Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau Cyflwyno pob aelod o’r Pwyllgor Safonau, yr Aelod (Y Cynghorydd Ieuan Williams), y Swyddog Ymchwilio ac unrhyw Swyddogion eraill sydd yn bresennol, a chrynhoi trefniadau’r gwrandawiad yn unol â’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Safonau yn cael ei gynnal yn unol â Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol. Mae pawb sy’n cymryd rhan wedi cael copi o’r Weithdrefn hon cyn y cyfarfod, ynghyd â chopi o’r Agenda, yr Adroddiad Cryno Cyn-gwrandawiad ac Adroddiad y Swyddog Ymchwilio. Mae’r dogfennau hyn wedi cael eu cyhoeddi ac maent ar gael i’r wasg a’r cyhoedd.
Cyflwynodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor Safonau: -
a. Mr Trefor Owen (Cadeirydd) – Aelod Annibynnol b. Mr Brace Griffiths (Is-Gadeirydd) – Aelod Annibynnol c. Mr T Rhys Davies – Aelod Annibynnol d. Mr John R Jones – Aelod Annibynnol e. Mrs Gill Murgatroyd – Aelod Annibynnol f. Y Cynghorydd Margaret Murley Roberts – Aelod Etholedig o’r Cyngor Sir g. Y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas – Aelod Etholedig o’r Cyngor Sir
Yn unol ag Erthygl 9 o Gyfansoddiad y Cyngor, caniateir i aelodau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned gymryd rhan yng ngwrandawiadau’r Pwyllgor Safonau dim ond pan fo’r gwrandawiadau hynny yn ymwneud â chynghorau cymuned ac aelodau o gynghorau cymuned. Eglurodd na fydd yr aelodau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned yn cymryd rhan yn y gwrandawiad heddiw gan nad yw’r gwrandawiad yn ymwneud â chyngor cymuned neu gynghorwyr cymuned.
Cyflwynwyd y Cynghorydd Ieuan Williams, testun y gwrandawiad, ynghyd ag Annie Ginwalla, Dirprwy Ymgynghorydd Cyfreithiol/ Rheolwr y Tîm Cod Ymddygiad ar ran Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), a Llinos Lake, Swyddog Ymchwilio OGCC.
Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol:-
a. Miss Lynn Ball, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro b. Mrs Mared Yaxley, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro c. Mrs Shirley Cooke, Swyddog/Cynorthwyydd Pwyllgorau d. Tîm Cyfieithu |
|
|
Ymddiheuriadau am absenoldeb
Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw newidiadau o ran aelodaeth y Pwyllgor. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb (diddordeb personol neu ddiddordeb sydd yn rhagfarnu) gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Margaret Murley Roberts ddatgan ei bod yn Gynghorydd yn yr un ward â’r Cynghorydd Ieuan Williams, ond nid yw hynny’n cael ei ystyried yn fuddiant personol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas ddatgan ei fod yn aelod o’r Grŵp Annibynnol, ac mai’r Cynghorydd Ieuan Williams yw’r Arweinydd Grŵp, ond nid yw hynny’n cael ei ystyried yn fuddiant personol. Dywedodd ei fod eisoes wedi cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro, sydd wedi cadarnhau ei fod yn gallu cymryd rhan yn y Gwrandawiad. |
|
|
Cworwm Cadarnhau bod gan y Pwyllgor Safonau gworwm. Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd bod cworwm.
|
|
|
Gweithdrefn Amlinellu’r drefn a ddilynir er mwyn penderfynu’r mater. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor Safonau’n dilyn Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â’r materion a fyddai’n cael eu trafod heddiw. |
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Penderfynu a fydd y Gwrandawiad yn cau allan y wasg a’r cyhoedd o ran o’i drafodaeth ar y mater dan sylw, neu o’r drafodaeth gyfan Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Williams, y Swyddog Ymchwilio ac Ymgynghorydd Cyfreithiol y Cyngor gadarnhau p’un a oeddent yn dymuno gofyn i’r Pwyllgor Safonau wahardd y wasg a’r cyhoedd o ran neu bob rhan o’r Gwrandawiad. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n rhaid iddynt ddarparu rheswm, er mwyn galluogi’r Pwyllgor Safonau i ystyried pob cais.
Gofynnwyd i’r Ymgynghorydd Cyfreithiol p’un a oedd yn dymuno gwneud cais i’r Pwyllgor i wahardd y wasg a’r cyhoedd o ran neu bob rhan i’r gwrandawiad. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol, er y bydd y rhan fwyaf o sylwadau’r Cynghorydd Williams yn gyhoeddus, gofynnodd pe byddai modd i’w ddatganiad ar effaith yr achos ar ei les personol gael ei drafod heb y wasg a’r cyhoedd yn bresennol. Dywedodd, yn ei barn hi, y byddai rhannu’r wybodaeth honno’n mynd yn groes i Ddeddf Diogelu Data 2018.
Cynigodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y byddai hyn yn sicrhau cydbwysedd rhwng y disgwyliadau, sef: -
a. cynnal gwrandawiad cyhoeddus b. gwarchod preifatrwydd yr unigolyn; a, c. sicrhau bod y Pwyllgor yn cael y darlun cyflawn, cyn dod i gasgliad.
PENDERFYNODD y Pwyllgor Safonau dderbyn cais yr Ymgynghorydd Cyfreithiol.
Gofynnwyd i’r Cynghorydd Williams gadarnhau p’un a oedd yn dymuno gwneud cais i wahardd y wasg a’r cyhoedd o ran neu bob rhan o’r gwrandawiad. Dywedodd ei fod yn dymuno gofyn i’r Pwyllgor Safonau wahardd y wasg a’r cyhoedd yn ystod y drafodaeth ynglyn â’r elfennau personol.
PENDERFYNODD y Pwyllgor Safonau dderbyn cais y Cynghorydd Williams.
Gofynnwyd i Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon gadarnhau p’un a oedd yn dymuno gwneud cais i’r Pwyllgor Safonau wahardd y wasg a’r cyhoedd o ran neu bob rhan o’r gwrandawiad. Dywedodd bod yr Ombwdsmon, fel arfer, yn cefnogi’r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyhoeddus, oni bai bod rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny. Cyfeiriodd at sylwadau’r Ymgynghorydd Cyfreithiol a’r Cynghorydd Williams, dywedodd nad oedd yn gwrthwynebu dan yr amgylchiadau.
PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Safonau’n derbyn cais y Swyddog Ymchwilio. |
|
|
Honiad o dorri'r Cod Ymddygiad (a) CYFLWYNO ADRODDIAD CRYNO CYN-GWRANDAWIAD
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Cyfreithiol, gan ddwyn sylw yn benodol at unrhyw bwyntiau a nodwyd gan yr Aelod lle mae’n anghytuno ag unrhyw ganfyddiad o ffaith yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio.
(b) CYFADDEF I FETHU Â CHYDYMFFURFIO
Gofyn i’r Aelod ac ydyw’n cyfaddef methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.
(c) PENDERFYNIAD
Penderfynu a fu methiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Cofnodion: (a) CYFLWYNO’R ADRODDIAD CRYNO CYN-GWRANDAWIAD
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol ei Hadroddiad Cryno Cyn-Gwrandawiad. Dywedodd bod y Cynghorydd Ieuan Williams wedi cyfeirio’i hun at OGCC ar ôl dweud mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 12 Mehefin 2023, “bod angen saethu pob Tori”.
Yn dilyn ymchwiliad gan OGCC, daeth yr Ymchwilydd i’r casgliad bod yr aelod etholedig wedi torri dau baragraff o’r Cod Ymddygiad. Cyfeiriwyd y mater gan OGCC at Swyddog Monitro’r Cyngor, gyda chyfarwyddyd y dylai’r mater yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Safonau.
Yn unol â’r broses, cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol o’r Pwyllgor Safonau ar 26 Chwefror 2025, a phenderfynwyd cynnal gwrandawiad, er mwyn galluogi’r Aelod i gyflwyno sylwadau ynglŷn â chanfyddiadau’r ymchwiliad.
Adroddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd y Pwyllgor, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn penderfynu p’un a yw’r Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau ai peidio. Ar ôl clywed sylwadau’r Swyddog Ymchwilio, bydd rhaid i’r Pwyllgor benderfynu p’un a yw’r Cod wedi cael ei dorri ai peidio, a bydd rhaid iddo hefyd benderfynu p’un a ddylid pennu cosb ai peidio, ac os felly, pa fath o gosb. Hefyd, mae modd i’r Pwyllgor wneud argymhellion i’r Cynghorydd a/neu’r Cyngor Sir.
Nododd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol bod Adroddiad y Swyddog Ymchwilio ar gael yn Atodiad 2, ynghyd â’i hadroddiad. Dywedodd bod ei hadroddiad yn tynnu sylw penodol at y pwyntiau bwled ar waelod tudalen 2-3 yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio. Mae’r prif bwyntiau yn ymwneud â’r gŵyn wedi cael eu rhestru ym mharagraff 1 yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, sef “paragraff 4(b) – rhaid i [aelodau] ddangos parch at eraill” a “pharagraff 6(1)(a) – ni ddylai [aelodau] ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar [eu] swydd neu awdurdod”.
Fe wnaeth yr Ymgynghorydd Cyfreithiol amlygu’r elfennau perthnasol yng Nghanllawiau OGCC ar y Cod Ymddygiad yn Atodiad 8 yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio. Dywedodd bod y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r achos wedi cael eu crynhoi ym Mharagraffau 11-19 yn yr adroddiad. Mae paragraffau 20-46 yn crynhoi’r dystiolaeth o ddatganiadau gan dystion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Mae canfyddiadau’r Swyddog Ymchwilio yn cael eu cyflwyno ym Mharagraffau 56-64, ac maent yn nodi bod yr Ymchwilydd o’r farn bod Paragraff 6(1)(a) wedi cael ei dorri. Hefyd, nid oes unrhyw anghytuno ynglyn â ffeithiau’r achos, gan fod y gŵyn yn hunan-gyfeiriad gan yr Aelod, ac mae’n amlwg bod y Cod wedi cael ei dorri.
Yn dilyn penderfyniad cychwynnol y Pwyllgor Safonau i gynnal y gwrandawiad yma heddiw, gofynnwyd i’r Aelod gwblhau ffurflenni cyn-gwrandawiad yn unol â’r broses (Atodiad 3 yn yr adroddiad). Yn ei ymateb, mae’r Aelod yn cadarnhau nad oedd yn anghytuno â’r ffeithiau yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio ac Adroddiad Cryno Cyn-Gwrandawiad yr Ymgynghorydd Cyfreithiol. Adroddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y bydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Os penderfynir bod yr Aelod wedi methu â Chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad (a) RHAGARWYDD Y CADEIRYDD O’R MATH O GOSB
Y Cadeirydd i nodi’r math o gosb y mae’n ei hystyried yn briodol.
(b) SYLWADAU’R AELOD MEWN PERTHYNAS Â CHOSB
Gwahodd yr Aelod i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.
(c) SYLWADAU’R SWYDDOG YMCHWILIO MEWN PERTHYNAS Â CHOSB
Gwahodd y Swyddog Ymchwilio i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.
(d) Y PWYLLGOR SAFONAU I GADARNHAU FOD GANDDYNT DDIGON O WYBODAETH I DDOD I FARN YNGLŶN Â CHOSB
Caniatáu i aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau i’r Aelod a/neu’r Swyddog Ymchwilio. Cofnodion: (a) RHAGARWYDD Y CADEIRYDD O’R MATH O GOSB
Dywedodd y Cadeirydd bod gofyn i’r Pwyllgor ystyried y canlynol gan ei fod wedi dod i’r casgliad bod y Cynghorydd Williams wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad: -
a. A ddylid pennu cosb; b. Ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ynglyn â chosbau (os bydd cosb) a’r math o gosb fydd yn cael ei phennu; c. Pryd y daw’r gosb honno i rym; ac d. Unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor.
Dywedodd y Cadeirydd bod Gweithdrefn y Cyngor ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol yn nodi bod pedwar penderfyniad ar gael i’r Pwyllgor, a allai fod yn addas yn gysylltiedig â’r mater hwn, sef:
a. Peidio â chymryd unrhyw gamau; b. Rhoi cerydd i’r Aelod; c. Atal yr Aelod yn rhannol am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill ei gyfnod yn y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf; d. Atal yr Aelod am gyfnod o ddim mwy na chwe mis neu weddill ei gyfnod yn y swydd, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf.
Fe wnaeth y Cadeirydd ailadrodd penderfyniad y Pwyllgor Safonau'n gynharach i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r drafodaeth yn ymwneud â phennu cost.
Awgrymodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Williams a Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon yn cyflwyno eu sylwadau yn gyntaf, a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn dilyn hynny er mwyn gwrando ar y sylwadau pellach a fydd yn cael eu trafod yn breifat.
(b) SYLWADAU’R AELOD MEWN PERTHYNAS Â CHOSB
Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Williams gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r cosbau. Dywedodd nad oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau ar yr adeg honno.
(c) SYLWADAU’R SWYDDOG YMCHWILIO MEWN PERTHYNAS Â CHOSBAU
Rhoddwyd cyfle i Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chosbau, a manteisiodd ar y cyfle i wneud hynny.
Adroddodd Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon, Llinos Lake, bod gofyn i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid pennu cosb ai peidio, ac os felly, pa fath o gosb, a hynny’n seiliedig ar y ffaith bod yr Aelod wedi derbyn ei fod wedi torri’r cod a bod hynny wedi cael ei amlygu gan y Pwyllgor heddiw.
I helpu’r Pwyllgor ddod i benderfyniad, cyfeiriodd at Ganllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau. Cynigodd anfon copi o’r Canllaw i’r Pwyllgor Safonau. Mae paragraff 18 yn y Canllaw yn amlinellu’r rhesymau y tu ôl i’r broses gosbi:-
(a) Darparu ymateb disgyblaethol pan fo aelod unigol wedi torri’r Cod; (b) Darparu cofnod cyhoeddus o’r camymddygiad a’r gosb briodol; (c) Sicrhau nad yw’r unigolyn nac unrhyw un arall yn ymddwyn yn amhriodol yn y dyfodol; (d) Hyrwyddo diwylliant o gydymffurfiaeth ar draws yr awdurdodau perthnasol, a meithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.
Adroddodd y Swyddog Ymchwilio ei bod hi’n glir, yn gysylltiedig â difrifoldeb yr achos hwn, ac o ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru, nad yw’r achos hwn o dorri’r cod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Penderfyniad ynglyn â Chosb ac Argymhellion Yn unol â pharagraff 10.8(b) o’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau wedi dod i benderfyniad ynglyn â phob un o’r pwyntiau yr oedd gofyn iddo ddod i benderfyniad yn eu cylch. Cadarnhaodd bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried Canllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau, a’i fod wedi sicrhau bod ei benderfyniad wedi ystyried yr egwyddorion isod:
• Tegwch • Budd y cyhoedd • Cymesuredd • Cysondeb • Cydraddoldeb a didueddrwydd • Hawliau Dynol
Roedd y Pwyllgor Safonau hefyd yn ystyriol o bwrpas y cosbau wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â’r mater hwn. Fel y crynhoir yng Nghanllaw Panel Dyfarnu Cymru ar Gosbau pwrpas y gosb a roddir yw:
• darparu ymateb disgyblaethol i achos lle mae aelod unigol wedi torri’r Cod; • gwneud cofnod cyhoeddus o’r camymddwyn a’r gosb briodol; • sicrhau nad yw’r unigolyn na neb arall yn camymddwyn yn y dyfodol; • hybu diwylliant o gydymffurfio ar draws yr awdurdodau perthnasol; • meithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol.
Hefyd, roedd y Pwyllgor Safonau wedi ystyried yr isod wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â chosb: -
• asesu difrifoldeb y tor-amod ac unrhyw ganlyniadau i unigolion a/neu’r cyngor; • nodi’r math cyffredinol o gosb y mae’r Tribiwnlys yn credu ei bod yn fwyaf tebygol o fod yn briodol o ystyried y tor-amod; • ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol neu waethygol perthnasol a sut y gallai’r rhain effeithio ar lefel y gosb sy’n cael ei hystyried; • ystyried unrhyw addasiad pellach sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y gosb yn cael effaith briodol, o ran cyflawni dibenion y gosb;
Yn unol â budd y cyhoedd, ystyriodd y Pwyllgor Safonau gosbau a roddwyd gan Bwyllgorau Safonau eraill, ar gyfer achosion tebyg o dorri’r cod. Cadarnhaodd y Pwyllgor Safonau ei fod wedi myfyrio ar faterion blaenorol y mae OGCC wedi cyhoeddi adroddiadau arnynt ac sydd ar gael ar ei gwefan wrth benderfynu ar y gosb.
Ar ôl ystyried manylion yr achos fel y nodwyd yn Adroddiad y Swyddog Ymchwilio, yng nghyd-destun yr egwyddorion sydd wedi eu disgrifio uchod, roedd penderfyniad y Pwyllgor fel a ganlyn: -
• Dylid rhoi cosb; • Y byddai’r Aelod yn cael cerydd.
• Gwnaed yr argymhellion canlynol i’r Cyngor: -
• Yn gyntaf, bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n trafod cymorth ffurfiol pellach gyda’r Cynghorydd Williams yn gysylltiedig â rheoli ei emosiynau a’i rôl wleidyddol yn gyhoeddus. • Yn ail, bod y Cyngor yn sicrhau bod pob aelod yn glir ynglyn â’r Cod Ymddygiad, a’i fod yn berthnasol i gyfarfodydd preifat yn ogystal â chyfarfodydd cyhoeddus.
Eglurwyd y byddai’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau uchod yn cael eu hamlinellu yn y penderfyniad ffurfiol a fyddai’n cael ei anfon at y Cynghorydd Williams maes o law, ac y byddai’n cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor yn dilyn y broses hon. Fodd bynnag, gellir crynhoi’r prif resymau y tu ôl i’r penderfyniadau hyn fel a ganlyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Cau'r Gwrandawiad |