunodd ymddeoliad hapus iddi.
Ategodd Mr Rheinallt Thomas eiriau’r Cadeirydd a dywedodd nad yw’n hawdd i bobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes Addysg Grefyddol i ymdopi â’r holl elfennau sydd ynghlwm â’r gwaith. Dywedodd ei bod wedi gwneud argraff dda iawn ar y CYSAG yn y modd y mae wedi cyflawni’r rôl.
Dywedodd Mrs Hughes ei bod wedi bod yn fraint iddi weithio i’r Cyngor fel Swyddog Addysg ers 2018 a bydd yn gweld eisiau ei hymwneud â’r CYSAG. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyfarfod nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG ar ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023 am 2.00 o’r gloch yp.
Cofnodion: Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023 am 2.00pm. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”
|
|
Adolygu Cyfansoddiad CYSAG Cyflwyno adroddiad gan yr Ymgynghorydd CGM. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yr Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, er mwyn adolygu Cyfansoddiad y CYSAG yn dilyn newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth fel rhan o ddatblygiadau yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru gan Lywodraeth Cymru.
Darllenodd y Cadeirydd ddatganiadau gan y Cynghorydd Dylan Rees a Mrs Elaine Green gan nad oeddent yn bresennol yn y cyfarfod.
Ystyriodd y CYSAG y Cyfansoddiad presennol a’r opsiynau sydd ar gael, yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021:-
“Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau athronyddol anghrefyddol yn yr un modd ag y maen nhw’n caniatáu penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau crefyddol.”
Gan nad yw 40.7% o boblogaeth Ynys Môn yn arddel crefydd, barn y CYSAG oedd y byddai penodi person nad yw’r arddel crefydd yn adlewyrchu amrywiaeth ar lefel leol.
Cynhaliwyd pleidlais ffurfiol i gyrraedd penderfyniad, ac roedd Grwpiau A, B a C yn cytuno.
PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo penderfyniad y CYSAG i benodi cynrychiolydd newydd i’r CYSAG, sydd yn aelod o grŵp sy’n dal argyhoeddiad athronyddol nad yw’n grefyddol, ac nid aelod unigol.
|