Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithwir (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod, Pwyllgor Safonau - Dydd Mercher, 15fed Rhagfyr, 2021 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Cofnodion:

Datganodd Mrs Celyn Edwards ddiddordeb personol yn Eitem 5 (adran 2.3) ar y rhaglen, oherwydd ei chysylltiad agos ag Aelodau a staff y Cyngor Sir yn rhinwedd ei swydd.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd a ganlyn:

 

  Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021

  Cofnodion y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd  2021 – I’w cadarnhau gan y tri Aelod o’r Panel yn unig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 yn gywir, yn amodol ar y canlynol -

 

Materion yn codi o gofnodion 15 Mehefin 2021

 

  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y ffaith na chynhwyswyd cofnod o weithredoedd wedi’i ddiweddaru gyda phapurau cyfarfod heddiw, yn groes i’r hyn a gytunwyd yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro yn nodi’r cais mewn perthynas â chyfarfodydd yn y dyfodol.

 

  Eitem 4 – Mewn perthynas ag Adroddiadau Blynyddol Aelodau, cadarnhawyd nad yw’r Cod Ymddygiad wedi cael ei newid er mwyn caniatáu cais y Pwyllgor Safonau i wneud Adroddiadau Blynyddol Aelodau yn statudol.

  Eitem 6 – Nodwyd bod yr Ombwdsmon yn ystyried bod ymyrraeth gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro yn ddigon i ddatrys anghydfodau ac nid yw’n cymryd camau pellach. Dywedodd y Cadeirydd y bydd cyfle i’r Pwyllgor Safonau drafod y mater hwn ymhellach wrth ystyried adroddiad Mr Richard Penn a chanlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru. Nodwyd y byddai ymyrraeth yn digwydd cyn datrysiad lleol, er mwyn lliniaru unrhyw faterion cyn iddynt droi’n gwynion.

  Eitem 9 – Nodwyd y bydd y Cadeirydd a’r Pwyllgor Safonau’n cynnal cyfarfod anffurfiol yn y dyfodol i adolygu Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor, cyn ei gwblhau a’i gyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Materion yn codi o Gofnodion y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2021

 

Gofynnwyd a ddefnyddiwyd unrhyw ganiatâd arbennig hyd yn hyn. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro fod rhai aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wedi datgan diddordeb mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021 a’u bod wedi datgan eu bod wedi derbyn caniatâd arbennig i drafod eitem ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r caniatâd arbennig a roddwyd, a’r sail a’r amgylchiadau dros ei roi.

  Bod cofnodion drafft cyfarfod y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2021 wedi cael eu cadarnhau fel rhai cywir gan aelodau’r Panel yn unig (John R Jones, Rhys Davies a Gill Murgatroyd).

3.

Datblygu a Hyfforddi Aelodau

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnodau Dynol ar ddatblygu Aelodau. 

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro na fydd Arweinyddion Grwpiau’n rhoi ystyriaeth bellach i hyfforddiant nad yw’n orfodol cyn diwedd tymor presennol y Cyngor hwn. Nodwyd bod adnoddau’n cael eu defnyddio i baratoi rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer y Cyngor newydd, yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022. Cyflwynwyd cynnig y dylid cynnwys pynciau a argymhellwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor hwn yn y rhaglen hyfforddi.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro yn anfon cynigion y Pwyllgor at y Tîm Datblygu AD i’w cynnwys yn y Rhaglen Datblygu a Hyfforddi nesaf ar gyfer Aelodau.

 

Gweithredu:  Dim

4.

Adroddiadau Blynyddol Aelodau pdf eicon PDF 104 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i roi diweddariad ar faterion amrywiol yn ymwneud â’r Aelodau. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiadau Blynyddol Aelodau ar gyfer y cyfnod 2020/21.

 

Mae dyletswydd ar y Cyngor Sir i sicrhau bod trefniadau ar waith i aelodau gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar-lein.

 

Er nad oes rhaid i Aelodau gyflwyno adroddiadau blynyddol ar eu gweithgareddau, nodwyd bod Arweinyddion Grwpiau’n annog Aelodau i wneud hynny.

 

Nodwyd bod 14 Aelod wedi cyflwyno adroddiadau ar gyfer y cyfnod 2020/21, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn diwedd mis Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Gweithredu:  Dim

5.

Cwynion am Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 823 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro

mewn perthynas â (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned ar gyfer

Chwarter 2  2021/2022.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cynnwys diweddariad chwarterol ar gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon mewn perthynas ag (a) Cynghorwyr Sir a (b) Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Nodwyd mai dim ond un gŵyn oedd yn erbyn Cynghorydd Sir a bod y gweddill yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Mynegwyd pryder ynghylch paragraff 3.1 yr adroddiad, yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau nodi tueddiadau sy’n cael eu hamlygu. Roedd y Pwyllgor Safonau o’r farn, oherwydd bod yr adroddiad yn un dienw, na fyddai’n bosib nodi unrhyw dueddiadau na chamau unioni ar hyn o bryd. Roedd y Pwyllgor yn teimlo y byddai’n rhaid iddynt edrych ar wybodaeth ychwanegol ynghylch natur y cwynion cyn y gallent ymateb.

 

Cynigiodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Safonau’n cyfarfod yn anffurfiol yn y Flwyddyn Newydd i edrych ar y cwynion dienw mewn mwy o fanylder, a phenderfynu a ellir nodi unrhyw dueddiadau. Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn edrych ar achosion blaenorol hefyd, er mwyn canfod am ba reswm y mae’r Ombwdsmon yn ystyried bod angen ymchwilio i achosion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro nad oes unrhyw dueddiadau arwyddocaol yn cael eu nodi yn yr adroddiad hwn a fyddai’n peri pryder a dywedodd y byddai’n hapus i ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n nodi cynnwys Atodiadau 1 i 4 yn yr adroddiad.

  Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro yn dosbarthu Atodiadau 1 i 4 i’r Cynghorau Tref a Chymuned, Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig y Cyngor yn y Newyddlenni.

  Bod cyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor Safonau’n cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd i drafod tueddiadau sy’n codi o’r adroddiad, a chofnodion blaenorol y Pwyllgor Safonau.

 

Gweithredu: Gweler y penderfyniad uchod.

6.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 314 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar

benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar

16 Mehefin 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cynnwys crynodeb o’r penderfyniadau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 16 Mehefin 2021.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro at y pwyntiau dysgu o’r achos tribiwnlys cyntaf, a dywedodd mai’r Swyddog Monitro sydd â dyletswydd statudol i sicrhau bod diddordebau’n cael eu cofnodi’n gywir, ac nid y Pwyllgor Safonau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro at y pwyntiau dysgu yn yr ail achos tribiwnlys. Tynnodd sylw at y gwahaniaeth rhwng bwlio ac aflonyddu, a dywedodd bod angen cyfres o ddigwyddiadau i aflonyddu ar rywun, tra gallai un digwyddiad fod yn ddigon yn achos bwlio. Nodwyd bod canllawiau’r Ombwdsmon yn nodi’r gwahaniaeth yn glir.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro y byddai disgwyl fel arfer, mewn achos o aflonyddu, i’r achwynydd ddioddef wrth i’r digwyddiad gymryd lle. Yn yr achos hwn, dywedodd nad oedd yr achwynydd yn ymwybodol bod y Cynghorydd wedi ymddwyn yn y ffordd y gwnaeth o a’i fod wedi gwneud cwyn amdani ar ran trydydd parti tan dair wythnos yn ddiweddarach. Nodwyd bob modd aflonyddu ar rywun ex post facto.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y crynodebau achos.

 

Gweithredu: Dim

7.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 530 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Trafodwyd a derbyniwyd cofnodion y Panel Caniatâd Arbennig o dan Eitem 2 uchod.

 

Gweithredu:  Dim

8.

Dosbarthu Canfyddiadau Cyffredinol Adroddiad yr Adolygiad o'r Gofrestr Diddordebau mewn Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 369 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar

yr ymatebion a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â

chanfyddiadau cyffredinol yr adroddiad a ddosbarthwyd i bob Cyngor Tref a Chymuned. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad ynglŷn â’r uchod gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Ar 21 Gorffennaf 2021, gofynnodd y Pwyllgor Safonau i Glercod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ymateb i adroddiad y Pwyllgor Safonau, a gofynnwyd iddynt anfon copi o’r rhaglen/cofnodion at y Pwyllgor hwn yn cadarnhau eu bod wedi trafod y Newyddlen yn eu cyfarfodydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro mai dim ond 5 o’r 40 Cyngor Tref a Chymuned sydd wedi ymateb i’r cais.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar a ddylai’r Pwyllgor Safonau gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Cynghorau Tref a Chymuned sydd heb ymateb.

 

Cytunwyd y byddai pum aelod y Pwyllgor Safonau a gynhaliodd yr adolygiadau gyda Chlercod y Cynghorau Tref a Chymuned yn cysylltu â Chlercod y Cynghorau hynny er mwyn cynnal trafodaeth anffurfiol ar sut y gallai’r Pwyllgor Safonau gefnogi a rhannu arfer dda gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn gwella’r berthynas yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn ymatebion y Cynghorau Tref a Chymuned yn Atodiad 2, a

  Bod pum aelod y Pwyllgor Safonau a gynhaliodd yr adolygiadau yn cysylltu â’r 5 Cyngor Tref a Chymuned i gynnal trafodaeth anffurfiol i ganfod sut y gall y Pwyllgor hwn gynorthwyo’r Cynghorau Tref a Chymuned yn y dyfodol.

 

Gweithredu: Gweler y penderfyniad uchod.

9.

Adran 62-63 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 193 KB

Adroddiad atodol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog

Monitro sy’n nodi goblygiadau’r dyletswyddau a Chyfrifoldebau newydd o dan y

ddeddfwriaeth i’r Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar newidiadau i’r Fframwaith Moesegol statudol a gyflwynir gan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar y newidiadau sydd ar y gorwel mewn perthynas ag Adrannau 62 a 63 y Ddeddf. Bydd Arweinyddion Grwpiau’n gyfrifol am hyrwyddo a chynnal safon uchel o ymddygiad aelodau eu grŵp o fis Mai 2022, a bydd y Pwyllgor Safonau’n goruchwylio hynny.          

 

Nodwyd bod awdurdodau lleol yn disgwyl am Ganllawiau gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael eu gweithredu’n raddol o fis Mai 2022 i 2023. Bydd angen adolygu Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau o ganlyniad i’r newidiadau.

                       

PENDERFYNWYD y dylai’r Pwyllgor Safonau adolygu ei Gylch Gorchwyl a’i fframwaith monitro er mwyn cryfhau’r ddyletswydd newydd ar Arweinyddion Grwpiau ar ôl cyhoeddi Canllawiau Llywodraeth Cymru.

 

              Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod.

 

10.

Fframwaith Safonau Moesegol pdf eicon PDF 408 KB

Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) /  Swyddog Monitro ar y Fframwaith Safonau Moesegol yn dilyn yr Adroddiad gan Richard Penn a gyhoeddwyd ar 14 Hydref 2021. Y Pwyllgor Safonau i ystyried y camau y maent yn dymuno’u cymryd yn sgil y canfyddiadau a’r argymhellion yn yr Adroddiad. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar yr adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol. Sefydlwyd y Fframwaith i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad moesegol gan Aelodau wrth gyflawni busnes y Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Safonau wedi ystyried argymhellion Llywodraeth Cymru ym mharagraff 6 yr adroddiad, a’i fod wedi anfon ymateb ffurfiol at Mr Richard Penn yn nodi sylwadau’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â’r ymgynghoriad.        

 

Mynegwyd pryderon am y bwriad i wneud mwy o ddefnydd o Ddatrysiad Lleol. Roedd y Pwyllgor Safonau’n teimlo os rhoddir pwerau ychwanegol iddynt ddatrys materion lleol, yna bydd angen mwy o adnoddau ar y Pwyllgor i ddelio â’r cynnydd yn y llwyth gwaith. Nodwyd y byddai mwy o bwysau ar Glercod Cynghorau Tref a Chymuned, Swyddogion Monitro a staff.        

 

Awgrymwyd bod y Pwyllgor Safonau’n achub y blaen ar effaith y newidiadau ar Gynghorau Tref a Chymuned trwy gysylltu’n rheolaidd â Chlercod o’r cychwyn gan ddarparu diweddariadau rheolaidd trwy gyfrwng y Newyddlen.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad, gyda’r disgwyliad yr ymgynghorir â’r Pwyllgor Safonau ar unrhyw newidiadau i’r Fframwaith Safonau Moesegol, pryd a phan fyddant yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, a’r disgwyliad y byddant mewn grym ac yn weithredol erbyn 5 Mai 2022.  

 

                 Gweithredu: Dim