Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Cofnodion: Yn absenoldeb y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, etholwyd y Cynghorydd R.Meirion Jones yn Gadeirydd y cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cyfarfod 18 Tachwedd, 2016 PDF 187 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2016 ac fe’u nodwyd. |
|
Cyflwyniad ar y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd Dangos y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad newydd – gydag enghreifftiau. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad i’r Cyd-Bwyllgor ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas ag amserlen yr ail-strwythuro yng nghyswllt dod â’r Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd i weithrediad.
Cyfeiriodd Swyddog Addysg ADY Cyngor Sir Ynys Môn at y cerrig milltir canlynol –
• Penodi’r Tîm Arweinyddiaeth erbyn Gwanwyn 2017 • Cyfarfodydd un i un gyda phob aelod o staff wedi’u cynnal • Llenwi’r swyddi ar y strwythur gwasanaeth erbyn 31 Mai, 2017 • Y gwasanaeth newydd ar y cyd i ddod yn weithredol o 1 Medi, 2017 • Cyngor Gwynedd fydd y cyflogwr
Aeth y Swyddog rhagddi i amlinellu’r cynnydd hyd yma gan gyfeirio at y gweithgareddau canlynol –
• Bod y ddau Uwch Reolwyr wedi’u penodi • Bod y pedwar Swyddog Ansawdd ADY a Ch wedi’u penodi • Hysbyseb am Arweinydd Addysg wedi’i gyhoeddi • Camau yn cael eu cymryd i benodi Uwch Gwnselydd ac Uwch Athro Cyfathrebu a Rhyngweithio • Sylw yn cael ei roi i faterion staffio gan gynnwys trosglwyddiad staff allweddol i’r swyddi o fewn y Strategaeth
Dywedodd y Swyddog y byddai’r camau nesaf yn cynnwys rhoi sylw i’r agweddau a nodir isod –
• Y ddau Uwch Reolwr i gymryd arnynt ddyletswyddau ADY a Chynhwysiant Môn a Gwynedd ar ddechrau tymor yr Haf • Sicrhau bod y staffio allweddol yn ei le erbyn 31 Mai, 2017 • Bod y trefniadau llywodraethiant wedi’u cytuno arnynt • Bod y gwasanaeth traws awdurdod yn cael ei gynllunio a’r gweithdrefnau yn eu lle erbyn diwedd tymor yr Haf
Yng nghyswllt materion gweinyddol, mae angen rhoi ystyriaeth i’r elfennau a ganlyn –
• Rôl rheoli gwybodaeth y Gwasanaeth; rôl yr Uned Ddata a’r Swyddog Data ADYa Ch • Trafodaeth swyddfeydd ardal Gwynedd a thîm gweinyddol Ynys Môn • Cefnogaeth weinyddol i sicrhau monitro effeithiol • Trefniadau cyfarfodydd adolygu; rheoli cofnodion fforymau; rhannu gwybodaeth; diweddaru gwefannau gwybodaeth; cefnogi staff a rheolwyr penodol
Dangoswyd i’r Cyd-Bwyllgor ddeiagram o sut fydd y Tîm Integredig newydd a’r elfennau oddi mewn iddo yn cwmpasu Gwasanaethau ADY a Gwasanaethau Cynhwysiad, yn edrych.
Nododd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth. |
|
Model Llywodraethu ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd · Cyflwyno’r Model Llywodraethu ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd.
· Cyflwyno’r penawdau oddi fewn i’r Gytundeb Partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer cyflawni’r Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd. Cofnodion: Cylchredwyd siart llif er sylw’r Cyd-Bwyllgor a oedd yn dangos trefniant llywodraethiant y Gwasanaeth ADY a Ch i’w ddarparu gan Gyngor Gwynedd ar ran Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn. Cyflwynwyd hefyd dabl yn gosod allan y fforymau llywodraethiant o dan y Strategaeth newydd, eu cyfrifoldebau a’u cylch gorchwyl.
Nodwyd bod y canlynol yn fforymau newydd yn y trefniadau llywodraethiant a fyddant yn ychwanegol i Dimau Rheoli Addysg y ddwy sir a’r Cabinet yng Ngwynedd a’r Pwyllgor Gwaith ym Môn y maent eisoes mewn bodolaeth –
Uwch Dîm Rheoli Gwasanaeth ADY a Ch Bwrdd Monitro a Chraffu ADY a Ch Gwynedd a Môn Cyfarfodydd Pennaeth Addysg Gwynedd a Phennaeth Dysgu Ynys Môn
Eglurodd Swyddog Addysg ADY Cyngor Sir Ynys Môn sut y byddir yn gwneud cais am gymorth ychwanegol yn unol â’r Strategaeth; dywedodd y byddai’r broses o roi cymorth yn llawer cynt o dan y drefn newydd. O ran y plant hynny y mae eu hanghenion yn rhai dwys bydd y llwybr at ddatganiad neu cymorth oriau penodol gyda chymhorthydd yn dal i fodoli ac ar gael iddynt; fodd bynnag y bwriad yw targedu’r plentyn yn gynt fel bo llai o angen am ymyrraeth ddwys.
Dywedodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y meini prawf a’r trothwyon mynediad at gymorth ychwanegol a weithredir gan y Fforymau ardal yn gyson ar draws y ddwy sir sy’n golygu y bydd y cyfle cyfartal o fewn y gwasanaeth yn gyfansawdd yn gryfach. Byddir yn arfarnu llwyddiant yr ymyrraeth drwy gasglu canlyniadau’r plant a’u hadrodd i’r ddau awdurdod. Caiff ansawdd y gwasanaeth hefyd sylw rheolaidd trwy’r Bwrdd Monitro a Chraffu. Yn ogystal bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu perthnasol y ddwy sir er mwyn iddynt gael gweld beth yw natur y buddsoddiad yn y gwasanaeth a‘i ganlyniad o ran perfformiad y grwp yma o blant fel y gallant arfarnu a yw’r gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian ai peidio. Bydd unrhyw benderfyniadau penodol ynghylch hynny yn cael eu gwneud gan Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn. Dywedodd Swyddog Prosiect Cyngor Gwynedd mai crynodeb a gyflwynir trwy’r siart llif a’r tabl cyfrifoldebau, a cheir rhagor o fanylion yn y ddogfen bartneriaeth. Byddid yn gwerthfawrogi unrhyw sylw y carai aelodau’r Cyd-Bwyllgor eu cyflwyno mewn perthynas â lefel yr atebolrwydd y mae’r drefn newydd yn ei gynnig naill ai yn y cyfarfod hwn neu o fewn y bythefnos nesaf.
Bu i’r Cyd-Bwyllgor ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd gan wneud y sylwadau canlynol –
• Bod y Cyd-Bwyllgor yn dymuno gweld parhau gyda’r cyfle sydd yn bodoli yn bresennol i holi gwasanaethau yn uniongyrchol megis y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol.
Dywedodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn y bydd monitro a thracio pob gwasanaeth unigol yn erbyn mesuryddion yn cael ei gyflawni gan y Bwrdd Monitro a Chraffu ADY a Ch Gwynedd a Môn y bydd Aelod o Gabinet Gwynedd ac Aelod Portffolio o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Diweddariad Ariannol PDF 92 KB Derbyn diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori cyllideb ar gyfer y Cyd-Bwyllgor am y cyfnod Ebrill i Awst 2017. Gan fod y Cyd-Bwyllgor yn dod i ben fel endid ar 31 Awst, 2017 roedd y gyllideb yn cynrychioli gwerth 5 mis o gostau yn unig.
Adroddodd Prif Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd nad oedd ganddi ddim newydd i’w adrodd yng nghyswllt cyllideb gyfredol 2016/17 heblaw am nodi mai’r bwriad, yn ddarostyngedig i sylwadau gan yr archwilwyr allanol yw cyflwyno cyfrifon terfynol y Cyd-Bwyllgor am 2016/17 i Bwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol dan y trefniant newydd ar ôl 31 Awst, 2017.
O safbwynt cyllideb 2017/18 yr unig elfen newydd ynddi yw’r Ardoll Prentisiaeth sy’n cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2017/18 sydd yn 0.5% o gost cyflogau staff y Cyd-Bwyllgor. Mae gwir sefyllfa staffio Ebrill, 2017 fel a ganlyn –
• 9.7 Seicolegwyr (yn cynnwys dwy hyfforddai) • 7.0 Athrawon Arbenigol • 1.4 Uwch Gymorthyddion • 4.4 Staff Gweinyddol
Bu oedi gydag ad-leoli staff i Bencadlys Cyngor Gwynedd ond disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn fuan. Bydd cyfraniad Gwynedd am y 5 mis yn £313,100 a chyfraniad Ynys Môn yn £174,060 ynghyd â £23,000 o arbedion nas darganfuwyd sy’n dod â chyfanswm cyfraniad Ynys Môn i £197,00. Bydd yr awdurdodau yn talu beth bynnag yw gwir gost y Cyd-Bwyllgor am y cyfnod o Ebrill i Awst, 2017.
Penderfynwyd cymeradwyo’r gyllideb am 2017/18, sef am y cyfnod 5 mis o Ebrill i Awst, 2017. |
|
Cyfarfod Nesaf y Cyd-Bwyllgor 10:30 y. b., ddydd Gwener, 23 Mehefin, 2017 yng Nghaernarfon.
(Mae’r cyfarfod hwn – os bydd ei angen - i bwrpas penodol cymeradwyo’n ffurfiol Gyfrifon drafft y Cyd-Bwyllgor am 2016/17 cyn eu harchwilio). Cofnodion: Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor am 10:30 y bore, ddydd Gwener, 23 Mehefin, 2017 yng Nghaernarfon a bod y cyfarfod yn cael ei gynnull yn benodol i gymeradwyo cyfrifon drafft y Cyd-Bwyllgor am 2016/17 cyn eu harchwilio.
|