Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynasd ag unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Copi o adroddiad a gyflwynwyd gan Gadeirydd Panel Dethol y Pwyllgor Safonau i Gyngor Sir Ynys Môn ar 10 Medi, 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Gadeirydd Panel Dewis y Pwyllgor Safonau mewn perthynas â'r uchod.
Adroddodd y Swyddog Monitro bod tymor pedwar o'r pum aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau yn dod i ben ar 19 Rhagfyr 2019. Bydd y pumed aelod, Mr John Robert Jones, a benodwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn parhau yn ei rôl.
Nodwyd bod y Cyngor Sir wedi dirprwyo awdurdod i Banel Dewis y Pwyllgor Safonau gynnal y broses recriwtio a dewis ar gyfer penodi aelodau newydd i'r Pwyllgor Safonau.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod y Panel wedi llunio rhestr fer o ymgeiswyr i’w cyfweld, a chynhaliwyd cyfweliadau ar 29 a 30 Gorffennaf 2019. Enwebodd y Panel y pedwar aelod canlynol o'r cyhoedd i'w penodi i rôl aelodau annibynnol o'r Pwyllgor Safonau:-
Mr Thomas Rhys Davies Mrs Celyn Menai Edwards Mrs Gill Murgatroyd Mrs Sharon Warnes
Cadarnhawyd y penodiadau gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 10 Medi 2019.
Cadarnhawyd y bydd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn parhau yn ei rôl fel cynrychiolydd y Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau tan yr etholiad nesaf yn 2022.
Mae'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel cynrychiolydd y Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau, ac mae'r Cynghorydd John Arwel Roberts wedi cymryd ei le.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a'r argymhellion a wnaed gan Banel Dewis y Pwyllgor Safonau, ac a dderbyniwyd gan y Cyngor llawn ar 10 Medi 2019:-
• Penodi Mr Thomas Rhys Davies, Mrs Celyn Menai Edwards, Mrs Gill Murgatroyd a Mrs Sharon Warnes fel aelodau annibynnol cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau o 20 Rhagfyr 2019; am hyd at ddau dymor, fel y caniateir gan statud a'r Cyfansoddiad. • Pe bai swydd achlysurol arall yn codi ar gyfer aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau yn ystod y deuddeng mis nesaf, penodi Mrs Pauline Vella i'r rôl hon yn awtomatig heb fod angen proses recriwtio arall, ar yr amod pob amser fod Mrs Vella yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y rôl. • Cadarnhau y bydd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn parhau fel cynrychiolydd Cynghorydd Sir tan yr etholiad nesaf yn 2022. • Cadarnhau penodiad y Cynghorydd Sir John Arwel Roberts yn aelod o'r Pwyllgor Safonau, tan yr etholiad nesaf yn 2022 yn y lle cyntaf, gyda'r posibilrwydd o wasanaethu am dymor pellach. • Cadarnhau y dylid rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/-Swyddog Monitro gynnwys Panel Dewis y Pwyllgor Safonau yng Nghyfansoddiad y Cyngor er mwyn osgoi'r angen parhaus am “ddarpariaethau arbed” yn yr adroddiad ar strwythur pwyllgorau, a gadarnheir gan y Cyngor yn ei gyfarfodydd blynyddol. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 113 KB Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019 yn gywir.
Materion yn codi o'r cofnodion:-
Adroddodd y Swyddog Monitro bod dogfen “materion yn codi” wedi cael ei hanfon at holl aelodau’r Pwyllgor Safonau yn manylu ar y camau a gymerwyd yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod Modern.Gov wedi ymateb i ymholiad TGCh ynghylch ychwanegu naratif at y system Modern.Gov, fel y gall aelodau cyfetholedig ychwanegu gwybodaeth o gwymplen ar gyfer 'Datganiadau o Ddiddordeb', 'Anrhegion a Lletygarwch 'a' Hyfforddiant '. Ar hyn o bryd, dim ond enwau Aelodau etholedig sydd wedi’u cynnwys ar y ‘gwymplen’ ar-lein.
Adroddodd y Swyddog Monitro y byddai’n costio £5000 i ddiweddaru’r system Modern.Gov i gynnwys naratif.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi ffi Modern.Gov i weithredu'r newidiadau uchod i'r system Modern.Gov. • Bod y Swyddog Monitro, ar ran y Pwyllgor Safonau, yn gwneud cais am gyllid gan y Swyddog Adran 151 i ddiweddaru'r system i gynnwys yr aelodau cyfetholedig ar y ‘gwymplen’.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod
|
|
Datblygu a Hyfforddiant Aelodau PDF 2 MB Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.
Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar gyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i'r Pwyllgor hwn ar 13 Mawrth 2019.
Cafwyd ddiweddariad ar y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau gan y Rheolwr Datblygu AD. Dywedodd y bydd y Cynllun Datblygu yn cael ei gylchredeg i'r Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bob chwarter i nodi cyrsiau a fyddai’n addas ar gyfer Pwyllgorau Sgriwtini, y Pwyllgor Safonau ac aelodau cyfetholedig. Nodwyd bod y Cynllun Datblygu yn ddogfen esblygol sy'n cael ei diweddaru'n barhaus.
Amlygodd y Rheolwr Datblygu AD y pwyntiau a ganlyn:-
• Mae ffurflenni gwerthuso cyrsiau ar gael ar-lein ac ar ffurf bapur. Er bod Aelodau'n cael eu hannog i lenwi ffurflenni ar-lein, mae'r defnydd a wneir o’r ffurflenni electronig wedi bod yn gyfyngedig. • Mae angen i aelodau gymryd cyfrifoldeb personol am gofnodi manylion ar-lein am hyfforddiant/cyrsiau y maent wedi'u mynychu / gwrthod. Anogir aelodau i gyhoeddi eu cofnodion presenoldeb ar wefan y Cyngor o dan eu proffil unigol. • Mewn perthynas ag E-Ddysgu, mae datblygiadau wedi digwydd mewn perthynas â Phlatfform E-Ddysgu'r GIG, a fydd yn golygu y bydd y system yn haws i’w defnyddio. Bydd modd cael at fodiwlau E-Ddysgu ar I-pad yn haws hefyd. • Mae'r Tîm Dysgu a Datblygu wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth TGCh a'r Gwasanaethau Democrataidd i gynhyrchu llawlyfr i'r Aelodau ar faterion TGCh. Trefnwyd sesiynau galw heibio i gynorthwyo Aelodau gydag unrhyw faterion TGCh. • Bellach gellir gweld y cyflwyniad Powerpoint ar GDPR a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2019 ar MonITor. Mae sesiwn hyfforddi orfodol ychwanegol wedi'i threfnu ar gyfer yr Hydref, a gwahoddir aelodau'r Pwyllgor Safonau ac aelodau cyfetholedig i fynychu. • Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - trefnwyd a chyflwynwyd dwy sesiwn. Mae sesiynau hyfforddi gorfodol pellach wedi'u trefnu ar gyfer yr Hydref, a gwahoddir aelodau'r Pwyllgor Safonau ac aelodau cyfetholedig.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi a derbyn y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau. • Arddangos copi o'r Rhaglen Hyfforddi Aelodau Etholedig yn lolfa’r Aelodau. • Bod y Llawlyfr Sgiliau TGCh yn cael ei gylchredeg i'r Aelodau Etholedig a'r Aelodau Cyfetholedig. • Gofyn i Arweinwyr Grŵp atgoffa Aelodau o'r angen i fynychu sesiynau hyfforddi gorfodol a sesiynau hyfforddi eraill.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Materion yn ymwneud ag Aelodau PDF 398 KB Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar amryw o faterion yn ymwneud ag Aelodau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar amrywiol faterion yn ymwneud ag Aelodau.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 28 o’r 30 Aelod bellach wedi cwblhau a chyhoeddi eu Hadroddiadau Blynyddol ar gyfer 2018/19 ar-lein. Dywedodd nad yw dau Aelod wedi cyflwyno eu Hadroddiadau Blynyddol am y cyfnod, a bod eu Harweinydd Grŵp wedi cael gwybod.
Nodwyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 25 Medi 2019, o ran trefniadau ar gyfer paratoi Adroddiadau Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd unrhyw ddisgwyliadau ar Aelodau yn dod i'r amlwg yn y Bil Llywodraeth Leol sydd ar ddod. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y dyfarnwyd Siarter Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfer Datblygu a Chefnogi Aelodau i’r Cyngor Sir ac fe’i cyflwynwyd yn swyddogol i’r Cyngor ym mis Gorffennaf a bydd mewn grym am gyfnod o dair blynedd.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd fel y manylir yn yr adroddiad.
Camau Gweithredu: Dim |
|
Cwynion ynghylch Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 257 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â :-
(a) Cynghorwyr Sir, a (b) Chynghorwyr Tref/Cymuned
Ar gyfer Chwarter 4 o 2018/19 a Chwarter 1 o 2019/2020. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol ynghylch cwynion a oedd ar ffurf matricsau ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned mewn perthynas â Chwarter 4 2018/19 a Chwarter 1 2019 / 20.
Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) na chyflwynwyd unrhyw gwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn rhwng Ionawr a Mawrth 2019 (Chwarter 4), ac Ebrill a Mehefin 2019 (Chwarter 1).
Adroddwyd bod tair cwyn wedi'u gwneud yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned ar y matrics ar gyfer Chwarter 4; roedd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'r gŵyn gyntaf, nid oedd yn ymchwilio i'r ail, ac roedd yn ystyried y drydedd gŵyn. O ran y matrics ar gyfer Chwarter 1, adroddwyd bod dau fater gyda'r Ombwdsmon i'w hystyried ganddo.
Mewn perthynas â'r cyntaf o'r cwynion hynny a oedd ar ôl, mae'r Ombwdsmon wedi dod i'r casgliad, yn dilyn ymchwiliad, nad oes tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â'r Côd Ymddygiad. O ran yr ail, mae'r Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi'r adroddiad ac Atodiadau 1-4. • Bod y Swyddog Monitro yn cylchredeg Atodiadau 1-4 i'r Cynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Etholedig a Chyfetholedig y Cyngor.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 268 KB Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yn ei Lawlyfrau Côd Ymddygiad ar gyfer Chwefror 2019 a Mai 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro yn crynhoi gwybodaeth a gyhoeddwyd am benderfyniadau Cymru Gyfan gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei Goflyfrau ar gyfer Chwefror a Mai 2019.
Amlygodd y Swyddog Monitro'r canlynol o'r adroddiad:
• Pan fônt yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, dylai Cynghorwyr wahanu eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol preifat oddi wrth eu rôl fel Cynghorwyr. Mewn rhai achosion bydd hyn yn osgoi gweithredu’r Côd Ymddygiad. • Rhoddwyd pwyslais ar yr angen i Gynghorwyr Cymuned ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dilyn cwyn yn erbyn Cynghorydd Cymuned a oedd wedi gwneud sylwadau a oedd yn gwahaniaethu ar sail oed a sylwadau gwahaniaethol. • O ran y diddordebau i’w cofrestru ymlaen llaw, atgoffwyd yr Aelodau bod raid iddynt gofrestru eu diddordebau cyn pen 28 diwrnod o gael eu hethol i’r swydd, ac i ddiweddaru’r gofrestr, os bydd unrhyw newidiadau, cyn pen 28 diwrnod arall. • Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gŵyn yn erbyn Cynghorydd gan Gyngor Cymuned Bugeildy, a fethodd â datgan mewn cyfarfod ei fod yn berchen ar dir a fyddai’n cael ei effeithio gan y mater dan sylw, gan felly dorri'r Côd. Canfu'r Ombwdsmon fod gan y mater arwyddocâd ehangach i'r gymuned ac felly ni chymerwyd unrhyw gamau.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi'r adroddiad a'r atodiadau. • Yn amodol ar ymateb yr Ombwdsmon mewn perthynas â Chyngor Cymuned Bugeildy, bod y Swyddog Monitro yn ceisio gwybodaeth bellach pe bai angen gan Glerc Cyngor Cymuned Bugeildy, ar y sail y byddai gwybodaeth o'r fath yn cael ei golygu a'i rhannu'n gyfrinachol ag aelodau'r Pwyllgor Safonau, er gwybodaeth yn unig.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Penderfyniadau gan Banel Dyfarnu Cymru PDF 283 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) mewn perthynas â phenderfyniadau a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019.
Esboniodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yr adroddwyd ar un achos, a oedd yn ymwneud â chyn-Gynghorydd Sir (Cynghorydd Cymuned ar hyn o bryd) yng Nghyngor Sir Fynwy yn torri'r Côd Ymddygiad. Nodwyd bod y Pwyllgor Safonau wedi trafod yr achos gwreiddiol yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth 2019 (Eitem 7 ar y rhaglen). Mae'r adroddiad cyfredol mewn perthynas â sylwadau pellach a wnaed gan y Cynghorydd yn dilyn gwrandawiad gwreiddiol Panel Dyfarnu Cymru.
Penderfynodd tribiwnlys yr achos y dylid gwrthod yr achos gan nad oedd cwyn ysgrifenedig, ac roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyfeirio’r mater at Banel Dyfarnu Cymru heb ymchwiliad. Roedd yn bryderus nad oedd yr Ombwdsmon wedi dilyn y weithdrefn gywir wrth gyfeirio'r mater yn uniongyrchol heb ymchwiliad.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a’r crynodeb o’r achos.
Camau Gweithredu: Dim |
|
Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig PDF 27 MB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn manylu ar y ceisiadau am Ganiatad Arbennig a ystyriwyd gan Banel o’r Pwyllgor Safonau ers ei gyfarfod diwethaf. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ganlyniad ceisiadau am ganiatâd arbennig a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019. Ar yr achlysur hwn, roedd yr holl geisiadau’n ymwneud â Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y ceisiadau canlynol am ganiatadau arbennig:-
• 7.3.19 – Rhoddwyd caniatâd arbennig bloc i 8 aelod o Gyngor Cymuned Llaneilian i oresgyn nifer o ddiddordebau rhagfarnus gwahanol mewn perthynas â darparu addysg gynradd yn ardal Amlwch. • 22.3.19 - Rhoddwyd caniatâd arbennig bloc i 5 Aelod o'r Pwyllgor Gwaith a chanddynt ddiddordebau rhagfarnus ar y sail eu bod yn neiniau a theidiau i blant a phobl ifanc a allai gael eu heffeithio gan benderfyniad mewn perthynas â darparu addysg ôl-16 yn y Sir. • 29.3.19 - Rhoddwyd caniatâd arbennig cyfyngedig i'r Cynghorydd Carwyn Jones mewn perthynas â diddordebau rhagfarnus o ran darparu addysg ôl-16 yn y Sir, ar y sail ei fod yn rhiant i blant yn Ynys Môn ac yn gweithio i ddarparwr addysg ôl-16. • 18.7.19 - rhoddwyd caniatâd arbennig i'r Cynghorydd Derek Owen o Gyngor Cymuned Llanbadrig mewn perthynas â diddordebau rhagfarnus ynghylch darparu addysg gynradd yn ardal Amlwch.
PENDERFYNWYD:-
• Bod y Pwyllgor Safonau yn nodi'r caniatadau arbennig a roddwyd ac ar ba seiliau ac o dan ba amgylchiadau y rhoddwyd nhw. • Bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 7.3.19 wedi'u cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau'r Panel yn unig (Michael Wilson, John R Jones a Keith Roberts). • Bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 22.3.19 wedi'u cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau'r Panel yn unig (Michael Wilson, Denise Harris-Edwards a John R Jones). • Bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 29.3.19 wedi'u cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau'r Panel yn unig (Michael Wilson, Denise-Harris Edwards a John R Jones). • Bod cofnodion drafft y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 18.7.19 wedi'u cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau'r Panel yn unig (Michael Wilson, John R Jones a Keith Roberts).
Cam Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Adolygiad o Gofrestrau Diddordebau Aelodau Etholedig a Chyfetholedig CSYM PDF 557 KB Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau yn ystod Mehefin 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr uchod.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod yr adolygiad o'r tair Cofrestr o Ddiddordeb ar gyfer Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig wedi'i gynnal ym Mehefin / Gorffennaf 2019 gan 5 aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau. Cynhaliwyd yr adolygiad o Gofrestrau o Ddiddordebau’r 5 aelod annibynnol gan gynrychiolwyr y Cyngor Tref a Chymuned o’r Pwyllgor Safonau.
Nodwyd bod y Pwyllgor yn hapus yn gyffredinol gyda chanlyniad yr adolygiad, a bod y sefyllfa ychydig yn well nag yn flwyddyn flaenorol.
Codwyd y pwyntiau canlynol fel materion sydd angen sylw: -
• Nid yw'r holl Adroddiadau Blynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. • Nid oes gan aelodau cyfetholedig y cyfleuster i gofnodi eu cofnodion hyfforddi ar-lein (trafodwyd y mater yn Eitem 3 - Cofnodion). • Gan gyfeirio at y Gofrestr Sefydlog o Ddiddordebau, codwyd pryderon nad yw'r wybodaeth a gofnodir yn ddigon penodol. • Dylai’r Gwasanaeth TGCh gynnwys dolen i’r Caniatadau Arbennig a roddwyd i aelodau o dudalen bywgraffiad/adroddiad blynyddol pob aelod.
Yn dilyn cyfarfod anffurfiol o’r aelodau annibynnol ar 19 Gorffennaf 2019 a chynrychiolwyr y Cyngor Tref a Chymuned ar 28 Mehefin 2019, mae llythyr cyffredinol o gyngor (Atodiad 1) wedi’i ddrafftio, a fydd yn cael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor gyda hyn. Adroddodd y Cyfreithiwr fod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi mynychu cyfarfod o’r Arweinwyr Grŵp ar 5 Medi 2019 i drafod materion sy’n codi o’r adolygiad o’r Cofrestrau a chynnwys Atodiad 1.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys yr adroddiad. • Cymeradwyo cynnwys Atodiad 1, a chytuno i rannu'r llythyr o gyngor gydag Aelodau Cyfetholedig ac Etholedig y Cyngor. • Bod y camau a nodwyd yn Adrannau 2.2.1 a 2.2.4 yr adroddiad yn cael eu codi gyda’r Gwasanaeth TGCh/Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cam Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Adroddiad o Gyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ar 24 Mehefin, 2019 PDF 3 MB Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad ar Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint ar 24 Mehefin 2019.
Adroddodd y Cadeirydd ei fod ef a'r Is-Gadeirydd wedi mynychu'r cyfarfod. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Ombwdsmon wedi rhoi cyflwyniad, a oedd yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb a rhywedd; a phwerau newydd yr Ombwdsmon.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar Gyd-Bwyllgor Safonau Gogledd Cymru. Gofynnodd yr Is-Gadeirydd am eglurhad ar fanteision ac anfanteision posib cyd-bwyllgorau o'r fath, a dywedodd fod angen trafod y mater hwn ymhellach. Cafwyd trafodaeth wedyn ond ni ddaethpwyd i ganlyniad pendant.
Teimlai'r Cadeirydd fod y cofnodion yn anghywir mewn rhai agweddau, ac nad oeddent wedi cynnwys yr holl bwyntiau.
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd, ac y byddai'r Cadeirydd/Is-Gadeirydd yn hysbysu swyddogion o unrhyw newidiadau y gofynnwyd amdanynt i'r cofnodion. |
|
Ymatebion gan y Cynghorau Cymuned ynghylch:- PDF 31 MB 12.1 ADOLYGIAD O GOFRESTRAU Y CYNGHORAU CYMUNED YN 2018/2019
12.2 HYFFORDDIANT AR GYFER CYNGHORWYR CYMUNED A CHLERCOD
Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro yn manylu ar yr ymatebion sydd wedi eu derbyn gan y Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch ceisiadau am wybodaeth.
Cofnodion: 12.1 Adolygiad o Gofrestrau Cynghorau Cymuned yn 2018/19 12.2 Hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Chlercod
Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn perthynas â'r uchod.
Cynhaliodd y Pwyllgor Safonau adolygiad o 5 Cyngor Tref a Chymuned ym mis Rhagfyr 2018/Ionawr a Chwefror 2019 i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Côd Ymddygiad ar gyfer aelodau.
Adroddodd y Swyddog Monitro bod adroddiad cyffredinol wedi'i gylchredeg i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned ar ganfyddiadau'r Adolygiad o'r Cofrestrau, gyda chais i'r Clercod ddwyn cynnwys yr adroddiad hwn i sylw holl aelodau eu Cynghorau Tref a Chymuned, a’i gynnwys ar raglen eu cyfarfod nesaf, gyda chopi o'r cofnodion i’w anfon wedyn at y Pwyllgor Safonau.
Nodwyd nad oedd 22 allan o 40 o Gynghorau Tref a Chymuned wedi ymateb.
Anfonwyd gohebiaeth bellach at Gynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â hyfforddiant. Nodwyd nad oedd 23 allan o 40 o’r Cynghorau wedi ymateb erbyn 31 Gorffennaf 2019.
PENDERFYNWYD:-
• Nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned yn yr Atodiadau i'r adroddiad. • Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Glercod Cynghorau Tref a Chymuned yn mynegi diolchgarwch y Pwyllgor i'r rheini sydd wedi ymateb yn gadarnhaol, ac yn cadarnhau na chynhelir adolygiad o'r Cynghorau hynny am y 2 flynedd nesaf o leiaf. • Bod y Pwyllgor Safonau newydd yn cymryd y wybodaeth hon i ystyriaeth wrth ddewis Cynghorau Tref a Chymuned i'w hadolygu yn y blynyddoedd i ddod.
Cam Gweithredu: Fel y nodir uchod |
|
Adolygiad o Gynseiliau/Nodiadau Briffio i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor:- PDF 8 MB Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar yr uchod.
Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod y Pwyllgor Safonau wedi cytuno y dylid adolygu'r Nodiadau Briffio ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned mewn perthynas â Chaniatadau Arbennig.
Cododd yr Is-Gadeirydd fater ynghylch Pwynt 9 ar y Nodyn Briffio ar gyfer Caniatadau Arbennig, sy'n cyfeirio at anabledd. Dywedodd y cyfeirir at anabledd fel ‘anallu’ ar y rhaglen Gymraeg, sy’n cyfieithu fel ‘inability’ yn hytrach na’r gair cywir ‘anabledd’. Cadarnhawyd mai'r geiriad yw'r un a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth ac mae cadarnhad a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi mai anallu ydyw h.y. anallu statudol (yn hytrach nag anabledd personol).
PENDERFYNWYD:-
• Nodi cynnwys yr adroddiad. • Cadarnhau'r diwygiadau i'r Nodiadau Briffio ar Ganiatadau Arbennig fel y dangosir yn Atodiadau 1 a 2. • Anfon Atodiad 1 at Gynghorau Tref a Chymuned, gyda chais i'r Clercod ei ddwyn i sylw'r aelodau, a bod Atodiad 2 yn cael ei ddosbarthu i aelodau etholedig a chyfetholedig CSYM a bod y ddogfen ddiwygiedig yn cael ei huwchlwytho i'r system fewnrwyd yn unol â hynny. • Cadarnhau'r diwygiadau i'r Nodyn Methodoleg ar Adolygu Cofrestrau yn Atodiad 3. • Bod y Nodyn Methodoleg ar Adolygu Cofrestrau yn Atodiad 4 yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw adolygiadau a gynhelir mewn Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol. • Cadarnhau mabwysiadu Cyfansoddiad y Pwyllgor Safonau gyda'r nodyn diwygiadau anodedig yn Atodiad 5. • Mabwysiadu'r Cylch Gorchwyl gyda'r diwygiadau anodedig a nodir yn Atodiad 6, a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Cam Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd O dan Adran 100(A)(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, mae’r wasg a’r cyhoedd i’w heithrio o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon ar y sail y bydd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu. Mae gwybodaeth gyfrinachol yn golygu gwybodaeth a roddir i’r Cyngor gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus neu wybodaeth na ellir ei datgelu’n gyhoeddus drwy Orchymyn Llys. Nid yw’r eithriad yn ddibynnol ar Brawf Budd y Cyhoedd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 15, oherwydd ei fod yn golygu datgelu gwybodaeth gyfrinachol yn unol â pharagraff 4.2.10.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.
|
|
I YSTYRIED YR YMATEB SYDD WEDI EI DDERBYN GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN LLYTHYR DYDDIEDIG 13 AWST 2019 Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ynghylch yr ohebiaeth sydd wedi ei derbyn gan OGCC.
Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar benderfyniadau a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei Goflyfrau Côd Ymddygiad.
O ganlyniad i'r adroddiad a gyflwynwyd yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2019, penderfynodd y Pwyllgor Safonau ofyn am wybodaeth bellach gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Derbyniwyd ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn egluro’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyr cychwynnol yn Atodiad 1, a'r ymateb a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Atodiad 2.
Diolchodd y Cadeirydd i holl aelodau'r Pwyllgor Safonau am eu cymorth a'u cefnogaeth dros yr wyth mlynedd diwethaf. Diolchodd hefyd i'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am ei gyfraniad ardderchog i'r Pwyllgor Safonau.
Diolchodd aelodau unigol y Pwyllgor Safonau i'r Cadeirydd yn bersonol am ei gefnogaeth a'i arweiniad dros y blynyddoedd. |
|
The Chair thanked all the members of the Standards Committee for their assistance and support over the past eight years. He also expressed his gratitude to Councillor Trefor Lloyd Hughes for his excellent contribution to the Standards Committee.
Individual members of the Standards Committee thanked the Chair personally for his support and guidance over the years. |