Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig yn Ystafell Bwyllgor 1, ac yn rhithwir drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 15fed Chwefror, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1/Committee Room 1 / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd ar gyfer y Cyfarfod

Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. 

Cofnodion:

Cafodd Mr John R Jones ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant. 

3.

Ethol Cadeirydd pdf eicon PDF 609 KB

Ethol Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y weithdrefn ar gyfer ethol Cadeirydd o’r Pwyllgor Safonau yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001 a Pharagraff 2.9.2.6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. 

 

Rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Cadeirydd o blith pum aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd neu tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben.

Roedd bywgraffiadau’r pum aelod annibynnol wedi’u cynnwys  yn yr adroddiad yn Atodiad 1 - 5.

 

PENDERFYNWYD ethol Dr Rhys Davies yn Gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau am dymor o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ei ail-ethol).

 

Bu i Mr John R Jones groesawu Dr Rhys Davies i’w rôl fel Cadeirydd a dymunodd yn dda iddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Diolchodd Dr Rhys Davies i Mr Jones am ei waith a’i arweiniad dros y pedair blynedd diwethaf yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, a diolchodd i’r Pwyllgor Safonau am eu cefnogaeth ac am ei ethol. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael gweithio gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r swyddogion dros y pedair blynedd nesaf.

4.

Ethol Is-Gadeirydd pdf eicon PDF 610 KB

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y weithdrefn ar gyfer ethol Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau yn unol â Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001.

 

Rhaid i’r Pwyllgor Safonau ethol Is-gadeirydd o blith pum aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau am dymor heb fod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd neu tan fydd tymor swydd y person hwnnw fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben.

 

PENDERFYNWYD ethol Mr Trefor Owen yn Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Safonau am dymor o bedair blynedd (a bydd yn gymwys i gael ail-ethol).